Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gymydmaen[1] yn deall yr angen i barchu’r byd oedd yn gaffaeliad ac yn fygythiad iddynt. Dysgu amdano oedd cyfrwng byw neu farw. A’r hyn na ddeallent? Perthynai hwnnw i diriogaeth y duwiau - y bydysawd ymhell ac agos, byd natur o’u hamgylch beunydd. Dyma’r diriogaeth a reolai eu bywyd. Ynddo roedd duw a duwiesau’r haul a’r lloer, y môr a’r mynydd, dŵr ac ymborth. Ac i’r duwiau hyn rhaid oedd diolch.

Roedd y Celtiaid cynnar, fel sawl diwylliant arall, yn enwi eu duwiau, megis Sulis, duwies y ffynhonnau, a dyna’r dwyw/duwies yn ‘Dwyfawr’ a Dwyfach. Addolwyd duwies y dyfroedd am roddi’n hael hanfod bywyd, am gynnig y dŵr o’r tir i’n disychedu a’n hymgeleddu. Weithiau gwelwyd bod dŵr ambell fan yn lles i ryw anhwylder neu’i gilydd oherwydd y cynhwysion oedd ynddo. Diolchwyd am y fendith hon yn ddefosiynol, dros ganrifoedd lawer.

Does ryfedd felly i ddŵr fod yn hanfod bedyddio, cysegru a phuro ym mhob rhan o’r byd, a phan ddaeth y Cristnogion cynnar i’r fan hon yng Nghymydmaen, a chanfod addoli’r ffynnon arbennig hon, aethant ati’n araf i ddarbwyllo’r llwythau ‘paganaidd’ ac i efengylu, a thros amser ailenwyd y ffynnon, a’r llan a godwyd yn gysgod iddi.[2] Dyma’r dechreuad i Lanengan fel y gwyddom amdano: y ffynnon iachusol, y daethpwyd i’w hadnabod fel Ffynnon Engan; y dŵr sanctaidd, rhodd Duw i braidd Ei Eglwys.

Gyda threigl y blynyddoedd rhwng 11G–16G cryfhaodd gafael yr Eglwys ar rinweddau’r ffynnon yn ogystal ag ar fywydau’r gymdeithas yn gyffredinol. Dyma’r Canol Oesoedd hwyr pan bwysleisid pwysigrwydd cadw at ofynion yr Eglwys i ddilyn y llwybr cul at gadwedigaeth - neu Uffern a’i dân oedd yn dilyn. Dyma gyfnod y pererindota i brynu maddeuant am bechodau bywyd drwy aberthu i gyrraedd mannau cysegredig, ac i Lanengan y daethant yn niferoedd i gyfrannu o’r ddefod i ymolchi yn y ffynnon neu i yfed o’i dŵr a gweddïo i’r sant i eiriol drostynt. Poblogeiddiwyd y cysegredig gan hanesion am fywydau’r saint i annog ymweld â chrair a beddrod – a thalu am y fraint. A dyma’r cyfnod, y 13G, pan mae arbenigwyr heddiw yn gallu gweld tebygrwydd rhwng y gwaith maen sy’n amgau ffynnon Engan a’r gwaith ym muriau’r Eglwys sy’n dyddio o’r cyfnod hwn.

A diolch i’r ffynnon a’i dyfroedd rhinweddol ac i hanes y sant fu mor ddylanwadol, gwelwn ganlyniad i brysurdeb y pererindota yn yr ailadeiladu ddilynodd ddiwedd y 15G a dechrau’r 16G. Casglwyd digon o arian yng Nghyff Engan i godi’r adeilad presennol, sy’n llawer mwy na’r disgwyl mewn pentref bychan yng Nghymydmaen.

Ond daeth tro ar fyd gyda chyfraith gwlad 1534 pan benderfynodd Harri VIII dorri cyswllt canrifoedd rhwng Prydain a’r Pab a chyhoeddi mai ef oedd pennaeth yr Eglwys yng Nghymru a Lloegr mwyach. Fel canlyniad rhaid oedd ymwrthod â defodau’r Eglwys Babyddol, y creiriau a’r cysegrfannau gan gynnwys y ffynhonnau. Gwaharddwyd ymweld â hwy a dinistriwyd y gwaith maen o’u hamgylch. Ond er i glerigwyr Llŷn ymddangos fel pe baent am gydfynd â’r newidiadau, parhau yn ddigon tebyg i’w harfer wnaeth pobl gyffredin yr ardal yn ôl llythyr ddiwedd yr 16G[3] a nododd i’r Cymry ‘still goe in heapes on pilgrimage to the wonted welles and places of superstition...’

Ond er i bellter Llŷn arafu dilyn unrhyw orchymyn newydd o Lundain neu Landaf, fe ddaeth yn ei dro ddylanwad y Piwritaniaid yn dilyn cyfnod Cromwell – Piwritaniaid oedd am i’r Eglwys bellhau llawer mwy oddi wrth arferion Pabyddiaeth. Sefydlwyd achosion anghydffurfiol ym Mhwllheli a Llangïan yn ail hanner yr 17G, gyda thranc y ffynhonnau ar y gorwel o’r herwydd. Ofergoel ac eilunaddoliaeth oedd ymweld â ffynnon yn ôl y farn ddiweddaraf, ond yng Nghymru ym 1646 nodwyd yn feirniadol bod yr hen arferion yn dal eu tir.[4]

Dirywio wnaeth safonau’r Eglwys Wladol gydol y 18G fodd bynnag, gan greu cyfle i’r anghydffurfwyr gryfhau eu gwahanol enwadau. Y Methodistiaid Calfinaidd sefydlodd eu hawl i addoli ym mhlwy Llanengan o ganol y 18G ymlaen ac yn ystod y canrifoedd hyn, yn enwedig fel y grymusodd y Methodistiaid, roedd dealltwriaeth clir mai ofergoel annuwiol oedd ymweld â ffynhonnau, fel nodwyd yn y Gyffes Ffydd. Mae’n debyg felly mai dirywio o dipyn i beth wnâi Ffynnon Engan, er i rai barhau i gredu yn ei grym i iacháu.

Fe fyddai’r ffynnon, fodd bynnag, wedi parhau i gyflenwi angen teuluoedd Tan y Fynwent ac eraill yn y pentref yn feunyddiol hyd nes i Gronfa Ddŵr Cwm Ystradllyn agor yn yr 1950au a chynnig cyfleustra dŵr tap i’r trigolion. Ym 1907 cyfeiriwyd at ddefnyddio dŵr y ffynnon i fedyddio[5] a rhoddir y dewis hwn i rieni hyd heddiw. Bron i ganrif yn ddiweddarach, ym 1996 atgyweiriwyd ei muriau a’i chofrestru yn heneb Gradd II. Gwnaed y gwaith hwn drwy AHNE Llŷn (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) a welodd werth cynnal nodwedd naturiol arbennig a ddenodd sant i greu cymdeithas.


[1] Cyn aildrefnu ffiniau Plwyf Llanengan, yng nghwmwd Cymydmaen y lleolid y pentref. Heddiw honnir iddo fod yn rhan o Gafflogion. Atlas Sir Gaernarfon, T M Bassett a B L Davies (goln) Cyngor Gwlad Gwynedd, 1977, t 68

[2] The Ancient Wells of Llŷn, Roland Bond, Carreg Gwalch, 2017, t 51

[3] Op cit t 69

[4] Op cit t 71

[5] Op cit t 133

Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...