Owen Jones Trwyn y Garreg a thrychineb mwyngloddfa Pant Gwyn.

 

 

                               

Plwyf digynnwrf a thawel oedd plwyf Llanengan ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ardal lle dibynnai’r bobl ar amaethyddiaeth a’r môr am eu cynhaliaeth. Gweision a morwynion yng nghyflogaeth y ffermydd lleol oedd y mwyafrif, a’r môr yn atyniad i’r bechgyn â’r awydd i weld mwy o’r byd mawr. Fel llawer i ardal, bu dylanwad y Mudiad Methodistaidd yn gryf ar y plwyf, mudiad a ysbrydolodd y plwyfolion i ymuno â’i gilydd yn un teulu i adeiladu canolfan eu hunain er eu lles ysbrydol. Safai’r ganolfan, sef hen gapel y Bwlch, hanner ffordd rhwng fferm y Bwlch a’r Deucoch, ac oddi ar flynyddoedd cynnar y ganrif bu yno yn gyrchfan grefyddol i’r ffyddloniaid.                                                                                                         Yn y flwyddyn 1840 tarfwyd ar heddwch yr hen gapel pan roddwyd caniatâd i gwmni o fuddsoddwyr cyfoethog o Lundain, The St Tudwal Iron Ore Company, agor chwarel mwyn haearn Tan yr Orsedd, chwarel nad oedd ond tafliad carreg oddi wrth yr hen gapel. Dros y blynyddoedd canlynol aflonyddodd y chwarel, nid yn unig ar waith y capel, ond bu effeithiau’r gwaith trwm yn andwyol i’w adeiladwaith hefyd.

    Er gwella eu sefyllfa, penderfynodd yr aelodau mai gwell fyddai adeiladu capel newydd oddi wrth gysgod y chwarel a’i bwrlwm, ac i’r pwrpas hwnnw, yn y flwyddyn 1870, rhoddwyd perllan fferm y Bwlch gan y perchennog, David Williams Castell Deudraeth. Wrth adeiladu capel newydd nid yn unig roedd yr aelodau yn cael y cyfle i’w rhyddhau eu hunain oddi wrth fygythion y chwarel, ond hefyd yn cael cyfle i sicrhau adeilad a fyddai’n llawer mwy addas ar gyfer aelodaeth a fu’n tyfu’n gyson dros y blynyddoedd.   

    Gellir rhesymu mai agor chwarel Tan yr Orsedd yn y flwyddyn 1840 oedd man cychwyn y newidiadau a ddigwyddodd ym mhlwyf Llanengan dros y blynyddoedd nesaf. Roedd y ffordd haearn a adeiladwyd gan y cwmni i’r pwrpas o gario cynnyrch y chwarel i’r llongau yng nglanfa newydd Penrhyn Du yn rhywbeth nas gwelwyd cynt, ac o fewn cyfnod byr  gweddnewidiwyd yr ardal gan fwy o weithfeydd tebyg, gweithfeydd  ddechreuwyd i ateb y gofyn am y mwynau gwerthfawr a orweddai dan wyneb y plwyf.       

   Roedd yn hysbys ers blynyddoedd fod gwythïen o blwm yn croesi o’r Penrhyn Du i Lanengan, ond ychydig a wyddid am ei llawn addewid. Bu mynediad dŵr parhaus i’r siafftiau yn broblem fythol unrhyw waith mwyngloddio, ond erbyn cyfnod gweithfeydd Llanengan roedd datblygiadau newydd a gwelliannau wedi eu gwneud i bympiau a  pheiriannau stêm i ddatrys y broblem honno. Hwylusodd hyn y gwaith o gloddio’n ddyfnach am yr adnoddau cyfoethog a oedd mor werthfawr i lwyddiant menter ariannol unrhyw fuddsoddwr. Wedi ystyried cyngor arbenigwyr yn y maes, ysgogwyd dynion cyfoethog i ddod i’r plwyf gyda’r bwriad o fuddsoddi eu harian mewn gweithfeydd a fyddai yn y diwedd yn cyrraedd o un pen i’r wythïen i’r llall.

    Er i’r peiriannau newydd hyrwyddo gwaith y mwyngloddwyr, roedd hefyd yn ofynnol i’r dynion hynny fod yn gyfarwydd â’r dulliau o ddilyn a mwyngloddio’r plwm yn nyfnderoedd y gweithfeydd newydd. Ym mhlwyf  Llanengan, nifer fach iawn o ddynion  a feddai’r sgiliau arbennig hyn, ac o’r herwydd gwelwyd mewnlifiad cyson o fwynwyr profiadol o wahanol ardaloedd yn cyrraedd y gweithfeydd.

    Un o’r mwynwyr hyn oedd Owen Jones, Cymro yn ei ugeiniau cynnar o Moel y Crio ar Fynydd Helygain, Sir Fflint. Ganwyd Owen ar Awst  26ain 1844, yn fab i‘r mwynwr Isaac Jones a’i wraig Elizabeth. Ar y pryd roedd Mynydd Helygain a’r ardal o gwmpas yn frith o weithfeydd yn cloddio plwm ac, fel y gwnaeth mwyafrif y bechgyn lleol, wedi cyrraedd ei arddegau aeth Owen yntau i weithio fel mwyn-gloddiwr yn un o’r gweithfeydd heb fod ymhell o’i gartref.

    Erbyn cyfrifiad Ebrill 1871 mae Owen yn fwynwr yn un o weithfeydd newydd Llanengan. Dynion dibriod fel Owen Jones oedd amryw o’r mwynwyr newydd, yn rhentu lletyau heb fod ymhell o’r gweithfeydd. Cafodd Owen lety gyda Jenat Jones Tyddyn Talgoch, fferm fechan ar gyrion gweithfeydd newydd Assheton a Thanybwlch ar derfyn Cors Lleferin yng ngwaelodion Bwlchtocyn.

    Er bod llawer o’r plwyfolion yn fodlon a pharod i groesawu’r mwynwyr, roedd teimlad o ansicrwydd ymysg eraill ynghylch dylanwad niferoedd o ddynion dieithr ar gymuned a fu ers blynyddoedd yn gymuned mor dawel ac anghysbell. Gwelwyd eisoes fân helyntion o gwmpas tafarndai’r plwyf, ac i leihau’r pryderon perswadiwyd yr awdurdodau i gyflogi plismon ychwanegol i gynorthwyo’r rhingyll presennol i gadw’r heddwch.

    Ar nos Iau, Ebrill 25ain 1872, yn seiat wythnosol capel newydd y Bwlch,  testun y drafodaeth oedd Yr amhriodoldeb i ieuenctid crefyddol gyfeillachu a rhai dibroffes, a chyfeiriwyd yn neilltuol at achos Mary Hughes Ty’n Morfa.  Mae achos Mary Hughes wedi ei gofnodi yn fyr yn llyfr cofnodion y seiat gan Evan Evans Tan y Fron, Llanengan, un o flaenoriaid cynnar y capel newydd.

    Yn ôl y cofnod bu’r Parch David Hughes, gweinidog newydd y Bwlch, yn siarad â Mary ynglŷn â’i chyfrifoldeb, fel aelod llawn o’r Seiat, i beidio â chyfeillachu â gŵr ifanc dibroffes. O wneud hynny roedd yn torri un o brif reolau’r Seiat, sef y seithfed rheol. Gwaharddai’r seithfed rheol unrhyw aelod o’r capel rhag cyfeillachu a phriodi un na fedrai broffesu ei grefydd. Wedi gwrando ar neges a phryderon y gweinidog, addawodd Mary, fod i bob cysylltiad rhyngddi hi a’r gŵr ifanc dan sylw gael ei dorri, mewn trefn iddi gadw ei haelodaeth eglwysig, ac yn ôl Evan Evans, gadawyd yr achos fel yna.

   Merch Huw ac Ellen Hughes Ty’n Morfa oedd Mary. Ffermwr a bragwr oedd ei thad, wedi dilyn traddodiad a chanlyn ei dad, Enoch, i ffermio tir y teulu yn Llanengan. Ganwyd Mary yn Nhy’n Morfa ar Ragfyr 23ain 1854, aeth i ysgol y pentref, a chafodd ei derbyn yn aelod llawn o gapel newydd y Bwlch. Yn y flwyddyn 1871, pan yn 16 oed, roedd yn forwyn tŷ ym Mhen y Maes Nefyn, yng ngwasanaeth John Hughes, ficer newydd Ceidio, a’i wraig Ellen, merch hynaf Dr Thomas Williams Dwylan Uchaf. Er na chaiff ei enwi yn y cofnodion, y gŵr ifanc roedd Mary yn cyfeillachu ag ef oedd Owen Jones Moel y Crio, lletywr Jenat Jones Tyddyn Talgoch.

     Yn fuan daeth i sylw fod yr addewid a roddwyd gan Mary wedi ei thorri, a bod y berthynas rhyngddi hi ac Owen Jones yn llawer dyfnach na rhyw garwriaeth arwynebol. Bu ymateb y Seiat yn gyflym a llym. Ar Fehefin 13eg cofnodwyd y  Diarddelwyd Mary Hughes Ty’n Morfa am gyfeillachu â dyn anghrefyddol, ond ychwanegwyd, y cafwyd amryw anerchiadau ar y pechod hwnnw, a rhoddid rhybudd y derbynnid barn yr eglwys ar y seithfed rheol yn y Seiat nesaf. Ymhen yr wythnos trefnodd y Seiat bleidlais gudd, a chafwyd canlyniad fel a ganlyn,  dros yr hen drefn 41, dros y newydd 33, amhleidiol 21, a chofnodwyd, O ganlyniad, penderfyniad yr eglwys hon ydyw cadw at yr hen drefn o ddiarddel pawb yn ddiwahaniaeth a ymbriodo ag un dibroffes, Roedd hyn ar unwaith yn penderfynu achos Mary Hughes, Ty’n Morfa yr hon oedd newydd dorri y rheol hon.

    Dros y blynyddoedd bu’r seithfed rheol yn destun dadleuol i’r Seiat, gyda’r rhai a gefnogai’r rheol yn y mwyafrif. Bu’n rhaid aros dros ddeng mlynedd arall cyn i’r sefyllfa newid. Gyda threigl amser daeth mwy i’r farn fod ymateb y Seiat yn rhy eithafol, a gwelwyd mwy o barodrwydd ymysg yr aelodau i ddangos eu gwrthwynebiad i weithredu’r rheol. Wrth gwrs, roedd hyn oll ddeng mlynedd yn rhy hwyr i Mary ac Owen, ond tharfodd yr helynt ddim ar eu perthynas. Rhoddodd y ddau yr achos tu cefn iddynt mewn priodas yn Swyddfa’r Cofrestrydd ym Mhwllheli Hydref 21ain 1872, Mary yn 18 oed ac Owen yn 28.         

   Ar drwydded y briodas cyfeiriad Mary oedd Ty’n Morfa Llanengan, ond rhoddwyd cyfeiriad Owen fel Rhostyllen Sir Ddinbych, sydd yn awgrymu efallai nad bwriad y cwpwl newydd oedd dechrau eu bywyd priodasol ym  mhlwyf Llanengan. Cadarnheir hyn ar dystysgrif geni eu plentyn cyntaf, Isaac. Ganwyd Isaac Rhagfyr 6ed 1875 yn 31 Stryd y Capel, Rhosymedre, Sir Dinbych, pan oedd Mary yn 20 oed ac Owen yn 30.

   Gyda’r Chwyldro Diwydiannol yn ei anterth, a maes glo Sir Ddinbych yn ffynnu, cafodd Owen waith ym mhyllau glo Cefn Mawr, y Sir honno. Ar dystysgrif geni ei fab mae’n disgrifio’i waith fel mine sinker, gwaith a ystyrid gan lowyr y cyfnod y gwaith mwyaf peryglus yn y pyllau glo. I suddo siafft newydd, cyflogid tri grŵp o bedwar dyn gydag un o bob grŵp yn  cael ei gyfrif yn arweinydd, i weithio shifftiau wyth awr ddydd a nos, nes cyrraedd dyfnder y wythïen. Wedi eu gostwng i’r siafft mewn basged haearn, eu gwaith fyddai llenwi’r fasged gyda baw a rwbel eu llafur gan suddo’r siafft i ddyfnder penodol. Wedi cyrraedd y dyfnder hwnnw rhoddai arweinydd y grŵp arwydd i goed trymion gael eu gollwng i lawr ar gyfer adeiladu fframwaith gref i amgylchu muriau’r siafft rhag unrhyw falurion allai ddisgyn a tharo neu gladdu’r gweithwyr. Wedi sicrhau’r fframwaith, dechreuai’r pedwar suddo’r siafft unwaith eto nes cyraedd y mesur nesaf; hon oedd y broses a ddefnyddid nes dod o hyd i ddyfnder yr wythïen.

    Roedd y gwaith yn drwm a pheryglus ac yn golygu llawer mwy na gwaith caib a rhaw yn unig. Roedd deall cyfansoddiad y tir a’r graig yn bwysig, medru defnyddio ffrwydron, heb sôn am adnabod peryglon mewnlifiad nwy neu ddŵr, rhywbeth allai ddigwydd heb rybudd unrhyw bryd. I geisio gwarchod mwy ar eu diogelwch yr arferiad oedd i’r grŵp aros gyda’i gilydd ac wedi gorffen un siafft, symud i’r nesaf gan ddibynnu ar fedrusrwydd y naill a’r llall i wneud y gwaith mewn amgylchiadau peryglus ac anodd. Er ennill edmygedd eu cydweithwyr, doedd fawr wahaniaeth yng nghyflog y mine sinker a’r mwynwr cyffredin a gyflogid i weithio’r pwll newydd.

   Treuliodd Owen a Mary bedair blynedd yn Rhosymedre a’r cyffiniau cyn penderfynu dychwelyd i Lanengan. Yn Llanengan, eu cartref newydd oedd Trwyn y Garreg, cartref lle ganwyd iddynt bedwar o blant rhwng y blynyddoedd 1877 a 1883; ganwyd Huw yn frawd i Isaac, a thair o enethod, Ellen, Elizabeth, a Catherine yr ieuengaf o’r tair. Roedd gweithfeydd y plwyf wedi eu sefydlu erbyn hyn, gyda phump mwyngloddfa yn gweithio ar hyd cwrs y wythïen. Mae’n eithaf sicr bod Owen wedi gweithio mewn mwy nag un o’r gweithfeydd, yn enwedig  yn ystod ei gyfnod cyntaf yn Llanengan, ond yng ngwaith Pant Gwyn yn unig mae Owen Jones, Trwyn y Garreg yn cael ei enwi.    

      Cychwynnwyd mwyngloddio yno ym mlynyddoedd cynnar saithdegau’r ganrif, ond oherwydd problemau mewnlifiad dŵr a phrinder buddsoddiad gan y perchnogion blaenorol bu datblygiad y gwaith yn araf a llafurus. Yn y flwyddyn 1878 prynwyd y safle gan Thomas Gundry, buddsoddwr cyfoethog o Gernyw, a oedd hefyd ar y pryd yn berchennog gwaith Tan yr Allt yn Llanengan. Yn terfynu rhyw dri chan llath i’r dwyrain o waith Pant Gwyn roedd Tan y Bwlch, gwaith a fu dros ei gyfnod y mwyaf llwyddiannus o weithfeydd y plwyf. Ond, fel eraill o weithfeydd Llanengan, effeithid ar ei lwyddiant o dro i dro gan anghysondeb prisiau’r farchnad blwm. Crëwyd ansicrwydd yn dilyn cynnydd mewn mewnforio plwm rhad o wledydd tramor, a pharai hynny i’r farchnad ddisgyn mor isel fel na fedrai gweithfeydd Llanengan weithio’n broffidiol. Mewn cyfnod o’r fath y cafodd cwmni Tan y Bwlch ei hun ym mlynyddoedd cynnar wythdegau’r ganrif.       

    Yn y cyfnod hwn disgynnodd pris plwm ar y farchnad i’r hanner, o £13  a mwy y dunnell ym mlynyddoedd gorau’r gwaith i lawr i £7 y dunnell, ac er bod yn agos i gant o weithwyr ar y safle penderfynodd y cwmni gau’r gwaith am gyfnod i arbed colledion. I osgoi colledion mewn cyfnod o ansicrwydd defnyddid un o ddwy ffordd gan y cwmnïau, naill ai gostwng cyflogau’r gweithwyr neu, os byddai pethau’n ddrwg, troi’r gweithwyr allan a chau’r gwaith am gyfnod gan ddisgwyl i’r farchnad godi i lefelau a fyddai’n ffafriol i’r cwmnïau unwaith eto.  

     Yn Tan y Bwlch defnyddiai’r cwmni ddau beiriant ager cryf i reoli’r dŵr yn y gwaith, a gwyddai pawb fod y pympiau cryfion hyn, yn anfwriadol, yn rheoli’r rhan fwyaf o’r dŵr yng waith Pant Gwyn. Cafodd cau gwaith Tan y Bwlch effaith drychinebus ar waith Pant Gwyn. Doedd dim cysylltiad rhwng y cwmnïau, ac ni chafwyd cytundeb i rannu costau os y byddai Tan y Bwlch yn cau. Bu’r diffyg cytundeb yn rhwystr difrifol i gynlluniau Gundry, yn fwy na dim oherwydd fod unig bwmp Pant Gwyn yn gwbl annigonol i wneud y gwaith a ddisgwylid ohono. Roedd yn amlwg na fyddai ond un canlyniad i’r sefyllfa, ac yn fuan dechreuodd y gwaith foddi tan bwysau’r holl ddŵr. O ganlyniad gwnaed yn agos i wythdeg o weithwyr yn ddi-waith. Ond er gwaethaf y sefyllfa doedd Gundry ddim am roi’r gorau iddi. Dros y ddwy flynedd flaenorol roedd Pant Gwyn wedi dangos cynnydd rheolaidd ac wedi cynhyrchu dros naw can tunnell a mwy o blwm i’w werthu ar y farchnad.     

      Goruchwyliwr Gundry ym Mhant Gwyn oedd John Crase, mwynwr yn ei bump degau o Gernyw, gŵr a ddaeth i Lanengan yn nyddiau cynnar  datblygu’r wythïen. Bu’ n gweithio mewn mwy nag un o weithfeydd y plwyf a chafodd fwy nag un swydd yn ystod y cyfnod hwnnw; daeth i Bant Gwyn wedi bod yn oruchwyliwr ar waith plwm aflwyddiannus y Deucoch. Yn ystod ei gyfnod gyda Gundry cafodd y ddau eu herlyn fwy nag unwaith gan Arolygydd Gweithfeydd y Llywodraeth am anwybyddu rheolau mwyngloddio a thorri’r gyfraith wrth wneud hynny. Ond er ei gamweddau amlwg fe’i cadwyd fel goruchwyliwr gan Gundry nes cael y dunnell olaf o fwyn allan o’r gwaith yn y flwyddyn 1892.  

    Wedi helynt y dŵr bu’n rhaid ail ystyried sefyllfa’r gwaith yn Pant Gwyn. Cynllun diweddaraf Gundry oedd suddo siafft a fyddai’n gwbl annibynnol o’r hen waith, a chael pwmp llawer cryfach mewn tŷ newydd i reoli’r dŵr. Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Awst 1884. Casglodd Crase ddeuddeg o fwynwyr profiadol at ei gilydd i suddo’r siafft rhyw ddeugain llath oddi wrth yr hen agoriad, gyda’r bwriad y tro hwn o gyraedd y wythïen mewn tir newydd oddi tan lefelau’r hen waith. Rhannwyd y mwynwyr yn dri grŵp o bedwar i weithio shifftiau o wyth awr ddydd a nos nes cyrraedd y wythïen. Dyma’r tro cyntaf i Owen Jones gael ei leoli’n union yng ngweithfeydd Llanengan pan gaiff ei enwi yn aelod un o’r grwpiau i gloddio’r siafft newydd. Ei gyd-weithwyr yn y grŵp oedd William Ellis, Hen Gapel Abersoch, Jonathan Hughes, Bay View Terrace, Abersoch a Griffith Parry, Plas Cyndyn Llanengan, y pedwar yn weithwyr profiadol wedi gweithio ers rhai blynyddoedd yng ngweithfeydd y plwyf.   

     Erbyn 17eg Chwefror 1885 roedd y mwynwyr wedi bod chwe mis wrth eu gwaith, ac wedi cyrraedd dyfnder o 62 gwryd neu 124 llath. Yn gweithio’r ail shifft y diwrnod hwnnw roedd Owen Jones, Jonathan Hughes, William Ellis a Griffith Parry. Rhyw dair awr i’r shifft, o gwmpas saith y nos, cafodd Griffith Parry ei yrru i fyny i gynorthwyo’r gŵr a weithiai’r peiriant pwli ar ben y siafft. Gwaith y ddau oedd  gostwng mwy o goed  i’r tri yn gweithio yng  ngwaelod y siafft. Gorffennwyd y gwaith hwnnw, ond cyn ymuno ȃ’i gydweithwyr, manteisiodd Griffith Parry a'i bardner  ar y cyfle i gymryd tamaid o fwyd yng nghwt y gweithwyr. Cyn eu bod wedi eistedd i lawr daeth y sŵn mwyaf erchyll a dychrynllyd o gyfeiriad ceg y siafft newydd. Rhuthrodd y ddau allan i weld beth oedd yn bod, gan weiddi ac erfyn ar i’r tri yn y gwaelod eu hateb. Ond ddaeth dim ateb, dim ond sŵn dŵr yn codi o dywyllwch y siafft. Aeth y ddau ar frys i archwilio’r hen agoriad a gweld er dychryn bod y dŵr a orlifodd y gwaith hwnnw wedi diflannu. Doedd dim y gallai neb ei wneud yn y fath sefyllfa a gyrrwyd neges ar frys i hysbysu’r Rhingyll Jones yn Abersoch am y drychineb. Gyrrodd yntau’r wybodaeth ymlaen i’w benaethiaid, a  thrannoeth cyrhaeddodd y Prif Gwnstabl i weld y sefyllfa drosto’i hun. Yng ngolau dydd roedd achos y drychineb yn gwbl amlwg. Er bod deugain llath yn gwahanu’r ddwy siafft ar yr wyneb, rhyw sut roedd y dŵr a foddodd yr hen waith, wedi gwneud ei ffordd i’r siafft newydd a boddi tri o ddynion. Y cwestiwn ar wefusau pawb oedd, sut y gallai’r ffasiwn drychineb fod wedi digwydd?     

     Cymerodd ddyddiau i’r awdurdodau a’r perchnogion gyrraedd safle’r drychineb, a chreodd yr oedi yn eu hymateb gryn ddicter yn lleol. Er bod pwmp newydd ar y safle doedd hwnnw ddim yn barod i wneud ei waith, ac felly dibynnai’r gwaith ar yr hen beiriant. Roedd yn ddirgelwch pam nad oedd peiriannau cryfion Tan y Bwlch wedi eu defnyddio o’r dechrau. Y gred yn gyffredinol oedd y byddai’n cymryd wythnosau os nad misoedd i gael gwared â’r dŵr. Yn ei erthygl yn dilyn y drychineb mynega gohebydd Y Goleuad ei farn, Oni ddylai yr awdurdodau gwladol ymyrraeth mewn achos fel hyn, ac onid  ydi dynoliaeth a gwareiddiad yn galw am barchu teimladau perthnasau y dynion trancedig?

     Daeth y newyddion cyntaf fod dŵr yn cael ei bwmpio o’r siafft ar  Fawrth 28ain, dros fis wedi’r drychineb. Aeth mis arall heibio cyn i’r   corff cyntaf gael ei ddarganfod. Ar ddydd Mercher Ebrill 29ain cafwyd corff Owen Jones Trwyn y Garreg wedi ei ddal gerfydd ei droed rhwng dau ddarn o goed trymion a ddefnyddiai’r dynion i amgylchu muriau’r siafft; roedd y corff rhyw haner ffordd i lawr o’r wyneb. Credai rhai, yn cynwys John Crase y goruchwyliwr, fod y dŵr o’r hen waith wedi treiddio i’r siafft ryw hanner ffordd i lawr o’r wyneb, ac y byddai’r gweithwyr anffodus wedi eu claddu yn y gwaelod oddi tan y malurion a’r baw yn canlyn yr holl ddŵr. Wedi dod o hyd i gorff Owen Jones mor uchel yn y siafft bu’n rhaid ailystyried hyn. Cafwyd hyd i gyrff Jonathan Hughes a William Ellis ar ôl clirio darn anferth o graig a gafodd ei hyrddio bron hanner ffordd i fyny’r siafft gan nerth a ffyrnigrwydd y dŵr a ffrwydrodd i mewn yng ngwaelod y pwll; dim ond wedyn y cafwyd y ddau i’r wyneb. Y graig hon oedd yn gyfrifol am y difrod mwyaf. Ar ei ffordd chwalodd a dinistriodd y fframwaith goed a adeiladwyd i amgylchu’r gwaith cyn cloi ei hunan rhwng coed a cherrig eraill. Yn ôl adroddiad  Arolygydd Gweithfeydd y Llywodraeth roedd yn mesur pum troedfedd sgwar wrth naw troedfedd o hyd,    

     Bu dychwelyd cyrff y dynion adref yn rhyddhad i’r gymuned gyfan. I ddangos eu cydymdeimlad a’u cefnogaeth roedd pwyllgor wedi ei ffurfio i gasglu arian i’r rhai a ddioddefodd oherwydd y drychineb. Cadeiriwyd y pwyllgor gan Thomas Jones, Rheithor y plwyf, gyda Dr Thomas Williams Hughes Belle Vue yn ysgrifennydd a Griffith Hughes, fferm y Towyn yn drysorydd. Bu’r gronfa yn agored am bron i ddwy flynedd cyn cael ei chau yn nechrau 1887, wedi dosbarthu dros y cyfnod £41 (dros £6000 heddiw) i’r teuluoedd.

    Cynhaliwyd angladd Owen Jones Trwyn y Garreg ym mynwent Capel y Bwlch, Llanengan ar ddydd Gwener Mai1af 1885. (bedd B142)  Roedd yn ddeugain oed ac yn gadael ar ei ôl wraig a phump o blant rhwng tair a deg oed. Wyth niwrnod yn ddiweddarach, ar ddydd Sadwrn Mai 9ed, cynhaliwyd angladdau William Ellis a Jonathan Hughes yn yr un fynwent. Er bod dau o’r tri a laddwyd yn fwynwyr oddi allan i’r plwyf, roedd cysylltiadau Owen Jones a Jonathan Hughes gyda’r ardal a’r gymuned trwy briodas yn gysylltiadau agos iawn.

   Mwynwr 39 oed o gyffiniau Eryrus, Llanarmon yn Iâl, Dyffryn Ceiriog oedd Jonathan Hughes  a ddaeth i Lanengan yn nyddiau cynnar y gweithfeydd. Priododd ferch leol, Ellen Williams Pen y Groes, Cilan a ganwyd eu mab hynaf, John, pan yn byw yn Tŷ Newydd, Cilan. Wedi gweithio ychydig flynyddoedd yng ngweithfeydd plwm y plwyf ymfudodd Jonathan Hughes a’r teulu i ardal Barnsley yng ngogledd Lloegr a bu’n gweithio yn mhyllau glo yr ardal honno. Yn y cyfnod hwn, ganwyd iddynt ddau o feibion, Owen a William, a’u bedyddio ym  mhlwyfi Barugh a Gowber yn ne Sir Efrog.

    Dychwelodd y teulu i Lanengan yn y flwyddyn 1878 a gwneud eu cartref yn y Refail, Abersoch; unwaith eto aeth Jonathan i weithio yn y gweithfeydd plwm. Ddwy flynedd wedi dychwelyd adref bu Ellen farw yn dilyn genedigaeth efeilliaid. Goroesodd Cornelius, un o’r efeilliaid, ond bu farw ei frawd Edward ac fe’i claddwyd ef ym mynwent y Bwlch fis wedi angladd ei fam. Cadwodd Jonathan Hughes y teulu gyda’i gilydd a chyflogi morwyn tŷ, Ann Jones o Bwllheli, i warchod y bechgyn. Ailbriododd gyda Mary Jones, merch o Fynytho, a ganwyd iddynt un plentyn o’r briodas. Ar ddiwrnod y drychineb roedd y teulu yn byw yn un o dai y mwynwyr yn Bay View Terrace, Abersoch. Yn ei ewyllys gadawodd Jonathan Hughes ei eiddo mewn arian i Mary, ond fe’i claddwyd gydag Ellen ym mynwent y Bwlch.(bedd B042). Defnyddiai Jonathan Hughes yr enw John Hughes ac unwaith John Davies, ond fel Jonathan Hughes y cafodd ei fedyddio a’i gladdu.  

    Un o feibion Abersoch oedd William Ellis, mab i Richard Ellis, melinydd Melin Soch. Yn 30 oed, ef oedd yr ieuengaf o’r tri a laddwyd. Roedd yn briod â Catherine Evans, merch William Evans crydd y Liver, ac yn cartrefu yn yr Hen Gapel, Abersoch. Cyn cael gwaith yng nghloddfa Pant Gwyn bu’n labrwr yng ngwaith Assheton yn llwytho’r bwced haearn a godai gynnyrch y gloddfa o waelod y siafft. Gadawodd William Ellis wraig a thri o blant ar ei ôl, yr hynaf yn saith oed a’r ieuengaf yn dair. (bedd B120)      

    Ymwelodd Dr Foster, Arolygydd Gweithfeydd y Llywodraeth, â Pant Gwyn yn niwedd mis Chwefror, ychydig  ddyddiau wedi’r drychineb; roedd am weld sut roedd Crase a Gundry wedi gweithio’r gloddfa. Wedi erlyn y ddau yn llwyddiannus rhyw dair blynedd ynghynt am fethu cadw cynlluniau cywir o’r gwaith, roedd yn ymwybodol o’u  amharodrwydd i gadw a pharchu rheolau cyfreithiol y diwydiant mwyngloddio. I wneud ei archwiliad yn llawn gofynnodd am gynlluniau diweddaraf y gwaith gan Crase ym mis Chwefror, ond oherwydd cyflwr y ddwy siafft wedi’r drychineb aeth yn ddiwedd mis Medi cyn y llwyddodd i wneud archwiliad manwl ei hun. Wedi’r archwiliad hwnnw, daeth yn amlwg nad oedd yr hen waith wedi ei weithio fel y dangosai cynlluniau’r cwmni, o’r 40 i’r 70 gwryd doedd dim mesuriadau nac archwiliad cywir wedi eu gwneud o gwbl. Dangosai hyn nad oedd y cwmni wedi defnyddio peiriannydd mwyngloddio cymwys i wneud y gwaith, rhywbeth yr oeddynt wedi addo ei wneud wedi’r achos yn eu herbyn dair blynedd ynghynt. Yn hytrach, roedd Crase wedi cymryd y cyfrifoldeb hwnnw ei hunan, ac yn amlwg wedi methu yn ei waith.

     Yn Llys Ynadon Pwllheli, ar ddydd Mercher 25ain Tachwedd 1885, erlynodd Dr Foster y Pant Gwyn Mining Company am eu rhan yn y drychineb. Roedd ei adroddiad yn drylwyr ac i’r pwynt. Yn ei farn ef, anghymwyster John Crase fel goruchwyliwr oedd prif achos y drychineb, a methiant Thomas Gundry fel perchennog i gadw rheolaeth ar y gwaith yn ôl ei ddyletswydd o dan y gyfraith; roedd y naill mor euog a’r llall ym marn Dr Foster. Heb archwiliad manwl o’r hen waith, ni fedrai Crase fod yn saff o’r pellter rhwng y ddwy siafft tan ddaear. Roedd deugain llath rhyngddynt ar yr wyneb, ond dyfna’n y byd yr ȃi’r siafft newydd agosaf y dôi’r ddwy at ei gilydd. Roedd yr hen siafft wedi cychwyn i lawr yn union syth, ond o’r 40 gwryd i’r 70 roedd yn anelu’n raddol i gyfeiriad y siafft newydd. Yn y 62 gwryd lle’r oedd y tri a laddwyd yn gweithio, roedd Crase wedi amcanu y dylai fod deugain troedfedd o graig rhwng y ddwy siafft. Fel y digwyddodd doedd dim ond naw, ac oherwydd diffygion yng nghyfansoddiad y graig yn yr union fan honno aeth pwysau’r dŵr o’r hen siafft wrth ei phen yn ormod.  

Wedi cael ei atgoffa gan y Crwner o’i hawliau yn ôl y gyfraith, aeth Crase ymlaen i ddweud ei fod yn derbyn adroddiad Dr Foster yn gyflawn. Ymateb Foster oedd, fod i Crase ddweud hynny’n gyfystyr ag addefiad o esgeulustod troseddol, ond nid felly yr edrychodd y rheithgor ar yr achos. Cafwyd rheithfarn unfrydol o farwolaeth drwy ddamwain ar y tri a laddwyd, gyda John Crase yn cael cerydd oherwydd ei fethiant i gadw arolwg cywir o’r gwaith. Datganodd Foster ei siomedigaeth gyda’r rheithfarn, yn fwy na dim oherwydd nad oedd ond tair blynedd ers i’r ddau ddiffynnydd fod o flaen y Llys am fwy neu lai yr un cyhuddiadau’n union. Yng ngolwg rhai, gwarth oedd galw’r drychineb yn ddamwain a’r ddirwy yn ddim ond ugain punt yr un a thalu’r costau, ond dyna oedd dyfarniad yr rheithgor. Defnyddiodd Dr Foster ei ddylanwad i annog y Llys i ddal yn ôl yr arian a dalwyd fel dirwy, a’u rhannu rhwng gweddwon y drychineb a’u plant. Cytunodd y Llys i’r cynnig a threfnwyd i reithor y plwyf, Thomas Jones, fod yn gyfrifol am y gwaith hwnnw.    

   Yn Trwyn y Garreg gadawodd y drychineb Mary Jones yn wraig weddw deg ar hugain oed gyda phump o blant ifanc i’w cadw, pedwar yn ddisgyblion yn ysgolion y pentref, a Catherine  heb gyrraedd yr oed hwnnw. Yn gymorth i gynnal y teulu dechreuodd Mary gadw siop fach yn gwerthu nwyddau ar fwrdd y gegin. I lawr y ffordd o Trwyn y Garreg safai Dwylan Uchaf, cartref teulu’r diweddar Dr Thomas Williams. Y preswylydd yno ar y pryd oedd Ellen Hughes, merch hynaf y Doctor, a ddychwelodd adref yn wraig weddw wedi marwolaeth annisgwyl ei gŵr, y Parch John Hughes, Rheithor Ceidio a Llandudwen. Yno hefyd roedd ei mab John Evan Hughes, amaethwr yn ei ugeiniau cynnar yn gwneud bywoliaeth oddi ar dir y Dwylan. Yn ogystal â bod yn berchnogion ffermydd y Dwylan a Dwylan Bellaf, teulu Dr Williams hefyd oedd perchnogion Trwyn y Garreg, cartref Mary a’i phlant.

     Ym Medi 1888 ganwyd i Mary fab, John Robert. Fe’i cofrestrwyd yn fab i Mary Jones, Trwyn y Garreg, Llanengan,  ond ni roddwyd enw’r tad ar y dystysgrif geni. Ychydig fisoedd wedi geni John Robert symudodd Mary a’r plant o Trwyn y Garreg i fyw i Tan y Fron, tŷ dau ddrws i ffwrdd. Yno, ym mis Mawrth 1891, ganwyd Thomas Evan. Bedyddiwyd Thomas Evan yn eglwys y plwyf Ionawr 26ain 1892, yn fab i John Evan Hughes Dwylan Uchaf a Mary Jones Tan y Fron. Chwe mis wedi’r bedydd bu farw Thomas Evan yn 16 mis oed.  Cofrestrwyd ei gladdu ym mynwent yr eglwys yn Llanengan.      

    Ar Orffennaf 7ed 1892, priodwyd Mary â John Evan Hughes Dwylan Uchaf yn Swyddfa’r Cofrestrydd ym Mhwllheli; roedd John Evan yn 25 mlwydd oed a Mary yn 37. Tystion y briodas oedd John Roberts, mab Dwylan Bellaf a chymydog i John Evan, a William Dobson, Clerc yr Eglwys ym Mhwllheli. Wedi’r briodas cartrefodd y ddau yn Tan y Fron, Mary yn cadw tŷ a John Evan yn ffermio tir y Dwylan.   

Chwe mis wedi’r briodas, ar Ionawr 23ain 1893, dioddefodd y teulu eu hail golled fawr. Bu Mary farw yn dilyn genedigaeth mab, Thomas, a fu farw hefyd yn dridiau oed. Wrth wely angau ei fam roedd Isaac, mab hynaf Mary yn fachgen 17 oed. Cynhaliwyd yr angladd ym mynwent yr eglwys ar Ionawr 27ain, pryd y claddwyd Thomas a’i fam gyda’i gilydd mewn un arch; roedd Mary yn 38 mlwydd oed a Thomas yn bedwar diwrnod. Yn ei hewyllys gadawodd Mary yr ychydig arian oedd ganddi i’w gŵr newydd, John Evan. Bu yntau farw ddeng mlynedd yn ddiweddarach ym Mehefin 1904 yn 36 mlwydd oed. Fe’i claddwyd gyda’i rieni ym meddrod arbennig teulu Dwylan Uchaf ym mynwent yr eglwys. Yn wahanol i fedd Owen Jones ni roddwyd carreg ar fedd Mary a Thomas. Dros y blynyddoedd nesaf gadawodd plant Trwyn y Garreg eu cartref yn Llanengan, bob un i ddechrau bywyd newydd  mewn gwahanol ardaloedd led y wlad; doedd yr un ohonynt i ddychwelyd i fro eu mebyd.

      Ychydig fu effaith y drychineb ar dwf y gwaith yn Pant Gwyn. Yn ystod y blynyddoedd dilynol cafodd Gundry a’i oruchwyliwr well trefn ar bethau. Cyrhaeddodd y gwaith ei uchafbwynt yn 1890.  Yn y flwyddyn honno cofnodwyd fod mil a phum cant o dunelli o’r mwynau gwerthfawr wedi eu cario i lanfa’r Penrhyn Du. Ond, wedi cyrraedd llwyddiant i’w gymharu â Tan y Bwlch, daeth dirywiad y gloddfa yn annisgwyl. Yn dilyn gostyngiad sylweddol yng nghynnyrch y gwaith yng nghanol 1891, doedd yr arwyddion ddim yn dda. Parhaodd y dirywiad i’r flwyddyn ganlynol, a heb unrhyw arwydd fod pethau am wella, penderfynodd Gundry ei bod yn bryd dod ȃ’r gwaith i ben. Caewyd y siafft yn 1892 a daeth yr olaf o weithfeydd plwm Llanengan i ben. Heb waith i’w cynnal, ymfudodd  amryw o’r gweithwyr, yn cynnwys rhai o fechgyn y plwyf, i weithio i byllau glo de Cymru; rhai ohonynt i golli eu bywydau yn nhrychinebau mawr y gweithfeydd hynny.

 

yffor.com

Papurau newydd y cyfnod.

Cofnodion y Seiat.

Metal Mines of Llanengan.

Ancestry.



Yr erthygl ddiweddaraf

Owen Jones Trwyn y Garreg a thrychineb mwyngloddfa Pant Gwyn.

                                     Plwyf digynnwrf a thawel oedd plwyf Llanengan ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ...