Eglwys Einon Sant

Wyneb gogleddol Eglwys Llanengan


Ar wahân i olion y bryngaerau o’n hamgylch ym mhlwy Llanengan, yr eglwys yw adeilad hynaf yr ardal, sy’n tystio i gymuned fechan ddewis aros a byw yma ganrifoedd yn ôl. Efallai bod cymuned yma’n barod yn nyddiau pell y bumed ganrif ond pan sefydlwyd ‘llan’ yma yn y chweched ganrif, yn y flwyddyn 540, gwyddom i ystyriaethau Cristnogol fod yn llywio’r trefniadau. ‘Darn o dir’ yw ystyr wreiddiol ‘llan’ (fel perllan a gwinllan) ac wedi cael hawl i’w darn tir, codai’r Cristnogion cynnar eglwys fach arno. Ymhen amser, cysylltid y tir â’r eglwys ac â’r sawl a’i sefydlodd gan greu enw penodol i’r llecyn. Dyma Lanengan felly. Medd Enid Roberts:

Engan yw’r ynganiad lleol am Einion, brenin yr ardal a roddodd dir, efallai, i sant anhysbys; ond nid yw’n amhosibl i’r brenin ei hun, yn ei hen ddyddiau, i geisio gwneud iawn am ei bechodau, droi at grefydd a mynd yn ‘sant’ h.y. iddo gysegru ei fywyd yn llwyr i wasanaethu Duw.[1]

Roedd teulu Einion yn un o’r teuluoedd a ddaeth o’r Hen Ogledd i ogledd Cymru rhywbryd tua chanol y bumed ganrif mae’n debyg, i amddiffyn yr ardal rhag y Gwyddyl oedd yn bygwth goresgyn. Arweinyddion cymdeithas oedd y teuluoedd hyn a ymfudodd i warchod eu cyd-Gymry – teuluoedd Deiniol, Gildas a Cadfan er enghraifft - a ddylanwadodd gymaint ar Gymru’r cyfnod yn eu tro.

Ochr ddeheuol yr Eglwys, y ddwy fynedfa a'r tŵr yn wynebu Enlli
Roedd Einion yn fab i Owain Danwyn ac yn frawd i Seiriol. Yn ôl traddodiad roedd yn dywysog dros ardaloedd Llŷn a rhan o Fôn gan mai ef sefydlodd gymuned grefyddol Penmon a’i rhoi yng ngofal ei frawd Seiriol ynghyd â thir ac eiddo. Estynnodd wahoddiad i Cadfan i Lŷn i sefydlu cymdeithas debyg ar Enlli. Roedd yn gefnder i Maelgwn Gwynedd a’r ddau yn wyrion i Cunedda Wledig. Mewn cae yng Nghricieth rai blynyddoedd yn ôl, daeth ffermwr o hyd i garreg ac arni’r geiriau Lladin, SOGILL ENNII DECANI LEIN, sef Sêl Einion Deon Llŷn. Ar ganol y garreg mae llun o bysgodyn – symbol cynnar Cristnogaeth.[2] Dethlid Gŵyl Einion ar 9 Chwefror yng nghalendr yr Eglwys. Ai’r dyddiad hwn oedd dydd ei farw dybed? 

Dylanwad arall ar y Cristnogion cynnar oedd mynachaeth a gyrhaeddodd Gymru o’r Dwyrain Canol drwy Gâl, a’r Iwerddon eto. Hunan-ddisgyblaeth lem, byw syml, ac unigedd oedd nod sawl un, a thynfa’r gorllewin yn eu hudo.[3] Roedd ynysoedd yn ateb gofynion y Cristnogion, ac o Lanengan gwelwn Enlli yn addo’r hedd a ddeisyfent. Sefydlwyd llan, felly, a heb fod ymhell byddai ‘cell fach [i’r sant] fyw ynddi...[ac] ymhen amser byddai nifer o gelloedd o amgylch yr eglwys fechan lle’r oedd pawb yn cydaddoli.’[4]

Daw’r gair ‘cell’ o’r Lladin ‘cella’, sef ystafell fechan. Cawn ‘cellarium’ hefyd yn golygu storfa fwyd. Dybed ai o ‘cell’ a ‘cellarium’ y daw’r enw Selar yn y bôn – oedd yn enw ar dŷ dros y ffordd â’r Eglwys, a elwir heddiw’n ‘The Rock’, ac mai yma y bu gweithwyr y llan yn byw ar un adeg? Mae Lôn Selar heddiw yn arwain i gyfeiriad y tŷ hwn. Cofiwn fod dylanwad Rhufain yn drwm ar gymdeithas ym Mhrydain am ddegawdau maith wedi cilio o’r ymerodraeth, ac mai Lladin oedd iaith yr Eglwys ac iaith y cerrig coffa cynnar a welwn yn Llŷn, megis carreg Llangïan sy’n coffáu MELI MEDICI/ FILI MARTINUS – Melus y meddyg, mab Martinus.[5]

Ond heddiw nid oes ôl y gell na’r Eglwys wreiddiol, a fyddai wedi bod yn adeiladau syml iawn. Rhywbryd yn y Canol Oesoedd, a’r sefydliadau hyn yn ffynnu, codwyd adeilad mwy sylweddol o furiau carreg, a’r olion cynnar hyn bellach yn rhan o fur gogleddol yr Eglwys bresennol. Adeilad a godwyd tua diwedd y 15fed ganrif yw’r un a welwn heddiw, a’r tŵr yn ddiweddarach, ac arno’r dyddiad uwchben y drws gorllewinol - 1534 - ynghyd ag arysgrif yn nodi y codwyd y clochdy bychan er clod i Einion Sant, Brenin Cymru, Apostol y Scotiaid’. [6]

Gwnaed archwiliad pensaernïol manwl o’r Eglwys ar gyfer Comisiwn Brenhinol, a gyhoeddwyd ym 1964 - An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarfonshire. [7]

Nodir yma i’r Eglwys fod yn gyrchfan pererindota poblogaidd yn y Canol Oesoedd hwyr a hynny efallai am iddi fod yn nodedig am ddeubeth: oddi yma y byddai pererinion oedd yn anelu at Enlli, wedi dilyn y llwybr deheuol hir o gyfeiriad Tywyn, yn cael eu cip cyntaf o’r ynys; ac yma roedd dwy ffynnon y credid i’w dyfroedd leddfu blinderau’r corff a chynnig iachȃd o fod yn yfed o’r naill a throchi yn y llall.[8]

Roedd cyrraedd Llanengan felly yn cynnig cysur i gorff ac enaid pererinion blinedig yr oes a fu. Ac yn dilyn chwalfa Harri’r VIII o fynachlogydd ac eglwysi ei deyrnas, derbyniodd Eglwys Llanengan greiriau gwerthfawr Abaty’r Santes Fair ar Enlli gan gynnwys y ddwy gysgodfa (sgrîn) o dderw cerfiedig sy’n gwahanu’r gangell a chorff yr Eglwys, crog-lofft o’r un gwneuthuriad, a deuddeg sedd ‘miserere’ yn wynebu’r ddwy ffenestr ddwyreiniol hardd.

Y sgrîn hynafol yn gwarchod y gangell ddeheuol

Ger y drws deheuol cawn Gyff Engan sy’n gist dderw hirsgwar a gerfiwyd o un boncyff praff rhywdro yn y Canol Oesoedd mae’n debyg. Mae’r strapiau haearn o’i hamgylch, yr hoelion cryfion ar gaead a wyneb, y ddau glo trwm, a’r bar haearn hir yn waharddiad clir i unrhyw demtasiwn i ddwyn yr arian a dderbynnid drwy’r hicyn a ddenai gyfraniad pob ymwelydd.

Rhaid sôn am y tair cloch y dywedir iddynt hwythau ddod o Enlli er bod 1624 yn ddyddiad ar un a 1664 ar y ddwy arall, fyddai’n llawer hwyrach na’i dymchwel yn yr Abaty. Ond efallai mai dyna ddyddiadau eu gosod yn nhŵr Eglwys Llanengan, oedd yno’n barod wrth gwrs.


Un o’r tair cloch

Ceir manylder yn yr Inventory am y trawstiau hardd fry uwchben sy’n cynnal to’r corff gogleddol a’r ystlys ddeheuol, [9] ynghyd â’r bwâu a’r colofnau urddasol sy’n rhannu’r ddwy ochr yn gytbwys. Gyda threigl y blynyddoedd bu adfer a thrwsio wrth reswm, yn arbennig felly ym 1847, yn y 1930au a rhwng 1968-72.  A dyma ein trysor ni heddiw – canolbwynt y pentref a’n plwyf. Yma i dawelwch cornel o Lŷn y denwyd disgyblion y grefydd a gydiodd ynom fel cenedl, i’n cysuro a’n cynnal drwy air a gweithred. Ac yma y down ninnau yn ein tro yn gynulleidfa neu’n unigol i gydganu, i gydwrando ac i ymdeimlo â heddwch a rhin y llecyn hwn er ein lles. Mae’r Eglwys a’r egwyddorion yn parhau.

Y corff gogleddol, hynaf - y trawstiau a'r bwâu urddasolz

[1] A’u Bryd ar Ynys Enlli, Enid Roberts, Y Lolfa, 1993, t 19

[2] Andrew Jones, Nodiadau Llwybr Cadfan, 27 Mai 2023

[3] ‘In common with other Celtic outposts in Ireland, Scotland and Brittany, there’s an inexplicable yet irresistible influence that draws people westward to Llŷn.’ Every Pilgrim’s Guide to Celtic Britain and Ireland, Andrew Jones, Canterbury Press, 2002, tt 17-19

[4] Enid Roberts, op cit t 23

[5]Diddorol dros ben’ oedd barn yr Athro Idris Foster am yr arysgrif hwn gan ‘na chofnodir medicus...ar unrhyw garreg arall ym Mhrydain.’

Atlas Sir Gaernarfon, T M Bassett a B L Davies (goln) Cyngor Gwlad Gwynedd, 1977, t 58

[6] Y Ddwylan, A summary of the history of the Churches of Llanengan and Llangîan, Rev W L Jones, Pwllheli, undated, t 4

[7] Royal Commission on Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol III, West, 1964, tt 43-48

[8] Andrew Jones, op cit t 34

[9] Op cit tt 45-6


Llun gan Susan Evans


Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...