Gofaint

 

Richard Evans, Rocklea, prentis gof i’w ewythr, J R Evans - Johnie ’Refail

Gwnaeth John Evans, mab Cae Pwllheulog,  Sarn Bach ei brentisiaeth fel gof ym Mryn Celyn, Cilan gyda Hugh Williams, gof o Sarn Mellteyrn. Yna, wedi priodi Jane Williams ym 1855, symudodd i fyw i gartref ei wraig ym Mhengamfa, Llanengan. Gof mae’n galw ei hun yn y cyfrifiad.  Does dim sicrwydd lle yn union roedd yn gweithio, ond doedd Pengamfa ond ychydig lathenni o’r Efail (Gwêl y Don heddiw)

 Yn yr Efail yr adeg honno roedd William Evans, gof yn enedigol o Aberdaron. Bu yno am dros chwarter canrif. Ef yw’r unig of a gofnodwyd yn yr Efail.  Wedi ei farw bu’r lle yn gartref i wahanol deuluoedd, a does dim sȏn amdano ar ȏl Cyfrifiad 1891.

Wedi colli ei wraig gyntaf ym 1868, ail-briododd John Evans ym 1870 gyda Margaret Parry, Trwyn Garreg, ac erbyn Ebrill 1871 maent wedi symud i fyw i dafarn y Sun. ‘Cottages and smithy’ y gelwir adeilad y Sun ar Fap y Degwm 1839 gyda Thomas Owen, gof, yn denant. Felly gellid tybio fod rhyw fath ar efail yno. Fel gof mae John Evans yn cofrestru ei hun ym 1871, ond mae stori fach yn y  North Wales Chronicle yn dangos ei fod yn rhedeg tafarn y Sun yr un pryd.

Margaret Evans y Sun ac Ellen Parry, tafarnwraig y White Horse, oedd o flaen y fainc ym Mhwllheli, wedi bod yn ymladd, a’r naill yn cyhuddo’r llall o ddechrau’r helynt. Dechreuodd y ffrwgwd pan glywodd Ellen Parry fod dyn oedd mewn  dyled o naw punt iddi yn yfed yn y Sun.  Aeth yno’n syth a gofyn i fachgen ifanc roi neges i'r dyn hwnnw yn gofyn iddo ddod allan. Ond yn hytrach na’r dyn, John Evans ei hun ddaeth i’r drws a gofyn iddi fynd  adref a pheidio creu helynt. Wel, doedd Ellen Parry ddim am gymryd hynny ac aeth pethau o ddrwg i waeth. Codwyd lleisiau a phan glywodd Margaret Evans y sŵn, gwaeddodd ar ei gŵr i ddod i’r tŷ.

Mae’n debyg i Ellen Parry fynd yn ei hôl yr eilwaith ac yn ôl ei stori wrth y fainc roedd John Evans wedi ei chyfarfod ar y ffordd a’i thynnu i mewn drwy ddrws y Sun gyda help ei wraig, a’r ddau wedyn yn ei hatal rhag mynd allan. Tystiolaeth Cwnstabl Robert Jones, y plismon lleol, oedd ei fod wedi gwneud ymholiadau ond bod pob cwsmer yn y lle wedi gwadu gweld unrhyw  helynt. Erbyn hyn roedd y fainc wedi cael llond bol a thaflwyd  y cwbl allan gyda rhybudd ar i bawb gadw’r  heddwch. Am y dyledwr, does dim sȏn amdano wedyn a does neb a ŵyr a gafodd Ellen Parry ei naw punt yn ôl. 

Pan mae Thomas, trydydd plentyn John Evans, yn cael ei fedyddio yn yr Eglwys ym mis Rhagfyr 1875, cyfeiriad y teulu yw Tai Cae Bach, Llanengan.  Erbyn y bedydd nesaf, sef Margaret, maent ym Mryn Bychan, Sarn Bach ac yn ‘Refail Sarn Bach mae’r teulu nes daeth linell y gof i ben. Y gof olaf oedd Richard Evans, Llwyndu , neu Dic Rocklea fel y cȃi ei adnabod yn Llanengan.

Gyda’r gweithfeydd mwyn yn yr ardal roedd ambell i of arall, dynion fel Richard Jones, yn byw yn Tan y Capel (ar dir y Bwlch) ym 1841-1851, efallai’n gweithio yn chwarel haearn Tan yr Orsedd. Am gyfnod o gwmpas 1881 bu’r gof John Humphreys yn byw yn Ty’n Llan. Roedd eu teuluoedd gyda’r dynion hyn,  sy’n awgrymu eu bod yn bwriadu setlo yn yr ardal, ond gwaith digon ansefydlog oedd yn y gweithfeydd mwyn ar y cyfan 


Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...