

Diogelu enwau a hanes y plwyf
Tipiau gwaith Pant Gwyn yn y cefndir.
Plwyf digynnwrf a thawel
oedd plwyf Llanengan ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ardal
lle dibynnai’r bobl ar amaethyddiaeth a’r môr am eu cynhaliaeth. Gweision a
morwynion yng nghyflogaeth y ffermydd lleol oedd y mwyafrif, a’r môr yn atyniad
i’r bechgyn â’r awydd i weld mwy o’r byd mawr. Fel llawer i ardal, bu dylanwad
y Mudiad Methodistaidd yn gryf ar y plwyf, mudiad a ysbrydolodd y plwyfolion i
ymuno â’i gilydd yn un teulu i adeiladu canolfan eu hunain er eu lles ysbrydol.
Safai’r ganolfan, sef hen gapel y Bwlch, hanner ffordd rhwng fferm y Bwlch a’r
Deucoch, ac oddi ar flynyddoedd cynnar y ganrif bu yno yn gyrchfan grefyddol
i’r
ffyddloniaid. Yn y flwyddyn 1840 tarfwyd ar heddwch yr hen gapel pan roddwyd caniatâd i gwmni o
fuddsoddwyr cyfoethog o Lundain, The St Tudwal Iron Ore Company, agor
chwarel mwyn haearn Tan yr Orsedd, chwarel nad oedd ond tafliad carreg oddi
wrth yr hen gapel. Dros y blynyddoedd canlynol aflonyddodd y chwarel, nid
yn unig ar waith y capel, ond bu effeithiau’r gwaith trwm yn andwyol i’w adeiladwaith
hefyd.
Er
gwella eu sefyllfa, penderfynodd yr aelodau mai gwell fyddai adeiladu capel
newydd oddi wrth gysgod y chwarel a’i bwrlwm, ac i’r pwrpas hwnnw, yn y
flwyddyn 1870, rhoddwyd perllan fferm y Bwlch gan y perchennog, David Williams Castell
Deudraeth. Wrth adeiladu capel newydd nid yn unig roedd yr aelodau yn cael y
cyfle i’w rhyddhau eu hunain oddi wrth fygythion y chwarel, ond hefyd yn cael
cyfle i sicrhau adeilad a fyddai’n llawer mwy addas ar gyfer aelodaeth a fu’n
tyfu’n gyson dros y blynyddoedd.
Gellir rhesymu mai agor chwarel Tan yr Orsedd yn y flwyddyn 1840 oedd man cychwyn y newidiadau a ddigwyddodd ym mhlwyf Llanengan dros y blynyddoedd nesaf. Roedd y ffordd haearn a adeiladwyd gan y cwmni i’r pwrpas o gario cynnyrch y chwarel i’r llongau yng nglanfa newydd Penrhyn Du yn rhywbeth nas gwelwyd cynt, ac o fewn cyfnod byr gweddnewidiwyd yr ardal gan fwy o weithfeydd tebyg, gweithfeydd ddechreuwyd i ateb y gofyn am y mwynau gwerthfawr a orweddai dan wyneb y plwyf.
Roedd yn
hysbys ers blynyddoedd fod gwythïen o blwm yn croesi o’r Penrhyn Du i Lanengan,
ond ychydig a wyddid am ei llawn addewid. Bu mynediad dŵr parhaus i’r siafftiau
yn broblem fythol unrhyw waith mwyngloddio, ond erbyn cyfnod gweithfeydd
Llanengan roedd datblygiadau newydd a gwelliannau wedi eu gwneud i bympiau
a pheiriannau stêm i ddatrys y broblem honno. Hwylusodd hyn y gwaith o
gloddio’n ddyfnach am yr adnoddau cyfoethog a oedd mor werthfawr i lwyddiant
menter ariannol unrhyw fuddsoddwr. Wedi ystyried cyngor arbenigwyr yn y maes,
ysgogwyd dynion cyfoethog i ddod i’r plwyf gyda’r bwriad o fuddsoddi eu harian
mewn gweithfeydd a fyddai yn y diwedd yn cyrraedd o un pen i’r wythïen i’r
llall.
Er
i’r peiriannau newydd hyrwyddo gwaith y mwyngloddwyr, roedd hefyd yn
ofynnol i’r dynion hynny fod yn gyfarwydd â’r dulliau o ddilyn a mwyngloddio’r
plwm yn nyfnderoedd y gweithfeydd newydd. Ym mhlwyf Llanengan, nifer fach iawn o ddynion a feddai’r sgiliau arbennig hyn, ac o’r
herwydd gwelwyd mewnlifiad cyson o fwynwyr profiadol o wahanol ardaloedd yn
cyrraedd y gweithfeydd.
Un
o’r mwynwyr hyn oedd Owen Jones, Cymro yn ei ugeiniau cynnar o Moel y Crio ar
Fynydd Helygain, Sir Fflint. Ganwyd Owen ar Awst 26ain 1844, yn fab i‘r
mwynwr Isaac Jones a’i wraig Elizabeth. Ar y pryd roedd Mynydd Helygain a’r
ardal o gwmpas yn frith o weithfeydd yn cloddio plwm ac, fel y gwnaeth mwyafrif
y bechgyn lleol, wedi cyrraedd ei arddegau aeth Owen yntau i weithio fel
mwyn-gloddiwr yn un o’r gweithfeydd heb fod ymhell o’i gartref.
Erbyn cyfrifiad Ebrill 1871 mae Owen yn
fwynwr yn un o weithfeydd newydd Llanengan. Dynion dibriod fel Owen Jones oedd
amryw o’r mwynwyr newydd, yn rhentu lletyau heb fod ymhell o’r gweithfeydd.
Cafodd Owen lety gyda Jenat Jones Tyddyn Talgoch, fferm fechan ar gyrion
gweithfeydd newydd Assheton a Thanybwlch ar derfyn Cors Lleferin yng
ngwaelodion Bwlchtocyn.
Er
bod llawer o’r plwyfolion yn fodlon a pharod i groesawu’r mwynwyr, roedd
teimlad o ansicrwydd ymysg eraill ynghylch dylanwad niferoedd o ddynion dieithr
ar gymuned a fu ers blynyddoedd yn gymuned mor dawel ac anghysbell. Gwelwyd
eisoes fân helyntion o gwmpas tafarndai’r plwyf, ac i leihau’r pryderon
perswadiwyd yr awdurdodau i gyflogi plismon ychwanegol i gynorthwyo’r rhingyll
presennol i gadw’r heddwch.
Ar
nos Iau, Ebrill 25ain 1872, yn seiat wythnosol capel newydd y Bwlch,
testun y drafodaeth oedd Yr amhriodoldeb i ieuenctid crefyddol
gyfeillachu a rhai dibroffes, a chyfeiriwyd yn neilltuol at achos Mary
Hughes Ty’n Morfa. Mae achos Mary Hughes wedi ei gofnodi yn fyr yn llyfr
cofnodion y seiat gan Evan Evans Tan y Fron, Llanengan, un o flaenoriaid cynnar
y capel newydd.
Yn
ôl y cofnod bu’r Parch David Hughes, gweinidog newydd y Bwlch, yn siarad â Mary
ynglŷn â’i chyfrifoldeb, fel aelod llawn o’r Seiat, i beidio â chyfeillachu â
gŵr ifanc dibroffes. O wneud hynny roedd yn torri un o brif reolau’r Seiat, sef
y seithfed rheol. Gwaharddai’r seithfed rheol unrhyw aelod o’r capel rhag
cyfeillachu a phriodi un na fedrai broffesu ei grefydd. Wedi gwrando ar neges a
phryderon y gweinidog, addawodd Mary, fod i bob cysylltiad rhyngddi hi a’r
gŵr ifanc dan sylw gael ei dorri, mewn trefn iddi gadw ei haelodaeth eglwysig, ac yn ôl Evan Evans, gadawyd yr achos fel
yna.
Merch Huw
ac Ellen Hughes Ty’n Morfa oedd Mary. Ffermwr a bragwr oedd ei thad, wedi dilyn
traddodiad a chanlyn ei dad, Enoch, i ffermio tir y teulu yn Llanengan. Ganwyd
Mary yn Nhy’n Morfa ar Ragfyr 23ain 1854, aeth i ysgol y pentref, a chafodd ei
derbyn yn aelod llawn o gapel newydd y Bwlch. Yn y flwyddyn 1871, pan yn 16
oed, roedd yn forwyn tŷ ym Mhen y Maes Nefyn, yng ngwasanaeth John Hughes,
ficer newydd Ceidio, a’i wraig Ellen, merch hynaf Dr Thomas Williams Dwylan
Uchaf. Er na chaiff ei enwi yn y cofnodion, y gŵr ifanc roedd Mary yn
cyfeillachu ag ef oedd Owen Jones Moel y Crio, lletywr Jenat Jones Tyddyn
Talgoch.
Yn
fuan daeth i sylw fod yr addewid a roddwyd gan Mary wedi ei thorri, a bod y
berthynas rhyngddi hi ac Owen Jones yn llawer dyfnach na rhyw garwriaeth
arwynebol. Bu ymateb y Seiat yn gyflym a llym. Ar Fehefin 13eg cofnodwyd y Diarddelwyd Mary Hughes Ty’n Morfa am
gyfeillachu â dyn anghrefyddol, ond ychwanegwyd, y cafwyd amryw
anerchiadau ar y pechod hwnnw, a rhoddid rhybudd y derbynnid barn yr eglwys ar
y seithfed rheol yn y Seiat nesaf. Ymhen yr wythnos trefnodd y Seiat
bleidlais gudd, a chafwyd canlyniad fel a ganlyn, dros yr hen drefn 41, dros y newydd 33,
amhleidiol 21, a chofnodwyd, O ganlyniad, penderfyniad yr eglwys hon ydyw
cadw at yr hen drefn o ddiarddel pawb yn ddiwahaniaeth a ymbriodo ag un
dibroffes, Roedd hyn ar unwaith yn penderfynu achos Mary Hughes, Ty’n Morfa yr
hon oedd newydd dorri y rheol hon.
Dros
y blynyddoedd bu’r seithfed rheol yn destun dadleuol i’r Seiat, gyda’r rhai a gefnogai’r
rheol yn y mwyafrif. Bu’n rhaid aros dros ddeng mlynedd arall cyn i’r sefyllfa
newid. Gyda threigl amser daeth mwy i’r farn fod ymateb y Seiat yn rhy
eithafol, a gwelwyd mwy o barodrwydd ymysg yr aelodau i ddangos eu
gwrthwynebiad i weithredu’r rheol. Wrth gwrs, roedd hyn oll ddeng mlynedd yn
rhy hwyr i Mary ac Owen, ond tharfodd yr helynt ddim ar eu perthynas. Rhoddodd
y ddau yr achos tu cefn iddynt mewn priodas yn Swyddfa’r Cofrestrydd ym
Mhwllheli Hydref 21ain 1872, Mary yn 18 oed ac Owen yn 28.
Ar
drwydded y briodas cyfeiriad Mary oedd Ty’n Morfa Llanengan, ond rhoddwyd
cyfeiriad Owen fel Rhostyllen Sir Ddinbych, sydd yn awgrymu efallai nad bwriad
y cwpwl newydd oedd dechrau eu bywyd priodasol ym mhlwyf Llanengan. Cadarnheir
hyn ar dystysgrif geni eu plentyn cyntaf, Isaac. Ganwyd Isaac Rhagfyr 6ed 1875
yn 31 Stryd y Capel, Rhosymedre, Sir Dinbych, pan oedd Mary yn 20 oed ac Owen
yn 30.
Gyda’r
Chwyldro Diwydiannol yn ei anterth, a maes glo Sir Ddinbych yn ffynnu, cafodd
Owen waith ym mhyllau glo Cefn Mawr, y Sir honno. Ar dystysgrif geni ei fab
mae’n disgrifio’i waith fel mine sinker,
gwaith a ystyrid gan lowyr y cyfnod y gwaith mwyaf peryglus yn y pyllau glo. I
suddo siafft newydd, cyflogid tri grŵp o bedwar dyn gydag un o bob grŵp
yn cael ei gyfrif yn arweinydd, i weithio shifftiau wyth awr ddydd a nos,
nes cyrraedd dyfnder y wythïen. Wedi eu gostwng i’r siafft mewn basged haearn,
eu gwaith fyddai llenwi’r fasged gyda baw a rwbel eu llafur gan suddo’r siafft
i ddyfnder
penodol. Wedi cyrraedd y dyfnder hwnnw rhoddai
arweinydd y grŵp arwydd i goed trymion gael eu gollwng i lawr ar gyfer adeiladu
fframwaith gref i amgylchu muriau’r siafft rhag unrhyw falurion allai ddisgyn a
tharo neu gladdu’r gweithwyr. Wedi sicrhau’r fframwaith, dechreuai’r pedwar
suddo’r siafft unwaith eto nes cyraedd y mesur nesaf; hon oedd y broses a
ddefnyddid nes dod o hyd i ddyfnder yr wythïen.
Roedd
y gwaith yn drwm a pheryglus ac yn golygu llawer mwy na gwaith caib a rhaw yn
unig. Roedd deall cyfansoddiad y tir a’r graig yn bwysig, medru defnyddio
ffrwydron, heb sôn am adnabod peryglon mewnlifiad nwy neu ddŵr, rhywbeth allai
ddigwydd heb rybudd unrhyw bryd. I geisio gwarchod mwy ar eu diogelwch yr
arferiad oedd i’r grŵp aros gyda’i gilydd ac wedi gorffen un siafft, symud i’r
nesaf gan ddibynnu ar fedrusrwydd y naill a’r llall i wneud y gwaith mewn
amgylchiadau peryglus ac anodd. Er ennill edmygedd eu cydweithwyr, doedd fawr
wahaniaeth yng nghyflog y mine sinker
a’r mwynwr cyffredin a gyflogid i weithio’r pwll newydd.
Treuliodd
Owen a Mary bedair blynedd yn Rhosymedre a’r cyffiniau cyn penderfynu dychwelyd
i Lanengan. Yn Llanengan, eu cartref newydd oedd Trwyn y Garreg, cartref lle
ganwyd iddynt bedwar o blant rhwng y blynyddoedd 1877 a 1883; ganwyd Huw yn
frawd i Isaac, a thair o enethod, Ellen, Elizabeth, a Catherine yr ieuengaf o’r
tair. Roedd gweithfeydd y plwyf wedi eu sefydlu erbyn hyn, gyda phump
mwyngloddfa yn gweithio ar hyd cwrs y wythïen. Mae’n eithaf sicr bod Owen wedi
gweithio mewn mwy nag un o’r gweithfeydd, yn enwedig yn ystod ei gyfnod
cyntaf yn Llanengan, ond yng ngwaith Pant Gwyn yn unig mae Owen Jones, Trwyn y
Garreg yn cael ei enwi.
Cychwynnwyd
mwyngloddio yno ym mlynyddoedd cynnar saithdegau’r ganrif, ond oherwydd
problemau mewnlifiad dŵr a phrinder buddsoddiad gan y perchnogion blaenorol bu
datblygiad y gwaith yn araf a llafurus. Yn y flwyddyn 1878 prynwyd y safle gan
Thomas Gundry, buddsoddwr cyfoethog o Gernyw, a oedd hefyd ar y pryd yn
berchennog gwaith Tan yr Allt yn Llanengan. Yn terfynu rhyw dri chan llath i’r
dwyrain o waith Pant Gwyn roedd Tan y Bwlch, gwaith a fu dros ei gyfnod y mwyaf
llwyddiannus o weithfeydd y plwyf. Ond, fel eraill o weithfeydd Llanengan,
effeithid ar ei lwyddiant o dro i dro gan anghysondeb prisiau’r farchnad blwm.
Crëwyd ansicrwydd yn dilyn cynnydd mewn mewnforio plwm rhad o wledydd tramor, a
pharai hynny i’r farchnad ddisgyn mor isel fel na fedrai gweithfeydd
Llanengan weithio’n broffidiol. Mewn cyfnod o’r fath y cafodd cwmni Tan y Bwlch
ei hun ym mlynyddoedd cynnar wythdegau’r
ganrif.
Yn
y cyfnod hwn disgynnodd pris plwm ar y farchnad i’r hanner, o £13 a mwy y
dunnell ym mlynyddoedd gorau’r gwaith i lawr i £7 y dunnell, ac er bod yn agos
i gant o weithwyr ar y safle penderfynodd y cwmni gau’r gwaith am gyfnod i
arbed colledion. I osgoi colledion mewn cyfnod o ansicrwydd defnyddid un o ddwy
ffordd gan y cwmnïau, naill ai gostwng cyflogau’r gweithwyr neu, os byddai
pethau’n ddrwg, troi’r gweithwyr allan a chau’r gwaith am gyfnod gan ddisgwyl
i’r farchnad godi i lefelau a fyddai’n ffafriol i’r cwmnïau unwaith
eto.
Yn
Tan y Bwlch defnyddiai’r cwmni ddau beiriant ager cryf i reoli’r dŵr yn y
gwaith, a gwyddai pawb fod y pympiau cryfion hyn, yn anfwriadol, yn rheoli’r
rhan fwyaf o’r dŵr yng waith Pant Gwyn. Cafodd cau gwaith Tan y Bwlch effaith
drychinebus ar waith Pant Gwyn. Doedd dim cysylltiad rhwng y cwmnïau, ac
ni chafwyd cytundeb i rannu costau os y byddai Tan y Bwlch yn cau. Bu’r diffyg
cytundeb yn rhwystr difrifol i gynlluniau Gundry, yn fwy na dim oherwydd fod
unig bwmp Pant Gwyn yn gwbl annigonol i wneud y gwaith a ddisgwylid ohono.
Roedd yn amlwg na fyddai ond un canlyniad i’r sefyllfa, ac yn fuan dechreuodd y
gwaith foddi tan bwysau’r holl ddŵr. O ganlyniad gwnaed yn agos i wythdeg o
weithwyr yn ddi-waith. Ond er gwaethaf y sefyllfa doedd Gundry ddim am roi’r
gorau iddi. Dros y ddwy flynedd flaenorol roedd Pant Gwyn wedi dangos cynnydd
rheolaidd ac wedi cynhyrchu dros naw can tunnell a mwy o blwm i’w werthu ar y
farchnad.
Goruchwyliwr
Gundry ym Mhant Gwyn oedd John Crase, mwynwr yn ei bump degau o Gernyw, gŵr a
ddaeth i Lanengan yn nyddiau cynnar datblygu’r wythïen. Bu’ n gweithio
mewn mwy nag un o weithfeydd y plwyf a chafodd fwy nag un swydd yn ystod y
cyfnod hwnnw; daeth i Bant Gwyn wedi bod yn oruchwyliwr ar waith plwm
aflwyddiannus y Deucoch. Yn ystod ei gyfnod gyda Gundry cafodd y ddau eu herlyn
fwy nag unwaith gan Arolygydd Gweithfeydd y Llywodraeth am anwybyddu rheolau mwyngloddio
a thorri’r gyfraith wrth wneud hynny. Ond er ei gamweddau amlwg fe’i cadwyd fel
goruchwyliwr gan Gundry nes cael y dunnell olaf o fwyn allan o’r gwaith yn y
flwyddyn 1892.
Wedi
helynt y dŵr bu’n rhaid ail ystyried sefyllfa’r gwaith yn Pant Gwyn. Cynllun
diweddaraf Gundry oedd suddo siafft a fyddai’n gwbl annibynnol o’r hen waith, a
chael pwmp llawer cryfach mewn tŷ newydd i reoli’r dŵr. Dechreuwyd ar y gwaith
ym mis Awst 1884. Casglodd Crase ddeuddeg o fwynwyr profiadol at ei gilydd i
suddo’r siafft rhyw ddeugain llath oddi wrth yr hen agoriad, gyda’r bwriad y
tro hwn o gyraedd y wythïen mewn tir newydd oddi tan lefelau’r hen waith.
Rhannwyd y mwynwyr yn dri grŵp o bedwar i weithio shifftiau o wyth awr ddydd a
nos nes cyrraedd y wythïen. Dyma’r tro cyntaf i Owen Jones gael ei leoli’n
union yng ngweithfeydd Llanengan pan gaiff ei enwi yn aelod un o’r grwpiau i
gloddio’r siafft newydd. Ei gyd-weithwyr yn y grŵp oedd William Ellis, Hen
Gapel Abersoch, Jonathan Hughes, Bay View Terrace, Abersoch a Griffith Parry,
Plas Cyndyn Llanengan, y pedwar yn weithwyr profiadol wedi gweithio ers rhai
blynyddoedd yng ngweithfeydd y plwyf.
Erbyn
17eg Chwefror 1885 roedd y mwynwyr wedi bod chwe mis wrth eu gwaith, ac wedi
cyrraedd dyfnder o 62 gwryd neu 124 llath. Yn gweithio’r ail shifft y diwrnod
hwnnw roedd Owen Jones, Jonathan Hughes, William Ellis a Griffith Parry. Rhyw
dair awr i’r shifft, o gwmpas saith y nos, cafodd Griffith Parry ei yrru i fyny
i gynorthwyo’r gŵr a weithiai’r peiriant pwli ar ben y siafft. Gwaith y ddau
oedd gostwng mwy o goed i’r tri yn gweithio yng ngwaelod y
siafft. Gorffennwyd y gwaith hwnnw, ond cyn ymuno ȃ’i gydweithwyr, manteisiodd Griffith Parry a'i bardner ar y cyfle i gymryd tamaid o fwyd yng
nghwt y gweithwyr. Cyn eu bod wedi eistedd i lawr daeth y sŵn mwyaf erchyll a
dychrynllyd o gyfeiriad ceg y siafft newydd. Rhuthrodd y ddau allan i weld beth
oedd yn bod, gan weiddi ac erfyn ar i’r tri yn y gwaelod eu hateb. Ond ddaeth
dim ateb, dim ond sŵn dŵr yn codi o dywyllwch y siafft. Aeth y ddau ar frys i
archwilio’r hen agoriad a gweld er dychryn bod y dŵr a orlifodd y gwaith hwnnw
wedi diflannu. Doedd dim y gallai neb ei wneud yn y fath sefyllfa a gyrrwyd
neges ar frys i hysbysu’r Rhingyll Jones yn Abersoch am y drychineb. Gyrrodd
yntau’r wybodaeth ymlaen i’w benaethiaid, a thrannoeth cyrhaeddodd y Prif
Gwnstabl i weld y sefyllfa drosto’i hun. Yng ngolau dydd roedd achos y
drychineb yn gwbl amlwg. Er bod deugain llath yn gwahanu’r ddwy siafft ar yr
wyneb, rhyw sut roedd y dŵr a foddodd yr hen waith, wedi gwneud ei ffordd i’r
siafft newydd a boddi tri o ddynion. Y cwestiwn ar wefusau pawb oedd, sut y
gallai’r ffasiwn drychineb fod wedi digwydd?
Cymerodd
ddyddiau i’r awdurdodau a’r perchnogion gyrraedd safle’r drychineb, a chreodd
yr oedi yn eu hymateb gryn ddicter yn lleol. Er bod pwmp newydd ar y safle
doedd hwnnw ddim yn barod i wneud ei waith, ac felly dibynnai’r gwaith ar yr
hen beiriant. Roedd yn ddirgelwch pam nad oedd peiriannau cryfion Tan y Bwlch
wedi eu defnyddio o’r dechrau. Y gred yn gyffredinol oedd y byddai’n cymryd
wythnosau os nad misoedd i gael gwared â’r dŵr. Yn ei erthygl yn dilyn y
drychineb mynega gohebydd Y Goleuad ei farn, Oni ddylai yr awdurdodau
gwladol ymyrraeth mewn achos fel hyn, ac onid
ydi dynoliaeth a gwareiddiad yn galw am barchu teimladau perthnasau y
dynion trancedig?
Daeth
y newyddion cyntaf fod dŵr yn cael ei bwmpio o’r siafft ar Fawrth 28ain,
dros fis wedi’r drychineb. Aeth mis arall heibio cyn i’r corff cyntaf
gael ei ddarganfod. Ar ddydd Mercher Ebrill 29ain cafwyd corff Owen Jones
Trwyn y Garreg wedi ei ddal gerfydd ei droed rhwng dau ddarn o goed trymion a
ddefnyddiai’r dynion i amgylchu muriau’r siafft; roedd y corff rhyw haner
ffordd i lawr o’r wyneb. Credai rhai, yn cynwys John Crase y goruchwyliwr, fod
y dŵr o’r hen waith wedi treiddio i’r siafft ryw hanner ffordd i lawr o’r
wyneb, ac y byddai’r gweithwyr anffodus wedi eu claddu yn y gwaelod oddi tan y
malurion a’r baw yn canlyn yr holl ddŵr. Wedi dod o hyd i gorff Owen Jones mor
uchel yn y siafft bu’n rhaid ailystyried hyn. Cafwyd hyd i gyrff Jonathan
Hughes a William Ellis ar ôl clirio darn anferth o graig a gafodd ei hyrddio
bron hanner ffordd i fyny’r siafft gan nerth a ffyrnigrwydd y dŵr a ffrwydrodd
i mewn yng ngwaelod y pwll; dim ond wedyn y cafwyd y ddau i’r wyneb. Y graig
hon oedd yn gyfrifol am y difrod mwyaf. Ar ei ffordd chwalodd a dinistriodd y
fframwaith goed a adeiladwyd i amgylchu’r gwaith cyn cloi ei hunan rhwng coed a
cherrig eraill. Yn ôl adroddiad Arolygydd Gweithfeydd y Llywodraeth roedd
yn mesur pum troedfedd sgwar wrth naw troedfedd o hyd,
Bu
dychwelyd cyrff y dynion adref yn rhyddhad i’r gymuned gyfan. I ddangos eu
cydymdeimlad a’u cefnogaeth roedd pwyllgor wedi ei ffurfio i gasglu arian i’r
rhai a ddioddefodd oherwydd y drychineb. Cadeiriwyd y pwyllgor gan Thomas
Jones, Rheithor y plwyf, gyda Dr Thomas Williams Hughes Belle Vue yn
ysgrifennydd a Griffith Hughes, fferm y Towyn yn drysorydd. Bu’r gronfa yn
agored am bron i ddwy flynedd cyn cael ei chau yn nechrau 1887, wedi dosbarthu
dros y cyfnod £41 (dros £6000 heddiw) i’r teuluoedd.
Cynhaliwyd
angladd Owen Jones Trwyn y Garreg ym mynwent Capel y Bwlch, Llanengan ar ddydd
Gwener Mai1af 1885. (bedd B142) Roedd yn ddeugain oed ac yn gadael ar ei
ôl wraig a phump o blant rhwng tair a deg oed. Wyth niwrnod yn ddiweddarach, ar
ddydd Sadwrn Mai 9ed, cynhaliwyd angladdau William Ellis a Jonathan Hughes yn
yr un fynwent. Er bod dau o’r tri a laddwyd yn fwynwyr oddi allan i’r plwyf,
roedd cysylltiadau Owen Jones a Jonathan Hughes gyda’r ardal a’r gymuned trwy
briodas yn gysylltiadau agos iawn.
Mwynwr 39
oed o gyffiniau Eryrus, Llanarmon yn Iâl, Dyffryn Ceiriog oedd Jonathan
Hughes a ddaeth i Lanengan yn nyddiau
cynnar y gweithfeydd. Priododd ferch leol, Ellen Williams Pen y Groes, Cilan a
ganwyd eu mab hynaf, John, pan yn byw yn Tŷ Newydd, Cilan. Wedi gweithio
ychydig flynyddoedd yng ngweithfeydd plwm y plwyf ymfudodd Jonathan Hughes a’r
teulu i ardal Barnsley yng ngogledd Lloegr a bu’n gweithio yn mhyllau glo yr
ardal honno. Yn y cyfnod hwn, ganwyd iddynt ddau o feibion, Owen a William, a’u
bedyddio ym mhlwyfi Barugh a Gowber yn
ne Sir Efrog.
Dychwelodd y teulu i Lanengan yn y flwyddyn
1878 a gwneud eu cartref yn y Refail, Abersoch; unwaith eto aeth Jonathan i
weithio yn y gweithfeydd plwm. Ddwy flynedd wedi dychwelyd adref bu Ellen farw
yn dilyn genedigaeth efeilliaid. Goroesodd Cornelius, un o’r efeilliaid, ond bu
farw ei frawd Edward ac fe’i claddwyd ef ym mynwent y Bwlch fis wedi angladd ei
fam. Cadwodd Jonathan Hughes y teulu gyda’i gilydd a chyflogi morwyn tŷ, Ann
Jones o Bwllheli, i warchod y bechgyn. Ailbriododd gyda Mary Jones, merch o
Fynytho, a ganwyd iddynt un plentyn o’r briodas. Ar ddiwrnod y drychineb roedd
y teulu yn byw yn un o dai y mwynwyr yn Bay View Terrace, Abersoch. Yn ei
ewyllys gadawodd Jonathan Hughes ei eiddo mewn arian i Mary, ond fe’i claddwyd
gydag Ellen ym mynwent y Bwlch.(bedd B042). Defnyddiai Jonathan Hughes yr enw
John Hughes ac unwaith John Davies, ond fel Jonathan Hughes y cafodd ei
fedyddio a’i gladdu.
Un
o feibion Abersoch oedd William Ellis, mab i Richard Ellis, melinydd Melin
Soch. Yn 30 oed, ef oedd yr ieuengaf o’r tri a laddwyd. Roedd yn briod â
Catherine Evans, merch William Evans crydd y Liver, ac yn cartrefu yn yr Hen Gapel,
Abersoch. Cyn cael gwaith yng nghloddfa Pant Gwyn bu’n labrwr yng ngwaith
Assheton yn llwytho’r bwced haearn a godai gynnyrch y gloddfa o waelod y
siafft. Gadawodd William Ellis wraig a thri o blant ar ei ôl, yr hynaf yn saith
oed a’r ieuengaf yn dair. (bedd B120)
Ymwelodd
Dr Foster, Arolygydd Gweithfeydd y Llywodraeth, â Pant Gwyn yn niwedd mis
Chwefror, ychydig ddyddiau wedi’r drychineb; roedd am weld sut roedd
Crase a Gundry wedi gweithio’r gloddfa. Wedi erlyn y ddau yn llwyddiannus rhyw
dair blynedd ynghynt am fethu cadw cynlluniau cywir o’r gwaith, roedd yn
ymwybodol o’u amharodrwydd i gadw a
pharchu rheolau cyfreithiol y diwydiant mwyngloddio. I wneud ei archwiliad yn
llawn gofynnodd am gynlluniau diweddaraf y gwaith gan Crase ym mis Chwefror,
ond oherwydd cyflwr y ddwy siafft wedi’r drychineb aeth yn ddiwedd mis Medi cyn
y llwyddodd i wneud archwiliad manwl ei hun. Wedi’r archwiliad hwnnw, daeth yn
amlwg nad oedd yr hen waith wedi ei weithio fel y dangosai cynlluniau’r cwmni,
o’r 40 i’r 70 gwryd doedd dim mesuriadau nac archwiliad cywir wedi eu gwneud o
gwbl. Dangosai hyn nad oedd y cwmni wedi defnyddio peiriannydd mwyngloddio
cymwys i wneud y gwaith, rhywbeth yr oeddynt wedi addo ei wneud wedi’r achos yn
eu herbyn dair blynedd ynghynt. Yn hytrach, roedd Crase wedi cymryd y
cyfrifoldeb hwnnw ei hunan, ac yn amlwg wedi methu yn ei waith.
Yn
Llys Ynadon Pwllheli, ar ddydd Mercher 25ain Tachwedd 1885, erlynodd Dr Foster
y Pant Gwyn Mining Company am eu rhan yn y drychineb. Roedd ei adroddiad
yn drylwyr ac i’r pwynt. Yn ei farn ef, anghymwyster John Crase fel
goruchwyliwr oedd prif achos y drychineb, a methiant Thomas Gundry fel
perchennog i gadw rheolaeth ar y gwaith yn ôl ei ddyletswydd o dan y gyfraith;
roedd y naill mor euog a’r llall ym marn Dr Foster. Heb archwiliad manwl o’r
hen waith, ni fedrai Crase fod yn saff o’r pellter rhwng y ddwy siafft tan
ddaear. Roedd deugain llath rhyngddynt ar yr wyneb, ond dyfna’n y byd yr ȃi’r
siafft newydd agosaf y dôi’r ddwy at ei gilydd. Roedd yr hen siafft wedi
cychwyn i lawr yn union syth, ond o’r 40 gwryd i’r 70 roedd yn anelu’n raddol i
gyfeiriad y siafft newydd. Yn y 62 gwryd lle’r oedd y tri a laddwyd yn
gweithio, roedd Crase wedi amcanu y dylai fod deugain troedfedd o graig rhwng y
ddwy siafft. Fel y digwyddodd doedd dim ond naw, ac oherwydd diffygion yng
nghyfansoddiad y graig yn yr union fan honno aeth pwysau’r dŵr o’r hen siafft
wrth ei phen yn ormod.
Wedi cael ei atgoffa gan y
Crwner o’i hawliau yn ôl y gyfraith, aeth Crase ymlaen i ddweud ei fod yn
derbyn adroddiad Dr Foster yn gyflawn. Ymateb Foster oedd, fod i Crase ddweud
hynny’n gyfystyr ag addefiad o esgeulustod troseddol, ond nid felly yr edrychodd
y rheithgor ar yr achos. Cafwyd rheithfarn unfrydol o farwolaeth drwy ddamwain
ar y tri a laddwyd, gyda John Crase yn cael cerydd oherwydd ei fethiant i gadw
arolwg cywir o’r gwaith. Datganodd Foster ei siomedigaeth gyda’r rheithfarn, yn
fwy na dim oherwydd nad oedd ond tair blynedd ers i’r ddau ddiffynnydd fod o
flaen y Llys am fwy neu lai yr un cyhuddiadau’n union. Yng ngolwg rhai, gwarth
oedd galw’r drychineb yn ddamwain a’r ddirwy yn ddim ond ugain punt yr un a
thalu’r costau, ond dyna oedd dyfarniad yr rheithgor. Defnyddiodd Dr Foster ei
ddylanwad i annog y Llys i ddal yn ôl yr arian a dalwyd fel dirwy, a’u rhannu
rhwng gweddwon y drychineb a’u plant. Cytunodd y Llys i’r cynnig a threfnwyd i
reithor y plwyf, Thomas Jones, fod yn gyfrifol am y gwaith
hwnnw.
Yn Trwyn
y Garreg gadawodd y drychineb Mary Jones yn wraig weddw deg ar hugain oed gyda
phump o blant ifanc i’w cadw, pedwar yn ddisgyblion yn ysgolion y pentref, a
Catherine heb gyrraedd yr oed hwnnw. Yn gymorth i gynnal y teulu dechreuodd
Mary gadw siop fach yn gwerthu nwyddau ar fwrdd y gegin. I lawr y ffordd o
Trwyn y Garreg safai Dwylan Uchaf, cartref teulu’r diweddar Dr Thomas Williams.
Y preswylydd yno ar y pryd oedd Ellen Hughes, merch hynaf y Doctor, a
ddychwelodd adref yn wraig weddw wedi marwolaeth annisgwyl ei gŵr, y Parch John
Hughes, Rheithor Ceidio a Llandudwen. Yno hefyd roedd ei mab John Evan Hughes,
amaethwr yn ei ugeiniau cynnar yn gwneud bywoliaeth oddi ar dir y Dwylan. Yn
ogystal â bod yn berchnogion ffermydd y Dwylan a Dwylan Bellaf, teulu Dr
Williams hefyd oedd perchnogion Trwyn y Garreg, cartref Mary a’i phlant.
Ym
Medi 1888 ganwyd i Mary fab, John Robert. Fe’i cofrestrwyd yn fab i Mary Jones,
Trwyn y Garreg, Llanengan, ond ni roddwyd enw’r tad ar y dystysgrif geni.
Ychydig fisoedd wedi geni John Robert symudodd Mary a’r plant o Trwyn y Garreg
i fyw i Tan y Fron, tŷ dau ddrws i ffwrdd. Yno, ym mis Mawrth 1891, ganwyd
Thomas Evan. Bedyddiwyd Thomas Evan yn eglwys y plwyf Ionawr 26ain 1892, yn fab
i John Evan Hughes Dwylan Uchaf a Mary Jones Tan y Fron. Chwe mis wedi’r bedydd
bu farw Thomas Evan yn 16 mis oed. Cofrestrwyd ei gladdu ym mynwent yr
eglwys yn Llanengan.
Ar
Orffennaf 7ed 1892, priodwyd Mary â John Evan Hughes Dwylan Uchaf yn Swyddfa’r
Cofrestrydd ym Mhwllheli; roedd John Evan yn 25 mlwydd oed a Mary yn 37.
Tystion y briodas oedd John Roberts, mab Dwylan Bellaf a chymydog i John Evan,
a William Dobson, Clerc yr Eglwys ym Mhwllheli. Wedi’r briodas cartrefodd y
ddau yn Tan y Fron, Mary yn cadw tŷ a John Evan yn ffermio tir y
Dwylan.
Chwe mis wedi’r briodas, ar
Ionawr 23ain 1893, dioddefodd y teulu eu hail golled fawr. Bu Mary farw yn
dilyn genedigaeth mab, Thomas, a fu farw hefyd yn dridiau oed. Wrth wely angau
ei fam roedd Isaac, mab hynaf Mary yn fachgen 17 oed. Cynhaliwyd yr angladd ym
mynwent yr eglwys ar Ionawr 27ain, pryd y claddwyd Thomas a’i fam gyda’i gilydd
mewn un arch; roedd Mary yn 38 mlwydd oed a Thomas yn bedwar diwrnod. Yn ei
hewyllys gadawodd Mary yr ychydig arian oedd ganddi i’w gŵr newydd, John Evan.
Bu yntau farw ddeng mlynedd yn ddiweddarach ym Mehefin 1904 yn 36 mlwydd oed.
Fe’i claddwyd gyda’i rieni ym meddrod arbennig teulu Dwylan Uchaf ym mynwent yr
eglwys. Yn wahanol i fedd Owen Jones ni roddwyd carreg ar fedd Mary a Thomas.
Dros y blynyddoedd nesaf gadawodd plant Trwyn y Garreg eu cartref yn Llanengan,
bob un i ddechrau bywyd newydd mewn
gwahanol ardaloedd led y wlad; doedd yr un ohonynt i ddychwelyd i fro eu mebyd.
Ychydig
fu effaith y drychineb ar dwf y gwaith yn Pant Gwyn. Yn ystod y blynyddoedd
dilynol cafodd Gundry a’i oruchwyliwr well trefn ar bethau. Cyrhaeddodd y
gwaith ei uchafbwynt yn 1890. Yn y
flwyddyn honno cofnodwyd fod mil a phum cant o dunelli o’r mwynau gwerthfawr
wedi eu cario i lanfa’r Penrhyn Du. Ond, wedi cyrraedd llwyddiant i’w gymharu â
Tan y Bwlch, daeth dirywiad y gloddfa yn annisgwyl. Yn dilyn gostyngiad
sylweddol yng nghynnyrch y gwaith yng nghanol 1891, doedd yr arwyddion ddim yn
dda. Parhaodd y dirywiad i’r flwyddyn ganlynol, a heb unrhyw arwydd fod pethau
am wella, penderfynodd Gundry ei bod yn bryd dod ȃ’r gwaith i ben. Caewyd y
siafft yn 1892 a daeth yr olaf o weithfeydd plwm Llanengan i ben. Heb waith i’w
cynnal, ymfudodd amryw o’r gweithwyr, yn cynnwys rhai o fechgyn y plwyf,
i weithio i byllau glo de Cymru; rhai ohonynt i golli eu bywydau yn
nhrychinebau mawr y gweithfeydd hynny.
yffor.com
Papurau newydd y cyfnod.
Cofnodion y Seiat.
Metal Mines of Llanengan.
Ancestry.
Roedd y Celtiaid cynnar, fel sawl diwylliant arall, yn enwi
eu duwiau, megis Sulis, duwies y ffynhonnau,
a dyna’r dwyw/duwies yn
‘Dwyfawr’ a Dwyfach. Addolwyd duwies y dyfroedd am roddi’n hael hanfod bywyd,
am gynnig y dŵr o’r tir i’n disychedu a’n hymgeleddu. Weithiau gwelwyd bod dŵr
ambell fan yn lles i ryw anhwylder neu’i gilydd oherwydd y cynhwysion oedd
ynddo. Diolchwyd am y fendith hon yn ddefosiynol, dros ganrifoedd lawer.
Does ryfedd felly i ddŵr fod yn hanfod bedyddio, cysegru a
phuro ym mhob rhan o’r byd, a phan ddaeth y Cristnogion cynnar i’r fan hon yng Nghymydmaen, a chanfod addoli’r ffynnon arbennig hon, aethant
ati’n araf i ddarbwyllo’r llwythau ‘paganaidd’ ac i efengylu, a thros amser
ailenwyd y ffynnon, a’r llan a godwyd yn gysgod iddi.[2] Dyma’r
dechreuad i Lanengan fel y gwyddom amdano: y ffynnon iachusol, y daethpwyd i’w
hadnabod fel Ffynnon Engan; y dŵr sanctaidd, rhodd Duw i braidd Ei Eglwys.
Gyda threigl y blynyddoedd rhwng 11G–16G cryfhaodd gafael yr
Eglwys ar rinweddau’r ffynnon yn ogystal ag ar fywydau’r gymdeithas yn
gyffredinol. Dyma’r Canol Oesoedd
hwyr pan bwysleisid pwysigrwydd cadw at ofynion yr Eglwys i ddilyn y
llwybr cul at gadwedigaeth - neu Uffern a’i dân oedd yn dilyn. Dyma gyfnod y
pererindota i brynu maddeuant am bechodau bywyd drwy aberthu i gyrraedd mannau
cysegredig, ac i Lanengan y daethant yn niferoedd i gyfrannu o’r ddefod i
ymolchi yn y ffynnon neu i yfed o’i dŵr a gweddïo i’r sant i eiriol drostynt. Poblogeiddiwyd y cysegredig gan hanesion am fywydau’r
saint i annog ymweld â chrair a beddrod – a thalu
am y fraint. A dyma’r cyfnod, y 13G, pan mae arbenigwyr heddiw yn gallu
gweld tebygrwydd rhwng y gwaith maen sy’n amgau ffynnon Engan a’r gwaith ym
muriau’r Eglwys sy’n dyddio o’r cyfnod hwn.
A diolch i’r
ffynnon a’i dyfroedd rhinweddol ac i hanes y sant fu mor ddylanwadol, gwelwn
ganlyniad i brysurdeb y pererindota yn yr ailadeiladu ddilynodd ddiwedd y 15G a
dechrau’r 16G. Casglwyd digon o arian yng Nghyff Engan i godi’r adeilad presennol, sy’n llawer
mwy na’r disgwyl mewn pentref bychan yng Nghymydmaen.
Ond
daeth tro ar fyd gyda chyfraith gwlad 1534 pan benderfynodd Harri VIII dorri
cyswllt canrifoedd rhwng Prydain a’r Pab a chyhoeddi mai ef oedd pennaeth yr
Eglwys yng Nghymru a Lloegr mwyach. Fel canlyniad rhaid oedd ymwrthod â
defodau’r Eglwys Babyddol, y creiriau a’r cysegrfannau gan gynnwys y
ffynhonnau. Gwaharddwyd ymweld â hwy a dinistriwyd y gwaith maen o’u hamgylch.
Ond er i glerigwyr Llŷn ymddangos fel pe baent am gydfynd â’r newidiadau,
parhau yn ddigon tebyg i’w harfer wnaeth pobl gyffredin yr ardal yn ôl llythyr
ddiwedd yr 16G[3] a nododd
i’r Cymry ‘still goe in heapes on pilgrimage to the wonted welles and places of
superstition...’
Ond er i
bellter Llŷn arafu dilyn unrhyw orchymyn newydd o Lundain neu Landaf, fe ddaeth
yn ei dro ddylanwad y Piwritaniaid yn dilyn cyfnod Cromwell – Piwritaniaid oedd
am i’r Eglwys bellhau llawer mwy oddi wrth arferion Pabyddiaeth. Sefydlwyd
achosion anghydffurfiol ym Mhwllheli a Llangïan yn ail hanner yr 17G, gyda
thranc y ffynhonnau ar y gorwel o’r herwydd. Ofergoel ac eilunaddoliaeth oedd
ymweld â ffynnon yn ôl y farn ddiweddaraf, ond yng Nghymru ym 1646 nodwyd yn
feirniadol bod yr hen arferion yn dal eu tir.[4]
Dirywio
wnaeth safonau’r Eglwys Wladol gydol y 18G fodd bynnag, gan greu cyfle i’r
anghydffurfwyr gryfhau eu gwahanol enwadau. Y Methodistiaid Calfinaidd
sefydlodd eu hawl i addoli ym mhlwy Llanengan o ganol y 18G ymlaen ac yn ystod
y canrifoedd hyn, yn enwedig fel y grymusodd y Methodistiaid, roedd
dealltwriaeth clir mai ofergoel annuwiol oedd ymweld â ffynhonnau, fel nodwyd
yn y Gyffes Ffydd. Mae’n debyg felly mai dirywio o dipyn i beth wnâi Ffynnon
Engan, er i rai barhau i gredu yn ei grym i iacháu.
[1] Cyn aildrefnu ffiniau Plwyf Llanengan, yng nghwmwd Cymydmaen y lleolid y
pentref. Heddiw honnir iddo fod yn rhan o Gafflogion. Atlas Sir Gaernarfon, T M Bassett a B L Davies (goln) Cyngor Gwlad
Gwynedd, 1977, t 68
[2] The Ancient Wells of Llŷn, Roland Bond, Carreg Gwalch, 2017, t 51
[3] Op cit t 69
[4] Op cit t 71
[5] Op cit t 133
![]() |
Wyneb gogleddol Eglwys Llanengan |
Ar wahân i olion y bryngaerau o’n hamgylch ym mhlwy Llanengan, yr eglwys yw adeilad hynaf yr ardal, sy’n tystio i gymuned fechan ddewis aros a byw yma ganrifoedd yn ôl. Efallai bod cymuned yma’n barod yn nyddiau pell y bumed ganrif ond pan sefydlwyd ‘llan’ yma yn y chweched ganrif, yn y flwyddyn 540, gwyddom i ystyriaethau Cristnogol fod yn llywio’r trefniadau. ‘Darn o dir’ yw ystyr wreiddiol ‘llan’ (fel perllan a gwinllan) ac wedi cael hawl i’w darn tir, codai’r Cristnogion cynnar eglwys fach arno. Ymhen amser, cysylltid y tir â’r eglwys ac â’r sawl a’i sefydlodd gan greu enw penodol i’r llecyn. Dyma Lanengan felly. Medd Enid Roberts:
‘Engan yw’r ynganiad lleol am Einion, brenin yr ardal a roddodd dir, efallai, i sant anhysbys; ond nid yw’n amhosibl i’r brenin ei hun, yn ei hen ddyddiau, i geisio gwneud iawn am ei bechodau, droi at grefydd a mynd yn ‘sant’ h.y. iddo gysegru ei fywyd yn llwyr i wasanaethu Duw.’[1]
Roedd teulu Einion yn un o’r teuluoedd a ddaeth o’r Hen
Ogledd i ogledd Cymru rhywbryd tua chanol y bumed ganrif mae’n debyg, i
amddiffyn yr ardal rhag y Gwyddyl oedd yn bygwth goresgyn. Arweinyddion
cymdeithas oedd y teuluoedd hyn a ymfudodd i warchod eu cyd-Gymry – teuluoedd
Deiniol, Gildas a Cadfan er enghraifft - a ddylanwadodd gymaint ar Gymru’r
cyfnod yn eu tro.
![]() |
| Ochr ddeheuol yr Eglwys, y ddwy fynedfa a'r tŵr yn wynebu Enlli |
Daw’r gair ‘cell’ o’r Lladin ‘cella’, sef ystafell fechan.
Cawn ‘cellarium’ hefyd yn golygu storfa fwyd. Dybed ai o ‘cell’ a ‘cellarium’ y
daw’r enw Selar yn y bôn – oedd yn enw ar dŷ dros y ffordd â’r Eglwys, a elwir
heddiw’n ‘The Rock’, ac mai yma y bu gweithwyr y llan yn byw ar un adeg? Mae
Lôn Selar heddiw yn arwain i gyfeiriad y tŷ hwn. Cofiwn fod dylanwad Rhufain yn
drwm ar gymdeithas ym Mhrydain am ddegawdau maith wedi cilio o’r ymerodraeth, ac
mai Lladin oedd iaith yr Eglwys ac iaith y cerrig coffa cynnar a welwn yn Llŷn,
megis carreg Llangïan sy’n coffáu MELI MEDICI/ FILI MARTINUS – Melus y meddyg, mab
Martinus.[5]
Ond heddiw nid oes ôl y gell na’r Eglwys wreiddiol, a fyddai
wedi bod yn adeiladau syml iawn. Rhywbryd yn y Canol Oesoedd, a’r sefydliadau
hyn yn ffynnu, codwyd adeilad mwy sylweddol o furiau carreg, a’r olion cynnar
hyn bellach yn rhan o fur gogleddol yr Eglwys bresennol. Adeilad a godwyd tua
diwedd y 15fed ganrif yw’r un a welwn heddiw, a’r tŵr yn
ddiweddarach, ac arno’r dyddiad uwchben y drws gorllewinol - 1534 - ynghyd ag
arysgrif yn nodi y codwyd y clochdy bychan er clod i Einion Sant, Brenin Cymru,
Apostol y Scotiaid’. [6]
Gwnaed archwiliad pensaernïol manwl o’r Eglwys ar gyfer
Comisiwn Brenhinol, a gyhoeddwyd ym 1964 - An
Inventory of the Ancient Monuments in Caernarfonshire.
[7]
Nodir yma i’r Eglwys fod yn gyrchfan pererindota poblogaidd
yn y Canol Oesoedd hwyr a hynny efallai am iddi fod yn nodedig am ddeubeth:
oddi yma y byddai pererinion oedd yn anelu at Enlli, wedi dilyn y llwybr
deheuol hir o gyfeiriad Tywyn, yn cael eu cip cyntaf o’r ynys; ac yma roedd dwy
ffynnon y credid i’w dyfroedd leddfu blinderau’r corff a chynnig iachȃd
o fod yn yfed o’r naill a throchi yn y llall.[8]
Roedd cyrraedd Llanengan felly yn cynnig cysur i gorff ac enaid
pererinion blinedig yr oes a fu. Ac yn dilyn chwalfa Harri’r VIII o
fynachlogydd ac eglwysi ei deyrnas, derbyniodd Eglwys Llanengan greiriau
gwerthfawr Abaty’r Santes Fair ar Enlli gan gynnwys y ddwy gysgodfa (sgrîn) o
dderw cerfiedig sy’n gwahanu’r gangell a chorff yr Eglwys, crog-lofft o’r un
gwneuthuriad, a deuddeg sedd ‘miserere’ yn wynebu’r ddwy ffenestr ddwyreiniol
hardd.
![]() |
| Y sgrîn hynafol yn gwarchod y gangell ddeheuol |
Rhaid sôn am y tair cloch y dywedir iddynt hwythau ddod o Enlli er bod 1624 yn ddyddiad ar un a 1664 ar y ddwy arall, fyddai’n llawer hwyrach na’i dymchwel yn yr Abaty. Ond efallai mai dyna ddyddiadau eu gosod yn nhŵr Eglwys Llanengan, oedd yno’n barod wrth gwrs.
![]() |
| Un o’r tair cloch |
Ceir manylder yn yr Inventory am y trawstiau hardd fry uwchben sy’n cynnal to’r corff gogleddol a’r ystlys ddeheuol, [9] ynghyd â’r bwâu a’r colofnau urddasol sy’n rhannu’r ddwy ochr yn gytbwys. Gyda threigl y blynyddoedd bu adfer a thrwsio wrth reswm, yn arbennig felly ym 1847, yn y 1930au a rhwng 1968-72. A dyma ein trysor ni heddiw – canolbwynt y pentref a’n plwyf. Yma i dawelwch cornel o Lŷn y denwyd disgyblion y grefydd a gydiodd ynom fel cenedl, i’n cysuro a’n cynnal drwy air a gweithred. Ac yma y down ninnau yn ein tro yn gynulleidfa neu’n unigol i gydganu, i gydwrando ac i ymdeimlo â heddwch a rhin y llecyn hwn er ein lles. Mae’r Eglwys a’r egwyddorion yn parhau.
![]() | |
|
[1] A’u Bryd ar Ynys Enlli, Enid Roberts, Y Lolfa, 1993, t 19
[2] Andrew Jones, Nodiadau
Llwybr Cadfan, 27 Mai 2023
[3] ‘In common with other Celtic outposts in Ireland, Scotland and
Brittany, there’s an inexplicable yet irresistible influence that draws people
westward to Llŷn.’ Every Pilgrim’s Guide
to Celtic Britain and Ireland, Andrew Jones, Canterbury Press, 2002, tt
17-19
[4] Enid Roberts, op cit t 23
[5] ‘Diddorol dros ben’ oedd
barn yr Athro Idris Foster am yr arysgrif hwn gan ‘na chofnodir medicus...ar unrhyw garreg arall ym Mhrydain.’
Atlas Sir Gaernarfon, T M Bassett a B L Davies (goln) Cyngor Gwlad
Gwynedd, 1977, t 58
[6] Y Ddwylan, A summary of the history of the Churches of Llanengan and Llangîan, Rev W
L Jones, Pwllheli, undated, t 4
[7] Royal Commission on
Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol
III, West, 1964, tt 43-48
[8] Andrew Jones, op cit t 34
[9] Op cit tt 45-6
![]() |
| Llun gan Susan Evans |