Yr Atgofion

 




Llawer o atgofion o Llanengan.  -   Atgofion Mary Voutsadakis o Groeg  - (Mary Preston Jones gynt )

Cofio Ifan Davy y cigydd wrth ymyl White Horse.

 Fy nhad yn son am The Sun Inn. A lady, I can't remember her name, had a pet goat in the pub.
 Uncle Wil Freeman in the garage. He used to sing a rude song which sticks in my mind. 'Mwnci codi gwnffon', I won't say the rest馃槀 Mary Freeman used to take me for walks in my pram along the road by Glenwyn. One year I went to her birthday party where we had to sit on balloons and burst them. I was afraid of balloons and I  ran home up lon Pwll llan on my own without telling anyone. I must have been very young and really scared.

 We knew everyone in the village and every Sunday the locals would walk from the pentre to capel Bwlch with everyone wearing their Sunday best. Very smart hats. I loved trip ysgol Sul. Rhyl was my favorite and once I remember New Brighton but I preferred Rhyl.

We had a den in Lon Pwll llan with tea cups and we played house there as children with Gwyneth Bodengan and Mary Congl Gron. It was at the side of a cliff if I remember correctly.  They used to pass my house on the way to school every day in Sarn Bach and pick me up. Walking of course.

 I remember the red phone box where we could get free phone calls by doing something probably illegal but that was much later. 

Then there was the post office and grocer shop. I can remember the couple's faces. Both with white hair but can't remember their names. The had round spectacles and they were always so polite. Lovely happy days. 


 
                                                        -------------------------------------------------

Atgofion Annwen Hughes, Bwthyn Tanrallt



    

        
Wedi bod yn blentyndod difyr iawn yn tyfu fyny yn Llanengan. Dal i fyw yn Bwthyn Tanrallt (Offis Gwaith Plwm) . Chwara yn topia Tanrallt a mynd lawr y twnal o dan y Corn (gwaith plwm) a chael sbort efo llwyth ohonom yn mynd lawr efo’n gilydd. Dim s么n am iechyd a diogelch adeg hynu.馃檲 

Pan yn ifanc yn mynd i Capel Bwlch a fina yn cambyhafio mi fydda Anti Megan Brynteg yn fy sodro yn set wrth ei hochor wrth yr organ i gadw golwg arnai 馃槀A pob parti Dolig pan fydda Sion Corn yn galw mi fydda gen ei ofn. Wedyn fydda Anti Megan Brynteg yn mynd a fi yn y Morris Minor glas rownd Rabar nes bod Sion Corn wedi mynd a mi fydda yn stori ychal ganddi. 

Cofio hefyd Caffi yn agor fyny grisia yn Siop Llanengan gan Mr a Mrs Watson fydda yn cadw y Siop adeg hynu. Marion Bwthyn Gwyn yn gweithio yn y Caffi. Fydda Carys a fina yn mynd yno efo fisitors fydda yn aros yn t欧 ni. Caffi bach da iawn. 

Oedd Anti Ceinwen  Grinallt yn un annwyl iawn ac fe fydda yn dysgu ni lefaru at Steddfod Capel a Steddfod Nant. Mi fydda ein parti  llefaru ni yn ennill reit amal diolch i Anti Ceinwen.





----------------------------------------------

Atgof Susan Evans o Mary Ann Lloyd 
 

Gwanwyn 1972

Mrs Sarah Jones, Ocean View, Llanbedrog yn fy narbwyllo –
“Cyn i chi fynd yn 么l i’r Coleg ‘na bydd yn rhaid i chi fynd i weld Mary Ann Lloyd i Lanengan.”




Astudiaeth o fy nghynefin oedd y nod, fel rhan o fy ngwaith cwrs yn y Coleg, yn edrych ar gymdeithas, ei diwydiant, ei diwylliant a’i chymeriadau. 

Ac felly, trefnwyd i mi gael cyfarfod 芒 Mary Ann yn Morfa, ei chartref yn Llanengan. Daeth Mam gyda fi’r pnawn hwnnw a cawsom ein cyfarch ar y llwybr cobyls yn arwain i’r drws ffrynt gyda bloedd, 
“Brysiwch i mi gael cau y drws ‘na, neu fydd y llygod mawr i mewn!”

Hawliai’r llygod mawr y brwgaij o gwmpas y drws. 

Aethom i mewn i’r ystafell bach fyw ar y dde. Yn ein gwynebu ‘roedd y lle t芒n, bwrdd ar y dde odditan y ffenast a cadair Mary gerbron. 

Go brin welai’r ystafell fawr o’r haul am hir ar 么l gwawrio na’r machlud yn y gwyll.

Eisteddom ninnau ar y setl dros yr aelwyd iddi, yn unionsyth, traed yn dynn at ei gilydd, un lygaid ar y drws ffrynt. 

Fedrai ddim cofio os cynigiwyd cacen a phanad ond cofio’n bendant am y Polo Mints. 
Gymrwch chi Bolo?” gofynnodd Mary.  O’r cwpwrdd eirio ger y t芒n daeth y Polo Mints, a’r gath yn cael dihangfa oddi yno yr un pryd. 

Bu i’r Polo Mint lynyd i dop fy ngheg, lle arhosodd nes i’r twll bach fynd yn rhy fawr i lynyd mwyach ac i lawr a fo o’r diwedd , ond nid cyn i Mary fod wedi adrodd ei hanes fel morwyn laeth mewn sawl lle ar hyd ei gyrfa.

 Cychwynnodd ei diwrnod gwaith am bump o’r gloch y bore a’i orffen o gwmpas ddeg o’r gloch nos. 
Yn gyntaf ‘roedd rhaid darparu’r shed laeth gan wneud yn siwr bod y muriau, y ffenestri, silffoedd, lloriau a’r llesti yn hollol l芒n cyn dechrau ar y corddi. 

Mae rhyw amheuaeth am yr amser ‘roedd ym Mhlas Nantyglyn, Sir Ddinbych yng nghyflogaeth y Colonel Wynne Edwards ond yn 1901 yn 19 oed dychwelodd yn 么l i L欧n i fod yn forwyn yn Ceurau Uchaf, Garn Fadryn i Mr William Williams. 

Yn 1911 roedd yn Crugan, Llanbedrog, ffarm Mr William Morris. Mynychai’r Capel gydag ef ac ymunodd 芒 ch么r yr Eglwys. 




Tra’n Cefn Collfryn yng Nghricieth ‘oredd yn falch o gael dweud am David Lloyd George yn galw heibio ‘n aml am laeth enwyn. Ymunodd a C么r Llanystumdwy . Roedd Mary’n amlwg yn mwynhau   canu. Gofynnodd i ni os hoffwn ei chlywed. Byswn wir, meddwn a cychwynnodd ar yr emyn “Gwaed y Groes”. Roedd wedi cael argraff dda iawn ar Mam ac roedd yn rhaid cydnabod fod gan Mary ddawn.
  Erbyn i ni ddeall mwy ganddi ‘roedd o deulu cerddorol. William Lloyd 1786-1852 Rhos Goch,   Llaniestyn oedd ei thaid ac yn emynwr yn ogystal a ffarmwr. Cyansoddodd lawer o emynau, ond yr un   mwyaf adnabyddus yw’r d么n “Meirionydd”,  yn aml yn cael ei defnyddio yn y gyfres deledu “Songs   of  Praise”. 



 
Cedwir Mary yn brysur yn y byd lluniaeth hefyd gyda llawer o’i rysitiau yn ymddangos yn yr Herald o bryd i’w gilydd. Un o’r rhai mwyaf adnabyddus fyddai crempogau yn cynnwys burum fel un o’r cynhwysion a llawer o gyfarwyddiadau tuag at iachau poen yn y bol neu chyfog drwy rhyw gymysgedd - anodd credu buasent yn arwain at wellhad!

Ond sydyn iawn fuasai Mary’n frathog tuag at unrhyw ymholiad gennyf a ddengys anghrediniaeth . Bwyd gwaith ar y ffermydd yn dechrau gyda brecwast fuasai darn o fara a llaethenwyn. Ganol dydd ymgasglu o gwmpas powlan fawr o friwas fyddai’r drefn, cymysgedd o friwsion ceirch a chawl eidion. Bwytai pawb o’r un bowlan, cynnwrf yn torri allan os  oedd cwyn am gynnwys llaethenwyn ynddo hefyd. 

Roedd un cymysgedd arall hoffai Mary s么n amdano. Byddai d诺r o bledren bawb ar y ffarm yn cael ei gasglu a’r gwlan gorau oddiar y defaid. Y canlyniad o ddod a’r ddau at ei gilydd oedd creu adwaith gemegol gyda’r ammonia yn yr hylif yn achosi’r gwlan droi’n las. Anfonwyd y gwlan i’r Felin ym Mryncir i wneud crysau i’r gweithwyr. 

Er mwyn fod wedi cael ei hanes i gyd roeddwn wedi ymweld a Mary ddwy waith. Y tro diwethaf cefais y fraint o weld yr ystafell ar y chwith o’r drws ffrynt. Yno roedd ei siambar. Nid gwely a phedair coes ond lle i orwedd mewn cilfach goed yn erbyn y mur. 

Bu farw yn 1975 rhyw dair blynedd ar 么l i mi ei chyfarfod

2025

Erbyn heddiw yr unig newid amlwg i Morfa yw’r ffenestri a’r olygfa drwyddynt i’r ffenestri newydd i’r cefn.
Golygfa yw o’r m么r, ei drafnidiaeth a’i bleserau yn fyd hollol wahanol i’r un adawodd Mary ar ei h么l.
 




O ddeall am atgofion Susan uchod derbyniwyd y ddau ddarn isod o'r Herald Gymraeg yn 1948 a 1949 gan berthynas i Miss Lloyd - diolch i Owain Roberts





Wedi rhoi'r rhannau perthnasol i Miss Lloyd ar wahan er mwyn gallu eu darllen yn haws:-




------------------------------------------------------

Atgofion / Memories -   Mary Makin ( was Mary Freeman Jones )


I have many memories but they won’t be in any right order! I remember the snow of 1947, the only REAL snow in Llanengan. I lived opposite the church in Siop Newydd and remember Dad telling me to go into the garden and look across to the church. Well I needed  no bidding to go out in the snow. and  what I saw was a great big snowman on the wall  of the church  facing me! So exciting for a four year old! 



Memories of tomato sandwiches on Porth Neigwl  beach. We children would go the beach to ‘bag! Our hole!! Woe betide anyone who got there before us! Later some of the mums would appear with picnics, towels, and rugs so that we could eat our sandy tomato sandwiches in style! My memory tells me that every day in the summer was warm and sunny, but I’m sure I’m romanticising!?

Hay making in the fields opposite the Sun was fun. I remember Lowri Bryneinion driving the tractor in her shorts in the hot sun…… she was very brown! We would follow the tractor and get in the way , then we’d all ride back to Ty Cerrig either clinging to the tractor or  the older, adventurous ones braved the top of the stack!  No helmets to be seen!!

Picking Strawberries! For a short while someone ran a strawberry ‘nursery’ in the fields  beyond  Capel Bwlch at Cae’r Eglwys. We were told that if we picked them for the nurseryman, he’d pay us a few  pennies. The trouble was, that strawberries were very special so ‘picking’ punnets for weighing was secondary to ‘eating’ them. After a couple of sessions my friend and I were asked not to bother going there again! I don’t think we were the only ones!

My Nain ran Siop Ty’n Pwll, and I was allowed to ‘help’ sometimes. She sold all kinds of sweets in jars and my particular favourite was chunks of honeycomb. My favourite chocolate bar has always been the  ‘Crunchy Bar’ I wonder why!




Lon Bwlch Llan  was where we girls made our dens. At the bottom of the hill , There was a woody part beneath the cliff and it had a flattish hollow . We gathered branches and sticks to build walls and a roof. The next job was to equip it! We crept to our houses, and gathered what we could from old chipped cups and plates, to cloths, and cooking utensils. I think we made ‘seats’ from wood but with the odd cushion here  and there. We cooked!  We made all sorts of  mud  foods, with cakes decorated with  flowers. We even let the boys join in occasionally! What we didn’t bargain fir was rain!!!  Oh what a mess and so sad. We had to re build  many times as our ‘house ‘ was  prone to flooding each time it rained. 

For a while before leaving to go to London University  I played the church organ. Our then Vicar  was Mr Thomas, who was always kind and friendly. He gave his sermons from behind the organ and rood  screen, from the wooden Eagle. Unbeknown to me he could see directly to the organ where I would be sitting hiding my revision  books for A levels!  I had no idea that he could see me until one day after the service he asked me what I was studying. I was very embarrassed and stuttered ‘history’ upon which he gleefully took my text book from me and said he loved history! Phew……

Gobeithio I haven’t gone on too much but once you start thinking all sort of memories come back don’t they!


-------------------------------------------------------


Atgofion Carol Evans 

Mi gefais fy magu yn y 5 a’r 6 degau yn Gongl Gron reit yng nghanol pentra Llanengan. Pentre bach cyfeillgar a pawb yn ‘nabod ei gilydd ac yn barod ei cymwynas. Cofio mam yn deud lawer gwaith, pan wnaeth hi symud i Lanengan ar 么l priodi ‘roedd dad yn dal bus 7 o Sarn Bach i fynd i’w waith yn Pwllheli Yn anffodus ‘doedd mam na dad yn dda iawn am godi. ‘Roedd Nanan White Horse yn byw ar draws y ffordd ac ‘roedd hi yn codi yn gynnar bob bore. Y peth cynta fydda hi yn wneud ar ei chodiad oedd edrych os oedd na rhywun wedi codi yn Gongl Gron. Os oedd neb i weld mi fydda hi yn dod i guro ar y drws nes deffro mam a dad. Mi wnaeth Nanan achub y dydd lawer gwaith chwarae teg iddi.


Gongl Gron ar y chwith i'r garej

Un o’r co cynta sydd gen i am Lanengan ydi mynd efo Granville i T欧 Cerrig. Mi fydda Granville yn mynd i’r siop bob bore ac yn aml iawn mi fyddwn i yn cael mynd yn 么l efo fo i ‘helpu’ Nenni (Nel Bryneinion). Rhan amla cerdded drwy fynwent a dros y gamfa oedda ni.  Galw weithiau efo Wil Manley yn Tan Fynwent am sgwrs. Gweld Mrs Watson weithia hefyd. ‘Dressmaker’ oedd Mrs Watson. Fe wnaeth hi ffrogiau bendigedig i Mary a fi. Rhai pinc gola ac yn cau yn y cefn efo ‘bow’ mawr. Cofio gwisgo y ffrog i fynd i briodas Lowri a Frank ac i briodas Alwyn ag Eleanor.

Pan oedda ni yn blant mi oedda ni allan yn chwarae o fore tan nos. Cofio eistedd ar wal Belle Vue yn ‘hel number ceirs’. Llyfr Bach a pensel yn fy llaw a rhoi rhif bob car oedd yn mynd heibio yn y llyfr. I be? Dwn i ddim! Elin Jenat oedd yn byw yn Belle Vue adeg hynny. Pan fu farw Elin Jenat fe werthwyd Belle Vue a newidwyd ei enw i The Rock.

Cofio hefyd mynd yn rheolaidd i chwilio am boteli Corona neu boteli cwrw gwag. Os bydda ni yn cael rhai fe fyddwn yn mynd a nhw i’r Sun a cael arian amdanynt. Y llefydd gore i chwilio am boteli fydda yn y cloddia yn L么n Seler neu L么n Bwlch Llan.

Mi fydda plant y pentre yn cael mynd i Bwlch i chwarae. Cofio chwarae t欧 bach yn cwt mochyn a hefyd ‘roedd na swing anferth yn t欧 gwair. ‘Roedd ‘Mei Bwlch’ yn garedig iawn yn gadal i ni chwarae yno. Dwy reol oedd ‘na, chaen ni ddim mynd os nad oedd hi adra a hefyd ‘roedd rhaid i ni guro ar y drws a gofyn caniatad. Dim yn cofio iddi ddweud na erioed.

Mr a Mrs Parry oedd yn cadw siop y pentra. Y ddau yn dod bob dydd o Bwllheli yn ei car bach du. ‘Dwi hyd yn oed yn cofio rhif y car RGO 115. Pam medda chi m么d i yn cofio hynna? Y co gora sydd gen i am siop Llanengan ydi y ‘Christmas Showroom’. B么b Nadolig mi fydda Mr a Mrs Parry yn ordro bisgedi, chocolate, cnau a.y.b. a wedyn ei gosod yn ddel yn y stafell uwchben y siop oedd wedi cael ei rigio yn grand at y Nadolig. Mi fydda raid cael gwadd i fynd i weld y ‘Showroom’. Cerdded o gwmpas a mam yn deud beth fasa hi yn lecio brynu a Mr Parry yn ‘sgwennu fo lawr yn ei lyfr bach.



Mae hyn yn atgoffa fi ‘nawr o be oedd yn digwydd pan fydda merch o’r pentra yn priodi. Mi fydda pawb o’r bron yn rhoi anrheg iddi a wedyn roedd yr anrhegion i gyd yn cael eu arddangos yn stafell ffrynt ei rhieni. Pawb wedyn yn cael mynd i’w gweld. Cofio mynd efo mam i Trwy’n Garreg i weld anrhegion gafodd Eileen Ward pan briododd hi 芒 Benes.

Pan o ni tua pedair ar ddeg oed mi fu raid mi fynd  i’r ysbyty yn Bangor i dynnu fy ‘mhendics’   Fe aeth rhywbeth o’i le a mi f没m i yno am dair wythnos. Fe wnaeth Mari Jones Cefnen yrru cardyn ‘Get Well’ i mi bob dydd tra buais i yno, tua ugain cerdyn i gyd. Eisiau gwneud yn siwr m么d i yn cael post bob dydd i godi nghalon medda hi!

‘Roedd kiosk y pentra reit dros ffordd a  Gongl Gron. Ychydig iawn oedd efo ff么n yn y t欧 pan o ni yn blentyn. Mi fydda mam yn gwneud ffafr i ambell un a ffonio rhywle drostynt. Cofio Iorwen Ty’n Morfa yn dod a llythyr i mam yn y bore weithiau pan oedd hi yn dod i’r pentra i ddal bus i fynd i Ysgol Botwnnog. Mrs Hughes isho mam ffonio rhywle iddi, ffariar fel arfer. ‘Roedd y cyfarwyddiadau yn y llythyr a pres i dalu am y galwad ff么n.

Wedi eistedd i lawr a meddwl am fy atgofion on Lanengan ‘rwyf wedi synnu fy hun efo beth dwi yn gofio. Mae gen i lwyth o atgofion eraill hefyd yn enwedig am Capel Bwlch a Ysgol Sarn Bach. Efallai rhyw ddiwrnod caf gyfle i rannu rhai ohonynt.


------------------------------------------

Thomas Evans, Ty Capel Bwlch, Llanengan – atgofion Susan Evans, Tan Fynwent
1972




Yn ogystal 芒 Mary Ann Lloyd yn ystod y cyfnod yma yn y coleg, b没m yn ymweld 芒 Thomas Evans y Bwlch, yn cael ei hanes yntau hefyd. Yn 1972 pan fu i ni gyfarfod gyntaf ‘roedd yn 75 oed. 




Ganwyd ef ym Mhen Rhiwiau, Mynytho a bu’n was ffarm rhan fwyaf o’i oes. Cychwynnodd ar ei yrfa yn Rhandir Bach uwchben Abersoch ar gyflog o £2 am 26 o wythnosau, yn gytundeb hanner blwyddyn. Yn ystod yr wythnos gwaith arhosai yn Rhandir Bach, ac yn 么l adra am y penwythnos.

Symudodd wedyn i weithio yng Nghastellmarch dros y ffordd i’r Warren, Abersoch. Codai am 5 o’r gloch bora i fynd at y gwartheg i’w godro tan 7 o’r gloch . Ymlaen wedyn, yn1913 ,  i Barrach Fawr, Llangian. 

 Ar ddechrau bob haf, cyn cychwyn ar y  redig roedd yn rhaid codi cerrig oddi ar wyneb y tir.

Ar ddiwedd yr haf roedd yn amser hel gwair gan ddefnyddio ceffylau i wneud hynny, dim tractorau ‘radeg honno ! Os oedd wedi glawio yn y cyfamser roedd angen troi'r gwair drosodd er mwyn ei sychu. Cyn ei roi ar y drol gwnaethpwyd twmpathau o’r gwair sych. 

Ystod y rhyfel byd cyntaf ‘roedd Thomas Evans mewn gwaith yn Felin Fadryn a Plas Madryn Nanhoron, cartref Sir Love Jones Parry yn y 19egG. Gweithio’r aradr fyddai ar y ddwy ffarm. 

Treuliai llawer o oriau ar ei bennau gliniau a gyda’i ddwylo byddai’n ymladd i gael gwared ar y chwyn.
 
Defnyddiai’r ceffylau wedyn i fynd drwy’r pridd a’u carnau fel na fedrai’r chwyn dyfu’n 么l. Plannu rwden fuasai’r weithred nesaf ar 么l glanhau’r tir.

Yn y Felin malwyd y gwair i wneud ceirch, a’i bobi. ‘Roedd tyllau yn y popty er mwyn troi'r ceirch drosodd i arbed llosgi. Malwyd eto i wneud blawd ceirch ac wedyn am Bwllheli i wneud uwd a bara ceirch.

Yn 1920 ‘roedd yn Felin Newydd lle bun gweithio wrth ochr y peiriant dyrnu. 

Ystod, amser hel gwair roedd cefnogaeth i’w gael gan weision ffermydd cyfagos. Deuair dynion i helpu ar alwad ffliwt wrth bod hyn yn dynodi  bod y  dyrnwr wedi cychwyn. 

Am bump o gloch bora bysai rhywun wedi bod wrthi’n codi ager i fyny ym mheiriant y dyrnwr, drwy’i lenwi 芒 d诺r a phriciau oddi tan y boilar. Roedd 10 dyrnwr yn Felin Newydd. Byddai un dyn wastad yn bwydo’r dyrnwr ac un arall yn torri’r ysgubion er mwyn eu rhoi yn y dyrnwr. Gyda’r m芒n us wedi’i wahanu o’r plisgyn, lluchiwyd allan a’i gasglu gan y gweithwyr gerddai tu 么l a’i gludo i’r ysgubor.

Un o ddyletswyddau eraill Thomas Evans oedd tywys staliwn, er mwyn ffrwythloni ambell i gaseg, am gyfnod dros dymor o 3 mis o amgylch Penrhyn Ll欧n . 

Aethant cyn belled ag Afonwen wedyn am Bentreuchaf, Beudy Mawr, Efailnewydd a Wern, Llanbedrog, ac aros dros nos yn Henllys Newydd, Llanbedrog. Yn y bore ymlaen i Castellmarch, Abersoch, drwy Abersoch i Cilan, Porth Tocyn, Bwlch, Llanengan, Tywyn ac yn 么l i Felin Newydd.

Rhyw bedair blynedd cyn i mi ei gyfarfod ‘roedd wedi cael gwahoddiad i ddarllen rhai o’i benillion ar y Radio, atgofion o’i ddyddiau ar y ffermydd. Dyma 3 ohonynt:-

“Pobl Cilan dewch i lawr 
   I weld y dyrnwr yn Penrhyn Mawr
Hwnnw’n troi fel yr ysbryd drwg
   I lond ei din o d芒n a mwg.”

“Yn Penbont Seithbont
Mae bitch o hogan gas
Ei gwaith hi nos a bora
Oedd achwyn ar y gwas;
O ferchaid Plwyf Llangwnning, 
A welsoch arnai fai
I brynu triwal geiniog
I gau ei cheg a chlai” 


“Cysgais llawer noson
Mewn darn o drwmbwl trol
Yn ddigon gwag fy mol”

Mae’r pennill olaf yn cyfeirio at ffordd treuliai fywyd rai o’r ffermydd. 

Cysgai’n aml mewn llofft stabl gyda’r ceffylau odditano. Chwythai’r gwynt drwy’r ffenestri ac i mewn drwy’r gobennydd. Yn aml byddai’n canu’r pennill uchod i wneud ei hun gysgu drwy’r newyn a diflastod.

I frecwast ‘roedd cawl o fara a llefrith neu laeth yn unig ac i ginio tatws trwy’i crwyn a llaeth. Rhwng un a phump o’r gloch y prynhawn cafwyd “cynhesrwydd” sef te a 2 ddarn o fara barlys a bara gwyn.

Roedd y clocsiau yn y llun am ei draed pan roeddwn yn ymweld ag ef y diwrnod hwnnw. Gwisgai glocsiau pan yn yr ysgol a pharhaodd pharhaodd i’w gwisgo pan yn was ffarm yn dilyn y dyrnwr. Broliai’r sawdl coed iach. 




Byddai yn para rhyw 4 i 5 mlynedd. Tynnai’r bedol o’r sawdl a’i newid am rwber i’w  gwneud yn llai swnllyd. Mc Kevitt’s shop sgidiau hen-ffasiwn arferai werthu’r clocsiau yn Stryd Penlan, Pwllheli sydd bellach wrth gwrs wedi hen fynd ond yn dal yno yn 1972! – yn cofio’n iawn – rhywle rhwng y siop ddillad ddrud , crand ‘na ac Arfonia!



                                                ------------------------------------------------------------

Llanengan fy mhlentyndod - wel o be dwi’n cofio beth bynnag. - Iona

 

‘Roedd hi’n ganol y 50au pan gyrhaeddais i Glan Morfa fel plentyn cyntaf Eric Bwlch Gwyn a’i wraig cymharol newydd Megan o Dremadog. Wyres gyntaf William a Maggie ond ‘roedd 'na 诺yr h欧n, fy nghefnder mawr, wnaeth sawl sylw am y gyfnither fach o be dwi’n ddeall. T欧 rhent oedd Glan Morfa a dyna’r arfer i nifer pryd hynny , efo dau gae ac iard addas i Dad gadw peth o gyfarpar adeiladu . ‘Roedd y cae pelau yn un anferth i ni a lle hwylus yn y gongl bellaf i greu den yn din clawdd o olwg ein rhieni.  Rownd y gongl wrth fynd i’r cae pellaf bu Dad yn cadw gwenyn - hen gnafon brwnt - ac mae atgofion o fy rhieni yn trin y m锚l a’i werthu pob haf, a Mam druan yn rhedeg ar draws caeau pan godai haid i drio taflu cynfas trostynt tra’n aros i Dad ddod adref o’i waith.



Mae Glan Morfa ar y ffordd i Borth Neigwl ar gychwyn L么n Morfa a byddai’n hawdd iawn cerdded i’r traeth oddi yno. ‘Roedd Porth Neigwl yn fan chwarae hwylus er nad oedd Mam yn ddynes lan m么r o gwbl a dweud gwir, byddem ni’n cael mynd yn amlach na pheidio efo Anti Ceinwen, Anti Sarah , Anti Olwen ac Anti Myra (nifer o antis - ddim i gyd yn perthyn drwy waed, ‘roedd pawb yn anti adeg yna). Os oeddem ni’n cael diwrnod yn lan y m么r y prif broblem gyda Phorth Neigwl oedd y cerrig dan draed a’r tar fyddai byth a hefyd ar hyd ein traed a’n dillad yn dod adref - allan 芒’r iwcaluptus i drio ei glirio ac eli penelin. Ar wah芒n i’r m么r a’r tywod ‘roedd 'na lu o brofiadau eraill i blant elwa ohonynt yna. Byddem yn dringo fyny adeiladau'r Awyrlu ar 么l oes yr ysgol fomio heb sylweddoli beth oedd eu hanes ar y pryd a sglefrio lawr yn 么l. Ond y prif bleser oedd mynd dros y bompren i chwilio am gliwiau ar hyd y Morfa yn enwedig os oedd rhywun wedi bod yn llosgi eithin. ‘Roedd dylanwad mawr un awdures Saesneg a Seisnig iawn arnom fel plant a byddai’r beiciau tair olwyn yn sgrialu hi am Borth Neigwl i lunio ein dirgelwch ein hunain fel y Pump Enwog neu’r Saith Dirgel!!. ‘Roeddem ni’n amau pawb a phopeth ac yn ysgrifennu ein darganfyddiadau mewn llyfrau bach a’u cuddio. Cefais un yn 么l rhai blynyddoedd yn 么l gan breswylwyr presennol Glan Morfa, s么n am crinj, nodiadau bach Saesneg fel y nofelau.



Ar y ffordd gartref o’r traeth byddem bron bob amser yn aros i ddweud helo wrth Miss Lloyd, Morfa. ‘Roedd hi’n gymeriad, a phob amser yn cynnig fferins i ni. Os oedd Mam efo ni fyddem yn cael gwahoddiad i’r t欧 i eistedd ar y setl a mwynhau gwrando ar eu sgwrsio. Wrth fynd yn h欧n dwi’n cofio i mi ac un o’m cefndryd wisgo fyny a cherdded ar hyd y ffordd i’w th欧 i gymryd arnom ein bod wedi dod o wlad bell a cheisio siarad Saesneg bratiog gyd hi i’w thwyllo, hithau yn chwarae gyda ni a chymryd arni nad oedd yn ein hadnabod.  Yn ystod y cyfnod clo b没m yn meddwl llawer amdani wrth basio’r gi芒t lle arferai sefyll yn ei brat a’i het.

‘Roedd Glan Morfa yn edrych tua chorn y gwaith plwm a phentref Llanengan, ar ben allt (lle ddysgais reidio beic dwy olwyn drwy ffriwilio lawr ar un dradlen heb boeni am draffig) gyda T欧’n Llwyn oddi tanom. Yn T欧’n Llwyn ‘roedd anti arall, anti Robaits. Cof bach sgen i o’i g诺r Mr Roberts, doedd o ddim yn dda a dwi’n ei gofio yn y gwely lawr grisiau gyda hi’n tendio arno ac yn gosod i ymwelwyr “bed and breakfast and evening meal”. Ar 么l i’w g诺r farw newidiodd i osod y t欧 yn ‘furnished’ gan symud i fyw i’r garej dros yr haf gan goginio ar stof fach baraffin lle gwn芒i gacen gri, jam a bob math o bethau. ‘Roedd hi’n arferiad gan nifer i osod y t欧 i ymwelwyr dros yr haf pan oeddem ni’n blant a symud allan i unai garej neu gwt yn yr ardd. Cwt oedd yn Glan Morfa, hen fydai dwi’n amau gyda thoiled yn sefyll yn yr ardd. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ‘roedd hi’n ras i bawb gael bath cyn i’r bobl ddiarth gyrraedd ar 么l gorffen glanhau ar ddydd Sadwrn - ia un bath yr wythnos neu bythefnos hyd yn oed os oedd pobl yn aros am gyfnod hirach. ‘Roeddem wrth ein bodd yn chwarae efo’r plant oedd yn aros acw ac yn edrych ymlaen at weld os oeddent wedi gadael rhywbeth ar eu h么l. Doedd hi ddim yn anghyffredin cael gwahoddiad i fynd gyda’r teulu i’r traeth weithiau neu i’r t欧 i chwarae. Ond, ‘roedd hi’n boen symud allan bob mis Mai, clirio ein teganau a’r dr么r bob dim yn y bwrdd.

‘Roedd ffrindiau i ni, Carys ac Annwen yn byw yn yr Offis, o dan gorn y gwaith plwm a byddem yno’n chwarae yn aml. Eto feddyliom ni fawr am gefndir a hanes y corn a’r gwaith ond ‘roedd yn fan chwarae hwylus. Adeg hynny gallech fynd i mewn i’r corn ac edrych i fyny i weld yr awyr uwch ein pennau ac o’r corn fynd ar ein boliau i lawr y twnnel i gyfeiriad yr Offis. O le ges i’r gyts i hynny dwn i ddim gan gysidro sut ydw’i heddiw ond fe wnaethom hyn ddwsinau o weithiau yn blant dwi’n si诺r. Ar y ffordd lawr byddem yn chwilio am fadarch yn y cae cyn croesi’r gamfa gyferbyn a Grinallt (neu Sydney Villa adeg hynny) i L么n Pwllan (Bwlch Llan). 



Wrth fynd lawr yr allt byddem yn chwarae o hyd mewn llecyn ar y dde lle ‘roedd hen geir wedi eu gadael - cofio treulio pnawn angladd ewythr i Dad yn chwarae yno, dwi’m yn si诺r pwy oedd yn ein gwarchod na lle’r oeddem i fod.

Ar waelod yr allt ‘roedd Siop gig Evan Defi (tad Dafydd Leslie), yno'r ai Mam i brynu cig. Ar y ffordd adref byddwn yn bwyta sosej amrwd wedi ei chael gan Evan Defi. Adeg hynny ‘roedd siop a llythyrdy yn y pentref yn llawn o bopeth y byddem angen yn fwyd. Pan yn dair ar ddeg treuliais yr haf yn gweithio yno 9 tan 6 bob dydd ond dydd Mercher 9-1, a Sul 9-11.30. Os oedd rhywun yn galw ‘roeddwn i fod i ddweud mod i’n gweithio llai, ddim yn siwr faint llai chwaith. Beth bynnag fe ddysgais nifer o sgiliau, sut i dorri cig moch ar beiriant trydan a glanhau'r bled, sut i dorri iau oedd yn llithro ar hyd y cownter nes mod i’n cyfogi, gwneud bil ar lyfr bach glas taclus a rhoi’r newid cywir, pacio neges yn dwt mewn bocs neu fag a chyfrif newid yn Gymraeg ar 么l siars gan Mr Thomas y person (tad Ll欧r). ‘Roeddwn yn cael £5 yr wythnos o d芒l a llwyddais i dalu am wythnos yn Glan Llyn ar ddiwedd y gwyliau ac arian gwario gyda’r cyflog. Cefais gyfle da yma i ddysgu sut i drin pobl yn gwrtais a dod i adnabod cymeriadau’r pentref, pobl fel Mrs Jones Ty’n Ffoes a Miss Jones Sunny Side wariai eu harian prin ar fara ddoe i’r adar a bwyd i’r cathod oedd o’u cwmpas. Mae’n debyg fod 'na ymwelwyr yn galw ond wnaethon nhw fawr o argraff arnaf mae’n rhaid. Un joban oedd llenwi’r ddau beiriant gwm cnoi tu allan i’r drws - ddim yn dasg ddifyr gan fod angen eu stacio fyny yn ofalus a sicrhau fod y peiriant yn gweithio, un hen geiniog am baced o bedwar os dwi’n cofio’n iawn . Mr a Mrs Parry a Glyn eu mab o Bwllheli oedd yn cadw’r siop adeg hynny ac fe wnaethon nhw drio agor caffi fyny grisiau un haf ond sgen i fawr o gof o hynny chwaith. ‘Roedd Mr Parry wedi ennill gwobrau am wneud arddangosfa dda yn y siop dwi’n cofio. Fe symudais i’r Rabar wedyn i weithio mewn siopau eraill er mwyn bod yn nes at ffrindiau ond ‘roedd Siop Llanengan yn brofiad gwerthfawr. Dwi’n cofio Moi a Beti Fronallt yn ei chadw rhyw dro wedyn a chadw fan baned ym Mhorth Neigwl rhyw dro hefyd.



Yn y pentref hefyd ‘roedd tafarn y Sun. Bob a Lona rhieni Ian oedd yn ei chadw ar y pryd gyda rhieni Lona o Trefor yn cynorthwyo. Byddai Dad yn galw yno weithiau am beint ar 么l bod yn Bwlch Gwyn yn gweld Nain a Taid ond byth ar y ffordd yno. Dwi’n amau fod Taid hefyd yn galw yno’n slei wrth fynd i’r siop am neges yn y bore ac yna’n eistedd yn Cwt Rar Isaf gyda’i getyn yn bell o olwg Nain dan amser cinio wedyn. Sgen i’m cof i Mam fynd yno. Ar un adeg fe agorodd Lona siop fach yng nghefn y Sun i werthu creision a fferins a diod i blant y rheini ddoi i’r dafarn hefyd.

Ar wah芒n i’r siopau ‘roedd faniau bwyd yn galw o ddrws i ddrwg - Glandulyn, Robin Marks efo’i bysgod, Bara o Langwnnadl, a siop fwyd o Bwllheli ai Maypole tydwi ddim yn cofio’n iawn. Ar 么l i siop Evan Defi gau yn pentref byddai’n dod heibio efo’r cig ar nos Sadwrn ar gyfer dydd Sul. Nid peth newydd yw’r faniau yn danfon bwyd - ond fod y ffordd o archebu wedi newid de.

Un o brif adeiladau Llanengan yw’r Eglwys fawr hardd sydd yma. Pan yn blant byddem yn cael mynd i ben y twr weithiau ac fe gofiaf gnocio ar ddrws y rheithordy i ofyn i Mr Thomas os oedd yn iawn i ni fynd, yntau creadur yn gollwng popeth a mynd a ni i fyny’r grisiau , siars i roi dwylo dros ein clustiau tra’r oedd yn canu’r gloch i ni ar ein ffordd fynd a sefyll ar y top yn rhyfeddu at yr hyn a welem. Mi fyddai Mr Thomas druan wedi cael ei siarsio rhag gwneud y dyddiau yma dan reolau Iechyd a Diogelwch dwi’n amau. Arferai Taid ac Yncl Hughie T欧’r Ysgol (brawd Nain) ganu’r gloch bob Sul .  Yn yr Eglwys y cafodd Ann a fi ein bedyddio ac yno y byddai'r teulu yn addoli yn y Gymraeg (yn wahanol i’r drefn heddiw lle dwi’n meddwl mai gwasanaeth Saesneg yn unig sydd yno) nes i’r Eglwys gau am gyfnod i adnewyddu rhan ohoni. Yr adeg yno fe gofiai fynd yno i boeni rhai oedd wedi codi esgyrn dynol (os dwi’n cofio’n iawn ) o dan y llawr, cofio nhw’n brwsio llwch gyda brws dannedd oddi ar yr esgyrn.  Wrth sgwennu hwn dwi’n sylweddoli mod i’n debygol o fod wedi bod yn dipyn o niwsans i lawer un pan oeddwn i'n blentyn!!



Draws l么n yn Nh欧’r Ysgol sef cartref Yncl Hughie ac Anti Blodwen ‘roedd yna goed eirin a mwya’r cywilydd byddem yn griw yn dwyn yr eirin oddi ar y coed pob blwyddyn. ‘Roedd 'na elfen o euogrwydd mae’n amlwg gan i ni brynu paced o fisgedi yn y siop a mynd a nhw yn anrheg i Anti Blodwen. ‘Roedd Yncl Hughie yn un o weithwyr y ffordd i’r Cyngor yn cadw’r ffyrdd yn glir.
Arferem gael ein cario i ysgol Sarn Bach yn y bore gan Mr Morris Rhydolion mewn fan fawr, pob plentyn am wn i rhwng Rhydolion a’r ysgol. Fodd bynnag pan ddaeth yn amser dal bws i fynd i Fotwnnog ‘roeddem yn cerdded i’r pentref i ddal bws Evan Jones Parry am 8 y bore, heibio'r ffynnon ger T欧’n Llwyn a’r caniau llaeth wrth T欧 Cerrig.

Pan oedd Granville a Mrs Evans yn byw yn T欧 Cerrig dwi’n cofio cael bisgedi sunsur cartref ganddi pan o’n i’n s芒l. Ond ar 么l iddynt symud o T欧 Cerrig y cof mwyaf sgen i o’r t欧 ydi fod Cymdeithas yr Iaith wedi symud i mewn fel rhan o brotest er nad ydwi’n cofio pam a bod Dad wedi gorfod mynd yno wedyn i drwsio ffenestr ‘roeddent wedi malu i fynd i mewn.

I fyny’r l么n ‘roedd Tanrallt a pan oeddem yn blant ‘roedd Mrs Davies a’i dau fab Leslie a  ??Vernon  yn byw yno . Un noson fe gefais fy neffro gan Mam i edrych allan gan fod t欧 gwair y fferm yn wenfflam. Ar 么l i’r teulu symud i Efailnewydd i fyw mae gen i gof o foch yn cael eu cadw ar y tir a cheffylau am gyfnod.

Fyny l么n heibio’r Offis ‘roedd Ceinwen Jones (anti Ceinwen)  a Tec yn byw – doedd y dynion ddim yn yncl’s sy’n od tydi? Anti Ceinwen oedd yn ein dysgu i adrodd yn yr Ysgol Sul ar gyfer Eisteddfodau lleol. ‘Roedd hi’n cadw ieir yn y cefn a dwi’n cofio hi’n magu cywion bach melyn yng nghefn y t欧. 

Gan fod Nain a Taid yn byw yn Bwlch Gwyn ‘roeddem ni’r plant yn treulio oriau yno gan bicied yn aml i ddrws nesa i Gwel Don at Mr a Mrs Williams a Dei a Jinny a Dot y ci, ac yn rhyfeddu at yr ogof yng nghefn y t欧 lle byddai’r teulu yn coginio pysgod ac ati i arbed yr arogl yn y gegin. Pan aeth y t欧 ar werth mi es yno i edrych arno a rhyfeddu mor fach ydoedd yn enwedig o gysidro fod pedwar oedolyn wedi cydfyw yno a Dot wrth gwrs am flynyddoedd.


‘Roedd Bwlch Gwyn yn handi hefyd ar gyfer dianc i Fron Isaf - adeg hynny byddai cymaint yn digwydd ar y fferm dwi’n siwr fod Ifan a Lwl di syrffedu arnom dan draed - ond doedd na foch yn cael eu geni, oen llyweth, c诺n bach a llond gwlad o dyllau i guddio yn y t欧 gwair.  Oddi yno lawr dros Ben Bryn Cras i weld os oedd fan Dad yn Bwlch Gwyn ac i lawr adra drwy ‘Rochor. Troi i’r dde ar y gwaelod ac ar hyd l么n am Langian lle’r oedd ganddom dden yn y brwgaits - ‘roedd hi’n oes y dens yn doedd - roedd 'na un arall yn dop cae tu 么l i Bwlch Gwyn rhwng dau glawdd.

Er mai Eglwyswyr oedd fy rhieni mi benderfynwyd y dylwn fynd i ysgol Sul yn Bwlch a dyma Dad yn  mynd a mi un dydd Sul ond fe nogiais cyn mynd trwy’r drws. Erbyn yr wythnos wedyn ‘roedd 'na gynllun ar droed a dyma Mr a Mrs Thomas Ty’n Don yn galw amdanaf a dyna fu’r patrwm am flynyddoedd wedyn. Rhaid i mi ddweud mod i wedi mwynhau'r Ysgol Sul ar y cyfan, ac wedi cael sawl profiad yn ei sgil - heb anghofio’r tripiau i Rhyl a Sw Gaer ac ati. Fodd bynnag dwi’n ymwybodol iawn fod y pwysau a roddwyd ar rai o’r bobl ifanc i gymryd rhan yn gyhoeddus wedi bod yn gyfrifol am i nifer ohonynt beidio mynd ar gyfyl y capel ar 么l cael eu derbyn. Yn ogystal byddem yn mynd i’r Band of Hope ar nos Iau oedd yn cael ei arwain gan Megan Thomas, Brynteg. Pan ddaeth Gareth Maelor Jones yn weinidog i’r Bwlch cychwynnwyd y Gorchfygwyr a dyma lu o brofiadau eraill ar draws y capeli gyda phobl ifanc o Abersoch, Llanbedrog, Llangian a Cilan . Pan oeddwn yn cael fy nerbyn fe benderfynodd fy rhieni newid o’r Eglwys i’r Capel hefyd ac aeth Mam ymlaen i fod yn athrawes ysgol Sul am flynyddoedd.  Yn y Capel ‘roedd gan bawb ei set ei hun, a phobl yn talu am yr anrhydedd ond yn y festri - fu wedyn yn gapel - ‘roedd y dynion yn eistedd un ochor a’r merched yr ochr arall - dal ddim yn siwr pam.  ‘Roedd Evan John Creigfryn a Lewis Roberts, Whitehorse yn codi canu yn y capel a rhywun gwahanol yn arolygwr ysgol Sul bob blwyddyn. Yn y gwasanaeth nos Sul pan o’n i’n mynd - ddim yn aml - ‘roedd rhai o’r pregethwyr yn ddigon difyr, eraill yn hir a diflas. Y gwasanaeth gwaethaf i mi fyddai’r noson pan oedd Cyfarfod Gweddi - y blaenoriaid yn gwedd茂o yn bennaf o’m cof i. Dwi’n cofio David Williams, Dwyfor (fy nghartref i r诺an ) yn gwedd茂o yn hir ac anti (un arall) Matt ei wraig yn pesychu ar 么l sbel - dwi’n amau i roi rhybudd iddo ei fod wedi bod wrthi’n hir ond ella mai fy nychymyg i oedd hynny. ‘Roedd 'na ddau ddosbarth dynion yn yr Ysgol Sul - un heb athro - ac ‘roedd yn arferiad iddynt symud i fyny at y gweddill ar 么l y gwasanaeth dechreuol, pam na fyddent yn cychwyn yn yr un lle dwn i ddim.



Rhan o drefn y flwyddyn oedd dysgu adnodau a’r Rhodd Mam ar gyfer y Safonau a dysgu ar gyfer yr Arholiad Sirol. Fel canlyniad i’r Arholiad Sirol ‘roeddem yn cael llyfr fel arfer yn y Sasiwn Plant ym Mhwllheli, ac weithiau dillad newydd ar ei gyfer.


Yn ystod y clo pan o’n i’n gorfod mynd am dro ar fy mhen fy hun ‘roedd hi’n gyfle i feddwl a hel atgofion wrth basio gwahanol fannau. Faint o bobl ddi-gymraeg oedd yn y pentref pan oeddem yn blant - wel mi oedd na dipyn ond ‘roeddem yn eu hadnabod - ychydig iawn o ymdrech i  ddysgu Cymraeg dwi’n cofio nhw’n wneud ond doedd neb yn eu beirniadu o be dwi’n gofio. Gen i gof o Mr a Mrs Watson, Tony Griffiths a’i wraig, Mrs Challenger a’i chi wnaeth fy mrathu, Mrs Stubbs , Mr Marsten y deintydd , tad genod Johns oedd yma ers adeg rhyfel a Gary Tan Fron ‘run fath.  Fel plant ‘roeddem yn gwybod pwy oedd yn byw yn bob t欧 dwi’n amau. Chydig flynyddoedd yn 么l ‘roeddwn yn trio dweud wrth ffrind pwy oedd yn byw ymhobman wrth gerdded am dro a sylweddoli mwyaf sydyn nad oedd gen i syniad pwy oedd yn y rhan fwyaf o’r tai.  Dwi’m yn meddwl fod 'na dai haf neu dwi ddim yn cofio, doedd na ddim Airbnb ond chwedl Miss Jones Sunny Side mi oedd na bobl yn gwneud “breakfast in bed”.

Adeg hynny ‘roedd 'na sawl person yn ffarmio yn y pentref ar wah芒n i’r llond llaw presennol - Ty’n Don, T欧 Cerrig, Tan Rallt, Ty’n Morfa, Dwylan, Creigir Goch. Cania llaeth ar ochor l么n ar 么l godro yn aros am lori laeth.


 Adeiladwr oedd Dad, felly hefyd un o’i ffrindiau Harri White Horse, ‘roedd 'na sawl saer - Tec Sydney Villa, Tec Wern , ac Evan John Gongl Gron .

‘Roedd Dad wedi marw cyn i’r Ganolfan gael ei hadeiladu ond ‘roedd y Hall Billiards yn le pwysig iddo. Dwi’m yn meddwl fod o’n chwaraewr o fri ond ‘roedd 'na ryw gymdeithas yno i’r dynion dwi’n amau rhywbeth fel y Man Shed heddiw o bosib. ‘Roedd o’n anffodus o be dwi’n cofio i fod ar y rota adeg y Nadolig i lanhau a smwddio’r byrddau ond byddai Mr Ward Trwy’n Garreg yn gwirfoddoli yn ei le er mwyn i Dad gael bob adra efo ni’r plantos ar y diwrnod ei hun.

Yn 么l Mam ddaeth hi i Llanengan yn 1955 ‘roedd yna dd诺r yn y tai cyn iddi gyrraedd ond yn saff doedd na ddim ystafell molchi na thoiled ym mhob t欧. ‘Roeddem ni’n lwcus yn Glan Morfa ond toiled yn dop rar oedd yn nh欧 Nain a Taid am flynyddoedd nes i Dad a’i frawd roi un yn llofft sb芒r ryw ben a dim ond toiled a sinc oedd hynny. Gen i gof o Mam yn mynd yn wirion efo un person ddaeth i barti pen-blwydd Ann a fi ac a dreuliodd yr amser yn mynd yn 么l a blaen i’r lle chwech i dynnu’r tsiaen gan nad oedd gan y teulu un gartref.

Dwi’n cofio ni’n cael ff么n hefyd i Dad allu gael ei gwsmeriaid i’w ffonio. Party line oedd ganddom efo Belle Vue dwi’n meddwl - os oedden nhw ar y ff么n ‘roedd rhaid ei rhoi lawr a thrio eto yn munud (neu glustfeinio ar eu sgwrs!!). ‘Roedd angen gofyn i rywun yn yr Exchange yn Rabar i’ch rhoi trwodd i’r rhif cywir dwi’n meddwl. Ar 么l dod o’r ysgol byddem yn gyrru ein rhieni yn wirion yn treulio oriau yn siarad efo’n ffrindiau ar y ff么n a ninnau newydd eu gweld yn yr ysgol wir.

Ar 么l i frawd Mam gael cine camera fe gafodd Dad hefyd rhyw ysfa ac mae sawl ffilm yn Bwlch Gwyn gyda’r un olygfa o’r pentref o Glan Morfa arni a’r ceir di parcio wrth y Fach a Regetta Rabar flwyddyn ar 么l blwyddyn. Yn anffodus chydig iawn o bobol sydd arnynt ar wah芒n i ambell i garnifal yma a thraw, gwahanol iawn i hunluniau heddiw de, mi fyddai wedi bod yn dda petai cronicl o rai o wir gymeriadau'r pentref yn y cyfnod yma pan oeddem ni’n tyfu fyny - amser difyr iawn.


                                      ------------------------------------------------------------

Atgofion am Lanengan - Hywel Thomas, Brynteg - drwy garedigrwydd ei ferch Carys


1921- 2004



 Yn gyntaf oll ga i ddiolch i chi am y gwahoddiad i'r Bwlch, i'r Gymdeithas, ac yn fwy na dim am gael dwad yma, i'r stafell yma, sydd yn siwr o fod yn rhan bwysig iawn o'm bywyd cynnar - dof yn 么l at hynna eto. Dw'in meddwl y dylwn i ddeud, ar y dechrau cyntaf fel hyn mai cael fy mherswadio gan fy chwaer ddaru mi - h.y. nid o'm dewis fy hun y deuthum yma ond mewn ufudddod i orchymyn na fedrwn i, mewn munud wan, feddwl am esgus i'w osgoi. Hefyd, yn ail, pan es i ati i hel ychydig o "Atgofion" - a dyna ydi'r testun osodwyd i mi, - buan iawn y sylweddolais i mai rhyw sgwrs eilradd fydd hon - 'roedd llawer iawn o'r hyn garwn i ei ddweud yn rhy beryglus o lawer i'w gynnwys. Yn un peth mae 'ma hen gyfoedion na charwn i ddim i rai pethau yn eu hanes ddwad allan yn gyhoeddus, yn beth arall mae disgynyddion yr hen bobl fu yn fy niddori am wahanol resymau yn parhau i fod yn yr ardal yma, ac yn drydydd pan oeddwn i'n trio un neu ddwy o'm storiau ar Megan un ai mi ddeuda - "Fiw iti ddeud hynna", neu "Paid 芒 deud clwydda'r cyth.." 

 Mi 'rydw i bron a bod yn 72 oed. Deunaw oed oeddwn i pan ddechreuodd llacio y rhwymau oedd yn fy nal yn dyn yn yr ardal yma - mynd i Fangor i'r Coleg ym 1939. Cael a chael fu i mi gael gorffen y cwrs yn y Normal (2 flynedd y pryd hynny), cyn mynd i ffwrdd ar wahoddiad y Brenin i ymladd ei frwydrau. Ond rhwng y ddau cefais dri neu bedwar mis yn dreifio fan Glasfryn Llanbedrog rownd yr hen Benrhyn yma - mae'r cyfnod hwnnw yn ddefnydd sgwrs ynddo'i hun - ac yn atgof melys iawn. 

 Ar derfyn y Rhyfel 'doedd dim gobaith am swydd dysgu yn Sir Gaernarfon - 'roeddan nhw'n cadw'r swyddi i'r rhai a ddisgwylid yn 么l o'r lluoedd oedd yn gweithio yma cynt. Felly i Birmingham y bu raid mynd ym 1946. Ym 1958 ces swydd Prifathro Penmaenmawr, ac ymsefydlu yn Llanfairfechan. Mi welwch felly mai dim ond chwarter oes oedd f'arhosiad yma, 'rwyf wedi treulio hanner ohoni yn Llanfairfechan.

 Ydach chi'n cofio sut le oedd yma yn y 30au? Rydw i'n cofio y ffyrdd yma yn cael eu tario am y tro cynta. Ar "l么n fetlin" - efo pyllau dwr mawr - y dysgais i reidio beic, - llwch yn yr haf a llaid yn y gaeaf. Roedd hi'n bosib chwarae pob math o chwaraeon ar y ffordd fawr, bob cam o Dy’n Pwll i Landulyn heb boeni fawr am draffig - rhyw bedwar bus i Langian mewn diwrnod - Twm Ffrainc neu Ellis neu Powell bach, fan laundry Port, lori Morris & Jones neu rhyw hen fan bach goch efo tsaen fawr fel tsaen beic wedi gordyfu am ei hochor hi - Brooke Bond 'dwi’n meddwl. Mi roedd na geir hefyd - JC 45 yn Nhy Newydd, JC 466 yn Ty’n Don, a rhes o geir efo llythrennau dieithr gan Wil Ty’n Pwll fy nghefnder. (AFY oedd un 'dwi'n gofio.) Ceffylau oedd gan y ffermwyr i gyd - rhai mawr, cry, tawel a ffeind bron i gyd - ond mi oedd yna un tractor - Harri'r Felin Nanhoron - yn tynnu'r dyrnwr o le i le ac yn ei droi ar 么l cyrraedd. 

 Mae 'na lawer o s么n am "y filltir sgw芒r" - fel bro cynefin rhywun - doedd fy mhatsh i ddim yn agos i filltir sgw芒r nes es i i'r dre i'r Cownti Sgwl. Roedd marciau fy ffiniau i yn rhai teuluol iawn - s么n am "extended family" wir -
 Ar ochr mam, dewyrth Sol yn Nhy’n Pwll
     RO Hughes (Y Sgwl) a modryb Jane yn Llwyn Onn 
     Dewyrth a Modryb, Anti Jini ac Yncl Tom yn Ty Newydd 
     a nain ac Yncl Griff yn y Felin.
 Ac ar ochr nhad - Taid Shop yn Shop Sarn 
     Modryb a Dewyrth yn Nhan y Bryn 
     Yncl Dic a'i wraig yn Glan Aber 
 Ac fel "outpost" pell Dewyrth Now a Nans yn Llanbedrog. 

     Digon hawdd ydi cofio perthnasau, ond nid teulu'n unig oedd cylch adnabod plant yr oes honno, 'roedd yno gymdogion a chyfeillion hefyd i gyfoethogi eu profiadau. 'Roedd croeso bob amser yn Creigfryn - Mr a Mrs Owen, a Lilwen oedd yno. Bob yn gychwr trwy'r haf - cap llongwr a thopyn gwyn iddo, a jersey "nefi blw" efo enw'r cwch yn wyn wedi ei frodio ar draws ei frest. "Valentine" SCYC. Fel y tyfais i'n llanc, mi fyddwn yn cael mynd efo Bob i helpu - ac i 'sgota mecryll gyda'r wawr heb yn wybod i Mr Hancox y perchennog. 

 Rolant a Meri Hughes wedyn yn y Ty Capel 'ma - bob amser a gw锚n neu dda-da i blentyn. Ifan Jones yn y Bwlch - job chwe cheiniog gan Ifan Jones - fy rhoi mewn rhaff o flaen yr injian dorri gwair i ysgafnhau'r gwaith trwy ei thynnu ac yntau'n gwthio. Pnawn Sul ar 么l te - drymio'i fysedd ar y bwrdd neu fraich y gadair. 

 Robat Jones Hendy Capel a Mrs Jones - yno y byddem ni'n cael llefrith ac yn aml iawn Robat Jones ar ei swpar gwaith. Deud gras bwyd ar 么l gorffen - "Diolch am y nesa - mi 'dwi'n saff o hwnna". Dro arall, heb gael llawn digon hwyrach, "Pasia'r Fowlars na Jane!" - Triog du oedd hwnnw. "Su'd'ach chi heno'ch pump!" neu faint bynnag fyddai yn y criw. 

 Phasiach chi byth Dy’nffynnon na welsach chi Elin Roberts, naill ai yn y drws neu yn y cowrt o flaen y ty. Mrs Parry Minffordd (Annie Plasgyndyn) wedyn - ogla bacon yn ffrio sydd yn dod i'r cof wrth gofio amdani hi. 

 Miss Roberts, Bryn Eglwys wedyn - Catrin Ann i mi - a William Roberts (Wil Crydd) efo'i ddwy ffon. Roedd Catrin Ann yn gloff hefyd er iddi (neu hwyrach oherwydd) fod yn cario'r post am gyfnod. Un o hoff bethau Wm Roberts oedd gwylio'r "cychod mawr" yn rasio yn yr haf. Roedd o'n mynd i Ben yr Orsedd i'w gwylio - tipyn o gamp iddo - ac 'roedd yn eu 'nabod 'nhw i gyd efo hen spenglas bach brass. Dwn i ddim eto beth oedd y berthynas rhyngddo fo a CA - roedd Mam a hithau'n dipyn o ffrindia. Eglwyswraig fawr oedd hi, a Tori brwd. Gwyddai am deuloedd uchel-ael y wlad i gyd - "expert” ar yr "aristocracy". Ffraeo'n aml yno, a iaith yr hen William yn ddigon bras weithiau a byddai yn pwysleisio'r geiriau pwysicaf - ee Regeta dda ddiawledig - yr Eva'n gadal yn gythral. 

 Tybed ydi'r oes yma yn ddoeth yn gwahanu cymdeithas i wahanol sectorau? Yr Arddegau, Ieuenctid, Gwragedd Ieuainc, Sion a Sian ... - chredai i nag oedd cymdeithas yn llawn difyrrach, os nad yn iachach hefyd pan oedd pawb, o bob oed, yn cael eu lle priodol ymysg ei gilydd. 

 Pan fydda pobl yn mynd o gwypas i werthu ticedi neu i hel arian at ryw achos da ers talwm roedd y clwt yma o Dy’n Ffynnon i Gapel Graig ac o Deucoch i Greigir Ucha 4 yn cael yr enw "Dosbarth Nawdd-dir" am reswm sy'n dywyll i mi - ond fel "Y Gremp" y cyfeirid ato gan y rhai a drigai yma yn fy machgendod i. Mi glywais fod yna dy yn yr ardal yn dwyn yr enw "Nawdd-dir", hwyrach y caf eglurhad ar y ddau enw ryw dro.

 'Roedd yna ffiniau eraill hefyd - cylchwedd oedd yn diffinio terfynau rhywun - Y Capel, Yr Ysgol, cyfeillion, - ac wrth gwrs yr oedd rhai o'r rhain yn ehangu o hyd - fel yr oedd plant yn tyfu. 

 Mae'n debyg mai'r Capel oedd y dylanwad trymaf ar fywydau pawb drigain a mwy o flynyddoedd yn 么l - a 'doedd 'na ddim dianc o'i afael na chuddio rhagddo. Mae'r patrwm yn hen gyfarwydd i chi i gyd - a 'd ai ddim ar ei 么l - ond yn siwr i chi 'roedd y dylanwad yn drwm, ac yn golygu treulio oriau o amser yma yn y Festri (chlywais i neb erioed yn cyfeirio at yr ystafell yma fel "Ysgoldy" - dyna ydi hi i bawb yn Henaduriaeth Arfon). 

 Yma y byddai Mr Lloyd y Gweinidog yn ceisio cadw trefn ar haid o blant yn y Gobeithlu, (yn ofer ran amla!) Canu tipyn - adrodd yr "Ymrwyniad" - faint ohonoch chi sy'n cofio hwnnw? Chwarae g锚m wedyn - Spelling Bee yn aml iawn - rhes ohonom yn y fan yma - pawb yn meddwl am eiriau yn cychwyn efo rhyw lythyren arbennig. Os methu - yna allan o'r g锚m - neu ddweud gair oedd wedi bod o'r blaen. Un tro - dim ond dau ar 么l - Ifan Ty’nffynon ac Arfon Bwlchgwyn. Ifan yn cael gair fel yr oedd llaw Lloyd yn dwad i lawr, Arfon yn chwilio ac yn pendroni gan edrych i'r t么 am ysbrydoliaeth - ddeuda i ddim mwy - dim ond deud mai "c" oedd y llythyren - "disqualify" gafodd Arfon am fod yn anweddus ac Ifan gafodd y geiniog. Saith o'r gloch yn taro, swn troed ffyddloniaid cynnar y Seiat yn y porch acw, a'r haid yn ei heglu am allan.

 Fel yr oeddym yn tyfu, byddai raid i mi aros yn y Seiat wedyn - a "deud adnod" - hen ffefryn ran amla fel un Ems - mi ddysgais i honno wrth glywed Ems yn i deud hi o hyd. "Cofia yn awr dy Greadwr ...". Dro arall "practice run" i un newydd fydda'n mynd. Drwy ryw ryfedd wyrth 'roedd y disgwyl i'r plant ddeud testun a phennau pregethau'r Sul cynt wedi mynd cyn i mi ddwad i oed y penyd hwnnw. Ambell waith ceid adroddiad o'r hyn oedd wedi mynd ymlaen yn y Cyfarfod misol - R.O. Hughes (Yncl Llwyn Onn) yn sychlyd ofnadwy. Ond difyrrwch mawr oedd Seiat pan ai Lloyd rownd pawb yn gofyn am air o brofiad neu adnod. Ann Jones Tyddyn Difyr oedd "seren" y nosweithiau hynny. "Gweld fy hun yn bechaduras fawr Mr Lloyd bach"! 

 Y Gymdeithas wedyn - dim ond noson Cyfarfod Cystadleuol y byddom ni'r plant yn cael mynd ar Nos Wener - "Penny Reading" beth bynnag olygai hynny - ond mi fyddai yma hen gystadlu - yn enwedig y Pedwarawdau. Flynyddoedd wedyn, ar 么l i fy lais i "dorri" - ces y fraint o fod mewn parti pedwar fydda'n ennill ym mhob man - Nellie (Mrs Evans Bryn Einion) oedd y soprano, Anti Jennie Ty Newydd yn alto, Lewis Roberts yn f芒s gwerth ei glywed. Braidd yn gyfyng oedd y Repertoire - "Dwyn mae cof o flaen fy llygad" neu "Yn araf i safle'r gerbydres gerllaw" - pan fyddai Rhestr Testunau yn deud "unrhyw" - ond yn aml byddai rhyw Emyn neu gilydd a'r D么n wedi ei nodi. 

 O s么n am Lewis Roberts - y fo ydi'r unig athro ysgol Sul i mi ei gofio. Seddi ffrynt ar ochr chwith y Capel oedd ein stondin, a mawr ein diolch iddo am arwain ein meddyliau dros y blynyddoedd. 'Roedd oes o drafod cerrig wedi cryfhau gafael Lewis Roberts i'r fath raddau fel y gallai godi ei hun yn glir o'r llawr trwy afael efo'i fysedd o dan distyn - roedd gwasgiad uwchben y pen glin gan Lewis yn cadw trefn arnom bob Sul. Hughie Sarn Villa, Evan Lleferin, John Gwilym, Harry, Gwilym Gwtar a finna oedd y dosbarth fel arfer er i eraill ddod o bryd i'w gilydd.

 Yr Ysgol 

 Niwlog braidd f'atgofion am ddyddiau cynnar yr ysgol. Dechreu yn Sarn Bach - dwn i ddim faint oedd fy oed i hyd yn oed. Ond mi rydwi'n cofio rhai petha - Yn Ty Capel 'ma yr oedd Athrawes y Babanod "Miss Jones Ni" yn byw - lodgio mae'n debyg - dynes ganol oed, "go solet" chwedl Llwyd o'r Bryn oedd hi, a chofiaf gael mynd i'r ysgol efo hi i gychwyn. Yn "Rwm y Gloch" y teyrnasai hi - stafell efo seti fel grisiau 'run fath 芒 cae peldroed - hollol anaddas i blant bach gredwn i. R.O. Hughes (Yncl Llwyn Onn) oedd y Prifathro a 'does gen i ddim syniad pwy arall oedd yno. (Hwyrach y cofiwch chi rai ohonoch chi). Cofiaf yn hollol glir y "streic" fu yno a fy nhad oedd un o'r arweinwyr fel Cadeirydd y Managers (dyna y gelwid y Llywodraethwyr y pryd hynny ac am flynyddoedd lawer wedyn). Gwrthod anfon eu plant yno oherwydd ei chyflwr oedd achos yr helynt, a rhoddwyd tsaen fawr ar y gi芒t a chlo clap enfawr. Ymateb Pwllgor Addysg Sir Gaernarfon oedd ei hail-fodelu fwy na heb fel y mae heddiw - ond i fedru gwneud hynny penderfynwyd symud oddiyno dros dro. Aeth pawb i Ysgol Llanengan ond Standard Three a Four - rhyw ddau ddosbarth beth bynnag. Erbyn hyn W Jones Parry oedd y Prifathro - ac fe drefnwyd fod Dic Pensarn a finna i fynd i Ysgol Pentra er mai i'r Ysgol Bach y dylasem fynd. Y rheswm oedd fod Mr Parry wedi gweld gobaith pasio'r "Scholarship" yn Dic a finna a doedd o ddim am i Miss Thomas gael y clod.

 Un effaith hyn oll oedd i Megan a finna gael sbario mynd i Siop Sarn bob diwrnod ysgol i gael cinio. Chwarae teg i Taid Siop - yn hen lanc ac yn ddyn busnes prysur iawn y pryd hynny - ond yno y cafodd y chwech ohonon ni blant Brynteg ginio poeth, blasus a maethlon ar hyd ein cyfnodau yn Ysgol Sarn Bach. Mae'n wir mai Nel - Mrs Evans Bryn Bychan, oedd yn cael trafferth efo ni - 'roedd hi yn ffeind iawn a bydd gennyf barch i'w choffadwriaeth tra bydda i byw. Un canol dydd pan landias i yno o'r ysgol 'roedd yno rhyw ddynes ddieithr fawr dal yno, yn amlwg yn aros, fel finna' am ei chinio. "Pwy ydi hon?" meddwn i wrth Miss Roberts. "Cariad newydd Yncl" meddai hithau. Tro ar fy sawdl ac am adra! Mam wedi synnu fy ngweld. "Be 'di'r mater?" "Mae Yncl Siop yn mynd i briodi rhyw hen ddynas fawr efo mwstash" medda finna. Cymerais fy nghysuro yn y diwedd ond 'dwn i ddim hyd heddiw pwy oedd hi, - er mae Megan yn meddwl mai un o chwiorydd Miss Roberts oedd hi.

 Mi effeithiodd y symud yma ar bawb wrth gwrs. Taith hirach i'r ysgol i blant Bwlchtocyn, Cilan a Sarn Bach, ond bendith fawr iawn i blant y pentra, ac yn enwedig i Bob, Griff, Mary a Katie Glansoch. Bu raid i eraill newid hefyd wrth gwrs - rhai o blant fynd ffordd hirach i'r Ysgol Bach - John Bwlchgwyn ac Ifan Ty’nffynnon yn eu plith. 

 A deud y gwir 'doedd Ysgol Pentra fawr iawn gwell ei chyflwr na Ysgol Sarn, ond ysgol dan reolaeth yr Eglwys oedd hi, a daeth hynny a dimensiwn newydd i mewn i'n 6 haddysg ni - ym mherson Mr Roberts y Person, os ca'i roi o fel 'na! Fel offeiriad y plwy 'roedd yr hawl ganddo i ymweld 芒'r ysgol ac i annerch y plant. Dwy yn unig o'i foeswersi ydw i'n eu cofio. Un - gneud siap triongl fawr ar y bwrdd du ac yn y canol, tu fewn i'r triongl y gair "Y Drindod", wedyn Y Tad, Y Mab a'r Ysbryd Glan ar bob congl. Y llall - ein hannog i fod yn ffeind wrth greaduriaid mud - yn bennaf amser nythu - peidio dwyn wyau a pheri i'r adar ddigio. Yn arbennig fe'n siarsiai i beidio 芒 rhwymo tun gwag wrth gynffon ci. Wel dyna un stynt oedd heb wawrio ar neb ohonom hyd y dydd hwnnw a chwarae teg i'r Person mi gafodd fwy nag un ci yn y pentra amser cynhyrfus iawn yn rhedeg yn 么l ac ymlaen a'r tun yn drybedian y tu 么l iddo. Un o'r giang tua'r pentra 'na oedd Lawrence Baker neu Florence fel y gelwid ef gan rai. Sais oedd o, ei fam a'i dad yn Saeson glan, ond Lawrence cystal Cymro 芒 neb ohonom. 

 Heblaw'r ddawn i wneud drygau, 'roedd yn Lawrence rhyw ddawn fecanyddol/wyddonol fawr. Er enghraifft mi fedrodd wneud beic "three speed" i newid g锚r yn otomatig, efo dim ond tin-tac! Wir i chi - er na weithiodd o ddim yn hir, hwyrach oherwydd mai o'r chwarel Fawr y daeth yr olwyn yn y lle cyntaf. Un o'i gastiau mwyaf llwyddiannus oedd y gwelliant wnaeth o i'r tric a ddysgodd y Person i ni. 'Roedd na rhyw Saeson yn byw yn Roch Lea am gyfnod, a rhyw hen gi mawr du gennyn nhw oedd ganddo gas perffaith ar feicwyr. Mi fydda'n cuddio yn y clawdd wrth ymyl Roch Lea neu garage Dwylan ac yn rhuthro allan a brathu coes y beiciwr diniwed. Mi wnaeth lawer gwaith i mi ar fore Sadwrn pan fyddwn yn mynd i Benybont i n么l menyn Catrin Ann.

 Rhywsut neu gilydd fe'i daliwyd - a dyma'r "refinement" ddyfeisiwyd gan Lawrence Baker. Yn lle unrhyw hen dun i wneud twrw - tun paent gwag a chaead arno. Yn y tun - tropyn go dda o ddwr, ac yn y dwr lwmpyn reit nobl o "Carbide". Os yr ydych yn ddigon hen i gofio lampau carbide ar feic ac ar fodur, mi wyddoch mai effaith gemegol priodi dwr a carbeid ydi cynhyrchu acetylene gas - sydd yn llosgi 芒 fflam wen ddisglair iawn. Wel doedd na ddim burner na matsen yn nhun Lawrence, felly pan gymerodd y ci y goes am adra, gan ysgwyd y cynnwys 'doedd 'na ddim amdani - dim lle i'r gas fynd, ond trwy chwythu caead y tun i ffwrdd, a dyna wnaeth o efo clec foddhaus iawn. Cadw'n glir oddi wrth yr hogia ar gefn beic fu hanes yr hen gi du hwnnw weddill ei oes.

 Er fod cwn Labrador yn haeddu'r gair da sydd iddynt fel arweinyddion pobl ddall, ac am dynnu papur toilet yn stribyn hir, mae'n siwr fod ambell un drwg yn eu plith 'run fath 芒 phobl. Labrador du oedd arwr y tun, ond un melyn oedd gen Huw Parry, Maescoch. Pan oeddwn i yn Ysgol Dre, mynd at y bus ar fy meic y byddwn i - weithia i'r siop, dro arall i Lwyn Onn, ond yn amlach na pheidio i'r Aber, a "pharcio'r" beic yng nghowrt Siop Charles Y Barbwr. Roedd bus Llangian yn cychwyn o'r dre am chwarter i bedwar, a bws Sarn Bach am chwarter wedi pedwar - a hwnnw a ddaliem ni fel arfer, onibai bod yna ryw amgylchiad arbennig fel staff meeting neu dywydd mawr iawn. Ryw bnawn braf, diwrnod 'roedd yr Ysgol yn cau am wythnos y Sulgwyn, dyma ddal bus Llangian, neidio oddi arno wrth ymyl Glandulyn wrth iddo arafu i gymryd y tro, gafael yn y beic ac i ffwrdd a fi. Roedd y bws yn y cyfamser yn gorfod stopio i ddadlwytho ddwy waith neu dair, mynd rownd L么n Gwydryn, a dyma fi'n penderfynu edrych fedrwn i fod yn Brynteg o'i flaen. Cyrraedd top Creigir Wen a chodi sb卯d. Roedd gardd Maescoch (gardd dda oedd hi hefyd) dros y ffordd i'r ty, am y clawdd 芒 chwt gwair Creigir Wen. Be oedd yn giat yr ardd yn disgwyl am "victim" ond y Golden Labrador - a'r cof olaf sydd gen i oedd gweld ci o dan olwyn flaen y beic a finnau'n hedfan dros yr "handlebar". 

 Yna yr oeddym ni ein tri - y ci, fi, a'r beic, pan gyrhaeddodd y bws. Powell Bach oedd yn dreifio, a mi cododd fi i'r bws yn un llipryn gwaedlyd a'r beic ar f'么l i. Stopio'r bws yng ngwaelod l么n bach Brynteg, a mynd a'r beic a finna adre. Panic! Roedd cledrau 'nwylo fi, fy nau benglin i, fy nhalcen a ng锚n i, yn gignoeth, a nhrwyn i'n gam fel y mae o heddiw. Dyna i chi stori "Dial y Labrador". 
 Pam na fuasai'r du Rock Lea wedi egluro i'r melyn Maescoch mai syniad Lawrence Baker oedd y carbeid - doeddwn i yn ddim mwy na "accessory to the crime". 

 Sut es i i Faes Coch 'dwch? O ia - s么n am Ysgol Pentra. W Jones Parry y Prifathro - dyn hynod iawn, a phan ddaethum i'w adnabod yn well deallais ef yn well. Bu yn y rhyfel Byd Cyntaf - daeth yn Company Sergeant Major yn yr RWF. Gallipoli. Mynd i'r Coleg Normal yn 1919 - cofiaf ei hanes ei hun yn eistedd ei arholiad terfynol am dystysgrif Athro - y cwbl a sgrifenodd ar bob papur oedd ei enw, ei "rank" a'i rif swyddogol, rhestr o'r brwydrau y bu ynddynt a'r ddwy fedal a enillodd. Effaith ei brofiadau yn drwm arno. Brodor o Ddyffryn Nantlle oedd o, ac yn ddyn diwylliedig iawn. 'Roedd yn ganwr da (bariton) ac yn hyddysg iawn mewn llenyddiaeth Gymraeg. Mathemategydd hefyd a dawn egluro pethau mewn ffordd syml ganddo. Weithiau - yn hollol fympwyol, gweiddai "Pens down" a galwai ar Ann Jane Tyddyn Talgoch - "at yr offeryn" (hen harmonium!). Ann Jane yn padlo ac yn chwarae "Llwyn Onn" neu rhyw alaw felly a ninnau a fynta yn canu englynion ar gerdd dant. Cofio llawer ohonynt e.e. "Pont Menai" a "Nosi". Dysgodd y clasuron i ni hefyd - Miss Price ym Mhwllheli yn synnu fy nghlywed yn adrodd darnau o gywyddau Goronwy Owen yn y 6ed Dosb. Erbyn meddwl ychydig iawn o syms ddysgais i yn Pwllheli hefyd - wedi gwneud llawer o "Maths" yr ysgol ramadeg cyn mynd o Ysgol Pentra - i fyny at Equations (= yn Pont Menai - popeth yn newid wrth fynd drosti). 

 Yn nhrefn amser daeth yn amser i Dic Pensarn a finna fynd i eistedd y scholarship - tacteg Parry oedd i bawb gael "practice run" ym Motwnnog gynta. Dwi'n cofio mynd - Wil Ty’npwll yn mynd a ni - ein dau wedi cael pensal, penholder a nib, a darn mawr o blotting paper - y cwbl yn newydd sbon o'r gist stoc wrth y drws, ac wedi cael ein siarsio i roi ein hoed ar dop y papur – 9 yrs 9 mth. Mi basion hefyd - ein dau, ond trio "go iawn" y flwyddyn wedyn ym Mwllheli. 

 Un o hanesion y scholarship ydi hanes G. Alun a Wil T.P. yn mynd i'r dre am yr arholiad - digwydd bod ar yr un diwrnod 芒 Ffair Bentymor - dechrau Mai. Gneud y syms a'r composition yn y bora - ond i'r ffair yr aeth y ddau yn y pnawn - "Ffal" oedd yr unig un o'r chwech ohonom y bu raid talu am ei "Gownti Sgwl". 

 Roeddwn yn Ysgol Sarn ar ymarfer dysgu fwy nag unwaith - ac i fod i fynd yno ddechreu Medi 1939 am dair wythnos. Y dydd Sul hwnnw y torrodd y rhyfel allan 'roeddwn yno yn rhannu "mwgwd nwy" i bobl - joban bach dalodd yn iawn oedd honno hefyd. Clywed Mr Chamberlain yn cyhoeddi fod rhyfel rhwng y wlad hon a'r Almaen o un ar ddeg o'r gloch ymlaen - ac ymhen rhyw chwarter awr dyma Mr Parry i mewn i'r ystafell a'm galw allan. "Mi rydw i'n mynd rwan. Wedi sgwennu i Gaernarfon i ddeud wrthyn nhw, - a mi rydw i'n rhoi'r rhain yn d'ofal di nes daw 'Supply Head Teacher' yma". Goriadau'r ysgol!
 "Lle 'd'achi'n mynd?" 
 "Yn 么l at y regiment siwr, lle arall?"
 Ac off a fo! 

 'Roedd pawb abal i fod i fynd i n么l eu "gas-mask" eu hunain, cael ei ffitio (pwysig), a'u dysgu sut i'w wisgo. Ond 'roedd raid mynd i dy ambell un. Mynd efo G (Gwilym Pugh) Island View, i dy Ann Lloyd, Morfa. Cyn cyrraedd deud wrth Gwilym ei bod hi'n drwm iawn ei chlyw, a phan agorodd hi'r drws dyma fo'n bloeddio yn ei gwyneb hi - "Wedi dwad a hwn i chi". "Be 'sant ti'r cythral gwirion" - gellwch feddwl sut le oedd yno.

 Griffith Jones, Bryn Gwyn, - crydd oedd o, a'i weithdy oedd fel "lean-to" yn nhalcen y ty. Dyn mawr, cryf a chyhyrog oedd o - ac un goes. Yn y gweithdy roedd st么f fach a honno yn goch o wres yn y gaeaf pan oedd gwynt Porth Neigwl neu wynt Dwyrain yn chwythu rownd y ty. Ar silff uwchben y fainc crydd 'roedd rhes hir o “Encyclopaedia Britannica" - a Beibl mawr du. Dyn diwylliedig iawn er fod s么n amdano yn cael ambell sbri weithiau. Lle anodd iawn i fynd yno heibio Bryn Gwyn - ond byddwn wrth fy modd yn mynd a sgidia yno i'w trwsio.

 Job dydd Sadwrn arall oedd mynd i Benybont i n么l menyn Catrin Ann - mynd a desgl wag a dwad ag un lawn yn 么l. Mynd i Siop Sarn wedyn i n么l negas Mam. Ambell i ddiwrnod clywed y geiriau fyddai'n troi fy stumog i - "dos i roi gwynt yn y beic 'ngwas i". Hen feic mawr trwm, a ffram tubular steel ar i ben blaen o - a basgiad fawr oedd yn llwyth yn wag yn ffitio i'r ffram. Rhywun yn cwyno yn Bwlchclawdd ryw dro, ac eisio tair syphon soda water. Llusgo efo'r hen feic yn erbyn y gwynt a'r glaw ar allt. Ar lechen wrth y drws cefn roedd yno gryn ddwsin o'r seiffons gwag - i fynd yn 么l, ond doedd dim llawer o ots am hynny - rhwng y gwynt a'r glaw a'r allt - "free wheel" oedd hi am adra. Codi nhraed oddi ar y pedals a'u rhoi nhw ar y ffram ffrynt - ond yn tro Tynlon be oedd yno ond fan post - ar fy mol ar ben y clawdd y landis i, hyd y ffordd ymhob man yr aeth y poteli seiffon - a dim un wedi malu. 

 Byddai Taid Shop yn gneud siwtia a chotia a ffrocia i bobl - roedd ganddo fel llyfr mawr o wahanol frethyn, a tocyn o post-cards wedi'u printio'n barod - felly ar ol dewis y brethyn mi fydda'n mesur y cwsmer ac yn llenwi'r post card efo'r mesurau- "inside leg", "chest", "wrist to elbow" ac felly ymlaen. Ei anfon i rywle ym Manchester ac ymhen rhyw wythnos mi fydda'r siwt newydd yn cyrraedd - ac yn aros am muggins i'w delifro ddydd Sadwrn. "Dos a'r siwt 'ma i John Tywyn" neu rywun anghysbell felly fyddai'n siwr o godi gwynt gwyneb a glaw mawr.

 Does dim rhyfedd bod dydd Sadwrn yn gas gen i - doedd o ddim yn dechreu tan ar 么l cinio. 

 Rhyw swllt neu ddau oedd y swyddi dydd Sadwrn yn ennill - 'roedd raid codi mwy o bres na hynny. Y Golff oedd yr ateb - cario bagiau'r golffars rownd y Morfa 'na. Dyma un dylanwad sydd wedi cadw'i effaith arna'i hyd heddiw. Ar 么l oes o ymhel 芒'r g锚m mi ddylwn i fod yn fwy o giamblar arni nag ydw i. Mi fydda 'na gang ohonom wrth y busnes "caddy" 'ma. Swllt a thair oedd y t芒l am naw twll (un rownd fel petae) a deunaw am ddwy rownd new ddeunau twll - ond mi fydda'r rhan fwyaf yn rhoi tip hefyd - felly mi gaech 1/6 am un rownd a 2/- neu 2/6 am ddwy. John Griffith Angorfa oed y "Pro" - a mi fyddai'n mynd adre am ei ginio bob dydd. Cyn gynted ag y byddai wedi mynd o'r golwg - a'r visitors wrth eu lunch - mi fyddai'r golffars 11 answyddogol yn cychwyn. Un clwb yn unig - 'roedd digon o beli i'w cael yn y dwrau neu yn Afon Gors ac wrth fynd ar y beic rhwng pob peltan roedd posib chwarae chwech neu saith o dyllau cyn i John Griffith ddod yn 么l. Hwyrach mai hyn ydi'r rheswm fy mod i'n dal i ffeindio'r wythfed a'r nawfed yn anos na'r lleill - dim cystal cyfle i ymgyfarwyddo efo nhw ers talwm. 

 Mi fuom i'n lwcus iawn yn cael fy mhenodi yn gaddy i wr bonheddig (ym mhob ystyr) o'r enw Mr Band. 'Roedd o a'i deulu yn y "Moorings" ar Ben Benar trwy'r haf - ac yn chwarae golff bob dydd bron efo Mr Suckling oedd yn byw yn y ty are y dde ar waelod allt Brynhyfryd. Weithiau mi ddeudai am i mi roi clybia Mrs Band yn y car - a mi awn ein dau am g锚m arall yn y pnawn - i Nefyn neu Bwllheli neu Borthmadog - fynta'n talu pob peth. Roedd o cyn falched a Mam pan basias i'r Senior a'r Higher - ganddo fo y ces i'r papur pumpunt cyntaf ges i erioed. 

 Dim fel yna roedd hi bob amswer chwaith. Ambell i hen grinc yn chwarae'n sal ac yn colli peli - bai ar y caddy wrth gwrs. ("Funny old game") 'Roedd yna rhyw Mr Jones o Lerpwl fyddai'n chwarae efo Mr Band a Mr Suckling weithiau - 'roedd ei olwg yn ddrwg iawn "Y Dyn Dall" oedd enw'r hogia arno - ond sut bynnag am ei olwg mi 'roedd o'n golffar anobeithiol ac yn troi ar y "caddy" bob tro y gwnai o smonat. Un diwrnod mi aeth yn rhy bell - y caddy yn rhoi ffling i’w fag o ar lawr, ac off a fo a'i adal o. 

 Ar y seithfed twll arferai'r hogia roi y dreifar a'r b锚l i'r cyflogwr - hwnnw'n mynd un ffordd, daro'r bel, a'r "caddy" yn swatio ar ben y "dwnau fawr" i ddisgwyl ei gweld yn disgyn y tu 么l i ni. Ar fy nghorun i y landiodd y bel un tro, a finnau fawr gwaeth a deud y gwir - nes y daeth cyngor (doeth iawn) gan fy nghyd-gaddy - "Gorfadd i lawr y d--l gwirion a chogia dy fod jest yn unconscious!" Dyna wnes i - a'r dyn yn boenus yn holi sut yr oeddwn i - a mi ges dip o chweugian ganddo. 

 Os yr oedd hi'n wan yn y golff 'roedd yna gyfle i gael swlltyn neu ddau yn helpu ar y cychod mawr. 'Roedd cychwr proffesiynol ar bob un o'r rheini - Bob Creigfryn oedd fy ffefryn i wrth gwrs. Bob Sulgwyn mi fyddwn i yn mudo o'r ty - i neud lle i'r plant hyna 'cw a'u gwragedd i ddod am eu gwyliau yn eu tro. I'r Cwt Gwyrdd yr anfonid fi i gysgu trwy'r haf - ac yno y doi Bob i'm deffro, weithiau dri neu bedwar o'r gloch - yn dibynnu ar y llanw. Te a brechdan a wy wedi'i ferwi yn barod yn y Wern - wedyn ffwrdd a ni am Ben Cei a "launch" Mr Hancox. Cyn gynted ag y byddai dwr dani hi - off a ni am fecryll - mi gawn i bedair neu bump i fynd adre - 'dwn i ddim beth oedd marketing arrangements Bob - ond mi fyddai yn 么l ar y "Valentine" erbyn i Mr Hancox godi - yn sgwrio'r dec yn glaerwyn efo rhywbeth a elwid yn Monkey Brand ac yn sgleinio'r brass efo "Bluebell". 

 Hen beth fawr, ara deg, efo dau fast oedd y "Valentine" a hi fyddai'r olaf ond un bron bob amser. (Dau fastar arall - "Cymro" oedd yr olaf un.) Ond, fel mul Sul y Blodau, mi gafodd "Valentine" ei hawr fawr. Ras bwi Pensarn - St Patrick's Causeway Race - oedd hi. Codi'n wynt mawr ofnadwy cyn eu bod ni wedi pasio'r Ynys Fawr. Rhai yn colli hwylia, rhai'n colli mast, rhai'n trio'n 么l am gysgod Penrhyn Du - ond yr hen "Valentine" yn mynd fel stemar, pasio pawb, ac adre'n gyntaf. 

 Tomi Hookes yn yr "Eva", Llew ei frawd yn y "Nellie", Bob Marchroes yn y "Runag", hogia Wright o Bwllheli yn y "Catalina" a'r "Redwing" - 'roeddan nhw'n 12 werth eu gweld ar ddiwrnod braf yn eu llawn hwyliau. Jeanetta, Agatha, Benemora, Mink, Peggy - "nobbies" oedd y rhan fwyaf ohonynt - math o gwch a fwriadwyd i ddal shrimps ym Morecambe - rhaid iddyn nhw fod yn ddigon solet i bysgota pan oedd y shrimps ar gael, waeth beth oedd y tywydd, eto 'roedd raid iddynt fod yn ddigon cyflym i ddal y farchnad ym Morecambe a Fleetwood. Mae rhai ar 么l o hyd - yn Lerpwl fwyaf - ond mae un yng Nghonwy hefyd. 

 Mae'n rhaid deud gair am y diwydiant twristaidd mae'n siwr - mae hwnnw hefyd wedi newid yn fawr ers y tridegau. Mi fyddai yna 'chydig o wersyllwyr yma'r pryd hynny, carafan neu ddwy hefyd, ond dod i'r tai y byddai'r bobl ddiarth ers talwn - rhai ohonyn nhw (fel Mr Band) yn ei tai eu hunain, eraill, llawer iawn, yn dwad i'r un ty flwyddyn ar 么l blwyddyn. Mi fyddant yn aros yn hirach hefyd - rhai yn dwad bag and baggage - efo cook a morwyn a nanny rai ohonynt, ac yn aros am fis neu chwech wythnos. 

 Dyma ni, o'r diwedd, yn dwad at y "Romantic Interest". 'Roeddwn ni yn las-lanciau erbyn hyn, ac er bod digon o genod del iawn yn y fro yma, mi fyddem yn edrych ymlaen am dymor y "visitors" er mwyn amrywiaeth tasa ddim arall! Roeddwn ni'n nabod llawer o blant y visitors - yr hogia a genod, wedi tyfu i fyny efo nhw, ac yn eu gweld o haf i haf. Byddai un o'r teuluoedd hyn - o lannau Mersi yn rhywle, - yn dod i Glanrafon - pedair o genod - dwy ohonynt yn chwiorydd a'r ddwy arall yn gyfnitherod. Mi fyddai Gwilym (Pugh), Gwilym Morris (Cartrefle), John Wyn a finnau yn gneud lot efo nhw, chwarae tennis os byddai'n braf, a table tennis (ping pong) os byddai'n bwrw. Un broblem fawr oedd y peli - yn enwedig peli ping pong - hen betha' tila, brau ydyn nhw, yn tolcio ar ddim, a 'doedd 'a unman nes na'r dre yn eu gwerthu nhw. 

 Wel, yn nhrefn naturiol petha, mi aeth y genod adra. 

 Mae'n rhaid i mi wandro typyn oddi ar y testun rwan, i introdiwsio dyn arall fu'n rhan bwysig o mywyd i am gyfnod. Sam Jones - Sam Palm Cafe - hen beth bach, crwn, siriol, clen, ac yn ddyn mawr iawn mewn ffyrdd eraill. Roedd Sam yn gerddor da, yn cyfansoddi tonau a chaneuon, yn chwarae mwy nag un offeryn, yn fardd, cynganeddwr ac englynwr gwych. Yn wir yr oedd Sam yn ddawnus iawn - yn un o nythiad beirdd Mynytho. Heblaw hynny, Sam (a'r hen Miss Ward ym Mwllheli) oedd yr unig ffynhonnell ddiogel o sigarets i rai fel fi oedd yn smocio heb i'r rhieni wybod. Roedden ni i gyd yn meddwl y byd o Sam ac yn mynd i'r siop prun oeddem ni am brynu rhywbeth neu beidio. 

 Yn 么l at stori genod Glanrafon rwan. 

 Galw yn Palm Cafe rhyw fore a Sam yn gofyn "Ydi John Wyn wedi dwad i bres dwad, 'ta mynd o'i go mae o?" "Dw'n i ddim - pam?" "Mae o wedi bod yma bore 'ma, ac wedi prynu cetyn ac owns o 'Balkan Sobranie' a mae hwnnw'r druta' fedra fo'i gael." 

 Syndod - ond gyda'r nos daeth popeth yn eglur. Gwilym (Pugh) yn yr Hall yn cyhoeddi iddo dderbyn parsal bach y bore hwnnw - presant oddi wrth y genod - dwsin o beli ping pong! Ac wedi eu hanfon i "Island View" am mai hwnnw oedd yr unig  enw Saesneg fedra' nhw'i gofio o'r pedwar ohonom. John Wyn oedd y postman yn yr ha' - o Olgra i Bryntirion, L么n Golff a Marchroes ffor 'na.

 "Duw, peth rhyfedd", meddau John Wyn, "mi ges inna bresant gennyn nhw hefyd - dyma fo - ac yn arddangos cetyn ac owns o Balkan Sobranie. Mi fuo'n hir iawn yn byw honna'i lawr.

 Wel dyna ni wedi dwad i'r "Hall" rwan ynte. 'Roedd dwy Neuadd - neu o leiaf dau fwrdd snwcer, yn agored i mi - Sied Sinc, fawr fwy na'r bwrdd oedd yn Llanengan, lle crandiach o lawer yn 'RAbar. Ysbeidiol oedd neuadd y Pentra, - mynd reit dda yno ddechreu'r gaea, tan ar 么l handicap y 'Dolig, ond digon tenau fel arall - helynt i gael y goriad a phethau felly. Ond 'roedd 'na ddau fwrdd a gofalwr yn 'RAbar. 

 Evan Jones, Sarn Villa, oedd y gofalwr am gyfnod - dyn bach yn ymddangos yn ffyrnig iawn - mwstas wedi ei "waxio" yn bwynt ganddo. Dwn i ddim oedd o'n hen sowldiwr - ond yn sicr yr oedd ei ymddangosiad yn awgrymu hynny - yn dwt ac yn drwsiadus a phlyg fel cyllell yn ei drowsus o. 'Roedd na ryw sawr filwrol yn ei ddisgyblaeth hefyd. Dim gweiddi, dim cadw reiat, ac yn sicr dim rhegi. Roedd ei ofn arnom ni grymffastia ifanc. 

 "Mae hi yn y Key of G gin ti ngwas i" meddai wrth rywun rhy gegog a swnllyd - "Dyro hi lawr i E fflat." Dro arall Gwilym Morris - mewn "plus-fours" ar y pryd yn colbio gormod a'r b锚l wen yn mynd dros ochor y bwrdd ac yn drybedian hyd y llawr. 

 "Yli" meddai Ifan Jones, "Diwyg chwara' golff sy gin ti, ond ar y bwrdd ma' hon i fod!" 

 Mi fu Capten R'ochor yn "custodian" yr "Hall" hefyd - ar 么l Evan Jones. Dyna i chi ddyn difyr i fod efo fo, os yr oeddach chi "in the good books". Deud i hanes yn Awstralia a South America fel petae o'n s么n am Lanbedrog neu Langian, - a'i hanes yn cael "torpedo" yn y Rhyfel Cynta - ddwy waith. Bu'n gapten un o'r Q-ships hefyd - hen betha'n edrych yn rhy sal i wastraffu torpedo arnynt ond yn cuddio gwn mawr o'r golwg nes doi yr U-boat i'r wyneb i'w suddo efo shell neu ddwy. Wedyn gollwng y paneli oedd yn cuddio'r gwn mawr, a clec i'r submarine. Roedd yn rhaid hyfforddi hanner y criw i ymddangos yn ddioglyd a di-feind er mwyn hudo'r U-boat i'r wyneb, a wedyn actio gollwng y lifeboat i'r dwr mewn panic. Ei brif bleser oedd chwarae crib - "Tyd yma - ista - mi dynnai' dy grys di" - a dechrau shyfflo'r cardiau. Gynno fo y dysgais i "Paddy's Orchard - one pair" a "one for his nob" a phethau pwysig fel 'na. 

 Nid fo oedd yr unig gapten chwaith. Mi fyddai Capt Rockdale, Capt Glasfor a Capt Cottage yn chwarae snwcer yn y pnawn weithia - y ddau ola' mor foliog nes eu bod yn gorfod codi'r bol ar y bwrdd cyn mynd yn ddigon agos i gyrraedd y b锚l wen.

 Ar y Sul cyntaf hwnnw o fis Medi 1939, mi newidiodd pob peth - dros nos bron. Aeth y bobl ddiethr adref, 'roedd y lle yn wag mewn amrantiad bron - a phan gliriodd yr aflwydd i ffwrdd yn 1945, 'doedd dim yr un fath. Chwalu oedd hanes ein byd bach ni - ond fe effeithiwyd llai ar yr ardal yma na llawer iawn o leoedd eraill, yn y wlad yma ac yn Ewrop. 14 Er ein bod ni wedi arfer efo offer rhyfel fodern, yn enwedig efo awyrennau yn hedfan o Benrhos ac yn saethu a bomio yn Mhorth Neigwl, go brin ein bod yn barod i weld yr hogia'n mynd i ffwrdd fesul un. Mae'n siwr fod yr ardal yma wedi gwneud cyfraniad llawn i'r lluoedd - 'roedd Ifan Ty’nffynnon a John Bwlchgwyn wedi mynd (fel Territorials) o flaen Mr Parry - y Prifathro. 'Run fath oedd hi ym Mangor hefyd - nid ai wythnos heibio heb i rywun gael ei alw i fyny. I'r Llynges Frenhinol yr aeth anryw o'r Aber - tri ohonom o Frynteg, Gwilym, Alun a finna. Ior - yr hynaf - i'r Llu Awyr a Chris, gwr Beti, i'r fyddin. Bum i am tua blwyddyn ar long oedd yn gweithio allan o'r Gladstone Basin yn Lerpwl. Hebrwng convoy o Lerpwl, Glasgow a Londonderry ymhell allan i'r Atlantic, cwrdd ag un arall a'i hebrwng yn 么l. Mis oedd y trip, wedyn roedd y llong yn mynd i'r doc sych ac yn cael glanhau y boileri. Mi fyddai clywed "Duwcs - wyt ti adra eto?" yn fy nghorddi pan fyddwn wedi gweld llongau mawr a dynion dewr yn mynd i ebargofiant.

 Cofiaf fod adref ar leave felly ac yn mynd i helpu nhad i ffensio cae crwn - tu ol i'r hen felin yn fancw. Oddi yno gwelwch o Ynys Enlli i'r Bermo - Sir Benfro hefyd weithiau yng nghanol Porth Neigwl. Y diwrnod hwnnw roedd y gelyn yn ymosod ar convoy mawr oedd yn pasio heibio Ynys Enlli, a'r awyrennau yn bomio'r llongau a'n awyrennau ni, o Benrhos, Llanbedr a'r Valley yn ceisio'i difa hwy. Bu nhad a minnau'n gwylio ac yn gwrando am bnawn cyfa - ond ni fu gair o s么n ar y radio nac yn y papurau newydd am y frwydr honno. 

 Roeddwn i adref ar un achlysur pan gafodd Penrhos ei bomio hefyd. Diwrnod gwlyb drwy'r dydd a chymylau isel a niwl - dim awyren o gwbl yn codi o Benrhos drwy'r dydd. Gyda'r nos mi stopiodd y glaw a cododd y niwl dipyn. Un awyren yn dwad yn ddigon hamddenol dros ben Cilan ac yn mynd yn ara deg dros Greigir Wen. Ond i Benyberth yr aeth hi ac wedyn yn ei blaen a thanio machine gun at dr锚n rhywle tua Afon Wen. Un o'n rhai ni oedd wedi cael ei gadael ar 么l yn Ffrainc adeg Dunkirk, oedd hi a'r Germans yn ei defnyddio i'w pwrpas eu hunain, medda nhw. 

 Yn rhyfedd iawn un o'r rhai cyntaf i ddod a'r newydd am y bomio oedd Tomi Hookes, pan gerddodd i mewn i'r Hall yn 么l ei arfer ar 么l y Newyddion Naw. Doedd neb yn ei goelio – byddai’n dod a chlamp o gelwydd bob nos bron - Y Queen Mary wedi cael ei sincio, Buckingham Palace wedi cael direct hit a'r Brenin wedi ladd a phetha' fel'na. 

 Roedd nhad yna ar y pryd - roedd yn "Clerk of Works" neu rywbeth felly yno. 

 Ond i ben y daeth y rhyfel hwnnw hefyd yn y diwedd ac ar ddiwrnod fy mhenblwydd yn 24 oed y gollyngwyd y Bom Atomig ar Hiroshima. Mewn llong ar gychwyn i'r Dwyrain Pell yr oeddwn i - a'r hogia i gyd yn meddwl mai troi'n 么l y buasem. Mynd ddaru hi a minnau ynddi hi - a bum rai misoedd yn Colombo, Calcutta, Rangoon a Java. Ond stori arall ydi honna. 

 













Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Ll欧n, a’r llecyn bychan hwn o Gym...