Pan briododd Alun Jones, gwas Barrach, â Mary Griffith, morwyn Towyn, yn Eglwys Llanengan ym mis Tachwedd 1933 doedd dim rhaid iddynt adael y pentref am eu gwledd briodas.
Roedd y Bakers Cafe, cwt sinc rhwng Gorffwysfa a Chefnen, yn gyfleus iawn o fewn pellter cerdded i’r eglwys. Hanner coron y pen gostiodd y brecwast, cyfanswm o bunt i wyth ohonynt. Treuliodd Alun a Mary Jones eu bywyd priodasol yng Nghefnen a magu pedwar o blant yno.