Selar Llanengan.



 

 Mae un o’r cyfeiriadau cyntaf at Selar mewn dogfen yn Archif Gwynedd (XD2/538) lle cyfeirir at Elizabeth Jones, Creigir Isaf, LLanengan (sic) yn 1682 fel perchennog Creigir Isaf, Tŷ yn y Pwll, Tŷ yn y Morfa a’r Celler, i gyd ym mhlwyf Llanengan. Mae’n debyg mai Creigir Selar oedd enw cyntaf yr hen dŷ, ond fel Selar mae’n cael ei enwi yng nghofnodion yr Eglwys. 

 Yn y 18G roedd y Selar yn gartref i John Marc a’i wraig Jane, ac wedyn i’w mab Richard Jones a’i wraig Elizabeth, y tad a’r mab yn eu tro yn ymgymryd â swydd Clerc y Plwyf yn Llanengan. Ganwyd William, cyntaf anedig Richard Jones a’i wraig, yn y flwyddyn 1777, yr hynaf o chwech o blant, a’r unig un i gyrraedd ei ddwyflwydd oed. Yn ôl yr arfer, ac fel y gwnaeth ei dad a’i daid o’i flaen, cymerodd William enw cyntaf ei dad, ac fel William Richards mae’n cael ei adnabod.

 Tua’r flwyddyn 1799, rhyw bedair blynedd cyn rhyfeloedd Napoleon, roedd William yn ei ugeiniau cynnar ac yn forwr yn y Llynges Frenhinol. Erbyn y flwyddyn1805 roedd wedi ei ddyrchafu’n is-gapten ar y Constance, un o longau gwarchod y Llynges Frenhinol. Llongau oedd y rhain yn cario mwy nag ugain gwn eu hunain gyda’r cyfrifoldeb o warchod prif longau rhyfel y Llynges. 

Ar y 9fed o Fedi 1806, roedd y Constance yn un o dair llong y Llynges, gyda’r Sharpshooter a’r Strenuous, yn hwylio i lawr arfordir gorllewinol Ffrainc. Yn y pellter ymddangosodd llong ryfel Ffrengig, y Salamandre, newydd hwylio allan o Saint Malo ac ar ei ffordd i Brest yn cario llwyth o goed. Sylweddolodd ei chapten yn fuan nad oedd ganddo fawr o obaith dianc rhag tair o longau’r Llynges ac i geisio achub ei long a’r criw cyfeiriodd am fae cyfagos Bouche d’Erquy lle y gwyddau fod gynnau a milwyr Ffrengig yn gwarchod y glannau. 

Cwrsiodd y Prydeinwyr eu helfa i’r bae, ac o dan bwysau eu gynnau gorfodwyd y Ffrancwyr i redeg eu llong ar draeth heb fod ymhell o dref fechan Erquy. Am y ddwy awr nesaf ymladdwyd brwydr ffyrnig a gwaedlyd yn y bae, brwydr a adawodd y Salamandre wedi ei dryllio ar y traeth. Ond er llwyddo i orchfygu'r Ffrancwyr, methodd y Prydeinwyr ȃ gyrru eu milwyr allan i ysbeilio eu gwobr oherwydd ffyrnigrwydd tân y gynnau ar y lan, yn hytrach rhoddwyd gorchymyn i dynnu’n ôl i ddiogelwch y môr agored. Wrth ddilyn y Sharpshooter a’r Strenuous allan o’r bae aeth y Constance yn gaeth ar greigiau mewn dŵr bâs, ac heb ddim i’w hamddiffyn rhag gynnau’r Ffrancwyr doedd ganddi ddim dewis ond ildio neu ddioddef tynged y Salamandre. Lladdwyd y Capten, Alexander Burrowes, a naw o’r criw ar ddechrau’r frwydr, cafodd dau eu clwyfo’n ddifrifol, a chafodd deg arall fân anafiadau. Roedd William Richards y Selar yn un o’r deg yma. 

 Wedi’r frwydr cymerwyd 37 o forwyr y Constance a oroesodd yr ysgarmes yn garcharorion, a’u rhoddi ar waith i ryddhau'r llong oddi ar y creigiau. Gyda chymorth y llanw llwyddwyd i’w hail-nofio, a chafodd ei thywys i Saint Malo lle cafodd ei hawlio fel ysbail rhyfel gan y Ffrancwyr. Gorfodwyd y carcharorion i gerdded i Verdun yng ngogledd y wlad. Yno cadwyd William Richards a chriw y Constance mewn caethiwed am gyfnod o bron i wyth mlynedd. Daeth eu hunllef i ben wedi i Napoleon ildio am y tro cyntaf ym mis Ebrill 1814,hynny wedi i filwyr byddinoedd y Gynghrair gyrraedd ei brif ddinas, Paris. 

 Ym mhrif borthladd y Llynges yn Portsmouth ar y 12fed o Dachwedd 1806 cynhaliwyd Llys Milwrol arbennig ar fwrdd Y Gladiator, pryd ystyriwyd holl amgylchiadau colli’r Constance. Wedi gwrando ac ystyried tystiolaeth Goldie a Nugent, capteiniaid y Sharpshooter a’r Strenuous, penderfynwyd fod Capten Burrowes a’i swyddogion wedi ymddwyn gyda gwroldeb o’r radd uchaf drwy gydol y frwydr; ac oherwydd ei arweiniad a’i ddewrder wedi marwolaeth ei Gapten, dyrchafwyd William Richards y Selar, yn ei absenoldeb, i statws Capten. Cyflwynwyd cleddyf arbennig iddo gan y Morlys fel tystiolaeth o’i ddyrchafiad. Daeth yr rhyfel â Ffrainc i ben ym mis Mehefin 1815 a rhyddhawyd William o’i ddyletswyddau i’r Llynges ar bensiwn o hanner cyflog capten. Cyn bo hir dychwelodd adref i Ben Llȳn lle derbyniodd swydd gan yr Arglwydd Newborough, olygai ei fod yn gyfrifol am weithgareddau morwrol y gŵr hwnnw. 

 Etifeddodd William Y Selar, hen gartref y teulu yn Llanengan, wedi marwolaeth ei dad, Richard Jones ar y 12ed o Chwefror 1818.Yn haf y flwyddyn honno daeth tro ar fyd iddo. Pan wrth ei waith ym Mhwllheli cyfarfu â Sarah Constable, merch yn ei hugeiniau hwyr o Northampton. Roedd Sarah ar ymweliad ȃ’r dref yng nghwmni Ann, ei chwaer, a’u hewythr, Philip Constable. Collodd y genethod eu rhieni pan yn ifanc, a chymerodd brawd eu tad, Phillip Constable a’i wraig y ddwy tan eu gofal. Gŵr cyfoethog oedd eu hewythr, wedi gwneud ei ffortiwn yn adeiladu camlesi yng nghanolbarth Lloegr. Daeth i Ben Llȳn yn y flwyddyn1818 yn chwilio am fusnes newydd, gan ddod ȃ Sarah a’i chwaer i’w ganlyn fel cyfle i weld y wlad. Ar yr ymweliad hwn y cyfarfu William a Sarah. Datblygodd y berthynas rhyngddynt ac ymhen ychydig fisoedd, ym mis Chwefror 1819, roedd priodas wedi ei threfnu yn nhref Northampton, cartref y teulu. ‘Roedd hon yn briodas ddwbwl. Ar yr un diwrnod, yn yr un eglwys, priodwyd William a Sarah, ac Ann Constable gyda John Ellis, twrnai o Newborough Place, Stryd Penlan, Pwllheli. Parhaodd y cysylltiad agos rhwng y ddwy chwaer ar hyd eu hoes. 

 Wedi’r briodas cartrefodd y ddau gwpwl newydd ym Mhen Llȳn. Aeth Ann i fyw i gartref ei gŵr yn Stryd Penlan, Pwllheli, ond roedd cynlluniau llawer mwy i’r Selar. Ail adeiladwyd yr hen dŷ o’r newydd bron, ac o fod yn dŷ cerrig dau lawr digon cyffredin, dyblwyd ei faint i’r tŷ o sylwedd a welir heddiw. Adeiladwyd estyniad ar yr ochor ddwyreiniol i’r hen dŷ gwreiddiol ac agorwyd mynedfa o ffordd y pentref tuag at y cyntedd o flaen y prif ddrws. Ychwanegwyd grisiau coed ar dro i’r llofft, ac yn lle pedair ffenestr ar wyneb gogleddol yr adeilad cafwyd wyth yn edrych i lawr tua’r Eglwys a thros weirglodd yr afon Soch am Y Rhiw. Codwyd stablau ac adeiladau eraill teilwng o dŷ o’r fath a chrewyd gardd a pherllan wedi eu hamgylchu ȃ muriau cerrig uchel i’w cysgodi. Dyma pryd y newidiwyd enw‘r hen dŷ yn Belle Vue, golygfa braf yn Ffrangeg. Oherwydd ei swydd, ychydig amser gafodd William Richards i fwynhau ei dŷ newydd a bu farw yn sydyn yn y flwyddyn1830 yn 53 mlwydd oed. Prin yw’r wybodaeth am ei ddyddiau olaf, ond ar gomisiwn hwylio i Marseilles ar arfordir deheuol Ffrainc tros yr Arglwydd Newborough yr oedd William Richards pan fu farw. 

 Yn y papurau newydd ym mis Mehefin 1836 mae Belle Vue ar osod fel tŷ moethus wedi ei ddodrefnu. Gwyddys mai John Edwards, perchennog chwarel mwyn haearn Creigir Isaf, a’i deulu oedd y tenantiaid newydd. Ychydig o hanes sydd ar gael i’r gŵr hwn ac i’r chwarel honno; efallai mai marwolaeth John Edwards yn ŵr ifanc yn 1840 ddaeth ȃ’r gwaith i ben. Erbyn y flwyddyn 1841, mae Belle Vue unwaith eto yn gartref i Sarah Richards, gyda gwas a dwy forwyn yn ei gwasanaeth. Yn y blynyddoedd nesaf, fel gwraig weddw, rhoddodd Sarah ei chefnogaeth i’r ymgyrch i godi arian tuag at atgyweirio yr Eglwys yn Llanengan ac i sefydlu ysgol newydd yr Eglwys yn y pentref. Yn hynny cafodd gefnogaeth lawn ei hŵyr, Phillip Constable Ellis. Mab ei chwaer Ann a John Ellis y twrnai o Bwllheli oedd Philip Constable, ysgolhaig a aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen i gael ei hyfforddi ar gyfer yr Offeiriadaeth. Roedd yn eglwyswr i’r carn heb ddim i’w ddweud wrth yr Ymneilltuwyr; a chredai yn gryf y dylid cadw dylanwad yr Eglwys ar y gymdeithas. Ysgrifennodd lythyrau i eglwyswyr yr ardal, a thirfeddianwyr oddi allan yn eu gwahodd i gyfrannu tuag at yr achos. Bu ei ymdrechion yn llwyddiannus - rhoddwyd y tir a’r llechi ar gyfer yr ysgol yn rhad ac am ddim gan Assheton Smith y Faenol, er iddo wrthod yr un cais gan Dr Thomas Williams y Dwylan rhyw ddwy flynedd ynghynt. Wedi casglu oddeutu £400 gan y cyhoedd rhoddwyd pensaer Assheton Smith ar waith i gynllunio’r adeilad newydd. 

 Agorwyd Ysgol yr Eglwys, yr Ysgol Genedlaethol, ym mis Awst 1846, ac yn ôl y papurau newydd mae Sarah Richards a’i hŵyr ymysg y lliaws o foneddigion sydd yn bresennol y diwrnod hwnnw. Yn ei adroddiad am yr agoriad pwysleisiodd gohebydd y Caernarfon and Denbigh Herald bwysigrwydd cyfraniad Philip Constable Ellis i’r ymgyrch. 

 Ychydig o wybodaeth sydd am Sarah Richards ar ôl y cyfnod hwn; mae’n debyg iddi dreulio’i hamser rhwng Belle Vue a chartref Ann ei chwaer ym Mhwllheli. Bu farw ym mis Awst 1868 yn 79 mlwydd oed, yn Rhyllech, ger Llannor, lle'r oedd Ann a’i theulu wedi cartrefu erbyn hynny. Fe’i claddwyd ym mynwent eglwys y pentref hwnnw. Yn ei hewyllys trosglwyddodd bopeth o’i heiddo, yn cynnwys Belle Vue, i’w hŵyr Phillip Constable Ellis, a oedd erbyn hyn yn rheithor yn Llanfairfechan. Rhoddodd ef Belle Vue ar y farchnad yng ngwesty’r Crown Pwllheli ar yr 11eg o Fawrth 1874. Dyma gysylltiad olaf teulu William Richards ȃ’r Selar. 

 Arhosodd yr enw Belle Vue ar y tȳ hyd at 1989 pan y’i newidiwyd yn The Rock. Mae’r lȏn fechan oedd yn arwain at yr hen dŷ gwreiddiol yn dal i gael ei galw’n Lôn Selar ac yn fodd i gadw enw’r hen dŷ ar gof.

                                                                           Lôn Selar.

Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...