Tai

 

Olion Llain Morfa gydag Awelfor yn y cefndir

Dros y blynyddoedd mae sawl tŷ a bwthyn yn y pentref a’i gyffiniau wedi diflannu a heb sôn amdanynt. Y tebygrwydd yw mai tai mwd oedd y rhain. Mae eraill wedi newid eu henwau. Dyma gipolwg ar y newidiadau, yn cychwyn o’r gongl lle mae’r llwybr o fferm Tŷ Newydd yn cyrraedd y llwybr sy’n rhedeg o Lanengan tuag at y Nant a Chilan heb fod ymhell o’r afon Wenffrwd.

Yma safai bwthyn Pengogo, man cychwyn yr achos Methodistaidd yn ardal Llanengan yn nechrau’r 19G. Elizabeth Prichard oedd y ddiwethaf i gael ei rhestru yma ym 1891. Does dim olion yno bellach.

Ar draws y caeau tuag at Borth Neigwl, heb fod ymhell o Awelfor, mae olion Llain Morfa.

Ym 1839 roedd yr hen Lôn Morfa yn croesi ar draws y caeau o’r Cefn heibio Llain ac i lawr at yr hen Dyddyn Don. Elizabeth Jones oedd yr olaf i fyw yn Llain ym 1891. Mae cloddiau'r llain hir a roddodd i’r bwthyn ei enw wedi diflannu erbyn heddiw.

 Rhyw hanner canllath o Llain mae Awelfor, fferm fechan fu’n gartref i ffermwyr, cariwyr a mwynwyr dros y blynyddoedd. Ei henw yn wreiddiol oedd Gwtar Lân, yna Gwtar, a thua 1940 fe’i newidiwyd yn Awelfor. Mae’r gornel yn ymyl yn dal i gael ei galw’n Groeslon Gwtar.


Yr hen Dyddyn Don, sydd bellach ar ei ffordd tros allt y môr fel canlyniad i erydiad, oedd cartref y teulu cyn i’r Ty’n Don presennol gael ei adeiladu ym 1912.

Awn ymlaen am Lôn Morfa i lawr y llwybr sy’n cychwyn led cae o Ben Morfa, a chyn cyrraedd yr afon Soch, roedd Plas yn Morfa. Does dim llawer o wybodaeth am y fan hon. Nid yw’n cael ei enwi yng Nghyfrifiad 1841 er bod un John Jones o Blas yn Morfa wedi ei gladdu ym Mynwent yr Eglwys ym 1839. Er bod y tŷ wedi diflannu mae’r cae lle safai yn dal i gael ei alw’n Plas Morfa.

Fferm fechan arall ar draws y ffordd o’r llwybr hwn yw Cefn. Cefn Llygadog oedd yr enw arni hyd at 1851.

Wedi mynd i lawr gallt Glan Morfa a chyn cyrraedd Tŷ Cerrig roedd Tŷ Mawr, cartref William Jones a’i deulu o wehyddion, yr unig wehyddion yn y pentref ar y pryd. Erbyn 1861 roedd Tŷ Mawr yn gartref i Ifan Owen, melinydd o Laniestyn. Ar ôl 1871 does dim sôn am Tŷ Mawr a does dim olion i’w gweld

 Ar y tir lle mae'r Sun a Thyddyn Dalar heddiw roedd tri thŷ, Pen y Gongol, Tyddyn Dalar a Llain Fadog. Mae’n debyg mai Pen y Gongol yw’r Sun presennol a bod Tyddyn Dalar a Llain Fadog yn un tŷ a fu ar adegau yn gartref i ddau ac weithiau dri theulu. Tyddyn Dalar yw’r enw a gadwyd.

I fyny’r lôn bach gydag ochr y Sun roedd tŷ o’r enw Selar, sydd yn rhoi ei henw i’r lôn. Yma bu clerc y plwyf yn byw hyd ddechrau’r 19G. Tua 1820 ychwanegwyd at y tŷ i’w wneud yn fwy a newidiwyd ei enw yn Belle Vue, ac erbyn heddiw, The Rock. John Edwards, perchennog gwaith mwyn haearn bychan Creigir Isaf, oedd tenant cyntaf Belle Vue.

O flaen y Sun mae darn o dir sy’n cael ei alw’n Gardd y Llan ar hen fap o’r pentref. Roedd Tŷ Popty neu fragdy yma yn nechrau’r 19G.

Ar waelod gallt Bwlch Llan, yr ochr uchaf i White Horse, roedd Tyddyn Llan, cartref a gweithdy Evan Williams y crydd, ac yn y 1950au siop gig Evan David. Dyma safle Cefn Eithin heddiw.



I fyny gallt Bwlch Llan o Gefn Eithin mae llwybr ar y chwith yn arwain i Grinallt. Sydney Villa oedd yr enw gwreiddiol, cartref teulu Ceinwen Jones. Collodd ei thaid, Richard Roberts, ei fywyd ar y mȏr ym 1894 pan aeth llong Y Pilgrim o Gaernarfon i drafferthion wrth Anvil Point ar arfordir Dorset. Roedd ar ei ffordd i Stetin yng Ngwlad Pwyl gyda chargo o lechi o’r chwareli. Roedd Richard Roberts newydd adeiladu tȳ ar fryncyn y Grinallt ac er cof amdano fe’i galwyd yn Sydney Villa gan y soniai yn aml am ei deithiau i Awstralia. Erbyn hyn Grinallt yw’r enw a ddefnyddir.

Dymchwel Siop Ifan Defi

Wrth gyrraedd gwaelod yr allt yn ȏl i’r pentref wynebir safle garej Wil Freeman ers talwm a chyn hynny dŷ Tan y Ffordd, lle mae’n debyg y bu gefail ar droad y ganrif.

Yna down at Dai Cae Bach, tri thŷ bach mewn rhes - Groesffordd a Bodengan heddiw. Treigle oedd enw’r tŷ yn y canol. Mrs Spargo oedd yr olaf i fyw yn Treigle ym 1939, un o deulu Spargo a ddaeth o Gernyw i weithio i’r gweithfeydd plwm. 


Tŷ Fry

I fyny’r lôn am Bwlch, o dan Tŷ Fry, roedd Tŷ Fadog. Hyd at 1871 bu’n gartref i fwynwyr, saer maen a gwas fferm. James Williams, mwynwr o Lanengan, oedd yn byw yno ddiwethaf. Ar ôl hynny does dim cofnod ohono.

Yn uwch i fyny gyferbyn â’r pwmp roedd y Bragdy. Adeilad eithaf mawr mae’n debyg ac yn gartref i dri theulu ym 1841, Efan Griffiths, melinydd Brynteg, a’r saer maen Thomas Hughes yn eu plith. Erbyn 1851 dim ond teulu Huw Jones, mwynwr o Lanengan, sydd yno. Hwn yw’r cofnod diwethaf o’r Bragdy. 

Dros y ffordd i’r Bragdy roedd Tan y Graig, tŷ lle bu siop fwyd a siop gig. Wedyn bu’n gartref i fwynwyr ac i Ann Richards, gweddw’r cigydd. Ddiwedd y ganrif fe’i ailadeiladwyd a newidiwyd yr enw’n Fryn Berllan. Am rai blynyddoedd wedi hynny bu Mary Williams yn cadw siop yno.


Yn uwch i fyny’r ffordd, lle mae Gwêl y Don heddiw, roedd yr Efail. Roedd William Evans, gŵr o Aberdaron, yn of yno cyn 1841 ac yn dal yno dros ugain mlynedd yn ddiweddarach. Yn y cyfnod hwn roedd y gweithfeydd plwm yn cyflogi gof eu hunain i weithio yn y gweithfeydd ac efallai mai dyma’r rheswm nad oedd gof wedi ei gofrestru yn yr Efail ar ôl 1861. Wedi hyn, cartref i deuluoedd mwynwyr a gwas fferm fu’r Efail. Teulu Laura Jones o Langian oedd y diwethaf i gael eu rhestru yma ym 1891.

Dros y ffordd i’r Efail mae Minffordd. Plas Cyndyn oedd yr enw gwreiddiol, a dyma mae trigolion hŷn y pentref yn ei alw hyd heddiw, er bod yr enw wedi ei newid ers dros ddau gan mlynedd.

Ar y chwith wrth droi am lwybr Bryn Cras mae Sunny Side. Tan tua 1891 Tŷ Bach oedd enw’r bwthyn.

Mae ein taith wedyn yn mynd dros Bryn Cras a chychwyn i lawr ’R Ochor heibio Bys Coch, Fronallt erbyn heddiw. Ymlaen i lawr yr allt heibio chwarel y Fron a deuwn at Tŷ Clap ar y gornel, Rock Lea erbyn heddiw.


Rhes gefn: Idwal Cilan Fawr, Ifan Castell Cilan, Goronwy Rees, Alun Ty’n Morfa, Griffith Bryn Celyn, Robin Nanbig, William Hugh, Bobby Sarn Villa, Mary Ann Terrace.

Ail res: Polly Jones, Terrace, Abersoch, Athrawes; Peggy Garth, Owen Ty’n Ffynnon, Richie Sarnlys, William John ‘Rochor, Griffith Gwyrfai Ty’n Ffos, Megan Bryn Rodyn (Tanybryn), Kitty Edwards, Gwyneth Tŷ Clap (Rocklea) 

3ydd rhes: Mary Pantgwyn, Gretta Fairview, Janet Bryngwynt Cilan (Dwylan), Katie Ellis Tai Capel, Gwyneth Hotel St Tudwals, Annie Sarah Ty’n Ffoes, Beti Brynteg, Mary Goleufryn. 

Rhes flaen : Huw Ellis, John Owen Penygroes Cilan, Tudwal Humphries Bwlchclawdd, Evan Hughes Pen Sarn

O dan y llun uchod o Ysgol Sarn Bach o ddechrau’r ganrif diwethaf enwir Gwyneth Tŷ Clap. Felly roedd yr enw yn cael ei ddefnyddio, neu o leiaf ar gof, rhyw ganrif yn ôl.

Er bod tai megis Plas yn Morfa, Tŷ Mawr, Tŷ Fadog a’r Ty’n Dalar gwreiddiol wedi diflannu, mae eu trigolion yn cael eu henwi yng nghofrestrau bedydd a chladdu’r Eglwys cyn belled yn ôl â chanol y ddeunawfed ganrif ac felly enwau eu cartrefi’n cael eu cadw.

 


Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...