Dei Jones, Tyddyn Don o flaen Gongl Gron, cartref Janet ei chwaer
Dros y blynyddoedd bu cariwyr yr ardal yn brysur iawn, yn
enwedig yng nghyfnod y gweithfeydd plwm. Mae’n bosibl mai’r
gost ychwanegol o gario’r plwm efo ceffyl a throl o waith Tanrallt i’r llongau
ym Mhenrhyn Du oedd un o’r rhesymau tros i’r gwaith hwnnw fethu yn y diwedd.
Gweithio i’r cwmnïau plwm fyddai’r cariwyr hynny, ond cariwyr lleol a gariai
bobl i’r farchnad ym Mhwllheli a danfon a chludo defnyddiau hanfodol i fywyd
gwledig.
Roedd Hugh Parry Gwtar
wedi bod yn gariwr ers rhai blynyddoedd, ond ym 1863 prynodd drwydded ar gyfer
cario teithwyr. Mae ei hysbyseb yn yr
Herald Cymraeg y flwyddyn honno’n
rhoi syniad sut roedd pethau’n gweithio’r adeg hynny.
Mae’n amlwg mai trwydded i gario wyth person oedd gan Hugh
Parry a phan gafodd ei ddal gan y Comisiynwyr Tollau ym Mhwllheli ym mis
Rhagfyr 1865 yn cario naw teithiwr roedd yn gamgymeriad a gostiodd yn ddrud
iddo. Cafodd ddirwy o dair punt a deg swllt. Ffermio chwe erw o dir y Gwtar fu
Hugh Parry yn ei flynyddoedd olaf. Fe’i claddwyd ym Mynwent yr Eglwys yn 65 oed
ym 1880.
Wedi dyfodiad y rheilffordd i Bwllheli
ym mis Hydref 1867 prysurodd y dref. Roedd y farchnad ar ddydd Mercher a’r
ffair pen tymor yn hen arferiad yn y dref ,ond daeth dyfodiad y
trên a mwy o alw am gario nwyddau a phobol yn ȏl ac ymlaen.
Dim ond lled cae o`r Gwtar roedd cartref Dei Jones, mab Dafydd Jones, Tyddyn Don, a fu ei hun yn gariwr. Cymerodd Dei yr awenau wedi marwolaeth ei dad ym 1881, a chariwr fu yntau trwy gydol ei fywyd.
Mewn llythyr at Robert, ei frawd yn Lerpwl, ceir cipolwg ar
fywyd Dei o ddydd i ddydd. Ar fore gwlyb annifyr mae ei fam a’i frawd yn cydymdeimlo
ag o ac yn ceisio’i berswadio i beidio â chychwyn allan i’r glaw trwm y diwrnod
hwnnw. Gwell fyddai iddo aros gartref wrth y tân ac yntau wedi bod yn y dref
bob diwrnod yr wythnos honno eisoes. Mae’n cyfaddef ei hun ei fod yn brysur gyda’i
waith ond mae’n ddiolchgar am y gwaith hwnnw.
Erbyn degawd ddiwethaf y ganrif roedd ambell i gar modur
newydd i’w weld o gwmpas y lle, ac roedd ar Dei awydd cael lori fach i’w helpu
efo’r gwaith . Mewn llythyr arall i’w frawd mae’n gofyn iddo gadw llygaid am
lori fach ysgafn, ail law. Roedd oes y car modur am gyrraedd Porth Neigwl mae’n
amlwg.
Bu
farw Dei Jones ym mis Ionawr 1922 wedi gwaeledd, ac fe’i claddwyd yn Mynwent y
Bwlch gyda’i deulu. Gwelodd sawl newid ym mywyd y pentref ac yn ei waith - dyfodiad
y motor newydd oedd y mwyaf o’r rhai hynny mae’n debyg.
Ffynonellau
Yr Herald Gymraeg,
28 Tachwedd 1913
Nodiadau Ceinwen Jones
Llythyrau Tyddyn Don