Addysg


Talmaen hardd, dylanwad y Cyfandir yng ngwaith 
Henry Kennedy, pensaer stad y Faenol.


Er i’r Eglwys drefnu dosbarthiadau dysgu darllen yn Llanengan - drwy gynllun Ysgolion Cylchynol Griffith Jones, Llanddowror - i hybu’r plwyfolion i ddarllen y Beibl, ac i’r rhain barhau ar ffurf ysgol ddyddiol a gynhelid yn yr Eglwys gan y rheithor o tua 1833 ymlaen, bu’n rhaid aros tan 1845 cyn cael adeilad pwrpasol i addysgu’r plant.

Ym mis Awst 1840 cafwyd gwŷs i’r Eglwys, drwy awdurdod y frenhines, i godi ysgolion i’r tlodion drwy Gymru a Lloegr, i’w goruchwylio gan Arolygwyr ei Mawrhydi. Addysgu’r plant yn unol ag egwyddorion yr Eglwys Wladol oedd y nod, eu hybu i ddarllen ac i ysgrifennu yn Saesneg ac i rifo. Dyma’r National Schools.

Ond bu plwyfolion Llanengan yn poeni am ddylanwad posibl yr Eglwys ar eu plant anghydffurfiol, gan mai Methodistiaid oedd y rhan fwyaf yn y pentref, a’u haelodaeth yng Nghapel y Bwlch yn niferus ers dwy genhedlaeth o leiaf.

Ysgol yr Eglwys a thŷ'r ysgol ar Lain y Llan 

Tipyn o gamp felly oedd haeddu nodyn yn y Pembrokeshire Herald, o bob man, ddechrau Tachwedd 1844[1] am drefniant i godi ysgol anenwadol, y British School, ar gaeau Dwylan, drwy haelioni a chefnogaeth Dr Thomas Williams, Surgeon, a roddodd ei dir i’r achos – a’r ysgol yn agor yn Hydref 1845, flwyddyn yn gynt nag Ysgol yr Eglwys, y National School. Er mai Ysgol Frytanaidd fyddai’r ysgol hon, Ysgol Doctor Dwylan, neu’r Ysgol Bella, y’i gelwid yn lleol. Nodwyd ei lleoliad ar argraffiad cyntaf map OS 25” CAXLV.9, 1889 – ar dir Dwylan
Bellaf, uwchben y ffordd, a thŷ’r athro dros y ffordd. Ceir adroddiad manwl o’r Cyfarfod Agoriadol yn ymestyn dros ddeuddydd yn Hydref 1845 lle sonnir bod lle i 200 o blant[2] a chynhaliwyd Eisteddfod ddydd Nadolig ynddi yn 1862 lle honnwyd bod 400 yn y gynulleidfa![3]

 


Ym 1846 – rhyw flwyddyn wedi sefydlu’r ysgol - fe alwodd Arolygwyr ei Mawrhydi i roi barn ar safon y dysgu ac i nodi ychydig ffeithiau:

·    roedd ysgolfeistr a 6 ‘monitor’ yn gofalu am 23 merch a 58 bachgen;

·    dysgid darllen, ysgrifennu, syms, gramadeg, daearyddiaeth, hanes, etymoleg/geir-darddiad ac Ysgrythur;

·    roedd y gôst i’r rhieni rhwng 1/3 a 2/6 y chwarter (6c a 12½c) efallai’n ôl gallu i dalu?

Nodir mai nyddwr a lliwiwr oedd gwaith blaenorol yr ysgol feistr ond iddo dreulio chwe mis yn ‘yr ysgol normal’ yng Nghaernarfon i’w hyfforddi. Nodir hefyd fod safon ei Saesneg llafar yn well na’r rhelyw o athrawon yr ardal, fod trefn dderbyniol yn yr ysgol, ac o ystyried ei sefydlu diweddar, teimlid fod cynnydd, er yn araf, yn natblygiad y plant.[4] Digon derbyniol felly ar y cyfan oedd Ysgol Dwylan ar 8 Rhagfyr 1846.

Ond erbyn y dyddiad hwn, yr oedd ail ysgol wedi agor ei drysau yn Llanengan. Fel canlyniad i’r wŷs uchod i’r Eglwys Wladol ym 1840 fe ymatebodd y tirfeddiannwr Thomas Assheton Smith drwy gynnig darn o dir o’r enw Llain y Llan fel safle addas i godi Ysgol Genedlaethol, National School, i blant yr ardal, a thŷ i’r athro. Rhoddwyd pensaer Assheton Smith - Henry Kennedy - ar waith i gynllunio’r ysgol ac iddo ef mae’r clod am adeilad unigryw ei arddull o blith ysgolion elfennol Llŷn y cyfnod. Ym mis Awst 1846 arwyddodd y rheithor, William Williams, y ddogfen gyfreithiol a nododd ei gyfrifoldeb, a chyfrifoldeb yr Eglwys, dros barhad a llwyddiant yr ysgol.

Prin roedd yr ysgol wedi ei sefydlu felly nad oedd yr Arolygwyr yn ymweld ymhen tri mis ar 8 Rhagfyr 1846, pan nodir nad oedd tŷ’r athro wedi ei gwblhau hyd yn oed. Roedd ysgolfeistr yn:

·      gofalu am 55 o fechgyn a 19 o enethod;

·      dysgu’r Beibl a’r holwyddoreg neu’r catecism;

·      dysgu darllen, ysgrifennu a syms.

Y gôst oedd 1 neu 2 geiniog yr wythnos.

Gellir cydymdeimlo â’r ysgol o dan yr amgylchiadau. O’r deugain disgybl oedd yn bresennol, dim ond naw oedd yn darllen yn ofalus a phedwar yn unig yn medru adrodd yr holwyddoreg. Nid oedd dealltwriaeth o hanes ysgrythurol er holi yn y ddwy iaith. Roedd tair enghraifft o ysgrifennu da o’r deg llyfr a welwyd. Nodir i’r athro fod yn brentis gwneuthurwr clociau cyn mynd i’w hyfforddi am chwe mis i’r ‘ysgol normal’ yng Nghaernarfon. Roedd ei ddisgyblaeth yn dda. A’i gyflog? Llai na £26 y flwyddyn.

Bu gwelliant amlwg erbyn Adroddiad Awst 1900, [5] fodd bynnag, pan welwn ganmoliaeth glir i allu’r athro a diwydrwydd y disgyblion. Felly hefyd yr Ysgol Nos lle bu cydweithio llwyddiannus i ymestyn ystod y pynciau a gynigid. Cawn adroddiad hyfryd hefyd ym mhennod Dyddiau Ysgol, Hogan Bach y Felin Wynt, [6] am blentyndod hapus Mary Ann Jones yn nosbarthiadau Miss Baine a Mrs King o tua 1886 ymlaen.

Ond at ddiwedd y 19G roedd oes y ddwy ysgol, fu’n gwasanaethu’r ardal am hanner can mlynedd, yn prysur ddod i ben a’r cyfnod rhwng 1890 a 1910 yn allweddol i newid y drefn. Trefnwyd ar 10 Ionawr 1891, drwy ddogfen gyfreithiol, fod tir Tŷ Newydd, Sarn Bach i’w ddefnyddio i godi British School i Blwy Llanengan, ysgol lle nad oedd ‘catechism or religious instruction’ yn rhan o’r addysg.[7]

Oherwydd dirywiad cyson dros rai blynyddoedd yn niferoedd disgyblion Ysgol yr Eglwys rhaid oedd i’r rheithor, Parch H R Roberts, gydsynio ȃ chynllun Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon, a phenderfynwyd cau Ysgol yr Eglwys yng Ngorffennaf 1909 gan mai 21 oedd nifer y disgyblion bellach ac mai 18.8% oedd cyfartaledd eu presenoldeb y chwarter olaf. Nid oedd modd cyfiawnhau’r gôst o’i chynnal ac roedd ysgol arall o fewn cyrraedd.[8]

 Dychwelwn at Ysgol Dwylan i barhau’r stori. Ychydig a wyddom mewn gwirionedd am ei hanes, er y dechrau addawol a chefnogol. Prin yw’r ffynonellau i’n harwain er i sylw gael ei gynnwys yn Yr Herald Gymraeg ar 27 Gorffennaf 1897[9] yn nodi mai 69% oedd presenoldeb y disgyblion y flwyddyn honno yn yr Ysgol Frytanaidd, a ‘adlewyrcha yn anffafriol iawn ar rieni ein plwyf’. Ond ai at Ysgol Frytanaidd Dr Dwylan y cyfeiriwyd, ynteu Ysgol Frytanaidd Sarn Bach? Nid yw’n glir.

Roedd y Doctor, Thomas Williams, oedd wedi bod yn gymaint rhan o’r ysgol gyntaf, wedi marw drwy ddamwain ym 1884. Ac efallai i’r ysgol golli nifer o blant pan agorwyd ysgol breifat ym Min y Don, Abersoch ym 1886. Gwyddom i aelodau Capel y Bwlch ddefnyddio’r adeilad i addoli ynddo am gyfnod hir tan ddiwedd 1897 yn ystod atgyweirio’r capel ac yn ail argraffiad y map OS ym 1900 gwelwn yr adeilad yn glir, ond nis nodir fel ysgol. Bu brodyr Mary Ann Y Felin Wynt yn ddisgyblion yn Ysgol Dwylan ond i Ysgol yr Eglwys y’i gyrrwyd hi. Pam dybed? Dirywiad fu’r hanes mae’n amlwg o ran safon adeilad a niferoedd disgyblion a rhywbryd rhwng 1897 a 1900 fe’i caewyd. Erbyn trydydd argraffiad y map OS ym 1918, nid oes golwg o Ysgol Dwylan o gwbl.

Gyda chefnogaeth ariannol y plwyfolion felly, codwyd Ysgol Sarn Bach ar gaeau fferm Tŷ Newydd tua 1890-92. Bwrdd Rheolwyr oedd yn gyfrifol amdani ar y dechrau ond trosglwyddwyd hi’n ddiweddarach i’r Pwyllgor Addysg.

Ffynhonnell ddifyr am ddyddiau cynnar Ysgol Sarn Bach yw llyfryn Janet D Roberts, O Ben Llŷn i Lle bu Lleu (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1985) yn ogystal â Puryd a Man Us, Megan Roberts.

[1] The Pembrokeshire Herald and General Advertiser, 1 Tach 1844 t 3

[2] Y Drysorfa (Caerlleon) 1 Ion 1845, t 5

[3] North Wales Chronicle, 3 Jan 1863, p 3

[4] Pwyllgor Treftadaeth Plwyf Llanengan, Ffeil Ysgolion

[5] Caernarfon and Denbigh Herald, 31 Awst 1900

[6] Hogan Bach y Felin Wynt a Puryd a Mân Us, Megan Roberts, Gwasg yr Arweinydd, Pwllheli a Gwilym Jones a’i Fab, Penrhyndeudraeth, dim dyddiad cyhoeddi

[7] Pwyllgor Treftadaeth Plwyf Llanengan, Ffeil Ysgolion, Nodiadau Llŷr Thomas, Charity Reports 1897

[8] Yr Herald Gymraeg, 27 Gorffennaf 1909, t 8

[9] Y Goleuad, 5 Ion 1898, t 6


Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...