Teilwriaid a gwniadwragedd

 

Yn y 19G pan roedd teithio’n llawer anos nag y mae heddiw, roedd cael teiliwr neu wniadwraig yn byw yn y gymdeithas yn gwneud bywyd pentref gwledig fel Llanengan yn llawer haws.

Un o’r bobl werthfawr hyn oedd Margaret Jones, Ty’n Ffynnon, a fu yn wniadwraig yn y pentref trwy gydol ei hoes. Fe'i ganwyd yn yr Efail (Gwêl y Don heddiw) ym 1826, yn ferch i David a Mary Jones. Teiliwr oedd ei thad, yn ŵr crefyddol a fu’n ddiacon yn hen Gapel y Bwlch am flynyddoedd. Cyn cyrraedd Ty’n Ffynnon bu David Jones a’i ferch yn byw ac yn gweithio yn yr Efail a’r Cottage ar Lȏn Bwlch Llan. Yr arferiad bryd hynny oedd i’r merched a’r plant fynd at y wniadwraig i’w mesur am ddilledyn newydd a dyna ddigwyddai yn Nhy’n Ffynnon. Tra byddai Margaret yn gwnïo roedd Ellen ei chwaer yn cadw siop fechan drws nesaf yn Nhy’n Ffynnon Isaf.

Symudodd y ddwy chwaer i fyw i Dŷ Capel y Bwlch ym 1891 wedi i Ellen briodi ag Evan Evans, blaenor a chofnodydd dygn y Capel. Yn fuan wedi symud dirywiodd iechyd Margaret Jones ac wedi gwaeledd hir bu farw ym 1902 yn 76 mlwydd oed. Ni fu erioed yn briod ac fe’i claddwyd ym medd ei rhieni ym Mynwent yr Eglwys.

Bu merched eraill yn gwneud dillad yn y pentref, am gyfnodau byrrach na Margaret Jones. Yn eu plith Mary Griffith Bwlch Gwyn, oedd fel Margaret Jones yn ferch i deiliwr, a Laura Jones, Glanmorfa, hithau’n ferch i’r teiliwr William Jones. Bu farw’r wniadwraig Jane Williams, chwaer Jac Ifan crydd Tyddyn Llan, yn eneth ifanc 26 oed ym 1883 ac ysgrifennwyd pennill coffa iddi gan Ellen Hughes, Tan y Fynwent. Am bymtheng mlynedd bu Ann Roberts yn gwneud a gwerthu hetiau i ferched o’i chartref yn Tan y Ffordd cyn iddi hithau farw’n wraig ifanc ym 1886.

Glanmorfa

Mae Salmon Jones, Ty’n Pwll, tad Wil Freeman y garej, wrth ysgrifennu am ei blentyndod yn nodi mor anodd oedd cael gafael ar deiliwr yn ei gartref. Yr arferiad oedd i’r teiliwr gael ei alw i dŷ’r cwsmer i wneud y gwaith. Cofiai Salmon Jones ddau deiliwr bryd hynny, a’r ddau yn rhai da, John Griffith, Bwlch Gwyn a William Jones, Glanmorfa. Rhyngddynt bu’r ddau yn gwasanaethu’r pentref fel teilwriaid am yn agos i gan mlynedd. Mab Bryn Celyn Bach, Cilan oedd John Griffith a symudodd tua 1880 gyda’i deulu o `R Ochor i Bwlch Gwyn lle mae’i deulu yn dal i fyw hyd heddiw. Fe’i claddwyd ym Mynwent y Bwlch ym 1923. 

Roedd William Jones, mab John Jones Machroes, Bwlchtocyn y drydedd genhedlaeth o deilwriaid. Priododd ag Anne Williams, merch yr Efail, ym 1846 a bu’n gweithio fel teiliwr yn 11, Parciau Morfa (Garreg Wen erbyn heddiw). Erbyn 1861 ymgartrefodd William Jones a’i deulu yn Glanmorfa, ac yma bu’n byw tan ei farw ym1898.

Bu ei ferch ieuengaf, Laura, yn ei gynorthwyo fel gwniadwraig am flynyddoedd. Claddwyd y teulu ym Mynwent y Bwlch.

Erbyn diwedd y ganrif, gyda dyfodiad y trên a’r modur yn hwyluso symud o gwmpas, daeth y galw am gryddion, gwniadwragedd a theilwriaid i ben. Yn eu dydd bu’r crefftwyr hyn yn bwysig iawn yn eu cymdogaeth ond bellach daeth tro ar fyd a chollwyd y sgiliau gwerthfawr.

Ffynhonell
Nodiadau Salmon Jones

 

Tai


Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...