Wedi i dwf Anghydffurfiaeth a’r Diwygiad Methodistaidd gymryd gafael yng nghanol yr 19eg ganrif, newidiwyd tirlun crefyddol cefn gwlad Cymru am byth. Gyda’r newid, daeth talu’r degwm i’r Eglwys yn fwy o destun llosg nag y bu erioed. Treth oedd y degwm, modd i gynnal yr Eglwys a’i chlerigwyr, treth a fynnai ddegfed rhan o incwm y ffermwyr am y flwyddyn. Y rheithor fyddai’n gyfrifol am gasglu’r degwm ac i’r rheithor y disgynnai’r cyfrifoldeb o erlyn unrhyw ddyledwr. Yn y blynyddoedd cynnar gallai’r tâl fod mewn arian, cnydau neu dda byw, gyda’r rheithor â’r hawl i werthu beth bynnag a gyflwynid i adennill dyled y ffermwr i’r Eglwys. Yn y flwyddyn 1836, er mwyn hwyluso pethau, mynnwyd bod y ffermwyr i dalu’r degwm mewn arian yn unig, gyda’r awdurdodau i benderfynu ei werth drwy ddefnyddio prisiau cyfartalog cnydau haidd, gwenith a cheirch ar y farchnad dros y saith mlynedd flaenorol.
Erbyn wythdegau’r ganrif, gyda’r farchnad mewn dirwasgiad ers peth amser, roedd y byd amaethyddol yn fyd ansicr iawn. Aeth cael prisiau teg am eu cynnyrch yn anodd os nad amhosib i’r ffermwyr; ond er gwaethaf y sefyllfa mynnai’r Eglwys gael ei harian yn llawn. Cynyddodd drwg deimlad gyda’r mwyafrif o’r farn fod eu sefyllfa yn un cwbl annheg; pa gyfiawnder oedd mewn gorfodi’r amaethwyr, y mwyafrif ohonynt yn anghydffurfwyr, i gyfrannu tuag at gynnal Eglwys Lloegr. Erbyn hyn, aelodau ffyddlon y capeli newydd ledled y wlad oedd mwyafrif y ffermwyr, wedi troi eu cefnau ar yr Eglwys a buddsoddi eu hamser a’u harian prin i adeiladu eu haddoldai eu hunain.
Cefnogwyd y ffermwyr yn eu hymgyrch i wrthdroi'r anghyfiawnder gan Thomas Gee o Ddinbych, pregethwr anghydffurfiol, newyddiadurwr a chyhoeddwr Y Faner ac Amserau Cymru. Llwyddodd Thomas Gee i ddod ȃ’r ffermwyr at ei gilydd i ddadlau eu hachos yn erbyn yr awdurdodau a’r Eglwys. Drwy ddefnyddio ei bapur wythnosol cadwodd ymgyrch y ffermwyr o flaen llygaid y cyhoedd a’r gwleidyddion yn Llundain.
Dechreuodd yr helyntion yn ardal Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych yn y flwyddyn 1886, ac yno y bu’r gwrthdaro mwyaf yn ystod y cyffro. Ond mor gryf oedd y teimlad o annhegwch, lledaenodd yr helynt yn gyflym ledled y wlad, a chyrhaeddodd Ben Llŷn mewn ychydig amser.
Ar y 26ain o Ionawr 1887 ymddangosodd y llythyr isod yn Y Faner ac Amserau Cymru gan wrth- ddegymwr dienw o blwyf Llanengan.
Foneddigion
Wele, erbyn hyn, teimlir ychydig o wres y tân gwrth ddegymol a gyneuwyd ar lechweddau Llanarmon-yn-Iâl yn dechrau gwresogi ein teimladau ninnau yn yr rhanbarth dawel hon o Lŷn. Yr ydym yn ddigon parod i ddweud “Cerdd ymlaen nefol dân,” gan y gwyddom i sicrwydd mai “nefol” yn ei darddiad yw deheuad ym mhlant dynion am ddymchweliad trais a gormes. Os oes gan unrhyw blwyf fwy o reswm na’u gilydd i ofyn am ostyngiad yn y degwm, credwn fod Llanengan yn y sefyllfa honno. Llangian ydyw y plwyf terfynol, ac y mae fferm fawr yn y plwyf diweddaf yn terfynu ar un lai, agos yr hanner, ym mhlwyf Llanengan; ond y mae y ddau amaethwyr hyn yn talu rhywbeth yn debyg o ddegwm. Dyma fel y saif y degwm yn Llanengan, sef agos gymaint arall ag eiddo plwyf Llangian sydd ar y terfyn.
Yn teimlo yr annhegwch hwn yn fwy annioddefol nag erioed, dan y wasgfa masnachol sydd wedi ein dal, galwasom gyfarfod o’r degwm dalwyr i ystyried y sefyllfa. Daeth torf dda ynghyd; a phenderfynwyd yn unfrydol i ofyn 20 y cant o ostyngiad yn y degwm; ac er mwyn cael llais y plwyf yn lled gyffredinol, trefnwyd i weld a phob degwm-dalwr o ddim pwys gyda deiseb yn cynnwys achos y ffermwyr wedi ei gyfleu ynddi, i gael ei harwyddo gan bawb oedd yn gofyn am ostyngiad, gyda’r amcan o’i chyflwyno i’r Parch Thomas Jones, rheithor y plwyf. Cafwyd parodrwydd anghyffredin i’w harwyddo, oddigerth mewn ychydig iawn o eithriadau, ar rhai hynny yn bwysig.
Yn ail gyfarfod y ffermwyr, nodwyd y Meistri Griffith Williams Tŷ Newydd, ac Robert Griffith Creigir Goch i gyflwyno y ddeiseb i’r rheithor. Gwnaed hynny nos Sadwrn, Rhagfyr 18ed. Nis gellir cael dau ddyn ieuanc gwell i’r gwaith; ond diau mai cryfach fuasai y ddirprwyaeth pe buasai un o’r hen ffermwyr yn ymuno â hi. Cafodd y gwŷr ieuanc hyn ddifyrrwch mawr y dyddiau dilynol wrth adrodd eu helynt. Tywelltid hylif o ddifrïaeth personol arnynt. Ni allai yr “annwyl gariadus frawd”ddwyn dim yn erbyn cymeriad moesol yr un o’r ddau, oblegid ni pherthyn yr un ohonynt i’w gorlan ef. Gofynnai iddynt a oeddynt yn darllen eu Beiblau; ac os oeddent a fyddent yn ei fyw?
Atebai un o’r ddau fod, yn ddiamau, lawer o goll yn y byw yn erbyn yr rheithor a hwythau. “Pe byddai mwy o ddarllen ar y Beibl, a llai ar y papurau newydd sydd llawn celwydd (meddai) fuasai ddim o’r twrw yma yn y wlad.”
Tystiai y dynion ieuanc fod ei fwrdd ef yn llawn papurau newyddion ar y pryd. O’r diwedd, aed i edrych ar y ddeiseb. Wedi rhedeg dros yr enwau, dywedai-----
“Nid yw dynion call y plwyf i mewn.” Lle mae enw -------. ac enw------, ac enw------?”
“Wel(meddai’r bechgyn), y mae y tri mor awyddus a ninnau am ostyngiad ;”a rhoddasant dystiolaeth y tri ar y mater, i’r diben o ddangos i’r rheithor mae ryw amgylchiadau eraill pwysig ganddynt hwy na lawnodasant y ddeiseb, ac nid eu bodlonrwydd i’r degwm.
Er cydnabod callineb a pharchusrwydd y tri wŷr hyn, sydd yn glud arnynt yn y fuchedd hon, nis gallwn ddeall yr rhesymeg oedd yn dirmygu barn a theimlad 62 o ddegwm dalwyr cyfyng arnynt, ar draul anrhydeddu tri o wŷr am yr unig reswm na lawnodasant y ddeiseb. Pe buaswn i yn barson y plwyf, yn crynu rhag colli y degwm, yn lle bod yn talu-- talu yn dragywydd, a chael dim amdano---buasai rhesymeg Mr Jones yn efengyl i ninnau. Bu ergydio trwm ar y ddau du, ac ymwahanwyd mewn ysbryd cynhyrfus ar yr un llaw, a siomedig ar y llaw arall.
O ddeutu haner nos yr un noson, derbyniodd Mr Griffith Williams Tŷ Newydd, nodyn fel y canlyn:-
I Mr Griffith Williams. Rhagfyr 18ed 1886.
Rhag y bod dim camgymeriad, yr wyf yn ysgrifennu i lawr fy ateb i’r papur a roesoch i mi; a hynny ydyw, fy mod yn cydymdeimlo yn fawr a’r ffermwyr oblegid eu bod yn dioddef oherwydd prisiau isel; ond yr wyf finnau yn dioddef hefyd yr un modd, gan fod y degwm wedi dyfod i lawr. O herwydd hyn, rhaid i mi ddweud fod eich cais yn ymddangos i mi yn afresymol; ond os oes rhai yn y plwyf yn wir dlawd, ac yn analluog i dalu, bydd yn dda gennyf gymryd eu hachos mewn ystyriaeth, i’r diben o roddi gostyngiad ychwanegol iddynt at ostyngiad y flwyddyn hon.
Thomas Jones.
Galwyd y degwm dalwyr ynghyd a gohiriwyd y gweithrediadau pellach, hyd nes y cyrhaedda yr oddaeth fawr yn nes atynt, pan y ceir y cryf a’r gwan yn ddigon unfryd i fynnu eu hiawnderau.
Enillwyd un peth yn arbennig trwy yr hyn a wnaed. Datguddiwyd gwir deimlad yr rheithor tuag atom yn ein cyfyngder. Hysbysir ni ar awdurdod dda hefyd fod rhyw rai wedi bod yn brysur iawn, yr wythnos ddilynol, yn galw gyda thenantiaid bychain, gan adael brawf a dychryn o’u hol, rhag y byddent yn colli eu ffermydd. Ai gwir ydyw y galwyd dyn yn neilltuol o flaen rhyw ŵr mawr, pryd yr rhoddwyd ar ddeall iddo fod yn bosib y collai ei fferm? Hyderwn nad yw hyn yn wir. Os ydyw, teimlwn fod y gŵr mawr wedi methu yn ddirfawr. Yn ôl pob golwg, bydd Rwsia heb ymerawdwr yn fuan. Ai tybed y gellir cael olynydd iddo yn Llanengan? Hysbysir ni ar awdurdod, fod dau o dyddynwyr yn y plwyf oeddynt yn cael help i drin eu tir o gyfeiriad neilltuol wedi derbyn rhybudd, fod y gyfathrach gymdogol honno trosodd am byth. Ond i bwy fydd mwyaf o golled?
Ydwyf, &.,
Gwrth Ddegymwr.
Ar y 19eg o Ionawr 1887 cyhoeddwyd erthygl yn Y Genedl Gymreig gan un yn arwyddo’i hunan fel Ymneilltuwr. Ynddi, mae Ymneilltuwr yn rhoddi disgrifiad a’i farn bersonol am waith yr Eglwys yn Llanengan dros y dyddiau yn arwain tuag at, ac yn cynnwys Sul y Cyfrif.
Cyfrif y Bobol, ----
Bydd y Sabboth Ionawr y 9fed yn Sabboth i’w gofio yn hir yn y plwyf hwn. Fel ym mhob plwyf trwy Gymru gwnaed gyfrif o gynulleidfaoedd “llan a chapel”ar y dydd hwn yn ein plwyf ninnau. Rhoddodd ein rheithor ei holl egni ar waith cyn y Sabboth i sicrhau cynhesrwydd yn ei eglwys am unwaith yn ei oes y dydd a enwyd. Bu ef eu hun, y gwas a’r forwyn, ddydd a nos yn chwilio am y tlawd a’r rheidus a’r gwrthgilwyr ac anafusion moesol ein ardal i’w cymell i fod yn ffyddlon i ddod i’r Eglwys y Sabboth. Mae yn ddiau y carai llawer o’r tlodion druain, pe trefnid i gyfrif y bobol bob Sabboth, gan na byddai arnynt mewn canlyniad,”eisiau dim daioni.” Nid ydym yn beio unrhyw ymdrech i sicrhau cynulleidfa dda yn yr Eglwys, ond, atolwg, pa beth oedd mewn golwg yn yr ymdrech annigonol hon? “Pob peth ddyry dyn am ei einioes.” Bu cryn lwyddiant ar yr ymdrechion hyn gan i bedwar ugain ag un ddod i’r Eglwys y bore ar gyfer naw ar hugain y Sabboth blaenorol, a chant a deg yn yr hwyr ar gyfer un ar bymtheg ar hugain y Sabboth cyntaf o’r flwyddyn. Ond er rhoddi yr Eglwys yn ei man gorau y bu erioed yn yr oes hon, nid oedd yn bresennol ond un o bob pedwar ar ddeg o boblogaeth y plwyf, yr hyn sydd yn cadarnhau yr hen wirionedd erbyn hyn, fod y genedl Gymreig wedi ymddieithrio oddi wrth Eglwys y Plwyf. Hyderwn na ddarfu i’n cynulleidfaoedd syrthio yn fyr, o’u presenoldeb cyffredin.
Ond at y druth ar enw pregeth. Ei destun y nos ydoedd, “Ai â chusan,” &c, “ond” meddai,“cyn myned ymlaen er mwyn y ddau oeddynt yn llechu mewn ffenestri yn y bore i gyfrif y bobol, rhoddwn bennau pregeth y bore iddynt oddi ar y testun: “A Satan a gyfodwyd yn erbyn Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel.”Gwnaeth hwythau yn weision Satan. Dywedai yn lle yr oedd Satan a’i angylion syrthiedig, a’u bod hwythau yn myned ar yr un llwybr. Dywedai na ymddiriedai ei fywyd iddynt, hwy a’u cynghreiriaid, os gallent trwy ei ladd, gymeryd ei eiddo oddi arno. Edliwiai i’r ddau eu bod yn gweddïo yn gyhoeddus, a pha le yr oedd eu cysondeb yn torri y Sabboth, a halogi y tŷ sanctaidd, ac ar yr un pryd galwai y ddau warden i sefyll yn y drws i wneud yr un gwaith a wnaethai y ddau heretic a felltithiai yn ei bregeth. Druan ohono, buasai yn amheuthun iddo pe cawsai y ddau o allu a chymeriad y ddau hyn yn aelodau o’i Eglwys. Paham yr oedd yn bytheirio o’i bulpud yn erbyn y cyfrifwyr pan yr oedd Mr Morgan curad poblogaidd Eglwys Llangian, yn cydweithio’n galonnog â’r cyfrifwyr yno, ac yn cyd lenwi y “forms” gyda’r brodyr Ymneilltuol ar ddiwedd y dydd? Profi wnaeth o pa ysbryd y mae, a gwyddom bellach pa fodd i’w gyfarfod pan yn gofyn am ein hiawnderau eto.------- Ymneilltuwr.
Hyd y gwelwyd, does dim atebiad wedi ei gyflwyno’n gyhoeddus i’r un o’r erthyglau hyn, ond tynnwyd sylw golygydd Y Genedl Gymreig i gynnwys erthygl Ymneilltuwr. Dyma beth a gyhoeddwyd yn y papur Mawrth 23ain 1887.
LLANENGAN.
EGLURHAD, Mewn adroddiad yn yr hwn a roddid braslun o bregeth o eiddo y Parch Thomas Jones, rheithor y plwyf, ar Sul y Cyfrif, dywedwyd ddarfod i’r gŵr parchedig roddi ei holl egni ar waith cyn y Sabboth, drwy gymell dydd a nos, yr rhai oedd yn yr ardal i ddod i’r Eglwys y Sabboth ac “ddarfod iddo yn ei bregeth gymharu yr rhai oedd yn cyfrif i “weision Satan”ac y byddai iddynt “fyned i’r un lle a’r angylion syrthiedig,” ac ymhellach” na ymddiriedai ei fywyd iddynt hwy a’u cynghreiriaid, os gallent trwy ei ladd gymeryd ei eiddo oddi arno.”Dywedid yn yr adroddiad hefyd fod y gŵr parchedig wedi cyfeirio at yr rhai oedd yn cyfrif fel “gweddiwyr cyhoeddus,” gan ofyn”pa le oedd eu cysondeb pan yn torri y Sabboth a halogi y Tŷ Sanctaidd,”ac ymhellach ddarfod iddo alw y cyfrifwyr yn “ddau heratic” au melltithio yn eu bregeth.” Yn awr sicrheir ni ar dystiolaeth ddiamheuol na wnaeth y gŵr parchedig yr un o’r cyfeiriadau uchod, yr rhai y mae yn ddrwg gennym iddynt ymddangos. Ni buasem ar un cyfrif yn dymuno gwneud cam â neb ac yn enwedig â gŵr fel y Parch Thomas Jones, y gwyddis a berchid yn gyffredinol gan bawb o’i gydnabod. Diamheu i’n gohebydd ysgrifennu ar sail rywbeth a glywodd, eithr y mae yn eglur i ni ei fod wedi gamarwain, fel y tystia ein ymchwiliad i’r achos. Gyda’r parodrwydd hwnnw y mae boneddigeiddrwydd yn ei osod arnom yr ydym yn datgan ein gofid mwyaf llwyr fod y paragraff y cyfeiriwn ato wedi ei gyhoeddi. Yr ydym yn gofidio fwy ddarfod i’r camgymeriad ddigwydd am y gwyddom fod Mr Jones yn ŵr uwchlaw cenfigen ymbleidiaeth, ac yn fonheddwr a fedd yr un parch i Ymneilltuwr ac Eglwyswr.
Yn fwy na dim dangosodd erthygl Ymneilltuwr fod teimladau cryf yn y plwyf tuag at ymddygiad yr Eglwys yn ystod yr helynt; ond doedd Llanengan ddim yn unigryw yn hyn o beth, cyhoeddwyd erthyglau tebyg yn Yr Herald a’r Genedl Gymreig gan “Hen Ffermwr”o Aberdaron, a “Siôn Chwarae Teg” o Dudweiliog, y ddau yn ddirmygus o’r Eglwys a’i chlerigwyr. Ym mhlwyf Llannor penderfynodd y rheithor, y Parchedig John Jones ynghyd ȃ’r Parchedig D. Jones o Bwllheli, erlyn chwech o ffermwyr y plwyf am beidio talu’r degwm. Doedd y ffermwyr hyn yn gofyn dim mwy nag unrhyw ffermwr arall, hynny oedd, gostyngiad yn y degwm fel modd i leihau eu baich mewn cyfnod ansicr. Ymatebodd yr awdurdodau gan gyflogi cyfreithwyr a beilïaid, pobol oddi allan i’r ardal, i weithredu gorchmynion yr Eglwys, gyda’r heddlu wrth law i gadw’r heddwch.
Yn Llanengan, roedd y Parch Thomas Jones yn rheithor y plwyf ers y flwyddyn1860. Yn enedigol o Lanbadarn Fawr, Sir Ceredigion daeth i Lanengan wedi gweinyddu am flynyddoedd yn ficer Llannor a Denio ym Mhwllheli. Ar wahân i’w ddyletswyddau fel rheithor, roedd hefyd yn ynad heddwch, ac eisteddai ar sawl pwyllgor yn ymwneud â chyfrifoldebau cyhoeddus a diwylliant yr ardal. Fwy nag unwaith, ym mhapurau newydd y cyfnod, ceir cyfeiriad at Thomas Jones fel “gŵr gyda’r parchusrwydd mwyaf tuag unrhyw un a’i cwrddai, bod y person hwnnw’n Ymneilltuwr neu Eglwyswr.” Efallai fod un o’i swyddi gwirfoddol fel cadeirydd pwyllgor y ddwy ysgol yn y pentref yn arwyddocaol yn hyn; wedi’r cyfan, ysgol yr Anghydffurfwyr ac ysgol yr Eglwys oedd y ddwy ysgol ers eu dechreuad yng nghanol y 1840au.
Er anfodlonrwydd rhai o’i blwyfolion i dalu’r degwm yn llawn, does dim tystiolaeth fod unrhyw helynt wedi bod yn y plwyf. Y tebygrwydd yw bod gwaeledd a marwolaeth y rheithor wedi lliniaru rhywfaint ar wrthwynebiad y degwm dalwyr. Bu farw Thomas Jones ym mis Chwefror 1889. Ar ddiwrnod y claddu, teithiodd ugain o gerbydau o’r rheithordy yn Llanengan i fynwent Denio ym Mhwllheli, y rhan fwyaf ohonynt yn cario’r teulu, gweithwyr y rheithordy, clerigwyr ac arweinwyr bywyd cyhoeddus Pen Llŷn a’r cylch. Ond ymhlith yr orymdaith teithiodd hefyd lond llaw o ffermwyr y plwyf, yn barod i dalu eu parch i’r ymadawedig, yn eu plith John Ellis, Plas Llwyndy, Solomon Jones, Creigir Isaf a Griffith Hughes, Towyn.
Ychydig dros flwyddyn wedi angladd Thomas Jones cynhaliwyd pwyllgor asesu trethi ym Mhwllheli, gyda’r bwriad o drethu pob ysgol yn yr undeb yn ȏl nifer y plant y gallai’r ysgolion eu cynnal. Dyma niferoedd Llanengan; Ysgol y Bechgyn (ysgol Dwylan) 102, Ysgol y Genethod (ysgol yr Eglwys)156. Ar sail y ffigyrau hyn cynigiwyd trethu’r ysgolion ar raddfa o £2 am bob cant o ddisgyblion y gallai pob ysgol eu cynnal. Eiliwyd y cynnig gan y Parch H.G.Williams, rheithor newydd Llanengan. Yn ystod y pwyllgor hwn hysbyswyd fod “degwm plwyf Llanengan erbyn hyn yn llai o £150 na phan oedd Thomas Jones yn rheithor.” Does dim gwybodaeth sut na pham fod y degwm yn llai; ni ellir ond dyfalu mai dylanwad y rheithor newydd a barodd y gostyngiad.
Yn y Senedd, drwy weithredu Deddf Degwm 1891, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb o gasglu’r degwm i ddwylo’r meistri tir, gyda’r pwrpas o danseilio cryfder y ffermwyr a’r tenantiaid i herio’r Eglwys yn uniongyrchol. Gyda’r degwm a’r rhent yn un taliad, a hwnnw’n daliad ar ofyn y meistr tir, trodd pethau’n anos i’r tenantiaid, ac aeth y bygythiad o golli eu ffermydd am beidio talu yn ormod o faich i’r mwyafrif. Ond erbyn 1896 dechreuodd gwleidyddion a swyddogion uchaf y Llywodraeth yn Llundain gymeryd sylw o’r cynnwrf parhaus yng nghefn gwlad Cymru, ac mewn ymateb, sefydlwyd Comisiwn Brenhinol ar Dir yng Nghymru i edrych i wraidd yr helynt. Rhoddodd y Comisiwn gyfle i’r tenantiaid ddatgan eu cwynion a’u pryderon ynghylch y degwm, rhenti a‘r Eglwys yng Nghymru. Yn anffodus dioddefodd rhai tenantiaid a gynigiodd dystiolaeth i’r Comisiwn ymddygiad gwarthus ar ran eu meistri tir, ond ar y cyfan, credir mai gwella’r sefyllfa rhwng y meistri tir a’u tenantiaid wnaeth cyhoeddi adroddiad y Comisiwn. Yr ail weithred arwyddocaol a briodolwyd i’r Comisiwn, oedd cychwyn y daith tuag at ddatgysylltu’r Eglwys yng Nghymru, gweithred a gyflawnwyd ym 1920.
Gweler :-
Welsh Newspapers Helynt Llanor.
Welsh Newspapers Llythyr Siôn chwarae têg Tudweiliog.
John Roberts , Mawrth 2025