Ni ellir sôn am Lanengan heb ddweud ychydig am gyfraniad Dr Williams, Dwylan i’r pentref a’r cylch. Mab William Thomas, pensaer o Bwllheli, oedd Dr Thomas Williams. Priododd gyda Catherine Williams, merch Tan yr Allt, Abererch ym 1826 pan yn 21 oed a symud o Bwllheli, yn gyntaf i Blas Llwyndu, yna i Dwylan lle bu’n feddyg am yn agos i hanner can mlynedd.
O gwmpas 1843 doedd dim ysgol o gwbl yn y plwyf, ond drwy ymdrechion Dr Williams a’i gyfeillion daeth grŵp ynghyd i gydweithio er mwyn rhoi addysg i’r plant. Anfonwyd i Lundain at y Pwyllgor Cyngor ar Addysg am gymorth tuag at adeiladu ysgol. Yr oedd yr ysgol i’w chysylltu â Chymdeithas yr Ysgolion Brytanaidd a Thramor ac yn agored i bob enwad. Derbyniodd y Pwyllgor yn Llundain amryw o lythyrau gan wrthwynebwyr yn eu hannog i wrthod y cais, ond wedi derbyn addewid gan y llywodraeth bod arian i’w gael gyrrodd Dr Williams a’i gyfeillion ymlaen gyda’r gwaith, ac erbyn Hydref 1845 agorwyd yr ysgol gyntaf yn y plwyf. Adeiladwyd ysgol newydd a thŷ ar gyfer yr athro ar dir Dwylan. Ysgol Dwylan neu’r Ysgol Bella oedd enw’r bobl ar yr adeilad newydd.
Ymgyrch arall a brofai frwdfrydedd Dr Williams tros achosion oedd yn agos at ei galon oedd cael capel newydd i’r Methodistiaid Calfinaidd yn y Bwlch. Safai hen Gapel y Bwlch dros y ffordd i Bodorwel heddiw gyda’r Hen Dŷ Capel wrth ei ochor. Erbyn diwedd y 1860au roedd yr aelodau’n pryderu ynghylch cyflwr yr hen gapel. Roedd blynyddoedd o weithio yn chwarel haearn Tan yr Orsedd, drws nesaf i’r capel, wedi gadael ei ôl ar yr adeilad a’r tir o gwmpas. Hefyd roedd y capel wedi mynd yn rhy fach ar gyfer yr aelodaeth, ac roedd y lês ar y tir lle safai yn dod i ben mewn ychydig o flynyddoedd.
Penderfynwyd, oherwydd y pryderon hyn, mynd ati i adeiladu capel newydd. Erbyn hyn roedd Dr Williams yn un o flaenoriaid yr hen gapel. Gofynnwyd iddo ysgrifennu at David Williams Ysw. Castell Deudraeth, perchennog y Bwlch, i ofyn a fyddai’n fodlon rhoi darn o dir ar gyfer yr ymgyrch newydd hon. Wedi peth llythyru rhwng y ddau cynigiodd David Williams dri chwarter erw o dir, sef perllan y Bwlch, y darn oedd wedi cymryd bryd yr aelodau o’r cychwyn. Ni chostiodd y tir yr un geiniog ac o'r herwydd aeth pob ceiniog a godwyd ar gyfer y gwaith o adeiladu’r capel newydd.
Erbyn 1871 roedd y capel wedi ei godi ac yn fuan wedyn ceisiwyd am drwydded i gynnal priodasau. Ar Awst 22ain,1873 gweinyddwyd y briodas gyntaf yn y capel newydd, priodas rhwng Daniel Jones o Morfa Bychan ac Eliza Roberts, Bryn Celyn, Cilan. Mae tystysgrif y briodas hon yng ngofal eu gorwyres, Iris Awen, Bwlchclawdd, Cilan hyd heddiw.
Pris adeiladu’r capel oedd £993.14.6 a thalwyd y cyfan namyn £115 yn y flwyddyn gyntaf. Ym 1877 cynigiodd Dr Williams a’i wraig gyfrannu £40 tuag at dalu’r ddyled pe byddai’r aelodau yn cyfrannu’r £75 fyddai’n weddill, a thrwy eu haelioni hwy y talwyd y ddyled olaf yn gyfangwbl.
Edmygid Dr Williams fel meddyg yn Llanengan oherwydd ei waith elusennol a’r gofal a roddai i’w gleifion. Bu wrth y gwaith am bron i hanner can mlynedd. Ym 1855 collodd Catherine, ei wraig. Bedair blynedd yn ddiweddarach, ym 1859, priododd â Martha Davis o’r Wyddgrug. Tua 1875 gadawodd ei feddygfa yn Dwylan yn nwylo’i ŵyr Dr Thomas Williams Hughes a symud i’r Wyddgrug, a thrwy'r blynyddoedd nesaf ymgymerodd yng ngwaith y capel a’r ysgol yn y fan honno. Ar Fedi 25ain, 1884, wrth gerdded gyda’r rheilffordd yn ymyl ei gartref yn Yr Wyddgrug, cipiwyd ei gôt gan drên yn teithio rhwng Caerleon a’r Wyddgrug a chafodd ei lusgo am rai llathenni. Roedd ei glwyfau mor ddychrynllyd fel y bu farw yn y fan a’r lle. Roedd yn 79 mlwydd oed.
Symudwyd ei gorff yn ôl i gartref ei deulu yn Dwylan, ac ar y dydd Mawrth canlynol cynhaliwyd yr angladd ym Mynwent Eglwys Llanengan. Cariwyd yr arch o Dwylan i’r fynwent gan denantiaid ffermydd Dwylan, ac fe’i rhoddwyd yn y bedd gan bedwar o flaenoriaid Capel y Bwlch. Gyda thorf fawr wedi ymgynnull i ddangos eu parch tuag ato, fe’i claddwyd gyda’i ddiweddar wraig Catherine.
Mae gan W G Williams, Scranton, Pennsylvania, gynt o’r Sarn, air da iawn iddo:
Drwg gennyf glywed am farwolaeth y gŵr urddasol hwnnw Dr Williams, Llanengan gynt gan fy mod wedi derbyn cymwynas oddi ar ei law, sef wedi fy ngwella pan roedd pawb arall wedi methu. Gobeithiaf y bydd ei ŵyr sydd yn Llanengan ddod i safle mor anrhydeddus a’i daid yng ngolwg y wlad.
Ffynonellau
Y Genedl Gymraeg, 12 Tachwedd 1884 t 8
Y Drysorfa (Caerleon) 1 Ionawr 1845 t 22
Methodistiaeth Llanengan o’r flwyddyn 1741 hyd y flwyddyn 1873. Adroddiad cyflawn am y Capel Newydd. Argraffwyd gan R.Owen, Heol Fawr.
Y Goleuad, 10 Tachwedd 1884