Melin Brynteg

 

Melin Brynteg

Nid oes sicrwydd pa bryd yn union yr adeiladwyd y felin wynt, ond credir iddi gael ei chodi rhywdro rhwng 1824 a 1832 a hynny ar dir stad fechan fferm y Bwlch.

Gadawodd Thomas Williams, perchennog y Bwlch, ei stad i’w was, Evan Griffith, yn ei ewyllys ac Evan Griffith gododd y felin. Ymddengys iddo gael benthyciad o £1,000 ar gyfer ei hadeiladu. Ar Fap Degwm 1840 enwir ef yn berchennog a chawn hefyd enwau perthnasol i’w fenter megis Bryn y Felin a Chae Tan y Felin.

Ar ôl marw Evan Griffith fe werthwyd Penbryn y Bwlch a’r felin i Dr Thomas Williams, Dwylan am £805, ac ym Mai 1861 rhoddodd hysbyseb yn yr Herald fod ‘Melin wynt Llanengan ar osod’. Griffith Ellis, Trwyn Garreg oedd y melinydd ar y pryd cyn iddo ddychwelyd i Lanbedrog i redeg y felin yno. Ond erbyn 1871 gwelwn fod Tŷ’r Felin wedi ei godi ac mai Griffith Griffith, y melinydd, oedd yn byw ynddo.

Ym 1870 gwerthodd Dr Williams beth o’r tir a phrynwyd Penbryn y Bwlch, y felin a Thŷ’r Felin gan Griffith Jones i’w fab Edward. Disgynyddion y teulu hwn fu yno am sawl cenhedlaeth. Cigydd oedd Griffith Jones a chanddo ef a’i wraig, Mary, bump o blant. Ganwyd Edward yn Ty’n Dalar - un o ddau dŷ lle saif y Ty’n Dalar presennol. Yn ddiweddarach bu’r teulu’n byw yn Gongl Gron. Priododd Edward â merch Tŷ Newydd, Margaret Williams, a chawsant chwech o blant. Mary Ann, mam y ddiweddar Megan Roberts, Brynteg oedd un ohonynt.

Cyn i Edward Jones ddysgu crefft y melinydd bu ei fab, Salmon, yn gweithio yn y felin gyda’r melinydd William Owen o Sarn Meillteyrn. Dyma rai o atgofion Salmon:

Nid gwaith hawdd oedd trin melin wynt. Y peth gwaetha lawer tro fydda wythnosa heb wynt a’r ffermwyr yn methu cael eu blawd adra.

Disgrifia un profiad ddigwyddodd wedi wythnosau di-wynt, ei dad yn wael ac yntau ond yn laslanc:

Fe gododd un noswaith gwynt yn sydyn o’r de, a trwy drugaredd yr oedd y felin yn gwynebu y gwynt yn ffein heb orfod ei throi ir gwynt. Mi es a dechreu malu deg sachaid o haidd a ceirch cymysg i Castellmarch. Tri o’r gloch y bore yn dechreu malu. Yr oeddwn efo mam yn cael brecwast wyth o’r gloch wedi gorffen deg sachaid i Castell. Yr oeddwn wedi difetha y meini yn arw, fel roedd yn rhaid eu pigo fel y byddai arfer trin y meini.



Yn ddiweddarach priododd Salmon ȃ Martha Freeman Parry a bu’r ddau yn cadw siop a’r llythyrdy yn y pentref.

 Roedd gwaith y melinydd yn bur llafurus rhaid dweud. Wedi i ffermwyr ddod âu grawn i’r felin i’w falu roedd angen ei sychu yn yr odyn yn gyntaf. Roedd sawl cam i’r broses o baratoi’r grawn cyn iddo droi yn flawd yn ogystal â chymhlethdod deall a thrin yr esgyll pan oedd y gwynt yn chwythu. Cawn ddisgrifiad o’r felin ei hun yn llyfr Megan Roberts – wyres Edward Jones – Hogan Bach y Felin Wynt:

Tri llawr oedd i’r felin, os dwi’n cofio’n iawn. Yn uchaf roedd y cwch, lle’r oedd y cocos a’r esgyll. Wedyn lle’r oedd yr hopran – lle i dywallt y grawn i’r meini. Y fan lle’r oedd y meini oedd nesa, ac wedyn y llawr, lle’r oedd y puryd a’r us yn cael eu didoli.

Arferai’r melinydd godi toll ar y ffermwr o ‘un rhan o un deg chwech o’r blawd’ fel tâl am ei waith. Bu Edward Jones yn gweithio’r felin tan iddo gael ei daro’n wael oddeutu 1900. Erbyn Cyfrifiad 1901 disgrifia ei hun fel ‘ffarmwr’ ac nid oes sôn am y felin. Mae enw’r tŷ wedi newid hefyd o Tŷ’r Felin i Fron. Bu farw Edward ym 1904 ac yn fuan ar ôl hynny fe ddymchwelwyd rhan uchaf yr adeilad a gwerthu’r meini i felin ddŵr yn Eifionydd.

 

Ffynonellau:

Hogan Bach y Felin Wynt a Puryd a Mȃn Us, Megan Roberts, Gwasg yr Arweinydd, 1999
Llanw Llŷn, Glyn Roberts, Chwefror, Mawrth, Ebrill 2022
Yr Herald Gymraeg, 16 Tachwedd 1861
Atgofion am blwyf Llanengan, Solomon Jones
Llanengan Windmill Recollections (diolch i ddisgynyddion teulu Brynteg)


Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...