Cychwyn y daith
Pan oedd y clo yn llacio a
chaniatâd i gydgerdded manteisiodd dwy ohonom ar y cyfle i gyfarfod a mynd am
dro. Wrth groesi’r caeau clywais am y tro cyntaf yr enw Wenffrwd ar yr afon
fechan sy’n rhedeg o gyfeiriad Cilan i Borth Neigwl. Dyna ryfeddu fod rhywun
wedi byw yma cyhyd heb glywed yr enw o’r blaen. Wrth sgwrsio dyma sylweddoli
fod perygl i lawer o enwau tebyg fynd ar goll a phenderfynu yn y fan a’r lle y
dylem wneud rhywbeth i’w diogelu. Os nad oedd enwau yn gyfarwydd i ni pa obaith
iddynt fod ar gof a chadw i’r dyfodol.
Y cam cyntaf oedd chwilio am
arian i gael arwyddion ar ffyrdd a llwybrau a dyma fynd ati i chwilio am grant.
Yn dilyn ein hymholiadau cawsom ein harwain i gyfeiriad AHNE Llŷn a’u ffurflen
gais. Nid gwaith hawdd oedd hynny gan fod angen cyfrif banc busnes (tipyn o gur
pen!) a chyfansoddiad, cyn chwilio am brisiau a chaniatâd ac ati. Felly dyma
sefydlu grŵp bychan i drafod y ffordd ymlaen. Anet a John a minnau i ddechrau, a
Wendy a Susan fel yr aeth yr amser ymlaen. Rhyw hap a damwain o grŵp ond fel y
digwyddodd roedd
gan bawb ei gryfder a’i sgil a’r rheiny i
raddau wedi llywio’r datblygiad.
Bu sawl cyfyng gyngor ar y
daith. Cafwyd trafodaethau helaeth am enw cywir Lôn Bwlch Llan - i mi Lôn Pwll
Llan neu Bw’llan ydoedd ond i Anet a John Lôn Bwlch Llan. Cafwyd yr ateb pan ddaethpwyd
ar draws hen fap wedi ei ddyddio ym 1777 ag enwau caeau arno. Enw’r cae yn
cydredeg â’r lôn oedd Bwlch y Llan. Gwyddai John a minnau am fynd dros Ben Bryn
Cras, enw oedd yn ddiarth i Anet. Pan awgrymodd rhywun mai Bryn Bras oedd yn
gywir bu’n rhaid gwneud ymchwil pellach a chafwyd yr ateb mewn cerdd
ysgrifennodd Ellen Hughes am fynd am dro i Ben Bryn Cras.
Pan benderfynwyd y byddai bwrdd gwybodaeth yn gaffaeliad i’r pentref creodd John luniau gwreiddiol ar ei gyfer. John hefyd wnaeth yr ymchwil i hanes y pentref barodd i ni sylweddoli fod gennym ddeunydd ar gyfer mwy na llyfr lluniau, ein bwriad cyntaf. Wedi deall fod cymaint o hanes i’r pentref teimlem y dylem ei rannu ac y dylai pawb arall hefyd gael gwybod am Ellen Hughes, Dr Dwylan, y carcharorion rhyfel a phrysurdeb y pentref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, dyma ni yn eich gwahodd chithau oll i fwynhau ‘Cofio Llanengan’ gyda ni. Gobeithio y cewch flas arno.