Cryddion

John Thomas, crydd Gongl Gron (1846-1922) 

Yn ail hanner y 19G doedd dim prinder cryddion yn Llanengan. Yn ôl y cyfrifiad roedd o leiaf saith yn y pentref ei hun rhwng 1851 a diwedd y ganrif, pob un ohonynt yn ddynion lleol ac wedi dilyn y grefft y rhan fwyaf o’u hoes. Efallai mai John Thomas, Trwyn Garreg ac wedyn Gongl Gron fu fwyaf dylanwadol ohonynt.


Mab Y Llain oedd John Thomas, bwthyn nad oes ond ei adfail erbyn hyn yn y cae heb fod ymhell o Gwtar (Awelfor erbyn heddiw). Priododd John Thomas ag Elizabeth Freeman o Lanbedrog ac ym 1851 roedd yn grydd yn Nhrwyn Garreg.


Symudodd i Gongl Gron erbyn 1861 lle bu’n byw tan ei farwolaeth ym 1876. Mae cofnod fod John Thomas, nid yn unig yn grydd, ond yn enwog am ei allu fel athro morwriaeth, a bu’n dysgu egwyddorion morwrol i lawer o’r bechgyn lleol oedd a’u bryd ar fynd i’r môr. Claddwyd ef ym Mynwent yr Eglwys.

Dysgodd ddau o’i feibion, John a Robert, i ddilyn ei grefft. Cawn beth o’u hanes yng nghyfrol Janet Roberts, O Ben Llŷn i lle bu Lleu, wrth ddisgrifio’i phlentyndod yn yr ardal.

Esgidiau hoelion mawr a rhai dipyn ysgafnach, o waith John Thomas a’i frawd Robert Thomas, cryddion ym mhentref Llanengan, a wisgai’r mwyafrif ohonom. Byddwn wrth fy modd yn cael mynd i’r gweithdy yn y Gongl Gron i fesur fy nhroed. Roedd pren troed o faint gwahanol ganddo a’r rheiny yn rhes ar silff yn y gweithdy, ag arogl lledr newydd a chŵyr crydd yn llenwi’r lle.


John Thomas oedd y mab hynaf. Arhosodd ef yn Gongl Gron a bu’n grydd yno ar hyd ei oes. Priododd ȃ Janet, merch Dafydd a Sian Jones, Tyddyn Don. Cafodd Jane, yr hynaf o’i blant, ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Bangor ym 1898, wedi ei haddysgu yn Ysgol Doctor Dwylan yn y pentref yn unig.

Yr Henadur John Thomas, Cefn oedd ei fab hynaf a David Thomas, Ty’n Don yr ieuengaf.

 Robert oedd yr ail fab. Priododd ȃ Margaret Jones, merch Dwylan. Bu’n grydd yn Dwylan, Tŷ Bach, (Sunny Side heddiw) Tan y Fynwent a Goleufryn.

 Roedd Evan Williams, crydd Tyddyn Llan, yn un o dair cenhedlaeth o gryddion. Fe’i ganwyd yn Llwyndu Bach a’i fagu yn Llain Henryd yn fab i’r crydd William Evans. Priododd gydag Elizabeth Jones o Nefyn, morwyn yn Belle Vue. Roedd wedi bod yn grydd yn Nhyddyn Llan am 30 mlynedd pan fu farw ym 1888. Ei fab, John Evan Williams, fu wrth y gwaith wedyn. Roedd Jac Ifan, fel y câi ei adnabod, yn un da am ganu penillion digri yn ôl y sôn. Cefnen oedd safle ei weithdy olaf.

 Ganwyd Robert Williams yn Nhŷ Fadog ym 1840. Un o hen dai Llanengan sydd wedi diflannu erbyn hyn, roedd Tŷ Fadog o dan Tŷ Fry rhwng Ty’n Ffos a’r pwmp. Erbyn 1851 roedd y teulu wedi symud i fyny’r lôn i Bengamfa ac yno bu Robert yn grydd am dros 30 mlynedd. Priododd ȃ Hannah Ellis o Lanbedrog. Yn ei chyfrol Hogan Bach y Felin Wynt a Puryd a Mân Us mae Megan Roberts, Brynteg yn dweud fod dynas yn Pengamfa na siaradai am ddim ond Llanbedrog. Hannah oedd y ddynas honno. Fe’i claddwyd yn yr hen fynwent yn Llanbedrog. 

 William Roberts yw’r seithfed crydd. Fe’i ganwyd yn Nhan y Fron, ’R Ochor tua 1860. Erbyn 1881 roedd yn grydd yn y tŷ lle y’i ganwyd. Bu’n gweithio yma tan o leiaf 1921 pryd y symudodd dros y cae i Bryn Eglwys, Pengamfa lle bu’n grydd hyd 1939. Bu farw ym 1947 yn 87 oed ac fe’i claddwyd ym Mynwent yr Eglwys.

 

Ffynonellau
O Ben Llŷn i lle bu Lleu, Janet Roberts (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1985)

Hogan bach y Felin Wynt a Puryd a Mȃn Us, Megan Roberts, Gwasg yr Arweinydd

Enwogion Lleyn, Cynhyrchion Eisteddfod Sarn Meillteyrn 1883, cyhoeddedig gan Robert Edwards, Belle Vue, Sarn.


Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...