Cofir am Evan Evans fel gŵr roddodd oes o wasanaeth i achos y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghapel y Bwlch, Llanengan. Fe’i ganwyd yn fab i Catherine Jeremiah a William Evans o’r Llwyndu ar Ebrill 1af, 1829. Symudodd y teulu i Dai Cae Bach yn y pentref am gyfnod cyn cartrefu yn Nhan y Fron, ’R Ochor. Fel ei dad o’i flaen, saer maen oedd Evan wrth ei alwedigaeth.
Erbyn 1881 roedd wedi ymgartrefu yn Nhŷ Capel y Bwlch gyda’i chwiorydd Ann ac Ellen. Bu farw’r ddwy chwaer o fewn ychydig fisoedd i’w gilydd yn niwedd 1889 a dechrau 1890. Yna ym 1891, pan yn 62 mlwydd oed, priododd Evan Evans gydag Ellen Jones, gwraig fu’n cadw siop fechan yn Nhy’n Ffynnon gyda’i chwaer am gyfnod.
Mae’n debyg na threuliodd Evan Evans yr un diwrnod mewn ysgol ddyddiol, ac na chafodd ond tri mis o addysg mewn ysgol nos, rhywbeth rhyfeddol o ystyried yr holl waith ysgrifennu llythyrau, erthyglau a llyfrau a wnaeth. Er mai saer maen oedd wrth ei alwedigaeth, roedd gwaith y capel lawn mor bwysig iddo. Bu’n athro, holwr ac yn arolygwr yr Ysgol Sul. Ym 1871 cafodd ei benodi’n flaenor, swydd y bu ynddi am 35 mlynedd. Bu’n llywydd y Cyfarfod Misol ac fel ysgrifennydd yr eglwys cynrychiolodd y Bwlch mewn llu o wahanol gyfarfodydd a chymanfaoedd ar hyd a lled Llŷn ac Eifionydd. Ym 1904 derbyniodd Fedal Anrhydedd am ei weithgarwch tros y blynyddoedd.
Yn berchen llyfrgell nodedig, yn cynnwys llyfrau a phapurau Cymraeg yn unig, bu’n ddarllenwr mawr trwy gydol ei oes. Ysgrifennodd bapur ar ‘Dirwest a’r Aelwyd’ a gafodd ganmoliaeth eang, a phapur ar ‘Sut i fod yn Flaenor’ lle mae’n dweud mai anrhydedd o’r mwyaf oedd cael ei ddewis yn flaenor, ac nid rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Fe’i canmolwyd hefyd am ei lyfryn, Hanes yr Achos yn Llanengan, lle mae’n adrodd hanes yr achos o’r cychwyn yn Pengogo nes cyrraedd eu cartref yng Nghapel y Bwlch. Gydol ei gysylltiad â’r capel cofnododd pob digwyddiad a phenderfyniad o ddydd i ddydd mewn dyddiaduron sydd yn rhoi disgrifiad diddorol o’r gweithgareddau. Mae’r rhain yn awr yn Archifdy Prifysgol Bangor.
Ac yntau yn ŵr mor ddiwyd a phrysur, ac yn amlwg yn uchel ei barch, nid rhyfedd i Ellen Hughes nodi yn ei theyrnged wedi ei farwolaeth fore Sul, Mai’r 6ed, 1906:
Chwith yw gweled Llanengan heb Evan Evans yn ôl tystiolaeth pawb. Wedi dychwelyd ohonom o’i angladd, teimlem fel pe byddai yr ardal bellach yn wag.
Ffynonellau
Y Goleuad, 30 Mai1906
Llyfr Seiadau’r Bwlch