Capten ’R Ochor




 Yn fachgen tair ar ddeg oed, heb sôn gair wrth ei deulu, sleifiodd William Roberts i Ben Cei yn ’Rabar a chael swydd yn gwneud bwyd ar y Fisherguard Lass, cwch Capten Prydderch, Abersoch. Dyna gychwyn ar yr antur i fachgen ifanc o Lanengan ddaeth yn ei dro yn gapten ei hun ac a adwaenid fel Capten ’R Ochor.

Fe’i ganwyd ar Awst 11eg, 1870 yn Nhan y Fron, ’R Ochor, Llanengan lle roedd yn byw gyda’i fam, Jane Roberts, ei nain Margaret Hughes, ei frawd Hugh a’i chwiorydd Mary, Margaret, Jane ac Ema.

Yn 11 oed, cyn mentro i’r môr, bu’n gweithio yn chwarel plwm Aston am chwe cheiniog y dydd ac yna am gyflog o swllt y dydd bu’n cario’r post o Abersoch i’r gwaith plwm. Roedd ei fordaith gyntaf eto’n gysylltiedig â’r gwaith plwm gan mai cario plwm o Abersoch i Fryste roedd y Fisherguard Lass. Yn y swydd hon chweugain y mis oedd ei gyflog. 

Ymddengys iddo symud o long i long tra ar y môr. Cafodd gyfnodau ar longau bychain neu sgwneri, yr Industry (plwm), y Lorne (llechi a cherrig calch), y Charles James, sef un o’r sgwneri olaf i’w hadeiladu ym Mhwllheli, a’r Physician . Ym mis Hydref 1887 symudodd i weithio ar longau hwylio Lerpwl. Mae hanes iddo gerdded o bentref Llanengan i Bwllheli er mwyn ceisio gweld Capten Williams, Cefnleisiog, Dinas ac o glywed fod y Capten wedi gadael Pwllheli a dychwelyd i Dinas aeth am Dinas ar ei ôl. Talodd hyn iddo gan iddo gael lle fel A.B. ar y Cambrian Monarch gan y Capten, er nad oedd wedi cael unrhyw brofiad o long â rigin llawn o’r blaen, ac nad oedd ond yn 17 mlwydd oed. Hwyliodd ar y llong i Awstralia. 

Ym 1894, yn dilyn cyfnod mewn ysgol forwrol yn Llundain, pasiodd ei arholiad fel ail fêt.

Ymunodd â’r llong enwog, y Forest Hall, fel ail fêt ac aeth rownd yr Horn i San Francisco. Bu am bron i ddwy flynedd ar y daith hon cyn ymuno eto gydag ysgol forwrol. Cafodd swydd mêt ar sgwner y Frau Minna Petersen a bu’n fêt ar long o Borthmadog cyn mynd i ysgol forwrol Llundain am y trydydd tro i sefyll arholiad meistr- forwr. 

Ym 1901 ymunodd ȃ chwmni William Thomas, Lerpwl a chafodd brofi cyfrifoldeb prif swyddog a meistr ar nifer o longau mawr gan wneud enw da iddo’i hun. Yr oedd bod yn gapten ar y math o longau yr hwyliai arnynt bellach yn ‘gofyn am forwriaeth o’r radd flaenaf.’



Yn y blynyddoedd canlynol gwerthodd William Thomas y rhan fwyaf o’i longau hwyliau a datblygu llynges o ager-longau. 

Erbyn Ebrill 1914 roedd William Roberts yn brif swyddog ar yr ager-long newydd, S.S. Trader. Ar y ffordd adref gyda llwyth o siwgr fe’i daliwyd gan y Moewe, un o longau arfog enwog yr Almaen, a chymerwyd ef a’r criw yn garcharorion. Cyn chwythu’r Trader yn deilchion holodd un o’r swyddogion Almaenaidd ef a hoffai gadw unrhyw beth oedd o werth arbennig iddo. Dewisodd Capten ’R Ochor ei gronomedr, ei secstant, a dwy ffender fechan a wnaed iddo gan un o griw’r Trader oedd yn hannu o Bwllheli. Cawsant eu cadw ganddo yn ei gartref yn Llŷn am flynyddoedd wedyn. 

 William Roberts oedd capten y Willema Gertrud o Lerpwl pan suddodd ger yr Azores. Treuliodd ddyddiau mewn cwch agored, yn ddigysgod a sychedig mewn haul poeth, cyn glanio ar ynys fechan o’r lle y cawsant eu hachub gan long Brydeinig. Glaniodd yn Lerpwl adeg Eisteddfod Penbedw ym 1917 ac roedd yn bresennol pan ddyfarnwyd y Gadair Ddu i Hedd Wyn.

Pan ddaeth y rhyfel i ben bu’r Capten yn gweithio fel swyddog i’r Weinyddiaeth Longau gan ddod â’r barc pedwar mast Swithiod o Halifax, Nova Scotia i Barrow ym 1919 gyda chargo enfawr o goed arni. Ar ôl hynny bu’n gapten ar nifer o agerlongau bach eto yn hwylio i borthladdoedd Ewrop. 

Mae llawer o straeon am yr hen gapten poblogaidd a enillodd le arbennig iddo’i hun fel cymeriad annwyl, direidus ac uchel ei barch. Yn ei atgofion mae’r diweddar Hywel Thomas, Brynteg yn sôn amdano :

Mi fu Capten R'ochor yn ‘custodian’ yr ‘Hall’ hefyd - ar ôl Evan Jones. Dyna i chi ddyn difyr i fod efo fo, os yr oeddach chi ‘in the good books’. Deud i hanes yn Awstralia a South America fel petai o'n sôn am Lanbedrog neu Langian, - a'i hanes yn cael ‘torpedo’ yn y Rhyfel Cyntaf - dwywaith. Bu'n gapten un o'r Q-ships hefyd - hen betha'n edrych yn rhy sâl i wastraffu torpedo arnynt ond yn cuddio gwn mawr o'r golwg nes doi yr U-boat i'r wyneb i'w suddo efo shell neu ddwy. Wedyn gollwng y paneli oedd yn cuddio'r gwn mawr, a clec i'r submarine. Roedd yn rhaid hyfforddi hanner y criw i ymddangos yn ddioglyd a di-feind er mwyn hudo'r U-boat i'r wyneb, a wedyn actio gollwng y lifeboat i'r dŵr mewn panic. Ei brif bleser oedd chwarae crib – ‘Tyd yma - ista - mi dynnai' dy grys di’ - a dechrau shyfflo'r cardiau.

Ar ôl dod adref o’r môr bu’n byw yn ddibriod yn ei ardal enedigol a gorffennodd ei oes ym Mhen y Bont, Abersoch gyda dwy o’i chwiorydd. Bu Capten ’R Ochor farw yn 85 oed ar Fawrth 25ain, 1956 ac mae wedi ei gladdu gydag eraill o’i deulu ym Mynwent y Bwlch. 

                                                                                        

                                      County of Cardigan, llong haearn yr oedd Capten 'R Ochor yn llywydd arni yn 1903

Ffynonellau

Meistri’r Morwyr, Aled Eames, Gwasg Gee 1978

Atgofion am Lanengan, Hywel Thomas (gyda chaniatâd y teulu)

Llanw Llŷn, Beti Isabel Hughes

Rhiw.com


Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...