Ym mis Mai 1862 ganwyd merch yn Nhan y Fynwent, Llanengan a ddaeth mewn blynyddoedd yn adnabyddus drwy Gymru benbaladr. Roedd Ellen Hughes yn un o bump o blant y Parch. William Hughes, gweinidog Capel y Bwlch rhwng 1854 ac 1867, a’i briod Catherine. Bu farw ei brawd, y Parch. William Benjamin Hughes, o’r ddarfodedigaeth yn 23 mlwydd oed, cyn gorffen ei gwrs yn Athrofa’r Bala.
Ychydig o ysgol a gafodd Ellen ond o’r cofnod yn llyfr Seiadau Capel y Bwlch gwelir ei bod, yn ifanc iawn, yn hyddysg yn ei Beibl.
Erbyn 1877, a hithau’n 15 mlwydd oed, roedd wedi colli ei dau riant ac yn amddifad. Am gyfnod bu’n cadw cartref yn Nhan y Fynwent i Griffith, ei brawd, oedd yn fwynwr yn y gwaith plwm. Treuliodd rai blynyddoedd hefyd gyda Lydia, ei chwaer, oedd yn byw yn Bedford ac yn ‘drapery clerk’ yn un o siopau’r dref honno.
Digwyddodd y trobwynt ym mywyd Ellen Hughes pan ddaeth i gysylltiad ȃ Sarah Jane Rees, Cranogwen, gwraig a gafodd ddylanwad mawr arni ac mewn amser daethant yn gyfeillion. Cafodd gwaith Ellen, yn farddoniaeth a rhyddiaith, ei gyhoeddi yn rheolaidd am dros ddeugain mlynedd yn Y Frythones, cylchgrawn yr oedd Cranogwen yn olygydd arno, a thrwy hyn daeth Ellen yn enwog fel bardd a thraethydd. Ymddangosodd ei gwaith hefyd mewn nifer o gylchgronau eraill megis Y Drysorfa, Trysorfa’r Plant, Y Goleuad ac am ddeng mlynedd ar hugain yn ymron pob rhifyn o’r Gymraes.
Teithiai’r wlad yn darlithio ar bynciau megis ‘Gwroldeb Moesol’, ei darlith gyhoeddus gyntaf a draddodwyd sawl gwaith wedyn. Ynddi pwysleisia bod ‘gwroldeb yn angenrheidiol i bawb ... mab neu ferch.’
Dadleuai’n frwd dros hawliau merched yn ei herthyglau a’i darlithoedd - megis ‘Y Fenyw Newydd’ a ‘Merched a Chynrychiolaeth’ - a phan symudodd, dan ddylanwad Cranogwen, i Donpentre yn y Rhondda ym 1901 bu’n annog ac yn hyfforddi merched i siarad yn gyhoeddus. Bu’n weithgar dros y mudiad dirwest yno ac fe’i penodwyd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Undeb Dirwestol Merched y De a byddai’n annerch cyfarfodydd ar eu rhan.
Dyma fel yr adroddir am ddarlith a draddododd yn y Rhondda ym mhapur Tarian y Gweithiwr ddechrau’r flwyddyn 1900.
‘Nos Fercher, Ionawr 24ain, yn Festri Jerusalem, Ystrad Rhondda, bu Miss Ellen Hughes, Bedford, yn traddodi ei darlith odidog ar ‘Anfanteision, a pha beth i wneud a hwy, ' i gynulleidfa luosog. Cadeiriwyd mewn modd nad ellid rhagorach gan Miss Cranogwen Rees, yr hon oedd yn aros yn y gymdogaeth, a rhwng athrylith y foneddiges oedd yn y gadair ac eiddo y ddarlithyddes, nid yn fynych ... y cafwyd gwledd feddyliol o radd mor uchel. Fel llenores, yr oeddem yn gynefin a'i henw er's blynyddau; ond dyma y tro cyntaf i ni ei chlywed yn darlithio. Pa fodd bynnag, nid dyma y tro diweddaf iddi ddyfod i'r Rhondda. Cafodd y gwrandawiad mwyaf astud a'r gymeradwyaeth fwyaf brwdfrydig, ac nid rhyfedd hyny, oblegyd yr oedd y ddarlith yn gyforiog o'r 'humour' puraf, y farddoniaeth fwyaf aruchel, a synid pawb gan fanylder a chraffder ei sylwadaeth ar bob mater y cyffyrddai ag ef. Pawb a fynent fwynhau gwledd feddyliol uchelryw a'i thuedd uniongyrchol i buro a dyrchafu y gwrandawyr, boed iddynt anfon yn ddiymdroi am Miss Hughes. Mewn gwirionedd y mae uwchlaw pob canmoliaeth, ac yr ydym yn gwbl hyderus y tystia pawb o farn a chwaeth, wedi unwaith ei gwrando, na fynegwyd yr haner.’
Dywed hi am y cyfnod yn y Rhondda y ‘cefais yno ddyddiau dedwyddaf fy mywyd.’
Yng nghylchgrawn Y Gymraes ym 1900 mynega Cranogwen ei balchder o fod wedi darganfod Ellen, ‘yr ohebyddes ddyddorol o Lanengan’ a dyfodd i fod ‘yn un o wroniaid meddyliol ei hoes, a hynny, pe byddai bwys ei ddweyd, heb gyfrif rhyw.’
Tipyn o glod i ferch Tan y Fynwent!
Cyhoeddwyd casgliad o waith Ellen Hughes - barddoniaeth a rhyddiaith a ymddangosodd eisoes mewn gwahanol gylchgronau - mewn dwy gyfrol, Sibrwd yr Awel (1887) a Murmur y Gragen (1907)
Yn rhifyn Tachwedd 1897 o’r cylchgrawn Heddyw ysgrifennodd erthygl, ar gais y golygydd
O M Edwards, dan y teitl ‘Beth a wneir yn Llanengan Heddyw.’ Wedi nodi’r dirywiad yn y gwaith plwm tynna sylw at fasnach oedd yn cynyddu hyd yn oed bryd hynny, ganrif a chwarter yn ȏl.
’Ers blynyddau bellach y mae Llanengan – yn arbennig Abersoch – wedi dod yn gyrchfa ymwelwyr ym misoedd yr haf... Y mae amryw dai wedi eu hadeiladu yn y blynyddoedd diweddaf gyda’r rhagolwg o fod yn fanteisiol i gymeryd ymwelwyr. Mewn amryw amgylchiadau y mae ymwelwyr yn talu mor dda, fel nad ydyw preswylwyr y tai yn grwgnach am yr amddifadrwydd o gysuron y maent yn brofi yn aml yn ystod eu harhosiad.’
Yn yr un erthygl gresyna na chafodd y mudiad dirwest fawr o lwyddiant yn Llanengan ac yr aeth sawl ymdrech i’r gwellt yn cynnwys cangen o Gymdeithas Ddirwestol Merched Prydain.
Yn y gerdd ‘Bryn Cras’, a ymddangosodd yn rhifyn mis Tachwedd 1888 o Drysorfa’r Plant, disgrifia fynd am dro i fyny ‘R Ochor a thros ben Bryn Cras. Wedi sôn fel mae’r daith yn peri iddi anghofio’i helbulon a’i gofidiau, manyla ar yr hyn a wêl ac a glyw. Nid yw ei hatgofion o brofiadau ysgol yn rhai pleserus!
Ah! Dacw dŷ’r caethiwed
Yn sefyll yn y pant!
P’le mae’r wialen adgas,
Gelynes flin y plant?
Ond, waeth pa le! Ni fynnaf
Adgofio chwerw flas
Mwynhâf fy rhyddid heno
Ar ben Bryn Cras.
Caf glywed rhu Porth Neigwl
Yn curo’n feiddgar, hyf,
Yn erbyn creigiau Cilan
Ei frochus donau cryf;
Ac yn ei sŵn breuddwydiaf
Am awyr deneu, las
Paradwys y dyfodol
Ar ben Bryn Cras.
Yn ôl yn Llanengan y bu farw Ellen ar Fai 11eg, 1927 ac fe’i claddwyd ym mynwent y Bwlch gyda’i brodyr, William Benjamin a Griffith.
Ffynonellau
Trysorfa’r Plant, Tachwedd 1888
Papur Pawb, 20 Ionawr 1894
Heddyw, Tachwedd 1897
Y Gymraes Cyf 1V. Rhif 40. Ionawr 1900
Tarian y Gweithiwr, 1 Chwefror 1900
Tarian y Gweithiwr, 27 Rhagfyr 1900
Murmur y Gragen, Ellen Hughes, Swyddfa’r Goleuad, 1907
Y Genedl, 22 Chwefror, 1916
Llyfr Seiadau’r Bwlch
Barn, Chwefror 2023
Cranogwen, Jane Aaron, Gwasg Prifysgol Cymru, 2023