Evan Lloyd Edwards

 Dyma sut y cofnododd Edward Jones (taid Megan Roberts, Brynteg) hanes Evan Lloyd Edwards yn un o gyfres o benillion a ysgrifennodd adeg agor gwaith plwm Tanrallt: 

Daeth Edwards y Cefn yn bresennol
I’r ardal i drio ei ffawd;
Fe lwyddodd i agor y cwpwrdd
A’r trysor i’r golwg a gawd.

Fe wnaeth yr hen gyfaill ei ffortiwn
Trwy drysor cuddiedig y graig, 
I orffen ei ffortiwn yn gyflawn, 
Yn ardal Llanengan ca’dd wraig.

Brodor o Feddgelert oedd Evan Lloyd Edwards, yn briod ȃ Catherine Griffith, merch Mur Cwpwl, Cilan; priodwyd y ddau yn Eglwys Llanengan ym mis Tachwedd 1826. Mwynwr yng ngwaith plwm Penrhyn Du oedd Evan Edwards bryd hynny, ac yng Nghapel Bwlchtocyn y bedyddiwyd ei ddau fab. Fel llawer o fwynwyr y cyfnod dilyn y gwaith fu hanes Evan Edwards ac yn Nrws y Coed, Dyffryn Nantlle y cartrefodd y teulu. Yng ngwaith copr yr ardal honno bu Evan Edwards yn gweithio fel peiriannydd am dros ddeng mlynedd ar hugain. 

 Wedi marwolaeth ei wraig ym Mehefin 1866 gadawodd Ddrws y Coed a dychwelyd i Lanengan. Roedd cynnwrf yng ngweithfeydd plwm y plwyf erbyn hyn gyda gwahanol grwpiau ac unigolion o du allan i’r ardal yn barod i fentro eu harian. Ar Awst 5ed, 1869 prynodd Evan Edwards lês ugain mlynedd ar safle gwaith plwm Tanrallt gan stad y Faenol, hyn ar delerau o unfed ar bymtheg o’r breindal a thrigain punt am bob erw o dir a ddifethid gan y gwaith. Fel y digwyddodd, roedd hyn yn weledigaeth ar ran Evan Edwards. Ychydig ddyddiau wedyn cynigiodd William Rudge, ar ran ei bartneriaid yn y Tanrallt Mining Company, arian sylweddol am y lês. Roedd arbenigwyr y grŵp yn credu fod rhagolygon ardderchog i’r safle, cystal os nad gwell na’r gweithfeydd eraill yn y plwyf. Mae’n debyg i Evan Edwards wneud rhai miloedd yn y fargen yma.

 Tua’r un pryd ȃ phan oedd Evan Edwards yn gwneud ei ffortiwn, roedd trefniadau priodasol yn cael eu gwneud. Roedd Evan Edwards i briodi â Sidney Hughes, merch y Cefn, neu Cefn Llygadog fel y’i gelwid bryd hynny. Yn ôl papurau newydd y cyfnod roedd hon yn briodas heb ei hail. Cynhaliwyd y briodas yn eglwys y plwyf ar Hydref 9fed, 1869, Evan Edwards yn 65 oed a’i wraig Sidney yn 26. Roedd y briodas rhwng cyn berchennog gwaith Tanrallt a merch ifanc y Cefn wedi gafael yn nychymyg yr ardal. Addurnwyd y pentref gyda baneri a fflagiau lliwgar, gyda phontydd deiliog wedi eu hadeiladu yma ac acw. Roedd y diwrnod i fod yn wyliau cyffredinol i bawb, ac i ddathlu hynny gadawodd Evan Edwards sofren aur yn nwy dafarn y pentref i dalu am gwrw a diodydd i’w hyfed ar y diwrnod.

 Wedi’r gwasanaeth, gyda dymuniadau gorau’r gynulleidfa a’u ffrindiau, cychwynnodd y cwpwl newydd am Bwllheli mewn cerbyd yn cael ei dynnu gan bâr o geffylau brithion. Yn disgwyl amdanynt yn y fan honno roedd seindorf bres i’w hebrwng i Westy’r Crown, lle cafodd y pâr a’u gwesteion frecwast priodas.

 Wedi dychwelyd i Lanengan arhosodd Evan Edwards a’i wraig newydd gyda’i frawd yng nghyfraith yn y Cefn. Ddiwedd Awst 1870 ganwyd iddynt fab, Robert, ond bu’r bychan  farw ymhen ychydig ddyddiau. Tua’r adeg hon mae’n debyg i Evan Edwards brynu darn o dir gan Dr Williams, Dwylan, perchennog tir y Felin ar y pryd, ac ar y llecyn hwn, yr ochr isaf i’r Felin ac yn edrych dros Fae Ceredigion yr adeiladwyd Brynteg. Erbyn Ebrill 1871 roedd y ddau wedi symud i’r tŷ newydd ond byr fu eu bywyd priodasol. Bu farw Sidney yma ar Fedi 20fed, 1871, yn eneth wyth ar hugain oed, rhyw flwyddyn wedi colli ei mab. Bu Evan Edwards yn byw ym Mrynteg fel ‘mining agent retired’ am bum mlynedd arall. Bu yntau farw ddiwedd Awst 1877. Fe’i claddwyd ym Mynwent yr Eglwys gyda’i wraig a’u mab bychan.

                                                                     Cefn Llygadog yng nghanol y llun 


Ffynonellau:

Metal Mines of Llanengan, Bennet & Vernon, Gwydyr Mines Publications 2002

North Wales Chronicle 16/10/1869.


Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...