Gwaith Tanrallt gyda chwarel (haearn) y Fron yn y cefndir
Un o nodweddion amlycaf Llanengan yw’r corn tal sy’n edrych i lawr ar y pentref o hen waith plwm Tanrallt. Adeiladwyd y corn tua 1878 mewn cyfnod welodd fwy o fuddsoddi yn y gwaith nag a fu yn flaenorol. Un o’r anawsterau mwyaf fu’n wynebu’r gwaith oedd codi digon o arian i’w yrru yn ei flaen. Bu llawer ymdrech gan unigolion a grwpiau i wneud hyn ond ychydig o lwyddiant fu cyn 1869.
Ym 1869 prynodd Evan Lloyd Edwards lês ar waith Tanrallt gan Stad y Faenol. Mewn ychydig ddyddiau roedd wedi gwerthu’r lês i’r Tanrallt Mining Company. Dynion oedd y rhain gyda phrofiad o fuddsoddi mewn gweithfeydd fel Tanrallt. Cyflogwyd Capten Richard John Evans o Lanfihangel Genau’r Glyn, Sir Ceredigion i oruchwylio’r gwaith, dyn ȃ thros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant mwyngloddio. Symudodd ef a’i deulu i Cae Du i fyw. Dechreuwyd ar y gwaith yn fuan wedyn drwy suddo siafft a chloddio lefelau ond siomedig fu’r ymdrechion hyn. Roedd y siafft mewn craig galetach na’r disgwyl, y plwm yn brin a phroblemau gyda phwysedd dŵr.
Yn y cyfnod cynnar hwn (1870) cyflogwyd deuddeg o ddynion i suddo’r siafft, gyda deg arall yn gweithio’r lefel a mwy wedyn yn codi’r adeiladau ar gyfer y gwaith. Dyma pryd yr adeiladwyd yr Office.
Swyddfa'r gwaith plwm
Erbyn 1872 yr un problemau oedd yn wynebu'r cwmni - dim digon o blwm yn cael ei gloddio a’r arian yn darfod - ac erbyn diwedd 1872 mynd i’r wal fu eu hanes gyda dyledion o oddeutu dwy fil o bunnau.
Erbyn 1874 ffurfiwyd cwmni arall, y Porth Nigel Lead Company Ltd. Roedd y cwmni hwn mewn sefyllfa llawer mwy ffafriol na’i ragflaenydd oherwydd bod y cwmni blaenorol wedi buddsoddi’n helaeth yn seilwaith y gwaith. Capten Joel Manley oedd y goruchwyliwr y tro hwn, gŵr o St Agnes Cernyw a symudodd gyda’i deulu i fyw yn y Cottage ar Lôn Bwlch Llan. Y gobaith oedd llwyddo cystal ȃ gweithfeydd cyfagos fel Pantgwyn a Thanybwlch, oedd erbyn hyn yn gwneud yn weddol dda.
Ym mlynyddoedd cyntaf y cwmni codwyd dros 400 tunnell o blwm ond os oedd mwy o gynnydd i fod roedd yn angenrheidiol datrys problem y dŵr.
I ddilyn y plwm roedd yn rhaid cloddio’n ddyfnach. Codwyd mwy o arian ac erbyn Mehefin 1878 cafwyd pwmp cryfach ac roedd teimlad fod y rhagolygon yn eithaf addawol. Ond er bod 58 o ddynion yn cael eu cyflogi ym 1880 erbyn 1881 dim ond 29 oedd y cyfrif, ac araf waethygu roedd y rhagolygon. Gyda chostau glo i’r boilar newydd yn codi, y plwm yn prinhau a’i ansawdd yn dirywio, doedd dim modd gweithredu’n broffidiol a daethpwyd ȃ’r gwaith i ben gan adael i’r dŵr, a fu’n boen cyson, foddi’r rhwydwaith tan ddaear.
Rhoddwyd y cwbl ar werth yn Llundain, ac ym mis Ebrill 1882 fe’i prynwyd am £1,800 gan grŵp, rhai ohonynt yn aelodau o’r hen gwmni.
Dechreuwyd eto, ond wedi gwario bron i £2,000 i ddod ȃ’r gwaith i gyflwr diogel, daeth y cwbl i ben pan fethwyd ȃ chodi £1,000 arall i wneud ymchwil a phrofion. Fel eraill o weithfeydd plwm y plwyf cau fu hanes Tanrallt yn y diwedd, ac erbyn 1893 rhoddwyd peiriannau'r gweithfeydd i gyd ar werth mewn un arwerthiant mawr.
Pwll a adeiladwyd ar gyfer golchi'r garreg blwm.
Ffynhonnell
Metal Mines of Llanengan, Bennet & Vernon,
Gwydr Mines Publications 2002