Chwareli haearn

Chwarel Tan yr Orsedd

Pan ddarganfuwyd carreg mwyn haearn ar dir David Williams, Castell Deudraeth wrth hen Gapel y Bwlch (drws nesaf i Hen Dŷ Capel heddiw) roedd y rhagolygon yn edrych yn ardderchog. Yn sgîl hyn ffurfiwyd cwmni o’r enw St Tudwals Iron Ore Company i ymchwilio i'r cyfle. Roedd y gobeithion mor uchel ym 1839 fel y ceisiwyd am grantiau i osod rheilffordd haearn o’r Bwlch i Benrhyn Du, Bwlchtocyn, lle’r oedd glanfa i'w chodi i hwyluso llwytho’r llongau.

 Erbyn 1842 roedd y gwaith wedi ei wneud a’r mwyn yn cael ei gario gyda cheffyl a throl ar hyd y lôn haearn i’r llongau. Gyda’r cwmni hwn mae’n debyg i’r chwarel fod yn gweithio am ddeng mlynedd a mwy dan oruchwyliaeth Joseph Martyn fel y mine agent, dyn a symudodd i fyw i Llwyndu ac yna i’r Bwlch gyda’i deulu. Ond fel mwyafrif gweithfeydd mwyn Llanengan, gweithio am gyfnodau ysbeidiol oedd yn arferol, ac felly chwarel Tan yr Orsedd. Daeth cyfnod o segurdod am tua deng mlynedd hyd at 1864.

 Erbyn 1864 roedd cynlluniau newydd ar droed i ailgychwyn y chwarel. Hysbysebwyd yn y papurau newydd yn gwahodd llongau i gario’r mwyn o Benrhyn Du i lefydd fel Ynys Las, Aberdyfi am hanner coron y dunnell a Saltney, Swydd Gaer am dri swllt a chwe cheiniog y dunnell. John Williams oedd y rheolwr bryd hynny. Er mwyn ehangu’r gwaith gyrrwyd profion o’r graig i’r Meistri Haearn yn ne Cymru, ond siomedig fu’r ymateb pan y’u gwrthodwyd gan y Meistri yng Nghaerdydd.

Doedd dim ond un dewis arall i gynnal y chwarel mewn gwaith, a hynny oedd adeiladu ffwrneisi eu hunain ar dir y Bwlch. Ffurfiwyd cwmni’r Caernarvonshire Iron Company ar gyfer codi dwy ffwrnais ond am ryw reswm methu wnaeth y cynllun ac yn y diwedd dim ond llusgo ymlaen dros gyfnodau wnaeth y chwarel tan droad y ganrif.

 Safle arall lle bu cloddio am haearn oedd y darn tir uwchben Tan y Fron, tua hanner ffordd i fyny ’R Ochor. Galwyd y chwarel hon yn Chwarel y Fron, ond ni bu llawer o lwc yma chwaith. O’r cychwyn bu helyntion cyfreithiol efo’r lle, problemau mynediad, ac ar ben hyn i gyd gwrthodwyd y profion ar y garreg gan Feistri Haearn y de am fod gormod o asid ffosfforig yn y graig. Ychydig fu’r chwarel yn gweithio ar ôl cael y newydd drwg hwn er bod sôn i rywun fod yn chwilio am fanganîs yno am ychydig o fisoedd ym 1916. Gwnaed sawl twll arbrofi o gwmpas y pentref mewn llefydd fel Tŷ Fry, uwchben Tan yr Orsedd ac wrth ymyl Frondeg, ond ddaeth dim o’r ymdrechion hyn.

 


Ffynhonnell
Metal Mines of Llanengan, Bennet & Vernon, Gwydr Mines Publications

Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...