Fel pob cymuned drwy Gymru collodd Llanengan ddynion ifanc yn y ddau Ryfel Byd. Ar y gofeb yn Neuadd Abersoch i’r rhai a gollwyd yn rhyfel 1914-18 enwir John Jones Pengamfa, John L. Jones Glanmorfa, T.E. Parry ’Roffice a David E. Roberts Minffordd.
Mae hanes trist iawn i Thomas Evan Parry, llanc ifanc yn amlwg o natur ddwys, na allai ymdopi ȃ holl oblygiadau rhyfel. Yn ôl y deyrnged iddo yn Yr Herald Gymraeg ym mis Ebrill 1916:
Ym mis Chwefror ymunodd â’r fyddin, ond nid o’i fodd, ac ymhen tair wythnos torrodd i lawr... Roedd yn fachgen ieuanc hoff a siriol ac yn hynod o grefyddol... Roedd byw yn sŵn iaith ei gyd-filwyr yn torri ei galon.
Erbyn diwedd mis Mawrth, yn 24 mlwydd oed, roedd wedi marw
Yn ystod blynyddoedd y rhyfel golchwyd nifer o gyrff i’r lan ym Mhorth Neigwl. Claddwyd tri ym Mynwent yr Eglwys wedi i’w llong gael ei suddo ym mis Hydref 1917 a chasglodd y trigolion ar gyfer carreg fedd i’w coffáu hwy a sawl un arall a olchwyd i’r lan ym Mhorth Neigwl.
Pan aeth y Burutu i lawr yn dilyn gwrthdrawiad rhyw 25 milltir i’r de orllewin o Enlli ym mis Hydref 1918 collwyd cant a hanner o’r ddau gant ar ei bwrdd. Daeth nifer o’r cyrff i’r lan ar draethau Llŷn a chladdwyd chwech ohonynt ym Mynwent Eglwys Llanengan.
Am gyfnod cafodd carcharorion rhyfel eu cadw yn adeilad yr Ysgol Genedlaethol ac adeiladwyd ffens ar ben y wal i’w caethiwo yno. Ceir hanes un carcharor lwyddodd i ddianc o wersyllfa Llanengan ond yn ôl yr adroddiad yn Yr Herald Gymraeg nid aeth bellach na Chastellmarch cyn i’r heddwas Roberts o Abersoch ei ddal a’i gymryd i’r ddalfa.
Ers 1917, oherwydd prinder llafur, roedd carcharorion wedi cael eu defnyddio i weithio tu allan i’w gwersylloedd, ar y tir yn bennaf. Ym mis Awst 1918 yn Llanengan, yn ôl Yr Herald Gymraeg, ‘cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Amaethyddol Rhyfel dan lywyddiaeth Mr C H Lloyd Edwards i ystyried... draenio 300 acer ar hyd yr Afon Soch o Bont Rhydolion i Bontnewydd, Llangian.’ Roedd yr holl dirfeddianwyr yn bresennol a chytunwyd i wneud y gwaith oedd yn cynnwys newid cwrs yr afon wrth fferm Pen y Bont. ‘Hysbyswyd y byddai i’r llywodraeth ddwyn hanner y draul a’r tirfeddianwyr yr hanner arall ac y byddai i’r gwaith gael ei wneud gan garcharorion Almaenaidd.’
Collwyd cymaint o ddoniau fel canlyniad i’r rhyfel hwn fel pob rhyfel drwy’r oesau. Bu raid i Lewis Roberts, White Horse adael cae gwair ar Lȏn Morfa ar hanner ei gynaeafu pan gyrhaeddodd gwŷs iddo fynd i Kinmel Park. Ysgrifennodd Owen Griffith, Cefn ato fel hyn:
Annwyl gyfaill Lewis Roberts
Yn Llanengan caret fod
Ond yn Kinmel Park wyt heddiw
Dysgu saethu at y nod.
Nid y nod yw y gwningen
Na phetrisen neis ychwaith,
Ond er dysgu saethu Jyrmans
Er nad yw dy hoffus waith.
Dychwelodd Lewis Roberts o’r rhyfel yn ddianaf a bu’n adeiladydd uchel ei barch yn y gymdogaeth ar hyd ei oes. Roedd yn godwr canu yng Nghapel y Bwlch am flynyddoedd. Gorwyr iddo yw Al Lewis, cerddor dawnus sy’n enwog drwy Gymru a thu hwnt, a gorwyres, Miriam Jones, Pen Morfa, turniwr coed y mae galw am ei gwaith ledled Cymru a gweddill gwledydd Prydain.
Bu’r Ail Ryfel Byd yr un mor greulon. Ym mis Rhagfyr 1944 lladdwyd John Griffith, Bwlch Gwyn yn yr Eidal yn 25 mlwydd oed a’i gladdu yn Faenza. Flwyddyn yn gynt roedd Eryl, mab Y Parch. H D Lloyd, gweinidog y Bwlch, wedi ei golli yng Ngogledd Affrica a’i gladdu yng Nghladdfa Filwrol Bouarada. Yntau’n 25 mlwydd oed.
Ag eithrio colli’r hogiau, effaith pennaf y rhyfel ar yr ardal oedd dyfodiad yr ysgol fomio i Borth Neigwl. Er gwaethaf dadleuon dros ddiarfogi, roedd y llywodraeth yn Llundain wedi penderfynu ym 1934 bod raid cynyddu arfau ac awyrennau rhyfel.
Ym mis Mai 1935 roedd proposals under consideration for the establishment of an armament training camp and an aerodrome... at Hell’s Mouth in Carnarvonshire.
Er gwaethaf gwrthdystio prynwyd chwe fferm yn y cylch i’r pwrpas gan y Weinyddiaeth Awyr (a fferm Penyberth ger Llanbedrog). Chwalwyd ffermdy sylweddol Punt y Gwair yn llwyr.
Bu’r Ysgol Fomio yn weithredol hyd 1945. Dysgid milwyr i saethu â gynnau llaw at dargedi symudol yn y twyni tywod ac roedd targedi yn arnofio yn y bae i awyrennau ymarfer bomio.
Yn ei darlith ‘Puryd a Mân Us’ mae Megan Roberts, Brynteg yn sôn am ei hofn fel plentyn ysgol pan rybuddiodd ei thad hi y byddai
...yn beryg iawn yma, w’sti, pan ddechreuith y rhyfal – rhwng Porth Neigwl a Phenyberth. Ella bydd y Jyrmans yn bomio llefydd pwysig fel’na. Mae’r llywodraeth yn talu am bob dim ac rydw i wedi trefnu i ti gael mynd i Canada... nes bydd y rhyfel drosodd.
Wedi nosweithiau digwsg daeth rhyddhad i Megan o glywed ei bod yn rhy hen i gael ei hystyried am y fath beth.
Ond roedd Llŷn yn fwy diogel na threfi mawr Lloegr a derbyniodd yr ardal faciwîs – o gyfeiriad Lerpwl yn bennaf. Cyrhaeddodd nifer Neuadd Abersoch, yn ofnus a hiraethus, i gael eu croesawu gan deuluoedd y cylch. Atgofion melys am y cyfnod oedd gan y rhan fwyaf wrth ddychwelyd at eu rhieni ddiwedd y rhyfel. Arhosodd ambell un. Un o’r rheiny oedd Morris Jones a ddaeth i’r pen yma o gyffiniau Manceinion. Ar ddiwedd y rhyfel ddychwelodd Moi ddim. Mewn amser priododd ȃ Betty, merch White Horse, ac mae rhai o’u disgynyddion yn dal i fyw yn lleol.
Nid pob milwr adawodd yr ardal ar ddiwedd eu cyfnod hyfforddi chwaith. Priododd mwy nag un ȃ merched lleol ac aros. Roedd Bill Johns o Dredegar, Cwm Rhymni yn y Llu Awyr ac wedi dod o Benyberth i ymarfer targed ym Mhorth Neigwl. Cyfarfu â Maggie, merch Trefollwyn Bach, pan aeth yno i brynu wyau. Mae eu disgynyddion hwythau yn dal i fyw yn y pentref a’r cylch.
Mae olion yr ysgol fomio i’w gweld o hyd, ond y tiroedd wedi eu dychwelyd i’w priod ddeunydd heddychlon, ac yn cael eu ffermio gan deuluoedd lleol.
Ffynonellau
Tân yn Llŷn, Dafydd Jenkins, Gwasg Aberystwyth, 1937
Yr Herald Gymraeg, 16 Medi 1919
Yr Herald Gymraeg, 7 Awst 1918
Puryd a Mân Us, Megan Roberts, Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd 1983