Adeiladwyd y Rheithordy gwreiddiol oddeutu 1805 gan y Parchedig William Lloyd , rheithor plwyf Llanengan. Yng nghofnod bedydd yr Eglwys ym 1823 a 1824 mae William Lloyd yn bedyddio ei ddau blentyn, Hugh a Margaret, ac yn nodi eu cyfeiriad fel Cae Prior. Does yr un cyfeiriad arall at Gae Prior. Ai hwn tybed oedd enw gwreiddiol y Rheithordy? Ychwanegwyd darn sylweddol i ochr dde’r tŷ ym 1860 drwy waith Henry Kennedy, pensaer dylanwadol a fu’n ymwneud ag adeiladu Ysgol yr Eglwys yn y pentref. Dyblodd y gwaith hwn faint y tŷ. Oherwydd y gorffeniad a roddwyd i’r adeilad, cofrestrwyd ef gan Cadw fel adeilad Gradd 2 sy’n cynrychioli rheithordy o’r 19G a gadwodd ei gymeriad gwladaidd, Eidalaidd. Daeth ei amser fel cartref rheithor y plwyf i ben ym 1976 pan y’i rhoddwyd ar y farchnad a’i werthu yn fuan wedyn, ond mae’r enw ‘The Rectory’ wedi ei gadw.
Ffynhonnell
Cadw
