Pan ddechreuwyd mwyngloddio o ddifrif ym mhlwyf Llanengan yn y 1860au daeth gyda’r gwaith hwnnw fewnlifiad o weithwyr newydd a diarth i’r ardal.
Effaith y ddiod
feddwol oedd yn creu’r rhan fwyaf o waith y plismyn, fel yr achos yn erbyn
William Roberts, Jac Ifan, a thafarn y Sun. O gwmpas un o’r gloch y bore ar
Dachwedd 25ain, 1889, roedd Cwnstabl Edward Pugh yn cerdded o gwmpas
y pentref pan ddaeth ar draws William Roberts yn gorwedd yng nghanol y ffordd
yn gwbl ddiymadferth yn ei ddiod. Doedd William Roberts ddim yn ddiarth i’r cwnstabl;
roedd eisoes wedi ei yrru i’r cwrt ym Mhwllheli droeon am fod yn feddw ac
afreolus. Crydd yn y pentref oedd William Roberts, gŵr cwbl ddymunol yn ôl
geiriau'r cwnstabl ei hun - ag eithrio pan oedd yn ei ddiod! Am ei fod yn gloff
defnyddiai faglau i'w helpu i gerdded. Yn ei ddiod ymosodai ar bobl gan
ddefnyddio’r baglau fel pastwn ac achosi helynt iddo’i hun. Y noson hon doedd
neb mewn perygl ond William Roberts ei hunan.
Wedi rhoi sylw i
William Roberts aeth Edward Pugh tua’r Sun a churo ar y drws. Trwy’r ffenestr
gwelodd ddyn yn rhedeg am y drws cefn. Aeth y cwnstabl rownd y gongl i’w
gyfarfod a chymerwyd Jac Ifan Williams, Tyddyn Llan i’r ddalfa a’i gyhuddo o
yfed wedi oriau cau, rhywbeth na chafodd ei wadu. Pan aeth Pugh i mewn i holi’r
dafarnwraig pam fod Jac Ifan yno mor hwyr, ei hateb oedd, “Rhy feddw i fynd
allan amser cau oedd o”.
O flaen y fainc ym
Mhwllheli dirwywyd Jac Ifan a William Roberts i hanner coron yr un a chostau.
Hwn oedd y deuddegfed tro i William Roberts fod o flaen y fainc ar yr un
cyhuddiad. Roedd wedi ei garcharu am fis yng ngharchar Caernarfon unwaith, ond
doedd y fainc ddim am ei garcharu’r eilwaith. Dywedodd William Roberts nad oedd
ganddo’r arian i dalu’r ddirwy a chododd dau ŵr ar eu traed i gynnig talu yn ei
le. Cafodd Robert Williams, perchennog y Sun, ddirwy o bum punt a chostau am
werthu cwrw wedi oriau cau a chaniatáu meddwi yn ei dafarn. Hwn oedd yr achos
cyntaf yn ei erbyn ac oherwydd hynny rhoddwyd rhybudd iddo.
Digwyddiad llawer mwy
difrifol oedd yr helynt rhwng William Lloyd, 23 oed o Gilan, gynt o Ffestiniog
a Richard Lewis, 41 oed o’r Bontddu, Sir Feirionnydd. Roedd y ddau yn fwynwyr
yn y gwaith plwm, Lloyd yn byw efo’i wraig a’i deulu yn Bwlch Gwynt, Cilan a
Richard Lewis, gŵr sengl yn lletya ym Machroes, Bwlchtocyn. Nos Sadwrn, Ionawr
23ain, 1874, roedd y ddau wedi yfed yn drwm yn nhafarn y White Horse
efo tri arall. Cychwynnodd Lloyd ac un arall am adref ychydig o flaen y lleill,
ond yn lle mynd y ffordd arferol ar hyd Lôn Selar a llwybr Tanrallt am Gilan, aeth
y ddau i fyny Lôn Bwlch Llan ac aros am y tri arall wedi cyrraedd pen yr allt.
Yno dywedodd Lloyd wrth ei gydgerddwr fod ganddo rywbeth i’w setlo efo Richard
Lewis a’i fod am ddod â’r mater i ben y noson honno. Mae’n debyg fod anghydfod
wedi bod rhwng y ddau ers peth amser.
Cyrhaeddodd Richard
Lewis a’r ddau arall ben yr allt lle’r oedd Lloyd yn disgwyl. Yn syth heriodd Lloyd
Richard Lewis i setlo’r mater yn y fan a’r lle, ond gwrthod wnaeth Richard
Lewis gan ddweud os oedd cwffio i fod y gwnâi hynny rhyw bryd arall a’i fod
eisiau llonydd. Ateb Lloyd oedd ei drawo ar ochor ei ben, ond cerdded i ffwrdd
wnaeth Richard Lewis. Rhuthrodd Lloyd ar ei ôl a rhoi cic iddo o’r cefn. Yna
cafodd afael am ben Richard Lewis, ei wasgu tan ei gesail, a’i drawo yn ei
wyneb a’i frest. Erfyniodd Richard Lewis ar y tri arall i’w helpu. Llusgodd y
tri Lloyd oddi wrtho a disgynnodd Richard Lewis i waelod y clawdd lle
derbyniodd un gic arall gan Lloyd cyn i hwnnw fynd am adref.
Sylweddolodd y lleill nad oedd Richard Lewis yn symud nac yn
dweud gair ac ymhen ychydig funudau gwelsant ei fod wedi marw. Aeth un o’r
dynion i chwilio am blismon a threfnwyd i gludo’r corff adref i Machroes.
Prysurodd y plismon ar ôl William Lloyd i Gilan a’i gael yn ei wely. Gorfodwyd
iddo godi a chafodd ei gymryd i’r ddalfa.
Y bore Llun canlynol
ym Machroes cafwyd cwest o flaen rheithgor lle dywedodd Dr Williams, Dwylan ei
fod wedi methu penderfynu beth oedd y rheswm tros farwolaeth Richard Lewis a
bod yn rhaid gwneud mwy o ymchwil. Trannoeth adroddodd Dr Williams ei
benderfyniad, fod Richard Lewis wedi marw oherwydd i asgwrn ei gefn gael ei
dorri yng ngwegil ei wddf. Dychwelwyd rheithfarn o ddynladdiad yn erbyn William
Lloyd a chafodd ei yrru i sefyll o flaen y barnwr yn y Brawdlys nesaf yng
Nghaernarfon ym mis Mawrth. Yno cymerodd Lloyd gyngor ei dwrnai a phlediodd yn
euog i’r cyhuddiad yn ei erbyn gan ychwanegu ei fod yn edifar am ei ymddygiad
ac mai diod oedd achos y cyfan. Dedfrydwyd ef i flwyddyn o garchar gyda
chaledwaith am ei ymosodiad ffiaidd a diesgus. Bu farw William Lloyd fis Hydref
1877 yn 27 oed a’i gladdu ym Mynwent Ffestiniog. Gadawodd ar ei ôl dri o blant
ifanc ac Ann ei wraig nad oedd ond yn 24 mlwydd oed.
Eithriad oedd digwyddiad mor ddifrifol â hyn yn y pentref, ond
bu achlysuron lle medrai’r canlyniadau fod ddigon tebyg.
Erbyn y 1890au roedd pob un o weithfeydd plwm yr
ardal wedi cau a’r rhan fwyaf o’r mwynwyr wedi gadael Llŷn. Ym 1895 mewn
cyfarfod o Gyd-bwyllgor Heddlu Sir Gaernarfon gofynnodd Abel Williams, Abersoch
i’r pwyllgor barchu dymuniad y trethdalwyr i gael llai o blismyn yn y plwyf.
Roedd y Cyngor Plwyf hefyd o’r farn nad oedd gwaith i ddau blismon bellach. Eiliwyd
y cynnig gan Faer Caernarfon a’i basio. Gofynnwyd i’r Prif Gwnstabl drefnu hyn
gynted ȃ phosibl.
Bellach roedd yr ardal yn araf ddychwelyd i’r hen drefn, y drefn
cyn y mewnlifiad.
Ffynonellau
North Wales Express,
26 Ebrill 1895
Baner ac Amserau
Cymru, 1872
Cambrian News, 30 Ionawr 1874