Ty’n Llan
Mae cofnod yng nghofrestr yr Eglwys o fedydd Anne, merch William Roberts,
tafarnwr Ty’n Llan ym 1765 yn awgrymu mai dyma dafarn hynaf y pentref.
Mae Ty’n Llan ei hun bellach wedi ei
restru fel adeilad gradd dau gan Cadw o dan yr enw Gorffwysfa. Dyma, mae’n
debyg, gartref y rheithor lleol cyn i’r Rheithordy newydd gael ei adeiladu ym
mlynyddoedd cynnar y 19G.
Ar Fap y Degwm 1839
enwir Henry Griffiths, ffermwr, fel perchennog Ty’n Llan a bu’r teulu yma’n
berchnogion hyd 1871 o leiaf. Mae’n debyg mai dyma pryd y rhannwyd y tŷ yn ddau
a galw rhan yn Gorffwysfa.
Yn y cyfnod rhwng 1871 a 1881 mae poblogaeth y plwyf a’r
pentref ar gynnydd oherwydd y gofyn am weithwyr yn y gweithfeydd mwyn. Bryd
hynny mae tri theulu yn cartrefu yn Nhy’n Llan, teuluoedd i gariwr,
mwyngloddiwr a gof.
Erbyn 1891 teulu
Richard Evans sydd yn byw yno. Daeth Richard Evans i Lanengan gyda’i dad,
Richard John Evans o Lanfihangel Genau’r Glyn, dyn a fu’n oruchwyliwr ar waith
Tanrallt. Bu Richard y mab hefyd yn gweithio yn y gwaith plwm fel cariwr. Erbyn
1891 ef oedd casglwr trethi’r plwyf. Y Richard Evans hwn oedd hen daid y
diweddar Hugh Evans, Tan y Fynwent.
Wedi i deulu Richard
Evans symud i Bantgwyn, Sarn Bach, teulu Martha Freeman, Siop Newydd fu’n byw
yn Nhy’n Llan ac ym meddiant un o’r teulu hwn mae’r tŷ hyd heddiw.
Y Sun
Mae’r adeilad lle
mae’r Sun heddiw wedi ei ddisgrifio ar Fap y Degwm 1839 fel ‘cottages and
Smithy’ o’r eiddo John Parry, Towyn, gyda Thomas Owen, gof, yn denant. Yng
Nghyfrifiad 1841 enwir Elinor Williams, 60 oed, fel ‘publican’ y Sun, gyda
Thomas Owen yn of ym Mhen y Gongol. Ond yng Nghyfrifiad 1851 does dim sôn am y
Sun. Mae’n bosib mai’r un adeilad yw’r Sun a Phen y Gongol a bod Pen y Gongol
wedi dod yn dafarn y Sun yn y diwedd. Erbyn 1861 mae Ann Griffith a’i merch yn
rhedeg ‘public house’ ym Mhen y Gongol, ond erbyn 1871 mae’r enw wedi newid i'r
Sun Tavern, gyda John Evans, gof, a’i wraig Margaret yn rhedeg y tŷ.
Erbyn 1881 Griffith
Griffiths yw’r perchennog, saer coed wrth ei alwedigaeth, gŵr fu’n crwydro o
gwmpas y wlad, wedi priodi merch o Wlad-yr-haf, gyda thri o’i blant wedi eu
geni yn Lerpwl. Does dim yn dweud fod y Sun yn agored fel tafarn yn y cyfnod
hwn er bod lletywr yno a morwyn yn cael ei chyflogi. Wedi hyn, helyntion
ariannol fu hanes y Sun, ac ar Fehefin 24ain, 1885 fe’i gwerthwyd
mewn ocsiwn yng Ngwesty’r Tŵr, Pwllheli gan yr arwerthwr Robert Parry. Y prynwr newydd oedd Robert Williams, mab
Pwlldefaid, Aberdaron, cysylltiad teuluol a barodd am gan mlynedd a mwy gyda
thafarn y Sun wedi hyn.
White Horse
Dechrau eto efo Map y Degwm lle disgrifir yr adeilad lle mae
White Horse fel ‘house and offices’ a’r
cwbl yn eiddo i Richard Lloyd Edwards, Stad Nanhoron. Owen Griffiths, llongwr o
Aberdaron, yw’r tenant bryd hyn gyda’i wraig Jane, merch Benjamin Jones a
gadwai siop yn Nhy’n Ffos i fyny’r ffordd. Yng Nghyfrifiad 1841 Tyddyn Llan
yw’r enw ac Owen Griffiths yn bennaeth. Erbyn 1851 mae Jane Griffiths yn byw yn
Nhyddyn Llan, yn wraig weddw ac yn cadw morwyn.
Wedi marw Jane Griffiths ym 1857 mae Elias Roberts yn cael
trwydded i redeg tafarn, ac mae ef a’i deulu yn symud i mewn. Enw’r dafarn bryd
hyn yw Cross Keys, enw gyda chysylltiad crefyddol. Ym 1871 mae’r enw White
Horse yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf.
O 1871 ymlaen mae
White Horse a Thyddyn Llan yn ddau dŷ gwahanol, White Horse yn dafarn a Thyddyn
Llan yn gartref i Evan Williams y crydd a’i deulu. William ac Ellen Parry sydd
yn y dafarn, William yn was fferm yn byw yn rhif 7 Tai Morfa cyn symud i fod yn
dafarnwr.
7 Tai Morfa
Bu farw William Parry ym 1877, ond bu Ellen ei wraig yn
dafarnwraig yno hyd fis Medi 1886 pryd mae White Horse yn cael ei roi ar y
farchnad.
Prynwyd y dafarn gan
Hugh Hughes, mab y Cefn, a’i wraig Jane. Bu farw Hugh Hughes ym mis Chwefror
1888. Priododd Jane am yr ail waith ym mis Ionawr 1889 â Henry Roberts, saer
maen o Langian, ac o 1891 ymlaen Henry Roberts sy’n cael ei enwi yn y cyfrifiad
fel pennaeth a Jane yn rhedeg y dafarn.
Mae hyn yn parhau hyd Chwefror 1913 pan mae’n bryd adnewyddu
trwydded y White Horse yn Llys Trwyddedu Pwllheli. Erbyn hyn mae mudiadau
dirwest a’r ymneilltuwyr wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y ddiod feddwol. Yn y
llys dywedodd William George, oedd yn ymddangos ar ran y Mudiad Dirwest, y
rhoddwyd rhybudd o wrthwynebiad i adnewyddu trwydded White Horse oherwydd nad
oedd angen dwy dafarn yn Llanengan bellach a’r boblogaeth wedi lleihau mor
sylweddol wedi cau’r gweithfeydd plwm. Yna, cyflwynodd Abel Williams, Talafon
ddeiseb yn erbyn adnewyddu’r drwydded wedi ei harwyddo gan ymneilltuwyr yr
ardal. Wedi ychydig o sylwadau gan Henry Roberts, White Horse penderfynwyd
diddymu’r drwydded a gyrru’r mater i’r Awdurdod Iawndal.
Erbyn heddiw, wrth gwrs, dim ond tafarn y Sun sydd ar ôl
yn y pentref.
Ffynhonnell
Yr Utgorn, 2
Rhagfyr 1913