Porth Neigwl

 

Dafydd Jones, Tyddyn Don, John Hughes, Ty’n Morfa a
John Thomas, Morallt yn gwthio’r cwch i’r dŵr

Ymestyn Porth Neigwl yn bedair milltir o draeth tywodlyd yn wynebu’r de orllewin rhwng Trwyn Cilan a Mynydd y Rhiw.

Ar gyfnodau, pan fydd storm wedi crafu’r tywod, datguddir olion hen goedwig ar y traeth, coedwig a ddiflannodd pan gododd lefel y môr dros bum mil o flynyddoedd yn ôl. Dengys cnau a ddarganfuwyd yn yr olion fod cyll ymhlith y coed oedd yn tyfu yno.

Mae erydiad cyson ar hyd y bae, yn enwedig wedi tywydd gwlyb, wedi peri diflannu aceri o dir i’r môr. Yn ôl yr hen bobl gwaethygodd yr erydu wedi adeiladu’r cob ym Mhorthmadog. Cyn hynny rhedai’r allt yn wyrdd i’r traeth.

Yn 2009, fel canlyniad i erydiad yng nghyffiniau’r afon Wenffrwd, darganfu archeolegwyr ddarn o dderw o’r Oes Efydd oedd yn rhan o gafn neu grochan berwi. Oddeutu 3, 500 o flynyddoedd yn ôl fe’i ddefnyddid i goginio, i baratoi defnyddiau dros y tân neu i fragu – y bragdy hynaf ym Mhrydain o bosibl! Cred yr arbenigwyr fod defnydd cynharach wedi bod i’r pren ac iddo fod yn ddarn o long rhywdro. Erbyn hyn mae’n cael gofal yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Y cafn bragu Llun: © Amgueddfa Cymru

Yn Hynafiaethau Lleyn (1892) cyfeiria’r Parch. J Daniel at hen fynwent nad oes ôl ohoni bellach:

Yma ym ‘Mach Cilan’ y saif rhan o hen fynwent a ddefnyddid yn yr oesoedd sydd wedi myned heibio i gladdu y meirw fuasent wedi boddi yn y mȏr peryglus gerllaw. Cludwyd llawer ohoni ymaith gan donau trochionog y weilgi, yr hyn a fu yn achlysur i rai ddarganfod gweddillion dynol yma o bryd i bryd. Yn ymyl, ar lan afonig y Wenffrwd, cafwyd arch hynod erys ychydig flynyddau yn ôl i lawr tua phum llath yn y ddaear. Yr oedd tair gafael wedi eu cafnio ym myrddau tewion ei dwy ochr, hynny yw, tair un tu, a thair y tu arall, fel y gallasai chwech o ddynion ei chludo i’r Gladdfa. Y mae yma ffynhonnell fechan, dwfr yr hon a ystyrir yn feddyginiaethol, ac a elwir yn ‘Ffynhon y Beddi’ hyd heddiw.

Sonia hefyd am Ogof Engan ‘lle yr ymguddiai Engan Sant, brenin y Rhandir hon, ac offeiriad Llanengan, pan y byddai yn cael ei erlid gan ei elynion’.

Nid oes sicrwydd pwy oedd y Neigwl roddodd ei enw i’r bae. Ym marn bendant Myrddin Fardd Nigel de Lohareyn, penystafellydd y Tywysog Du (c.1428) oedd Neigwl. Awgryma eraill mai gwreiddiau Gwyddelig neu Sgandinafaidd sydd i’r enw.
Mae’r enw Saesneg, sy’n cyfieithu’n Safn Uffern, yn awgrymu pa mor beryglus yr ystyrid y bae yn y dyddiau a fu. Tros y blynyddoedd aeth sawl llong i drybini yma.

Pan aeth y Perseveranza, llong o’r Eidal, i lawr ym 1883 gyda chargo o goed aeth ei llwyth ar werth ym Mhwllheli. Fe’i prynwyd yn rhad gan Reithor y Plwyf a’i gludo ar droliau i Fotwnnog. Yno, fe’i defnyddiwyd i adeiladu’r eglwys newydd yn cynnwys y côr, y seti a’r pulpud.

Ond mae’n amlwg yn ôl adroddiad papur newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn na chyrhaeddodd y llwyth cyflawn o goed Fotwnnog:

CYHUDDIAD O DDWYN WRECK – Cyhuddwyd John Evans, Porthneigwl, o ladrata rhan o goed y Perseveransa – y llong a gollodd yn Mhorthneigwl ddechreu y flwyddyn. Ni wnaeth y diffinydd ei ymddangosiad. Dygwyd yr un cyhuddiad yn erbyn William Jones, Nant, Pencilan; Edward Hughes, Bwlchgwynt; a William Williams, Gwter. Cafodd Mr Grace, yr hwn oedd yn edrych ar ôl y wreck, a Sargeant Jones Abersoch, hyd i blanciau yn ymyl tai y diffynwyr. Gan fod amheuaeth yn achos Williams, tynnwyd y cyhuddiad yn ôl. Dirwywyd y ddau arall 3p, a 18s yr un o gostau.

Nid dyna’r unig achos ddaeth i’r llys yn gysylltiedig â’r llong anffodus. Aeth y cwbl yn ormod i’r mêt a thrywanodd ei hun. Fel canlyniad fe’i cyhuddwyd yn llys yr ynadon o geisio’i ladd ei hun. Trwy drugaredd cafodd ei ryddhau a dychwelodd ar ei union i’r Eidal.

Bu’r flwyddyn 1898 yn arbennig o ddrwg pan aeth tair llong i lawr. Yr enwocaf oedd y sgwner Twelve Apostles. Cychwynnodd ar ei mordaith gyntaf o Bwllheli ym Mai 1858 a threuliodd ran helaeth o’r 40 mlynedd nesaf yn cario llechi o Borthmadog. Ym mis Tachwedd 1898, yn cario balast o Southampton tuag adre, aeth i drafferthion mewn storm ym Mhorth Neigwl ac fe’i drylliwyd. 

Ym mis Awst yr un flwyddyn fe ddrylliwyd yr Aggravator mewn storm wrth ddadlwytho glo rhyw filltir o droed y Rhiw. Mae ei boilar yn dal yn y golwg ar drai.

Y drydedd oedd y sgwner Joseph Nicholson fu mewn gwrthdrawiad ȃ sgwner arall, y Walter Ulric, y ddwy long yn masnachu o Borthmadog.

Ym 1898 hefyd yr aeth yr S.S. Mohegan i lawr oddi ar arfordir Cernyw. Richard Griffith, mab 46 oed Hugh a Mary Griffith, Creigir Uchaf oedd Capten y llong honno ac roedd yn un o’r 106 a gollwyd. Yn ddiweddarach fe’i claddwyd gyda’i rieni ym Mynwent yr Eglwys.

Flwyddyn y ddiweddarach, ym mis Hydref 1899, yr un oedd tynged y sgwner Rob the Ranter pan aeth i drafferthion mewn storm ym Mhorth Neigwl. Gwelodd John Williams, mab Trefollwyn, fod y llong mewn trybini ac aeth i geisio achub y rhai ar ei bwrdd. Mae’r disgrifiad o Borth Neigwl, y storm ac achub y llongwyr yn Baner ac Amserau Cymru yn bur ddramatig:

Lle ofnadwy ydyw yn ystod tywydd ystormus. Ceir creigiau sythion, ysgythrog, megis yn awchus am falurio llongau a chyrph dynion ... Yn ystod y storm daeth Rob the Ranter i’r gymmydogaeth ofnadwy hon ... Daeth y llestr i guro ac i falurio yn erbyn y tir. Deuai y tonau i fyny y traeth fel catrawd o fynyddoedd ofnadwy yr olwg arnynt ... Os sugnid y llong a’r criw i ddannedd y creigiau, darfyddai am bawb a phopeth. Aeth John Williams i ganol y rhyferthwy, gafaelodd yn islywydd y llong pan oedd hwnnw ar foddi, a daeth ag ef i’r lan. Yn ôl ag ef wedyn. Llwyddodd i gyrraedd dau frawd, y naill yn gafael yn sawdl y llall, a’r ddau yn cael eu lluchio gan y tonnau ofnadwy. Bu am beth amser yn ymladd i ddwyn y ddau druain i’r lan.

Llwyddodd John Williams i achub pedwar o’r criw y diwrnod hwnnw ac am ei ymdrechion enillodd fathodyn arian Cymdeithas Ddyngarol Freiniol Llundain.
Ar hyd y blynyddoedd manteisiodd trigolion yr ardal ar y broc olchid i’r lan ar ȏl stormydd. Unwaith y byddai unrhyw un wedi llusgo broc (coed fel arfer) o’r traeth i fyny’r allt eiddo’r person hwnnw fyddai. Treuliai un cymeriad o Gilan, Bila, William Roberts yn swyddogol, y rhan fwyaf o’i amser yn hel broc môr ar y traeth. Yn dilyn stormydd dywedir iddo fynd i lawr i’r traeth a gweiddi ar y môr-  

Hwi wynt, chwytha!
Hwi long, dryllia! 
Hwi froc, tyrd i’r lan
Fi sy yma gynta!

Mae hanes iddo gymryd dyddiau i gario grisiau llong ddaeth i’r lan o dan Trefollwyn yr holl ffordd i Gilan gan ei guddio tros nos yn y twyni tywod.




Nid am y llongddrylliadau mae Porth Neigwl yn enwog bellach ond caiff ei gydnabod fel un o draethau brigfyrddio gorau Cymru. Ar adegau, pan mae’r gwynt a’r llanw yn y lle iawn a’r tonnau ar eu gorau, gwelir degau yn heidio am y traeth ac mae’n werth gwylio crefft yr arbenigwyr yn byrddio’r ewyn. Tipyn o newid o ddyddiau’r cychod hwylio, ond mae’r peryglon yma o hyd a fflyd o arwyddion cochion yn rhybuddio nofwyr a syrffwyr am y cerrynt twyllodrus.

Olion dyddiau a fu ym Mhorth Neigwl


Ffynonellau

Caernarvon & Denbigh Herald, 30 Tachwedd1883
Y Genedl Gymraeg, 28 Mawrth1883
Baner ac Amserau Cymru, 10 Ionawr 1900
Hynafiaethau Lleyn, Y Parch. J. Daniel, 1892 


Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...