Helynt Ysgol Sarn Bach


Helynt Ysgol Sarn Bach. 1927-1932.

Am gyfnod rhwng y blynyddoedd 1927 a 1932 bu anghydfod andwyol rhwng Ymddiriedolwyr Ysgol Sarn Bach a’r Cyngor Sir yng Nghaernarfon, anghydfod a effeithiodd yn sylweddol ar addysg plant y plwyf yn ôl barn rhai. Drwy ymdrechion ac aberth plwyfolion Llanengan yr adeiladwyd yr ysgol yn Sarn Bach, ar ddarn o dir a roddwyd ar ei chyfer gan deulu Tŷ Newydd, tua’r flwyddyn 1891. Roedd yr ysgol newydd i gymryd lle’r hen ysgol Dwylan, a fu ei hunan yn ganolfan addysg i blant y plwyf am bron i hanner can mlynedd. Y teimlad erbyn hynny oedd fod angen ysgol fwy canolog ar gyfer gofynion yr ardal, gan ddisgwyl y byddai hynny’n gwella presenoldeb y disgyblion. Roedd yr ysgol newydd i fod yn Ysgol Frytanaidd fel yr hen ysgol, gyda phwyllgor wedi ei ddewis i ofalu am yr adeilad.

Yn y flwyddyn 1906 mynegodd y Cyngor Sir eu parodrwydd i gymryd drosodd adeilad yr ysgol ar brydles, datblygiad a dderbyniai gefnogaeth y plwyfolion os byddai i’r Cyngor Sir gytuno ar ddwy amod y teimlid yn gryf yn eu cylch. Y gyntaf oedd y byddai’r trigolion yn parhau i gael defnyddio’r ysgol ar gyfer cyfarfodydd y plwyf, gan mai’r ysgol oedd yr unig adeilad addas yn y plwyf ar gyfer cynnal cyfarfodydd o’r fath. Hefyd, y byddai’r Cyngor Sir yn gyfrifol am wneud unrhyw waith cynnal a chadw y byddai ei angen ar yr adeilad drwy gyfnod y brydles, ac i’r adeilad gael ei gyflwyno yn ôl i’r ymddiriedolwyr mewn cyflwr priodol ar ddiwedd oes y brydles.

Cafwyd cytundeb rhwng y Plwyfolion a’r Cyngor, a pharatowyd prydles gan adran Cyfarwyddwr Addysg y Sir. Roedd y brydles am un mlynedd ar hugain, ac i ddod i ben ym mis Mai 1927. Ynddi roedd yr hawl i’r plwyfolion ddefnyddio’r ysgol am dair noson yr wythnos fel y mynnent a byddai’r Cyngor Sir yn gyfrifol am gynnal yr adeilad. Er bod y Cyngor a’r Ymddiriedolwyr wedi cytuno ac arwyddo’r brydles, bu blynyddoedd diweddaf ei chyfnod yn rhai chwerw a chythryblus. Cwynai'r plwyfolion ers peth amser fod cyflwr adeilad yr ysgol wedi dirywio’n ddifrifol yn enwedig ym mlynyddoedd olaf y brydles, ac er i’r Cyngor addo fwy nag unwaith fod gwelliannau ar y ffordd, doedd dim wedi ei wneud; roedd hyd yn oed sôn fod Bwrdd Addysg y Cyngor ei hunan yn bryderus, oherwydd cyflwr gwael yr ysgol. Aeth y sefyllfa yn un amhosib. Yn groes i’r hyn y cytunwyd arno yn y brydles ym 1906, roedd y Cyngor Sir nid yn unig wedi esgeuluso’u cyfrifoldeb tuag at adeilad yr ysgol, ond ar ben hynny yn gofyn i’r plwyfolion dalu am gael ei defnyddio.

Pan ddaeth yn bryd i ysgrifennu prydles newydd ym mis Mai 1927, roedd cael cytundeb yn amhosib. Cynigiai’r ymddiriedolwyr brydles am 99 mlynedd gyda rhent o ddeuddeg punt a deg swllt y flwyddyn, ac yn unol ȃ chynlluniau'r Bwrdd Addysg, defnyddio’r arian i roddi cymorth i blant o’r ysgol gael addysg bellach. Roedd hyn oll ynghlwm ȃ’r ddwy amod y gofynnwyd amdanynt ym 1906, sef y Cyngor i gynnal a chadw, a’r plwyfolion i gael yr hawl i ddefnyddio’r adeilad at wasanaeth y plwyf. Yr amod olaf hon fu’r rhwystr mwyaf i gael cytundeb; cafodd ei gwrthod yn gyfan gwbl gan adran y Pwyllgor Adeiladu. Rhywbeth na wnaeth hwyluso pethau yng nghanol yr holl gweryla oedd fod Cadeirydd y Pwyllgor Adeiladu wedi galw'r Ymddiriedolwyr, sef pobol Llanengan, “y bobol waethaf a welodd erioed, ac nad oedd am ddelio ȃ hwy dim mwy.”

Dadleuai eraill yn y Cyngor, fod y modd y geiriwyd y brydles ym 1906 yn rhoddi’r hawl i’r Ymddiriedolwyr, nid yn unig i ddefnyddio’r adeilad, ond ei ail osod os mynnent, a hynny ar draul y Cyngor.  Gwrthodwyd y syniad hwn yn llwyr gan y plwyfolion mewn llythyrau at Glerc y Cyngor. Roedd y sefyllfa’n gymhleth iawn  a phenderfynodd yr Ymddiriedolwyr, oherwydd ystyfnigrwydd y Cyngor a chyflwr yr adeilad, wrthod hawl i’r Cyngor Sir ddefnyddio’r adeilad fel ysgol, gan eu gorfodi i chwilio am adeilad arall i’r pwrpas. Y dewis amlycaf i’r Cyngor oedd ail agor hen Ysgol yr Eglwys yn y pentref. Wedi ei chau ers 1909, credai rhai nad oedd cyflwr yr adeilad hwnnw fawr gwell na’r ysgol yn Sarn Bach, ond erbyn hyn doedd fawr ddewis i’r Cyngor. Penderfynwyd yn y diwedd mai gyrru mwyafrif y plant i’r ysgol yn Llanengan fyddai orau, a dysgu’r gweddill yn Ysgol y Babanod yn ‘Rabar, er nad oedd cyfleusterau ar gyfer plant hȳn yn yr ysgol honno. Rhannwyd yr athrawon yr un fath, ac am y blynyddoedd canlynol, bu hen Ysgol yr Eglwys ac Ysgol y Babanod yn ‘Rabar yn brif ganolfannau addysg plant y plwyf.

Wedi helynt y cau, bu’n rhaid i’r Cyngor Sir ddechrau darparu cynlluniau i adeiladu ysgol o’r newydd, ac i’r pwrpas hwnnw  dewiswyd darn o dir dros y ffordd i Gwelfor ar Lôn Sarn Bach.  Yno, ar dir y Deucoch, bwriadai’r Cyngor adeiladu ysgol newydd ar gyfer y plwyf ar gost o oddeutu £8,000. Croesawodd y plwyfolion gynlluniau newydd y Cyngor ac edrychai bawb ymlaen at gael canolfan addysg newydd i’r plant. Siaradai’r Cyngor yn dda am gynlluniau’r ysgol newydd, ond ychydig iawn oedd i’w weld yn digwydd, ac yn fuan diflannodd gobeithion y rhieni.

Dechreuodd rhai o’r plwyfolion gwyno ynghylch cyflwr yr ysgol yn Llanengan, a theimlai eraill ei bod yn annheg ar rai o blant y plwyf oedd a thaith bell i’r ysgol, plant Bwlchtocyn a Cilan yn arbennig. Erbyn diwedd 1930, yng nghanol yr ansicrwydd, trefnwyd cyfarfod gan y trigolion i wrthdystio yn erbyn difaterwch y Cyngor, yn eu hymateb i sefyllfa addysg y plant. Cynhaliwyd y cyfarfod yn yr hen ysgol yn Sarn Bach, pan etholwyd John.W.Thomas, Brynteg, Llanengan, yn gadeirydd. Cychwynnodd ei anerchiad  i’r cyfarfod gyda’r newydd drwg fod Cyngor Addysg y Sir wedi gohirio adeiladu’r ysgol newydd am gyfnod amhenodol oherwydd pwysau gan y Llywodraeth yn Llundain ynghylch pwysigrwydd cynildeb mewn amseroedd ansicr. Afraid  dweud fod y fath benderfyniad wedi cythruddo’r cyfarfod, a chododd amryw ar eu traed i farnu’r Cyngor a’r penderfyniad.

Ar ddiwedd y noson rhoddwyd cynnig ger bron gan William Hughes, Morfa View Abersoch, os na fyddai carreg sylfaen yr ysgol newydd wedi ei gosod erbyn yr ugeinfed o Ragfyr 1930, yna byddai'r rhieni yn cadw’r plant o’r ysgol am wythnos, neu bythefnos ar y tro, er mwyn rhoddi pwysau ar y Cyngor i weithredu. Eiliwyd y cynnig gan John Davies Belle Vue, Llanengan.  Cytunwyd arno  yn unfrydol gan y gynulleidfa, a threfnwyd i’r Cyngor Sir gael gwybod eu penderfyniad. Fore trannoeth doedd ond saith plentyn o’r deugain ar gofrestr yr ysgol yn Llanengan yn bresennol..

Yn Llys yr Ynadon ym Mhwllheli rhyw dair wythnos wedi’r cyfarfod uchod, cafodd Efan Jones, Cilan Fawr, Cilan ei erlyn gan Swyddog Presenoldeb Plant am iddo esgeuluso gyrru ei ferch deuddeg oed i’r ysgol. Does dim sicrwydd fod yr achos hwn yn dilyn beth gytunwyd yng nghyfarfod y rhieni , ond mae’n rhoi ychydig o gefndir i’r helynt.

Roedd gan Efan Jones dri o blant o fewn oed ysgol, ond dim ond yr hynaf a enwyd yn yr achos. Ei eglurhad i’r Llys oedd bod y daith i’r ysgol yn rhy bell i’r plant, yn enwedig y rhai ieuengaf. Wedi’r ysgol symud i Lanengan ymestynnwyd eu taith un filltir ychwanegol i fod yn daith o ddwy filltir a hanner; ac efallai mwy na hynny i rai o blant eraill mynydd Cilan. Cafodd y Llys ei atgoffa gan y Clerc; os oedd ysgol o fewn tair milltir i gartref y plant yna roedd yn orfodol drwy’r gyfraith i’r rhieni wneud yn siŵr fod y plant yn mynychu’r ysgol honno. Ychwanegodd y Swyddog Presenoldeb fod gwraig Efan Jones wedi dweud wrtho nad oedd am yrru’r plant i’r ysgol oherwydd y pellter, ac na fedrai ef ei gorfodi oherwydd bod yr ysgol yn un afiach. Eglurodd y Swyddog i’r Llys fod stori ar led yn y plwyf i’r ysgol gau flynyddoedd ynghynt oherwydd i’r adeilad fod yn anaddas ac yn afiach, stori heb unrhyw wirionedd ynddi o gwbwl yn ôl y Swyddog. Pan awgrymwyd i Mrs Jones mai milltir a hanner oedd y daith i’r ysgol wrth ddefnyddio llwybr y Nant i Lanengan, cytunodd hithau fod y daith yn un fyrrach, ond pan fyddai’r tywydd yn wlyb, anodd fyddai i’r plant dramwyo oherwydd y dŵr a safai ar rannau o’r llwybr. Wnaeth eglurhad Efan Jones a’i wraig ddim llawer o argraff ar y Llys, a rhoddwyd rhybudd iddo, yn ei orfodi i yrru’r plant i’r ysgol.

Erbyn y flwyddyn 1932 doedd fawr ddim newid yn sefyllfa addysg y plant, ac i gadw’r helynt o flaen llygaid y Cyngor cadwai’r rhieni eu plant o’r ysgol bob hyn a hyn. Tua Mehefin y flwyddyn honno tynnwyd sylw’r ymddiriedolwyr tuag at lythyr Dr Lloyd Owen, Prif Swyddog Meddygol y Sir, yn erfyn ar i Gyngor Llŷn bwyso ar yr Awdurdod Addysg i wneud atgyweiriadau i’r ysgol yn Llanengan. Cychwynnodd hyn drafodaeth newydd rhwng y Cyngor Sir a’r ymddiriedolwyr a threfnwyd cyfarfod ym mis Awst yn Sarn Bach.

Yn cynrychioli’r ymddiriedolwyr roedd John.W.Thomas, Brynteg y Cadeirydd , Capten John Williams Rockdale, John Jones y Pant, John W. Evans Wenallt a Tom Bryn Jones Tȳ Newydd. Ar ran y Cyngor Addysg siaradai John Owen o Landudno. Eglurodd John Thomas nad oedd safiad yr ymddiriedolwyr wedi newid o gwbwl, ac mai cyfrifoldeb y Cyngor Sir oedd darparu’r addysg orau ar gyfer y plant. Atebodd John Owen fod y Cyngor Sir mewn sefyllfa anodd ers blynyddoedd orherwydd canllawiau’r llywodraeth yn Llundain ynghylch cynildeb. Roedd y plwyfolion wedi clywed y stori yma droeon o’r blaen, ac iddynt hwy doedd hyn ond y Cyngor yn hel esgusodion. Roedd yr ymddiriedolwyr a’r plwyfolion o’r farn ei bod yn well gan y Cyngor Sir wario’u harian ar weithgareddau ym mhen uchaf y Sir, heb gadw’r un geiniog ar gyfer gwella addysg plant yn yr ardaloedd gwledig.

Ychwanegodd John Owen,  pe byddai’n rhaid i’r Pwyllgor Addysg adeiladu ysgol o’r newydd ar gyfer y plwyf y byddai’r gost erbyn hyn yn £10,000, ond pe byddai’r Pwyllgor yn gallu prynu adeilad yr ysgol yn Sarn Bach, a hynny am bris rhesymol, yna byddai’r Cyngor yn arbed gwario rhwng £4,000 a £6000. Roedd hwn yn gynnig newydd gan y Pwyllgor Addysg a rhoddwyd cyfle i’r Ymddiredolwyr ei ystyried a’i drafod ymysg ei gilydd. Eu penderfyniad oedd gwerthu’r ysgol am £250 i'r Cyngor Sir, a throsglwyddo’r holl hawliau ynghylch yr adeilad i’r Pwyllgor Addysg, ar y dealltwriaeth fod yr ysgol newydd yn gweithredu ar ddull ysgol ganol. Derbyniwyd penderfyniad yr Ymddiredolwyr yn unfrydol gan y plwyfolion a chafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Addysg llawn.  O’r diwedd, er mawr foddhad i bawb, roedd yr helynt bron ar ben. Tynnwyd y clo oddi ar giatiau’r ysgol a chafodd y Cyngor Sir fynd ati i adeiladu ysgol deilwng i blant y plwyf.

Cymerodd bron i dair blynedd arall cyn y cafodd y prifathro, Mr Jones Parry, groesawu’r plant i’r ysgol newydd; fe’i hagorwyd yn swyddogol ym mis Hydref 1935.Yn y cyfarfod hwnnw talwyd teyrnged haeddiannol i’r plwyfolion am ymladd mor frwdfrydig am flynyddoedd i gael y gorau i’r plant a hynny yn erbyn yr anawsterau a roddwyd yn eu ffordd.. Yn ôl papurau newydd y cyfnod, cynildeb oedd y gair mawr gan y Llywodraeth yn Llundain y dyddiau hynny. Ond credai llawer, yn enwedig plwyfolion Llanengan, os oedd raid cynilo, yna ei fod i’w rannu yn gyfartal ledled y Sir, nid ei orfodi ar y rhannau hynny bellaf oddiwrth Swyddfeydd y Cyngor.

Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...