Ym 1924, gyda chymorth gan Mr H R Roberts, Rheithor plwyf Llanengan, llwyddodd
hogiau’r pentref i berswadio’r Eglwys i roddi darn o dir ar gyfer codi adeilad
lle gellid ymgynnull i chwarae biliards a snwcer. Cynigiodd yr eglwys gornel
yng nghefn yr hen ysgol, ac yn y fan honno aeth yr hogiau ati i wireddu eu
breuddwyd. Roedd arian yn brin, ac o’r herwydd, codwyd yr adeilad o goed a sinc
gan yr aelodau eu hunain. Wedi ei hadeiladu bu’r Hall, fel y’i gelwid,
yn ganolfan cyfarfod am hanner can mlynedd i fechgyn yr ardal.
Yn ystod y 50au
fu dim cymaint o fynd ar yr Hall ond yn y 60au cynnar
aildaniwyd y diddordeb. Erbyn hyn roedd amryw o fechgyn ifanc y pentref yn
cyrraedd oed lle caent ddefnyddio’r cyfleusterau, ac yn fuan cafwyd cymysgedd o
bob oedran yn mwynhau cwmnïaeth y ganolfan.
Lewis Roberts, White Horse yn gosod y garreg yn wal y ganolfan newydd.
Ar y chwith a’r dde eithaf, Emlyn a Harri ei feibion.
Yn y canol Gwilym Meillion a Mali a Bethan ei wyresau.
Oherwydd adeiladwaith yr Hall doedd hi
ddim yn hawdd cadw’r lle’n gynnes, ond po fwyaf o aelodau fyddai yno, cynhesaf
fyddai’r awyrgylch. Roedd y tân trydan yn y gongl yn ganolbwynt a gwae unrhyw
un fyddai’n sefyll yn rhy hir o’i flaen. Doedd y rheol hon ddim yn cyfrif i
Lewis Roberts, White Horse - safai o flaen y tân nes byddai ei drowsus ar
gynnau! Wedyn gwthio i mewn ar y fainc i eistedd cyn agosed i’r tân ag y medrai
a phinsiad yng nghefn ei goes i unrhyw lanc na ildiai ei le.
Deuai llawer o dimau i chwarae
gemau'r gynghrair i Lanengan, ond doedd dim gwell nac achlysur yr handicap
Nadolig, wedi ei threfnu gan Brei Llangian. Byddai’r aelodau yn chwarae yn
erbyn ei gilydd i fod yn bencampwr y pentref am y flwyddyn.
Moss Creigir Goch, John Groesffordd, Emlyn Bodorwel, John Cefnen, Victor Llangian, Bert Groesffordd
|
Gêm ddiarth i’r hogiau newydd oedd cribej, gêm gardiau i ddau
chwaraewr. Câi’r sgôr ei chadw ar fwrdd pwrpasol efo rhesi o dyllau ynddo, a
defnyddid coes matsien yn y tyllau i gadw’r sgôr. Gêm ddiddorol, ond ychydig
o’r aelodau ifanc gymerodd ddiddordeb. Chwaraeai rhai o’r aelodau hŷn gribej
wrth ddisgwyl eu tro i gael y bwrdd snwcer. Mae’n debyg iddi fod yn gêm
boblogaidd dros y blynyddoedd. Mae cownt o hen gapteiniaid môr ’Rabar yn ei
chwarae yng nghanolfan snwcer y pentref hwnnw.
Erbyn diwedd
y 1970au roedd yr hen adeilad wedi mynd i ddangos ei oed. Bu
sôn am atgyweirio neu adeiladu un arall, ond sylweddolwyd wrth holi am grantiau
y byddai’n haws cael cymorth i adeiladu canolfan newydd, addas ar gyfer y
gymdeithas i gyd, ac ym Mehefin 1979 gosodwyd carreg sylfaen y ganolfan newydd
gan Lewis Roberts, Tyddyn Llan.
Ffynhonnell:
Nodiadau Megan Roberts a Ceinwen Jones.