Llawer o atgofion o Llanengan. - Atgofion Mary Voutsadakis o Groeg - (Mary Preston Jones gynt )
Cofio Ifan Davy y cigydd wrth ymyl White Horse.
Fy nhad yn son am The Sun Inn. A lady, I can't remember her name, had a pet goat in the pub.
Uncle Wil Freeman in the garage. He used to sing a rude song which sticks in my mind. 'Mwnci codi gwnffon', I won't say the rest
Mary Freeman used to take me for walks in my pram along the road by Glenwyn. One year I went to her birthday party where we had to sit on balloons and burst them. I was afraid of balloons and I ran home up lon Pwll llan on my own without telling anyone. I must have been very young and really scared.

We knew everyone in the village and every Sunday the locals would walk from the pentre to capel Bwlch with everyone wearing their Sunday best. Very smart hats. I loved trip ysgol Sul. Rhyl was my favorite and once I remember New Brighton but I preferred Rhyl.
We had a den in Lon Pwll llan with tea cups and we played house there as children with Gwyneth Bodengan and Mary Congl Gron. It was at the side of a cliff if I remember correctly. They used to pass my house on the way to school every day in Sarn Bach and pick me up. Walking of course.
I remember the red phone box where we could get free phone calls by doing something probably illegal but that was much later.
Then there was the post office and grocer shop. I can remember the couple's faces. Both with white hair but can't remember their names. The had round spectacles and they were always so polite. Lovely happy days.
-------------------------------------------------
Atgofion Annwen Hughes, Bwthyn Tanrallt
Wedi bod yn blentyndod difyr iawn yn tyfu fyny yn Llanengan. Dal i fyw yn Bwthyn Tanrallt (Offis Gwaith Plwm) . Chwara yn topia Tanrallt a mynd lawr y twnal o dan y Corn (gwaith plwm) a chael sbort efo llwyth ohonom yn mynd lawr efo’n gilydd. Dim s么n am iechyd a diogelch adeg hynu.馃檲
Pan yn ifanc yn mynd i Capel Bwlch a fina yn cambyhafio mi fydda Anti Megan Brynteg yn fy sodro yn set wrth ei hochor wrth yr organ i gadw golwg arnai 馃槀A pob parti Dolig pan fydda Sion Corn yn galw mi fydda gen ei ofn. Wedyn fydda Anti Megan Brynteg yn mynd a fi yn y Morris Minor glas rownd Rabar nes bod Sion Corn wedi mynd a mi fydda yn stori ychal ganddi.
Cofio hefyd Caffi yn agor fyny grisia yn Siop Llanengan gan Mr a Mrs Watson fydda yn cadw y Siop adeg hynu. Marion Bwthyn Gwyn yn gweithio yn y Caffi. Fydda Carys a fina yn mynd yno efo fisitors fydda yn aros yn t欧 ni. Caffi bach da iawn.
Oedd Anti Ceinwen Grinallt yn un annwyl iawn ac fe fydda yn dysgu ni lefaru at Steddfod Capel a Steddfod Nant. Mi fydda ein parti llefaru ni yn ennill reit amal diolch i Anti Ceinwen.
----------------------------------------------
Atgof Susan Evans o Mary Ann Lloyd
Gwanwyn 1972
Mrs Sarah Jones, Ocean View, Llanbedrog yn fy narbwyllo –
“Cyn i chi fynd yn 么l i’r Coleg ‘na bydd yn rhaid i chi fynd i weld Mary Ann Lloyd i Lanengan.”
Astudiaeth o fy nghynefin oedd y nod, fel rhan o fy ngwaith cwrs yn y Coleg, yn edrych ar gymdeithas, ei diwydiant, ei diwylliant a’i chymeriadau.
Ac felly, trefnwyd i mi gael cyfarfod 芒 Mary Ann yn Morfa, ei chartref yn Llanengan. Daeth Mam gyda fi’r pnawn hwnnw a cawsom ein cyfarch ar y llwybr cobyls yn arwain i’r drws ffrynt gyda bloedd,
“Brysiwch i mi gael cau y drws ‘na, neu fydd y llygod mawr i mewn!”
Hawliai’r llygod mawr y brwgaij o gwmpas y drws.
Aethom i mewn i’r ystafell bach fyw ar y dde. Yn ein gwynebu ‘roedd y lle t芒n, bwrdd ar y dde odditan y ffenast a cadair Mary gerbron.
Go brin welai’r ystafell fawr o’r haul am hir ar 么l gwawrio na’r machlud yn y gwyll.
Eisteddom ninnau ar y setl dros yr aelwyd iddi, yn unionsyth, traed yn dynn at ei gilydd, un lygaid ar y drws ffrynt.
Fedrai ddim cofio os cynigiwyd cacen a phanad ond cofio’n bendant am y Polo Mints.
“Gymrwch chi Bolo?” gofynnodd Mary. O’r cwpwrdd eirio ger y t芒n daeth y Polo Mints, a’r gath yn cael dihangfa oddi yno yr un pryd.
Bu i’r Polo Mint lynyd i dop fy ngheg, lle arhosodd nes i’r twll bach fynd yn rhy fawr i lynyd mwyach ac i lawr a fo o’r diwedd , ond nid cyn i Mary fod wedi adrodd ei hanes fel morwyn laeth mewn sawl lle ar hyd ei gyrfa.
Cychwynnodd ei diwrnod gwaith am bump o’r gloch y bore a’i orffen o gwmpas ddeg o’r gloch nos.
Yn gyntaf ‘roedd rhaid darparu’r shed laeth gan wneud yn siwr bod y muriau, y ffenestri, silffoedd, lloriau a’r llesti yn hollol l芒n cyn dechrau ar y corddi.
Mae rhyw amheuaeth am yr amser ‘roedd ym Mhlas Nantyglyn, Sir Ddinbych yng nghyflogaeth y Colonel Wynne Edwards ond yn 1901 yn 19 oed dychwelodd yn 么l i L欧n i fod yn forwyn yn Ceurau Uchaf, Garn Fadryn i Mr William Williams.
Yn 1911 roedd yn Crugan, Llanbedrog, ffarm Mr William Morris. Mynychai’r Capel gydag ef ac ymunodd 芒 ch么r yr Eglwys.
Tra’n Cefn Collfryn yng Nghricieth ‘oredd yn falch o gael dweud am David Lloyd George yn galw heibio ‘n aml am laeth enwyn. Ymunodd a C么r Llanystumdwy . Roedd Mary’n amlwg yn mwynhau canu. Gofynnodd i ni os hoffwn ei chlywed. Byswn wir, meddwn a cychwynnodd ar yr emyn “Gwaed y Groes”. Roedd wedi cael argraff dda iawn ar Mam ac roedd yn rhaid cydnabod fod gan Mary ddawn.
Erbyn i ni ddeall mwy ganddi ‘roedd o deulu cerddorol. William Lloyd 1786-1852 Rhos Goch, Llaniestyn oedd ei thaid ac yn emynwr yn ogystal a ffarmwr. Cyansoddodd lawer o emynau, ond yr un mwyaf adnabyddus yw’r d么n “Meirionydd”, yn aml yn cael ei defnyddio yn y gyfres deledu “Songs of Praise”.
Cedwir Mary yn brysur yn y byd lluniaeth hefyd gyda llawer o’i rysitiau yn ymddangos yn yr Herald o bryd i’w gilydd. Un o’r rhai mwyaf adnabyddus fyddai crempogau yn cynnwys burum fel un o’r cynhwysion a llawer o gyfarwyddiadau tuag at iachau poen yn y bol neu chyfog drwy rhyw gymysgedd - anodd credu buasent yn arwain at wellhad!
Ond sydyn iawn fuasai Mary’n frathog tuag at unrhyw ymholiad gennyf a ddengys anghrediniaeth . Bwyd gwaith ar y ffermydd yn dechrau gyda brecwast fuasai darn o fara a llaethenwyn. Ganol dydd ymgasglu o gwmpas powlan fawr o friwas fyddai’r drefn, cymysgedd o friwsion ceirch a chawl eidion. Bwytai pawb o’r un bowlan, cynnwrf yn torri allan os oedd cwyn am gynnwys llaethenwyn ynddo hefyd.
Roedd un cymysgedd arall hoffai Mary s么n amdano. Byddai d诺r o bledren bawb ar y ffarm yn cael ei gasglu a’r gwlan gorau oddiar y defaid. Y canlyniad o ddod a’r ddau at ei gilydd oedd creu adwaith gemegol gyda’r ammonia yn yr hylif yn achosi’r gwlan droi’n las. Anfonwyd y gwlan i’r Felin ym Mryncir i wneud crysau i’r gweithwyr.
Er mwyn fod wedi cael ei hanes i gyd roeddwn wedi ymweld a Mary ddwy waith. Y tro diwethaf cefais y fraint o weld yr ystafell ar y chwith o’r drws ffrynt. Yno roedd ei siambar. Nid gwely a phedair coes ond lle i orwedd mewn cilfach goed yn erbyn y mur.
Bu farw yn 1975 rhyw dair blynedd ar 么l i mi ei chyfarfod
2025
Erbyn heddiw yr unig newid amlwg i Morfa yw’r ffenestri a’r olygfa drwyddynt i’r ffenestri newydd i’r cefn.
Golygfa yw o’r m么r, ei drafnidiaeth a’i bleserau yn fyd hollol wahanol i’r un adawodd Mary ar ei h么l.
O ddeall am atgofion Susan uchod derbyniwyd y ddau ddarn isod o'r Herald Gymraeg yn 1948 a 1949 gan berthynas i Miss Lloyd - diolch i Owain Roberts
Wedi rhoi'r rhannau perthnasol i Miss Lloyd ar wahan er mwyn gallu eu darllen yn haws:-
------------------------------------------------------
Atgofion / Memories - Mary Makin ( was Mary Freeman Jones )
I have many memories but they won’t be in any right order! I remember the snow of 1947, the only REAL snow in Llanengan. I lived opposite the church in Siop Newydd and remember Dad telling me to go into the garden and look across to the church. Well I needed no bidding to go out in the snow. and what I saw was a great big snowman on the wall of the church facing me! So exciting for a four year old!
Memories of tomato sandwiches on Porth Neigwl beach. We children would go the beach to ‘bag! Our hole!! Woe betide anyone who got there before us! Later some of the mums would appear with picnics, towels, and rugs so that we could eat our sandy tomato sandwiches in style! My memory tells me that every day in the summer was warm and sunny, but I’m sure I’m romanticising!?
Hay making in the fields opposite the Sun was fun. I remember Lowri Bryneinion driving the tractor in her shorts in the hot sun…… she was very brown! We would follow the tractor and get in the way , then we’d all ride back to Ty Cerrig either clinging to the tractor or the older, adventurous ones braved the top of the stack! No helmets to be seen!!
Picking Strawberries! For a short while someone ran a strawberry ‘nursery’ in the fields beyond Capel Bwlch at Cae’r Eglwys. We were told that if we picked them for the nurseryman, he’d pay us a few pennies. The trouble was, that strawberries were very special so ‘picking’ punnets for weighing was secondary to ‘eating’ them. After a couple of sessions my friend and I were asked not to bother going there again! I don’t think we were the only ones!
My Nain ran Siop Ty’n Pwll, and I was allowed to ‘help’ sometimes. She sold all kinds of sweets in jars and my particular favourite was chunks of honeycomb. My favourite chocolate bar has always been the ‘Crunchy Bar’ I wonder why!
Lon Bwlch Llan was where we girls made our dens. At the bottom of the hill , There was a woody part beneath the cliff and it had a flattish hollow . We gathered branches and sticks to build walls and a roof. The next job was to equip it! We crept to our houses, and gathered what we could from old chipped cups and plates, to cloths, and cooking utensils. I think we made ‘seats’ from wood but with the odd cushion here and there. We cooked! We made all sorts of mud foods, with cakes decorated with flowers. We even let the boys join in occasionally! What we didn’t bargain fir was rain!!! Oh what a mess and so sad. We had to re build many times as our ‘house ‘ was prone to flooding each time it rained.
For a while before leaving to go to London University I played the church organ. Our then Vicar was Mr Thomas, who was always kind and friendly. He gave his sermons from behind the organ and rood screen, from the wooden Eagle. Unbeknown to me he could see directly to the organ where I would be sitting hiding my revision books for A levels! I had no idea that he could see me until one day after the service he asked me what I was studying. I was very embarrassed and stuttered ‘history’ upon which he gleefully took my text book from me and said he loved history! Phew……
Gobeithio I haven’t gone on too much but once you start thinking all sort of memories come back don’t they!
Atgofion Carol Evans
Mi gefais fy magu yn y 5 a’r 6 degau yn Gongl Gron reit yng nghanol pentra Llanengan. Pentre bach cyfeillgar a pawb yn ‘nabod ei gilydd ac yn barod ei cymwynas. Cofio mam yn deud lawer gwaith, pan wnaeth hi symud i Lanengan ar 么l priodi ‘roedd dad yn dal bus 7 o Sarn Bach i fynd i’w waith yn Pwllheli Yn anffodus ‘doedd mam na dad yn dda iawn am godi. ‘Roedd Nanan White Horse yn byw ar draws y ffordd ac ‘roedd hi yn codi yn gynnar bob bore. Y peth cynta fydda hi yn wneud ar ei chodiad oedd edrych os oedd na rhywun wedi codi yn Gongl Gron. Os oedd neb i weld mi fydda hi yn dod i guro ar y drws nes deffro mam a dad. Mi wnaeth Nanan achub y dydd lawer gwaith chwarae teg iddi.
Un o’r co cynta sydd gen i am Lanengan ydi mynd efo Granville i T欧 Cerrig. Mi fydda Granville yn mynd i’r siop bob bore ac yn aml iawn mi fyddwn i yn cael mynd yn 么l efo fo i ‘helpu’ Nenni (Nel Bryneinion). Rhan amla cerdded drwy fynwent a dros y gamfa oedda ni. Galw weithiau efo Wil Manley yn Tan Fynwent am sgwrs. Gweld Mrs Watson weithia hefyd. ‘Dressmaker’ oedd Mrs Watson. Fe wnaeth hi ffrogiau bendigedig i Mary a fi. Rhai pinc gola ac yn cau yn y cefn efo ‘bow’ mawr. Cofio gwisgo y ffrog i fynd i briodas Lowri a Frank ac i briodas Alwyn ag Eleanor.
Pan oedda ni yn blant mi oedda ni allan yn chwarae o fore tan nos. Cofio eistedd ar wal Belle Vue yn ‘hel number ceirs’. Llyfr Bach a pensel yn fy llaw a rhoi rhif bob car oedd yn mynd heibio yn y llyfr. I be? Dwn i ddim! Elin Jenat oedd yn byw yn Belle Vue adeg hynny. Pan fu farw Elin Jenat fe werthwyd Belle Vue a newidwyd ei enw i The Rock.
Cofio hefyd mynd yn rheolaidd i chwilio am boteli Corona neu boteli cwrw gwag. Os bydda ni yn cael rhai fe fyddwn yn mynd a nhw i’r Sun a cael arian amdanynt. Y llefydd gore i chwilio am boteli fydda yn y cloddia yn L么n Seler neu L么n Bwlch Llan.
Mi fydda plant y pentre yn cael mynd i Bwlch i chwarae. Cofio chwarae t欧 bach yn cwt mochyn a hefyd ‘roedd na swing anferth yn t欧 gwair. ‘Roedd ‘Mei Bwlch’ yn garedig iawn yn gadal i ni chwarae yno. Dwy reol oedd ‘na, chaen ni ddim mynd os nad oedd hi adra a hefyd ‘roedd rhaid i ni guro ar y drws a gofyn caniatad. Dim yn cofio iddi ddweud na erioed.
Mr a Mrs Parry oedd yn cadw siop y pentra. Y ddau yn dod bob dydd o Bwllheli yn ei car bach du. ‘Dwi hyd yn oed yn cofio rhif y car RGO 115. Pam medda chi m么d i yn cofio hynna? Y co gora sydd gen i am siop Llanengan ydi y ‘Christmas Showroom’. B么b Nadolig mi fydda Mr a Mrs Parry yn ordro bisgedi, chocolate, cnau a.y.b. a wedyn ei gosod yn ddel yn y stafell uwchben y siop oedd wedi cael ei rigio yn grand at y Nadolig. Mi fydda raid cael gwadd i fynd i weld y ‘Showroom’. Cerdded o gwmpas a mam yn deud beth fasa hi yn lecio brynu a Mr Parry yn ‘sgwennu fo lawr yn ei lyfr bach.
Mae hyn yn atgoffa fi ‘nawr o be oedd yn digwydd pan fydda merch o’r pentra yn priodi. Mi fydda pawb o’r bron yn rhoi anrheg iddi a wedyn roedd yr anrhegion i gyd yn cael eu arddangos yn stafell ffrynt ei rhieni. Pawb wedyn yn cael mynd i’w gweld. Cofio mynd efo mam i Trwy’n Garreg i weld anrhegion gafodd Eileen Ward pan briododd hi 芒 Benes.
Pan o ni tua pedair ar ddeg oed mi fu raid mi fynd i’r ysbyty yn Bangor i dynnu fy ‘mhendics’ Fe aeth rhywbeth o’i le a mi f没m i yno am dair wythnos. Fe wnaeth Mari Jones Cefnen yrru cardyn ‘Get Well’ i mi bob dydd tra buais i yno, tua ugain cerdyn i gyd. Eisiau gwneud yn siwr m么d i yn cael post bob dydd i godi nghalon medda hi!
‘Roedd kiosk y pentra reit dros ffordd a Gongl Gron. Ychydig iawn oedd efo ff么n yn y t欧 pan o ni yn blentyn. Mi fydda mam yn gwneud ffafr i ambell un a ffonio rhywle drostynt. Cofio Iorwen Ty’n Morfa yn dod a llythyr i mam yn y bore weithiau pan oedd hi yn dod i’r pentra i ddal bus i fynd i Ysgol Botwnnog. Mrs Hughes isho mam ffonio rhywle iddi, ffariar fel arfer. ‘Roedd y cyfarwyddiadau yn y llythyr a pres i dalu am y galwad ff么n.
Wedi eistedd i lawr a meddwl am fy atgofion on Lanengan ‘rwyf wedi synnu fy hun efo beth dwi yn gofio. Mae gen i lwyth o atgofion eraill hefyd yn enwedig am Capel Bwlch a Ysgol Sarn Bach. Efallai rhyw ddiwrnod caf gyfle i rannu rhai ohonynt.
Thomas Evans, Ty Capel Bwlch, Llanengan – atgofion Susan Evans, Tan Fynwent
1972
Yn ogystal 芒 Mary Ann Lloyd yn ystod y cyfnod yma yn y coleg, b没m yn ymweld 芒 Thomas Evans y Bwlch, yn cael ei hanes yntau hefyd. Yn 1972 pan fu i ni gyfarfod gyntaf ‘roedd yn 75 oed.
Ganwyd ef ym Mhen Rhiwiau, Mynytho a bu’n was ffarm rhan fwyaf o’i oes. Cychwynnodd ar ei yrfa yn Rhandir Bach uwchben Abersoch ar gyflog o £2 am 26 o wythnosau, yn gytundeb hanner blwyddyn. Yn ystod yr wythnos gwaith arhosai yn Rhandir Bach, ac yn 么l adra am y penwythnos.
Symudodd wedyn i weithio yng Nghastellmarch dros y ffordd i’r Warren, Abersoch. Codai am 5 o’r gloch bora i fynd at y gwartheg i’w godro tan 7 o’r gloch . Ymlaen wedyn, yn1913 , i Barrach Fawr, Llangian.
Ar ddechrau bob haf, cyn cychwyn ar y redig roedd yn rhaid codi cerrig oddi ar wyneb y tir.
Ar ddiwedd yr haf roedd yn amser hel gwair gan ddefnyddio ceffylau i wneud hynny, dim tractorau ‘radeg honno ! Os oedd wedi glawio yn y cyfamser roedd angen troi'r gwair drosodd er mwyn ei sychu. Cyn ei roi ar y drol gwnaethpwyd twmpathau o’r gwair sych.
Ystod y rhyfel byd cyntaf ‘roedd Thomas Evans mewn gwaith yn Felin Fadryn a Plas Madryn Nanhoron, cartref Sir Love Jones Parry yn y 19egG. Gweithio’r aradr fyddai ar y ddwy ffarm.
Treuliai llawer o oriau ar ei bennau gliniau a gyda’i ddwylo byddai’n ymladd i gael gwared ar y chwyn.
Defnyddiai’r ceffylau wedyn i fynd drwy’r pridd a’u carnau fel na fedrai’r chwyn dyfu’n 么l. Plannu rwden fuasai’r weithred nesaf ar 么l glanhau’r tir.
Yn y Felin malwyd y gwair i wneud ceirch, a’i bobi. ‘Roedd tyllau yn y popty er mwyn troi'r ceirch drosodd i arbed llosgi. Malwyd eto i wneud blawd ceirch ac wedyn am Bwllheli i wneud uwd a bara ceirch.
Yn 1920 ‘roedd yn Felin Newydd lle bun gweithio wrth ochr y peiriant dyrnu.
Ystod, amser hel gwair roedd cefnogaeth i’w gael gan weision ffermydd cyfagos. Deuair dynion i helpu ar alwad ffliwt wrth bod hyn yn dynodi bod y dyrnwr wedi cychwyn.
Am bump o gloch bora bysai rhywun wedi bod wrthi’n codi ager i fyny ym mheiriant y dyrnwr, drwy’i lenwi 芒 d诺r a phriciau oddi tan y boilar. Roedd 10 dyrnwr yn Felin Newydd. Byddai un dyn wastad yn bwydo’r dyrnwr ac un arall yn torri’r ysgubion er mwyn eu rhoi yn y dyrnwr. Gyda’r m芒n us wedi’i wahanu o’r plisgyn, lluchiwyd allan a’i gasglu gan y gweithwyr gerddai tu 么l a’i gludo i’r ysgubor.
Un o ddyletswyddau eraill Thomas Evans oedd tywys staliwn, er mwyn ffrwythloni ambell i gaseg, am gyfnod dros dymor o 3 mis o amgylch Penrhyn Ll欧n .
Aethant cyn belled ag Afonwen wedyn am Bentreuchaf, Beudy Mawr, Efailnewydd a Wern, Llanbedrog, ac aros dros nos yn Henllys Newydd, Llanbedrog. Yn y bore ymlaen i Castellmarch, Abersoch, drwy Abersoch i Cilan, Porth Tocyn, Bwlch, Llanengan, Tywyn ac yn 么l i Felin Newydd.
Rhyw bedair blynedd cyn i mi ei gyfarfod ‘roedd wedi cael gwahoddiad i ddarllen rhai o’i benillion ar y Radio, atgofion o’i ddyddiau ar y ffermydd. Dyma 3 ohonynt:-
“Pobl Cilan dewch i lawr
I weld y dyrnwr yn Penrhyn Mawr
Hwnnw’n troi fel yr ysbryd drwg
I lond ei din o d芒n a mwg.”
“Yn Penbont Seithbont
Mae bitch o hogan gas
Ei gwaith hi nos a bora
Oedd achwyn ar y gwas;
O ferchaid Plwyf Llangwnning,
A welsoch arnai fai
I brynu triwal geiniog
I gau ei cheg a chlai”
“Cysgais llawer noson
Mewn darn o drwmbwl trol
Yn ddigon gwag fy mol”
Mae’r pennill olaf yn cyfeirio at ffordd treuliai fywyd rai o’r ffermydd.
Cysgai’n aml mewn llofft stabl gyda’r ceffylau odditano. Chwythai’r gwynt drwy’r ffenestri ac i mewn drwy’r gobennydd. Yn aml byddai’n canu’r pennill uchod i wneud ei hun gysgu drwy’r newyn a diflastod.
I frecwast ‘roedd cawl o fara a llefrith neu laeth yn unig ac i ginio tatws trwy’i crwyn a llaeth. Rhwng un a phump o’r gloch y prynhawn cafwyd “cynhesrwydd” sef te a 2 ddarn o fara barlys a bara gwyn.
Roedd y clocsiau yn y llun am ei draed pan roeddwn yn ymweld ag ef y diwrnod hwnnw. Gwisgai glocsiau pan yn yr ysgol a pharhaodd pharhaodd i’w gwisgo pan yn was ffarm yn dilyn y dyrnwr. Broliai’r sawdl coed iach.
Byddai yn para rhyw 4 i 5 mlynedd. Tynnai’r bedol o’r sawdl a’i newid am rwber i’w gwneud yn llai swnllyd. Mc Kevitt’s shop sgidiau hen-ffasiwn arferai werthu’r clocsiau yn Stryd Penlan, Pwllheli sydd bellach wrth gwrs wedi hen fynd ond yn dal yno yn 1972! – yn cofio’n iawn – rhywle rhwng y siop ddillad ddrud , crand ‘na ac Arfonia!
------------------------------------------------------------
Llanengan fy mhlentyndod - wel o be dwi’n cofio beth bynnag. - Iona
‘Roedd hi’n ganol y 50au pan gyrhaeddais i Glan Morfa fel plentyn cyntaf Eric Bwlch Gwyn a’i wraig cymharol newydd Megan o Dremadog. Wyres gyntaf William a Maggie ond ‘roedd 'na 诺yr h欧n, fy nghefnder mawr, wnaeth sawl sylw am y gyfnither fach o be dwi’n ddeall. T欧 rhent oedd Glan Morfa a dyna’r arfer i nifer pryd hynny , efo dau gae ac iard addas i Dad gadw peth o gyfarpar adeiladu . ‘Roedd y cae pelau yn un anferth i ni a lle hwylus yn y gongl bellaf i greu den yn din clawdd o olwg ein rhieni. Rownd y gongl wrth fynd i’r cae pellaf bu Dad yn cadw gwenyn - hen gnafon brwnt - ac mae atgofion o fy rhieni yn trin y m锚l a’i werthu pob haf, a Mam druan yn rhedeg ar draws caeau pan godai haid i drio taflu cynfas trostynt tra’n aros i Dad ddod adref o’i waith.
Mae Glan Morfa ar y ffordd i Borth Neigwl ar gychwyn L么n Morfa a byddai’n hawdd iawn cerdded i’r traeth oddi yno. ‘Roedd Porth Neigwl yn fan chwarae hwylus er nad oedd Mam yn ddynes lan m么r o gwbl a dweud gwir, byddem ni’n cael mynd yn amlach na pheidio efo Anti Ceinwen, Anti Sarah , Anti Olwen ac Anti Myra (nifer o antis - ddim i gyd yn perthyn drwy waed, ‘roedd pawb yn anti adeg yna). Os oeddem ni’n cael diwrnod yn lan y m么r y prif broblem gyda Phorth Neigwl oedd y cerrig dan draed a’r tar fyddai byth a hefyd ar hyd ein traed a’n dillad yn dod adref - allan 芒’r iwcaluptus i drio ei glirio ac eli penelin. Ar wah芒n i’r m么r a’r tywod ‘roedd 'na lu o brofiadau eraill i blant elwa ohonynt yna. Byddem yn dringo fyny adeiladau'r Awyrlu ar 么l oes yr ysgol fomio heb sylweddoli beth oedd eu hanes ar y pryd a sglefrio lawr yn 么l. Ond y prif bleser oedd mynd dros y bompren i chwilio am gliwiau ar hyd y Morfa yn enwedig os oedd rhywun wedi bod yn llosgi eithin. ‘Roedd dylanwad mawr un awdures Saesneg a Seisnig iawn arnom fel plant a byddai’r beiciau tair olwyn yn sgrialu hi am Borth Neigwl i lunio ein dirgelwch ein hunain fel y Pump Enwog neu’r Saith Dirgel!!. ‘Roeddem ni’n amau pawb a phopeth ac yn ysgrifennu ein darganfyddiadau mewn llyfrau bach a’u cuddio. Cefais un yn 么l rhai blynyddoedd yn 么l gan breswylwyr presennol Glan Morfa, s么n am crinj, nodiadau bach Saesneg fel y nofelau.
Ar y ffordd gartref o’r traeth byddem bron bob amser yn aros i ddweud helo wrth Miss Lloyd, Morfa. ‘Roedd hi’n gymeriad, a phob amser yn cynnig fferins i ni. Os oedd Mam efo ni fyddem yn cael gwahoddiad i’r t欧 i eistedd ar y setl a mwynhau gwrando ar eu sgwrsio. Wrth fynd yn h欧n dwi’n cofio i mi ac un o’m cefndryd wisgo fyny a cherdded ar hyd y ffordd i’w th欧 i gymryd arnom ein bod wedi dod o wlad bell a cheisio siarad Saesneg bratiog gyd hi i’w thwyllo, hithau yn chwarae gyda ni a chymryd arni nad oedd yn ein hadnabod. Yn ystod y cyfnod clo b没m yn meddwl llawer amdani wrth basio’r gi芒t lle arferai sefyll yn ei brat a’i het.
‘Roedd Glan Morfa yn edrych tua chorn y gwaith plwm a phentref Llanengan, ar ben allt (lle ddysgais reidio beic dwy olwyn drwy ffriwilio lawr ar un dradlen heb boeni am draffig) gyda T欧’n Llwyn oddi tanom. Yn T欧’n Llwyn ‘roedd anti arall, anti Robaits. Cof bach sgen i o’i g诺r Mr Roberts, doedd o ddim yn dda a dwi’n ei gofio yn y gwely lawr grisiau gyda hi’n tendio arno ac yn gosod i ymwelwyr “bed and breakfast and evening meal”. Ar 么l i’w g诺r farw newidiodd i osod y t欧 yn ‘furnished’ gan symud i fyw i’r garej dros yr haf gan goginio ar stof fach baraffin lle gwn芒i gacen gri, jam a bob math o bethau. ‘Roedd hi’n arferiad gan nifer i osod y t欧 i ymwelwyr dros yr haf pan oeddem ni’n blant a symud allan i unai garej neu gwt yn yr ardd. Cwt oedd yn Glan Morfa, hen fydai dwi’n amau gyda thoiled yn sefyll yn yr ardd. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ‘roedd hi’n ras i bawb gael bath cyn i’r bobl ddiarth gyrraedd ar 么l gorffen glanhau ar ddydd Sadwrn - ia un bath yr wythnos neu bythefnos hyd yn oed os oedd pobl yn aros am gyfnod hirach. ‘Roeddem wrth ein bodd yn chwarae efo’r plant oedd yn aros acw ac yn edrych ymlaen at weld os oeddent wedi gadael rhywbeth ar eu h么l. Doedd hi ddim yn anghyffredin cael gwahoddiad i fynd gyda’r teulu i’r traeth weithiau neu i’r t欧 i chwarae. Ond, ‘roedd hi’n boen symud allan bob mis Mai, clirio ein teganau a’r dr么r bob dim yn y bwrdd.
‘Roedd ffrindiau i ni, Carys ac Annwen yn byw yn yr Offis, o dan gorn y gwaith plwm a byddem yno’n chwarae yn aml. Eto feddyliom ni fawr am gefndir a hanes y corn a’r gwaith ond ‘roedd yn fan chwarae hwylus. Adeg hynny gallech fynd i mewn i’r corn ac edrych i fyny i weld yr awyr uwch ein pennau ac o’r corn fynd ar ein boliau i lawr y twnnel i gyfeiriad yr Offis. O le ges i’r gyts i hynny dwn i ddim gan gysidro sut ydw’i heddiw ond fe wnaethom hyn ddwsinau o weithiau yn blant dwi’n si诺r. Ar y ffordd lawr byddem yn chwilio am fadarch yn y cae cyn croesi’r gamfa gyferbyn a Grinallt (neu Sydney Villa adeg hynny) i L么n Pwllan (Bwlch Llan).
Wrth fynd lawr yr allt byddem yn chwarae o hyd mewn llecyn ar y dde lle ‘roedd hen geir wedi eu gadael - cofio treulio pnawn angladd ewythr i Dad yn chwarae yno, dwi’m yn si诺r pwy oedd yn ein gwarchod na lle’r oeddem i fod.
Ar waelod yr allt ‘roedd Siop gig Evan Defi (tad Dafydd Leslie), yno'r ai Mam i brynu cig. Ar y ffordd adref byddwn yn bwyta sosej amrwd wedi ei chael gan Evan Defi. Adeg hynny ‘roedd siop a llythyrdy yn y pentref yn llawn o bopeth y byddem angen yn fwyd. Pan yn dair ar ddeg treuliais yr haf yn gweithio yno 9 tan 6 bob dydd ond dydd Mercher 9-1, a Sul 9-11.30. Os oedd rhywun yn galw ‘roeddwn i fod i ddweud mod i’n gweithio llai, ddim yn siwr faint llai chwaith. Beth bynnag fe ddysgais nifer o sgiliau, sut i dorri cig moch ar beiriant trydan a glanhau'r bled, sut i dorri iau oedd yn llithro ar hyd y cownter nes mod i’n cyfogi, gwneud bil ar lyfr bach glas taclus a rhoi’r newid cywir, pacio neges yn dwt mewn bocs neu fag a chyfrif newid yn Gymraeg ar 么l siars gan Mr Thomas y person (tad Ll欧r). ‘Roeddwn yn cael £5 yr wythnos o d芒l a llwyddais i dalu am wythnos yn Glan Llyn ar ddiwedd y gwyliau ac arian gwario gyda’r cyflog. Cefais gyfle da yma i ddysgu sut i drin pobl yn gwrtais a dod i adnabod cymeriadau’r pentref, pobl fel Mrs Jones Ty’n Ffoes a Miss Jones Sunny Side wariai eu harian prin ar fara ddoe i’r adar a bwyd i’r cathod oedd o’u cwmpas. Mae’n debyg fod 'na ymwelwyr yn galw ond wnaethon nhw fawr o argraff arnaf mae’n rhaid. Un joban oedd llenwi’r ddau beiriant gwm cnoi tu allan i’r drws - ddim yn dasg ddifyr gan fod angen eu stacio fyny yn ofalus a sicrhau fod y peiriant yn gweithio, un hen geiniog am baced o bedwar os dwi’n cofio’n iawn . Mr a Mrs Parry a Glyn eu mab o Bwllheli oedd yn cadw’r siop adeg hynny ac fe wnaethon nhw drio agor caffi fyny grisiau un haf ond sgen i fawr o gof o hynny chwaith. ‘Roedd Mr Parry wedi ennill gwobrau am wneud arddangosfa dda yn y siop dwi’n cofio. Fe symudais i’r Rabar wedyn i weithio mewn siopau eraill er mwyn bod yn nes at ffrindiau ond ‘roedd Siop Llanengan yn brofiad gwerthfawr. Dwi’n cofio Moi a Beti Fronallt yn ei chadw rhyw dro wedyn a chadw fan baned ym Mhorth Neigwl rhyw dro hefyd.
Yn y pentref hefyd ‘roedd tafarn y Sun. Bob a Lona rhieni Ian oedd yn ei chadw ar y pryd gyda rhieni Lona o Trefor yn cynorthwyo. Byddai Dad yn galw yno weithiau am beint ar 么l bod yn Bwlch Gwyn yn gweld Nain a Taid ond byth ar y ffordd yno. Dwi’n amau fod Taid hefyd yn galw yno’n slei wrth fynd i’r siop am neges yn y bore ac yna’n eistedd yn Cwt Rar Isaf gyda’i getyn yn bell o olwg Nain dan amser cinio wedyn. Sgen i’m cof i Mam fynd yno. Ar un adeg fe agorodd Lona siop fach yng nghefn y Sun i werthu creision a fferins a diod i blant y rheini ddoi i’r dafarn hefyd.
Ar wah芒n i’r siopau ‘roedd faniau bwyd yn galw o ddrws i ddrwg - Glandulyn, Robin Marks efo’i bysgod, Bara o Langwnnadl, a siop fwyd o Bwllheli ai Maypole tydwi ddim yn cofio’n iawn. Ar 么l i siop Evan Defi gau yn pentref byddai’n dod heibio efo’r cig ar nos Sadwrn ar gyfer dydd Sul. Nid peth newydd yw’r faniau yn danfon bwyd - ond fod y ffordd o archebu wedi newid de.
Un o brif adeiladau Llanengan yw’r Eglwys fawr hardd sydd yma. Pan yn blant byddem yn cael mynd i ben y twr weithiau ac fe gofiaf gnocio ar ddrws y rheithordy i ofyn i Mr Thomas os oedd yn iawn i ni fynd, yntau creadur yn gollwng popeth a mynd a ni i fyny’r grisiau , siars i roi dwylo dros ein clustiau tra’r oedd yn canu’r gloch i ni ar ein ffordd fynd a sefyll ar y top yn rhyfeddu at yr hyn a welem. Mi fyddai Mr Thomas druan wedi cael ei siarsio rhag gwneud y dyddiau yma dan reolau Iechyd a Diogelwch dwi’n amau. Arferai Taid ac Yncl Hughie T欧’r Ysgol (brawd Nain) ganu’r gloch bob Sul . Yn yr Eglwys y cafodd Ann a fi ein bedyddio ac yno y byddai'r teulu yn addoli yn y Gymraeg (yn wahanol i’r drefn heddiw lle dwi’n meddwl mai gwasanaeth Saesneg yn unig sydd yno) nes i’r Eglwys gau am gyfnod i adnewyddu rhan ohoni. Yr adeg yno fe gofiai fynd yno i boeni rhai oedd wedi codi esgyrn dynol (os dwi’n cofio’n iawn ) o dan y llawr, cofio nhw’n brwsio llwch gyda brws dannedd oddi ar yr esgyrn. Wrth sgwennu hwn dwi’n sylweddoli mod i’n debygol o fod wedi bod yn dipyn o niwsans i lawer un pan oeddwn i'n blentyn!!
Draws l么n yn Nh欧’r Ysgol sef cartref Yncl Hughie ac Anti Blodwen ‘roedd yna goed eirin a mwya’r cywilydd byddem yn griw yn dwyn yr eirin oddi ar y coed pob blwyddyn. ‘Roedd 'na elfen o euogrwydd mae’n amlwg gan i ni brynu paced o fisgedi yn y siop a mynd a nhw yn anrheg i Anti Blodwen. ‘Roedd Yncl Hughie yn un o weithwyr y ffordd i’r Cyngor yn cadw’r ffyrdd yn glir.
Arferem gael ein cario i ysgol Sarn Bach yn y bore gan Mr Morris Rhydolion mewn fan fawr, pob plentyn am wn i rhwng Rhydolion a’r ysgol. Fodd bynnag pan ddaeth yn amser dal bws i fynd i Fotwnnog ‘roeddem yn cerdded i’r pentref i ddal bws Evan Jones Parry am 8 y bore, heibio'r ffynnon ger T欧’n Llwyn a’r caniau llaeth wrth T欧 Cerrig.
Pan oedd Granville a Mrs Evans yn byw yn T欧 Cerrig dwi’n cofio cael bisgedi sunsur cartref ganddi pan o’n i’n s芒l. Ond ar 么l iddynt symud o T欧 Cerrig y cof mwyaf sgen i o’r t欧 ydi fod Cymdeithas yr Iaith wedi symud i mewn fel rhan o brotest er nad ydwi’n cofio pam a bod Dad wedi gorfod mynd yno wedyn i drwsio ffenestr ‘roeddent wedi malu i fynd i mewn.
I fyny’r l么n ‘roedd Tanrallt a pan oeddem yn blant ‘roedd Mrs Davies a’i dau fab Leslie a ??Vernon yn byw yno . Un noson fe gefais fy neffro gan Mam i edrych allan gan fod t欧 gwair y fferm yn wenfflam. Ar 么l i’r teulu symud i Efailnewydd i fyw mae gen i gof o foch yn cael eu cadw ar y tir a cheffylau am gyfnod.
Fyny l么n heibio’r Offis ‘roedd Ceinwen Jones (anti Ceinwen) a Tec yn byw – doedd y dynion ddim yn yncl’s sy’n od tydi? Anti Ceinwen oedd yn ein dysgu i adrodd yn yr Ysgol Sul ar gyfer Eisteddfodau lleol. ‘Roedd hi’n cadw ieir yn y cefn a dwi’n cofio hi’n magu cywion bach melyn yng nghefn y t欧.
Gan fod Nain a Taid yn byw yn Bwlch Gwyn ‘roeddem ni’r plant yn treulio oriau yno gan bicied yn aml i ddrws nesa i Gwel Don at Mr a Mrs Williams a Dei a Jinny a Dot y ci, ac yn rhyfeddu at yr ogof yng nghefn y t欧 lle byddai’r teulu yn coginio pysgod ac ati i arbed yr arogl yn y gegin. Pan aeth y t欧 ar werth mi es yno i edrych arno a rhyfeddu mor fach ydoedd yn enwedig o gysidro fod pedwar oedolyn wedi cydfyw yno a Dot wrth gwrs am flynyddoedd.
‘Roedd Bwlch Gwyn yn handi hefyd ar gyfer dianc i Fron Isaf - adeg hynny byddai cymaint yn digwydd ar y fferm dwi’n siwr fod Ifan a Lwl di syrffedu arnom dan draed - ond doedd na foch yn cael eu geni, oen llyweth, c诺n bach a llond gwlad o dyllau i guddio yn y t欧 gwair. Oddi yno lawr dros Ben Bryn Cras i weld os oedd fan Dad yn Bwlch Gwyn ac i lawr adra drwy ‘Rochor. Troi i’r dde ar y gwaelod ac ar hyd l么n am Langian lle’r oedd ganddom dden yn y brwgaits - ‘roedd hi’n oes y dens yn doedd - roedd 'na un arall yn dop cae tu 么l i Bwlch Gwyn rhwng dau glawdd.
Er mai Eglwyswyr oedd fy rhieni mi benderfynwyd y dylwn fynd i ysgol Sul yn Bwlch a dyma Dad yn mynd a mi un dydd Sul ond fe nogiais cyn mynd trwy’r drws. Erbyn yr wythnos wedyn ‘roedd 'na gynllun ar droed a dyma Mr a Mrs Thomas Ty’n Don yn galw amdanaf a dyna fu’r patrwm am flynyddoedd wedyn. Rhaid i mi ddweud mod i wedi mwynhau'r Ysgol Sul ar y cyfan, ac wedi cael sawl profiad yn ei sgil - heb anghofio’r tripiau i Rhyl a Sw Gaer ac ati. Fodd bynnag dwi’n ymwybodol iawn fod y pwysau a roddwyd ar rai o’r bobl ifanc i gymryd rhan yn gyhoeddus wedi bod yn gyfrifol am i nifer ohonynt beidio mynd ar gyfyl y capel ar 么l cael eu derbyn. Yn ogystal byddem yn mynd i’r Band of Hope ar nos Iau oedd yn cael ei arwain gan Megan Thomas, Brynteg. Pan ddaeth Gareth Maelor Jones yn weinidog i’r Bwlch cychwynnwyd y Gorchfygwyr a dyma lu o brofiadau eraill ar draws y capeli gyda phobl ifanc o Abersoch, Llanbedrog, Llangian a Cilan . Pan oeddwn yn cael fy nerbyn fe benderfynodd fy rhieni newid o’r Eglwys i’r Capel hefyd ac aeth Mam ymlaen i fod yn athrawes ysgol Sul am flynyddoedd. Yn y Capel ‘roedd gan bawb ei set ei hun, a phobl yn talu am yr anrhydedd ond yn y festri - fu wedyn yn gapel - ‘roedd y dynion yn eistedd un ochor a’r merched yr ochr arall - dal ddim yn siwr pam. ‘Roedd Evan John Creigfryn a Lewis Roberts, Whitehorse yn codi canu yn y capel a rhywun gwahanol yn arolygwr ysgol Sul bob blwyddyn. Yn y gwasanaeth nos Sul pan o’n i’n mynd - ddim yn aml - ‘roedd rhai o’r pregethwyr yn ddigon difyr, eraill yn hir a diflas. Y gwasanaeth gwaethaf i mi fyddai’r noson pan oedd Cyfarfod Gweddi - y blaenoriaid yn gwedd茂o yn bennaf o’m cof i. Dwi’n cofio David Williams, Dwyfor (fy nghartref i r诺an ) yn gwedd茂o yn hir ac anti (un arall) Matt ei wraig yn pesychu ar 么l sbel - dwi’n amau i roi rhybudd iddo ei fod wedi bod wrthi’n hir ond ella mai fy nychymyg i oedd hynny. ‘Roedd 'na ddau ddosbarth dynion yn yr Ysgol Sul - un heb athro - ac ‘roedd yn arferiad iddynt symud i fyny at y gweddill ar 么l y gwasanaeth dechreuol, pam na fyddent yn cychwyn yn yr un lle dwn i ddim.
Rhan o drefn y flwyddyn oedd dysgu adnodau a’r Rhodd Mam ar gyfer y Safonau a dysgu ar gyfer yr Arholiad Sirol. Fel canlyniad i’r Arholiad Sirol ‘roeddem yn cael llyfr fel arfer yn y Sasiwn Plant ym Mhwllheli, ac weithiau dillad newydd ar ei gyfer.
Yn ystod y clo pan o’n i’n gorfod mynd am dro ar fy mhen fy hun ‘roedd hi’n gyfle i feddwl a hel atgofion wrth basio gwahanol fannau. Faint o bobl ddi-gymraeg oedd yn y pentref pan oeddem yn blant - wel mi oedd na dipyn ond ‘roeddem yn eu hadnabod - ychydig iawn o ymdrech i ddysgu Cymraeg dwi’n cofio nhw’n wneud ond doedd neb yn eu beirniadu o be dwi’n gofio. Gen i gof o Mr a Mrs Watson, Tony Griffiths a’i wraig, Mrs Challenger a’i chi wnaeth fy mrathu, Mrs Stubbs , Mr Marsten y deintydd , tad genod Johns oedd yma ers adeg rhyfel a Gary Tan Fron ‘run fath. Fel plant ‘roeddem yn gwybod pwy oedd yn byw yn bob t欧 dwi’n amau. Chydig flynyddoedd yn 么l ‘roeddwn yn trio dweud wrth ffrind pwy oedd yn byw ymhobman wrth gerdded am dro a sylweddoli mwyaf sydyn nad oedd gen i syniad pwy oedd yn y rhan fwyaf o’r tai. Dwi’m yn meddwl fod 'na dai haf neu dwi ddim yn cofio, doedd na ddim Airbnb ond chwedl Miss Jones Sunny Side mi oedd na bobl yn gwneud “breakfast in bed”.
Adeg hynny ‘roedd 'na sawl person yn ffarmio yn y pentref ar wah芒n i’r llond llaw presennol - Ty’n Don, T欧 Cerrig, Tan Rallt, Ty’n Morfa, Dwylan, Creigir Goch. Cania llaeth ar ochor l么n ar 么l godro yn aros am lori laeth.
Adeiladwr oedd Dad, felly hefyd un o’i ffrindiau Harri White Horse, ‘roedd 'na sawl saer - Tec Sydney Villa, Tec Wern , ac Evan John Gongl Gron .
‘Roedd Dad wedi marw cyn i’r Ganolfan gael ei hadeiladu ond ‘roedd y Hall Billiards yn le pwysig iddo. Dwi’m yn meddwl fod o’n chwaraewr o fri ond ‘roedd 'na ryw gymdeithas yno i’r dynion dwi’n amau rhywbeth fel y Man Shed heddiw o bosib. ‘Roedd o’n anffodus o be dwi’n cofio i fod ar y rota adeg y Nadolig i lanhau a smwddio’r byrddau ond byddai Mr Ward Trwy’n Garreg yn gwirfoddoli yn ei le er mwyn i Dad gael bob adra efo ni’r plantos ar y diwrnod ei hun.
Yn 么l Mam ddaeth hi i Llanengan yn 1955 ‘roedd yna dd诺r yn y tai cyn iddi gyrraedd ond yn saff doedd na ddim ystafell molchi na thoiled ym mhob t欧. ‘Roeddem ni’n lwcus yn Glan Morfa ond toiled yn dop rar oedd yn nh欧 Nain a Taid am flynyddoedd nes i Dad a’i frawd roi un yn llofft sb芒r ryw ben a dim ond toiled a sinc oedd hynny. Gen i gof o Mam yn mynd yn wirion efo un person ddaeth i barti pen-blwydd Ann a fi ac a dreuliodd yr amser yn mynd yn 么l a blaen i’r lle chwech i dynnu’r tsiaen gan nad oedd gan y teulu un gartref.
Dwi’n cofio ni’n cael ff么n hefyd i Dad allu gael ei gwsmeriaid i’w ffonio. Party line oedd ganddom efo Belle Vue dwi’n meddwl - os oedden nhw ar y ff么n ‘roedd rhaid ei rhoi lawr a thrio eto yn munud (neu glustfeinio ar eu sgwrs!!). ‘Roedd angen gofyn i rywun yn yr Exchange yn Rabar i’ch rhoi trwodd i’r rhif cywir dwi’n meddwl. Ar 么l dod o’r ysgol byddem yn gyrru ein rhieni yn wirion yn treulio oriau yn siarad efo’n ffrindiau ar y ff么n a ninnau newydd eu gweld yn yr ysgol wir.
Ar 么l i frawd Mam gael cine camera fe gafodd Dad hefyd rhyw ysfa ac mae sawl ffilm yn Bwlch Gwyn gyda’r un olygfa o’r pentref o Glan Morfa arni a’r ceir di parcio wrth y Fach a Regetta Rabar flwyddyn ar 么l blwyddyn. Yn anffodus chydig iawn o bobol sydd arnynt ar wah芒n i ambell i garnifal yma a thraw, gwahanol iawn i hunluniau heddiw de, mi fyddai wedi bod yn dda petai cronicl o rai o wir gymeriadau'r pentref yn y cyfnod yma pan oeddem ni’n tyfu fyny - amser difyr iawn.