Mae’n amlwg i daith gyntaf Howel Harris i Lŷn yn Ionawr 1741
gael dylanwad arbennig ar rai o drigolion plwy Llanengan oherwydd i gofnod Evan
Evans, a groniclodd yr hanes cynnar, nodi ‘Pregethwyd y bregeth gyntaf gan y
Methodistiaid yma mewn ffermdy bychan o’r enw Pengogo...[ac]enw’r preswylydd...
ydoedd William Griffith’ – hyn ‘ddechreu y flwyddyn 1741’. Roedd
cynnal cyfarfodydd o’r fath ar y pryd yn golygu cryn ddewrder gan mai dioddef
cosb fyddai’r canlyniad pe dôi’r Eglwys i wybod am anghydffurfiaeth o’r fath. A
dyna un rheswm am ddewis Pengogo fel man ymgynnull – roedd yn ddiarffordd rhwng
môr a mynydd uwch tonnau Porth Neigwl.
Aeth y cyfarfodydd
dirgel hyn rhagddynt am beth amser, efallai tan i enw William Griffith,
Llanengan ymddangos efo dau arall ymysg llawer a lusgwyd o flaen eu ‘gwell’ yn
Llys yr Esgob ym 1747 am gynnal cyfarfodydd anghyfreithlon. Dyma hefyd ddyddiad
ail daith Howel Harris i Lŷn i geisio diwygio’r Eglwys o’i diffyg sêl – hon
oedd ei ddadl bellach, yn hytrach nag annog ymneilltuaeth.
Oherwydd y gwŷs i’r Llys, symud o Bengogo fu raid a
Caefadog, Sarn Bach fu’r ail gartref - o 1760 ymlaen medd un ffynhonnell – lle
trigai Robert William, y gwehydd, a’i wraig, Betty Thomas, a lle bu llwyddiant
cynyddol i’r achos.
Yna bu symud wedyn, i gegin allanol Y Bwlch, cartref John
Williams a Margaret a’u mab Thomas, a gofrestrwyd yn ystafell i addoli ynddi ar
29 Medi 1801. Roedd mwy o dderbyniad i’r ymneilltuwyr erbyn y cyfnod hwn mae’n
amlwg. Er hynny, mynd a dod oedd hanes aelodau ond yr oedd dyrnaid ffyddlon ac
yn eu plith y tri blaenor a benodwyd i arwain – Griffith Roberts, Tŷ Fry;
Robert William Griffith, Caereglwys a Thomas
Williams, Y Bwlch. Ac ef a drefnodd brydles ar 29 Ebrill 1806 ar dir cyfagos i
godi adeilad pwrpasol i addoli ynddo. O’r diwedd fe gofrestrwyd Capel y Bwlch
yn swyddfa’r Esgobaeth ym Mangor ar 28 Hydref 1807.
Aeth yr achos o nerth i nerth yn y capel bach a helaethwyd
ym 1813 a 1826 ond erbyn 1854, gyda dyfodiad y gweinidog cyntaf, y Parch
William Hughes, rhaid oedd helaethu eto. Bu Cyfrifiad Crefyddol ym 1851 a’r
wybodaeth a gafwyd - gan William Benjamin, Tan y Fynwent a Henry
Richards, y ciwrad – yn dangos gwahaniaethau amlwg rhwng niferoedd y Methodistiaid
a’r Eglwyswyr. Rhaid
oedd cael adeilad mwy sylweddol.
Ond hir fu’r dadlau. Roedd anniddigrwydd ers agor chwarel Tan
yr Orsedd ym 1840 yn agos i’r hen gapel. Erbyn 1863 rhaid oedd ymateb a
gofynnwyd am gefnogaeth y Doctor Thomas Williams, Dwylan - ffrind David
Williams, Castell Deudraeth, perchennog fferm Y Bwlch. Oherwydd amod penodol
ynglŷn â ffordd bosibl heibio’r capel, ni fu cytundeb tan Mehefin 1870 pan aed
ymlaen i drefnu codi’r adeilad newydd ar lecyn Perllan y Bwlch. Dewiswyd y
Doctor yn Llywydd ‘Y Pwyllgor Gweithiol’ a threfnwyd cwmni Hugh Hughes, Porthmadog
i godi’r capel am y pris a gynigiwyd ganddynt o £690, gyda gwirfoddolwyr lleol
i symud cerrig a choed yr hen gapel i’w defnyddio drachefn wrth godi’r newydd.
Y Capel Newydd
Capel y Bwlch ar ôl codi'r 'ddau gyntedd
hardd a hwylus' ddechrau'r 20G
Bu diwrnod i’w gofio ddydd Llun, 19 Rhagfyr 1870 pan gafwyd seremoni
gosod y garreg sylfaen gan wraig y Doctor ar bnawn glawog, ond gobeithio i’r
haul wenu wrth ddathlu priodas gyntaf y capel ar 22 Awst 1873 rhwng Mr Daniel
Jones, Tŷ Newydd, Morfa Bychan a Miss Elizabeth Roberts, Bryncelyn, Llanengan.
Codi’r capel newydd fu’n gyfrwng i’r ddau gyfarfod.
Yn anffodus, ni welodd y Parch William Hughes godi’r ail
gapel, a rhoddwyd gwahoddiad i’r Parch David Hughes, Aberdaron, i weinidogaethu.
Fe’i sefydlwyd ganol Ionawr 1872. Ond er y llwyddiannau, wrth gloi ei adroddiad
o hanes achos Y Bwlch ym 1873, nodyn o rybudd sydd gan y blaenor Evan Evans, am
gyflwr crefyddol yr ‘ieuengtyd’ a’u ‘hwyrfrydigrwydd neillduol i ymaflyd yn
nyledswyddau crefydd’.
Yr Adroddiadau
Ond os cymharwn y ffigyrau, gwelwn nad oedd achos i Evan
Evans boeni gan bod y capel ar ei gryfaf ar ddechrau’r ganrif newydd:
1873: aelodaeth - 147; plant - 29; ysgolheigion
-156; athrawon -28.
1901 - aelodaeth: 179; plant - 38; ysgolheigion – 161; gwrandawyr – 360.
Ac er colli 32 o aelodau o’r ‘fam
eglwys’ i Eglwys y Graig, Abersoch ym 1904, nid oedd angen ‘digaloni’ yn ôl
Evan Evans. Ei falchder mawr yn Adroddiad 1905 oedd datgan i ddyled y capel o
£70.00 gael ei thalu’n gyfangwbl. Hapused oedd yr aelodau, penderfynasant ar
gasgliad arall i brynu lampau newydd i’r capel. Nodir i’r Gymdeithas Lenyddol
ddenu’r ‘bobl ieuainc’ ac yma gwelwn gyfeirio at gychwyn ‘Y Gymdeithas Undebol’
fel y gwyddom amdani heddiw.
R O Hughes, Llwyn Onn – a phrifathro’r ‘Council School’ –
sy’n Ysgrifennydd ers 1908 ac erbyn 1910, am y tro cyntaf mynegir siom yn yr
Anerchiad oherwydd difrawder cyffredinol. Ond canmoliaeth gaiff ffyddlondeb
‘nodedig’ y Chwiorydd – y dylai’r ‘brodyr’ eu hefelychu ‘yn y rhinwedd hwn’.
Noder i’r naill ffyddlon gael llythyren fawr a’r lleill difater lythyren fach!
Ymfalchïwyd yn ‘yr adgyweiriadau pwysig a wnaed ar y Capel’.
Cafwyd ‘dau gyntedd hardd a hwylus at yr adeilad’; ‘trefniant effeithiol a
diweddaraf o awyriant’; ‘glanhawyd a lliwiwyd y muriau a’r ffenestri’ a
phrynwyd ‘linoleum’ i gynhesu’r lloriau, blinds, lampau, matiau, clustogau,
‘umbrella stands’...yr oll ‘yn gynorthwyon pwysig i gysur ac iechyd ein
Cynulleidfa’.
Ond bu newid byd ar bawb gyda dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Nodir casgliad arbennig i Genhadaeth y Milwyr yn Adroddiad 1914 a chasgliad
blaenorol i gefnogi’r ffoaduriaid o Wlad Belg. Anfonwyd
‘pedair-ar-ddeg-ar-hugain o ‘Blancedi’ a chwe pâr o ‘Socks’ i’r Swyddfa Rhyfel
ar derfyn mis Hydref’. Yn Adroddiad 1916 rhestrwyd enwau’r rhai oedd yn
gwasanaethu yn y Fyddin neu’r Llynges:
Salmon Jones, Ty’nypwll; Huw J Powell, Rhiwlas; David E
Roberts, Minffordd; Lewis Roberts, White Horse; David J Williams, Morfa; Evan H
Jones, Sarn Villa; John Jones, Pengamdda
Daeth trydydd bugail Y Bwlch, y Parch H D Lloyd, yn ŵr ifanc
o ochrau Llanuwchllyn, i aros efo teulu Ty’n Pwll i ddechrau, ond ym 1916
priodwyd y gweinidog â Sarah Ann Jones, Bryncelyn Isaf ac yno yr ymgartrefodd
yng nghartref ei wraig a’i mam, Catherine.
Ymddengys i nifer aelodaeth Y Bwlch a’r cyfraniadau barhau
yn gyson dderbyniol drwy’r ddegawd ond cwyno braidd a glywn yng
Nghyfarchiadau’r gweinidog ym 1916 a 1918 y carai weld mwy o gefnogaeth i’r
Cyfarfodydd Gweddi a’r Seiat. Erbyn y ddegawd nesaf (1923) canmolir: yr ymdrech
i ‘glirio ein dyled’; a ffyddlondeb y ‘bobl ieuaingc’ a’u parodrwydd i ‘wneud
eu rhan’, ond proc a roir i’r ‘dosbarthiadau hŷn’ i adfywio ac ymroi.
Yr un yw’r stori yn y 30au, gan ddechrau’n
rhagorol yn ‘clirio y ddyled o £300 oedd yn aros ar y Festri’. Erbyn 1932,
llwydaidd yw’r llun, fel yr hin gymdeithasol yn gyffredinol. Ond canmolir y
rhai a roddodd eu hamser a’u hegni i helaethu’r Fynwent yn ddi-dâl ac i’r rhai
oedd yn gyson gynnig lletygarwch i’r gweinidogion. Bum mlynedd yn ddiweddarach
mae pethau’n gwella. Roedd nifer y Cymunwyr ym 1937 yn 139 a 27 o blant. Yr
oedd y gweinidog yn hapus.
Ond degawd go anodd fu hi yn y 40au, gydag
ymadawiad y gweinidog ddechrau’r cyfnod, a’r Ail Ryfel Byd yn creu newidiadau.
Erbyn Adroddiad 1946, fodd bynnag, mae’r Swyddogion yn diolch am y ‘cyfraniadau
cyson’ ac yn gweld ‘cyfarfodydd yr wythnos yn dal eu tir’. Roedd cyfartaledd
presenoldeb yr Ysgol Sul yn 48, a nifer yr holl Ysgol yn 90! Erbyn Adroddiad
1947 mae’r Parch Ieuan James Owen wedi ei sefydlu yn bedwerydd gweinidog y
capel. Ymgartrefodd yn Nhan yr Orsedd.
Diolch am ‘lafur ac aberth’ yr aelodau a wna’r gweinidog
newydd a chanmol ffyddlondeb ‘neilltuol’ y gwragedd, ond ‘carwn weled ychwaneg
o wŷr yn y Seiat a’r Cwrdd Gweddi’. Gwelir ôl prysurdeb ynghyd â haelioni’r
aelodau yn y casgliadau niferus, a chanlyniadau’r Arholiadau Safonol a Sirol yn
dangos gwaith y plant a’u hathrawon. Dechreuir ail hanner yr ugeinfed ganrif
felly yn weddol hyderus.
Mae’r gweinidog yn un da am ganmol. Dechreua arferiad a
gynhaliwyd wedi ei ymadawiad, sef dangos diolchgarwch i wirfoddolwyr yr achos.
Mae’n amlwg i’w hynawsedd ddenu’r aelodau i ailafael yn y moddion a chryfhau
cyfraniadau. Roedd 117 o Gymunwyr ym 1953 a chyfartaledd presenoldeb yr Ysgol
Sul yn 46.
Ond 1954 oedd blwyddyn lawn olaf y Parch Ieuan J Owen yn Y
Bwlch cyn symud i Pontypridd. Wrth ddiolch i’r plant, i’r merched am dalu am
wresogyddion a phaent, ac i’r dynion ifanc am beintio’r Festri, mae’n cloi â
chwestiwn: ‘A oes sail i’r cyhuddiad fod ein heglwys yng nghlwm wrth hen
draddodiadau?’ Wedi dwy ganrif o Anghydffurfiaeth, roedd yn gwestiwn
perthnasol.
Gwelwn newid graddol yn Adroddiad 1955 a’r merched yn llawer
amlycach eu swyddogaethau, eu Cronfa wedi ‘trosglwyddo £80 i dalu am lanhau a
thwymo’r capel’. Syndod yw’r gofynion i gefnogi o leiaf 13 o Gasgliadau
Cyfundebol, yn ogystal ag ymorol am gynnal y capel ei hun, ond llwyddwyd.
Dangoswyd ymroddiad hen ac ieuanc yng ngwedd ffres yr
adeiladau, yng ngraen y cyfarfodydd wythnosol, y tystysgrifau Tonic Solffa a
enillwyd yn yr ysgol Sul am y tro cyntaf, a chanlyniadau’r Arholiadau Sirol
ddiwedd 1956. Bellach Miss Megan Thomas, Brynteg oedd Arolygwr yr Ysgol Sul a
hi hefyd oedd yn gyfrifol am y Band of Hope. Diwydrwydd a sêl oedd nodwedd y
gweithgareddau. Roedd y coffrau yn iach, a soniwyd am ‘symud ymlaen am
weinidog’.
Adroddiad 1964 yw cyfle cyntaf y gweinidog newydd, y Parch
Gareth Maelor Jones, i annerch ei ofalaeth, a gynhwysai bedair eglwys: Y Bwlch,
Cilan, Llangïan a’r Graig. Creigle, Abersoch oedd cartref y teulu.
Natur ddamhegol gawn yn Anerchiadau’r Parch Gareth Maelor
a’i apêl am gariad a brawdgarwch ‘a wna’r eglwys yn
aelwyd a’r aelodau yn deulu’. Gwelwn haelioni’r aelodau yn anrhegu’r achos mewn
sawl ffordd a’r trysoryddion yn cadw’r ddysgl ariannol yn wastad. Bu
gweithgarwch gyda’r to ifanc yn benodol.
Y blaenoriaid fu’n gyfrifol am Adroddiad 1975, fodd bynnag,
gan i’r gweinidog, wedi degawd o wasanaeth, symud i ofalu am Gartref
Bontnewydd, a’r Anerchiad yn dangos chwithdod ei golli. Mewn dyddiau anodd,
diolchgarwch am ffyddlondeb oedd y neges, a’r
nodyn y byddid yn y dyfodol yn colli aelodau na fyddent yn cyfrannu
am ddwy flynedd yn olynol.

Gareth Maelor Jones gyda’r Gorchfygwyr a Hetty Yoash,
merch ifanc y noddwyd ei haddysg ganddynt.
Cafwyd gweinidog newydd yn eitha’ sydyn a’r Parch George Emlyn Jones
yn gofyn yn garedig i’r aelodau ‘ddangos i’r oes a ddêl y glendid a fu’. Dyma
apêl i ddangos y budd a roddai mynychu oedfa, cyfarfod gweddi neu Ysgol Sul i’n
‘haddasu i wynebu bywyd yn ei wahanol dymhorau a’i amryfal liwiau.’
Pwysleisio ochr ymarferol crefydd mae geiriau’r gweinidogion
diweddaraf. Diolchir am ymateb yr aelodau i ofynion yr Henaduriaeth a chanmolir
llwyddiant y Gymdeithas Undebol. Roedd cyfartaledd presenoldeb yr Ysgol Sul ym
1978 yn 22 a gwariwyd £40 ar gopïau o Feiblau Lliw i’r plant. Ond wrth ddod i
derfyn degawd arall, gwelwn mai gwanychu mae eu ffyddlondeb, ac efallai eu
niferoedd yn yr ardal. Ond naws garedig deimlwn yn anogaeth y gweinidog i ni
fod ‘yn dystion cywir...yn ein bywyd beunyddiol’... Ar y pryd roedd nifer
aelodau’r Bwlch yn 86.
Er i’r aelodaeth barhau’n gyson ddechrau’r 1980au,
cynyddu roedd y costau a’r sylw bellach yn glir
yn yr Adroddiadau am ganlyniadau diffyg cyfrannu. Disgwylid £24.26 y pen fel
lleiafswm i gynnal y gofynion. Ond y Swyddogion a ysgrifennodd yr Anerchiad ym
1982 gydag ymadawiad y Parch. George Emlyn Jones i Glan Conwy.
Erbyn 1986 deallwn fod gweinidog newydd ar y gorwel i’w
chroesawu i’r Bwlch, Miss D M Davies. Roedd aelodaeth y capel a chyfartaledd
presenoldeb yr Ysgol Sul rhywbeth yn debyg o hyd. Ymgartrefodd y gweinidog newydd
yn Nawdd Dir, Abersoch.
Roedd ychwanegu Capel y Nant at ofalaeth y gweinidog newydd
yn ategu at y cyfrifoldebau a ddisgwylid i’r Parch. Dilys Myfanwy ysgwyddo.
Cychwynnodd yn obeithiol er sawl sialens: costau cynyddol; aelodaeth a
phresenoldeb yn gostwng. Ond ymddangosodd Cylchlythyr ganddi yn cynnwys
newyddion diweddaraf gweithgareddau’r achos - syniad da i gyrraedd yr holl
aelodau o dan amgylchiadau anodd.
Gobeithiol oedd y nodyn yng Nghylchlythyr 1988 gyda
chyfieithiad newydd y Beibl, presenoldeb yn y cyfarfodydd wythnosol yn tyfu, ac
eraill megis Hwyl Hwyr i’r plant, yn llwyddo. Ond cymysg oedd y canlyniadau ym
1989 a phryderus oedd y gweinidog am gapeli’r ofalaeth i gyd. Beth aeth o’i le?
Ni chafwyd apêl benodol ganddi ar ddechrau’r ddegawd newydd ond cynigiodd yr emyn, ‘Bydd yn wrol, paid â llithro /er mor dywyll yw y daith...’
Yn Adroddiad 1991 parhau mae’r ‘amser dyrys...[gyda]
phrinder gweinidogion [ac] argyfwng gyda hen adeiladau’. Trist yw gonestrwydd y
gweinidog er iddi fod yn ‘falch fod rhai yn medru ymddiried [ynddi]’. Mae’n
amlwg bod ei dyletswyddau’n drwm gan iddi ofyn am bythefnos o rybudd pe bai
angen ei gwasanaeth – er i’w drws fod yn agored i’r sawl oedd angen hynny.
Gwelwn yn y Fantolen dâl o £5,100 am ddymchwel y capel ac yna £816.10 am
atgyweirio ac addurno’r Festri – hyn heb unrhyw sylw penodol yn yr Anerchiadau am
y rheswm dros y dymchwel na’r symud i’r Festri i gynnal oedfaon o hynny ymlaen.
Ym 1992 ceir apêl i aelodau ymgymryd â’r her o gydaddoli a
chydweithio, sef y chwe chapel o fewn yr ofalaeth. Roedd gofyn £63.00 y pen gan
yr aelodau bellach; nifer y Cymunwyr yn Y Bwlch oedd 48; a 15 yn mynychu’r
Ysgol Sul yn ogystal â thair athrawes. Cyfeiriwyd at farwolaeth Mrs Jennie Bryn
Jones, Perthi, a’r ychwanegiad i’w ‘chyn-deidiau [fod yn] sylfaenwyr yr achos
yn y lle hwn...’.
Datganiad gofidus 1993 oedd fod y Parchedig Dilys Myfanwy yn
dymuno ‘dirwyn i ben ei gweinidogaethau’ a hynny wedi chwe mlynedd o wasanaeth.
Dymunwyd ‘adferiad buan i lawn iechyd iddi’ ac aed ymlaen i ddewis blaenor
newydd yn dilyn ymadawiad Mr Leonard Roberts, Brynteg. Cymerodd Mrs Iorwen
Thomas, Meillion ei lle efo’r ddwy fu’n ysgwyddo’r baich ers rhai blynyddoedd,
sef Mrs Calin Thomas, Ty’n Don a Mrs Ceinwen Jones, Tŷ Fry. Bellach Mr Richard
Bryn Jones, Tŷ Newydd oedd yr unig ddyn i rannu’r ddyletswydd.
Erbyn 1995 roedd ymdrech i gymhennu’r Festri – er codi’r
cwestiwn am ddyfodol yr achos erbyn hyn - gan i’r Fantolen ddangos taliadau o
£280 am ‘blinds’ i’r ffenestri, £730 am garped, £119 am lanhawr carped, £558 am
wresogyddion a £14.20 am bwced a mop! Roedd merched wrth y llyw - a’r Ysgol Sul
a’r Gymdeithas Undebol yn llewyrchus.
Ond colledion a siomedigaethau fu hanes 1996 er i’r
gefnogaeth ariannol fod yn dda a llwyddiant yr Ysgol Sul yn rhoi ‘pleser
enfawr’. Yr eironi oedd nad oedd rhieni 15 o’r 18 plentyn a fynychai’r Ysgol
Sul yn aelodau yn Y Bwlch o gwbl. Beth oedd arwyddocâd hyn dybed?
Neges galonogol y flwyddyn ganlynol oedd fod Mrs Olwen
Williams yn dod at ddiwedd y flwyddyn yn weinidog rhan-amser yn dilyn cytundeb
yr aelodau i’r penderfyniad. Canmol ‘teulu hapus’ y Bwlch wna’r gweinidog
newydd yn Adroddiad 1999 gyda’r ‘cnewyllyn cadarn yn oedfaon nos Sul’ a Chlwb y
Plant ar nos Lun. Roedd ‘caredigrwydd a sirioldeb yr aelodau’ yn gynhaliaeth i
un ac oll,’ meddai.
Pery’r diolch ar ddechrau’r mileniwm am ‘gydweithio hapus’ a
Chlwb y Plant yn ‘mynd o nerth i nerth’. Wrth eu hannog i ddod i ambell oedfa,
cydnebydd y gweinidog bod yr ‘amser [yn] anodd...ond daw yn olau eto os ydym o
ddifri...’. Atega bod ‘golau o hyd yn ffenestri Capel y Bwlch’ er trychinebau’r
byd. Teimlwn ddidwylledd ei braint o gael gwasanaethu, ‘Gweithiwn felly efo’n
gilydd...’
Bu 2003 yn flwyddyn o golli ffyddloniaid, fodd bynnag, ‘a
phethau’n gwaethygu’. Ond canmoliaeth glywn yn Adroddiad 2004 wrth nodi i Mr
Richard Bryn Jones, Tŷ Newydd fod yn flaenor ers 50 mlynedd; a bod yr eglwys yn
cynnal oedfa’r Sul yn ddi-feth er diffyg gweinidogion i bregethu. Ynddynt
paratowyd cyfarfodydd gweddi a phawb yn gwneud ei ran yn ôl ei dalent. Roedd 29
o blant yn mynychu’r Ysgol Sul.
Rhaid canmol cryfder ewyllys y gweinidog sydd yn parhau i
gynnal aelodau. Rhydd esiampl wrth ddiolch i bawb yn benodol ac ymfalchïo yng
nghynnal a chadw’r adeilad. Rhaid gweddïo am ‘flwyddyn y deffro’ yw ei chyngor.
Yn 2006 nodir trefn newydd i’r Ysgol Sul ar gyfer athrawon,
gan fod Mrs Megan Griffith yn ymddeol wedi dros 30 mlynedd o wasanaeth, ond yn
dal am roi cymorth yn y Clwb Plant ar nos Lun. Gwerthfawrogwyd ei chyfraniad a
llongyfarchwyd hi’r flwyddyn ganlynol am ennill y Fedal Gee.
Sefydlwyd Henaduriaeth Gorllewin Gwynedd yn 2008. Deallwn
fod llawer o gapeli wedi cau, ‘yn gyfoethog yn ariannol ond yn dlawd o
bresenoldeb’. Ond diolch a geir am aelodau brwdfrydig yn Y Bwlch lle mae’r
‘aelwyd mor gynnes’. Roedd mwy o athrawon ar y rota Ysgol Sul bellach nag oedd
o blant i’w dysgu.
Neges siomedig 2009 oedd bod y gweinidog yn gorfod ymddeol
yn ôl rheolau’r Cyfundeb, wedi 11 mlynedd – ‘rhai o flynyddoedd hapusaf fy
mywyd’. Ac ‘er gwaethaf arwyddion yr amserau, braf meddwl bod gennym gnewyllyn
yma o hyd’. Gwelwn i Glwb y Plant drosglwyddo £78.45 o’u cyfri i’r Ysgol Sul,
sy’n awgrymu i’r Clwb fod wedi dod i ben gydag ymadawiad y Parch Olwen
Williams. Dyma golled amlwg.
Ysgrifennydd y capel, Mr Richard Bryn Jones, Tŷ Newydd, sy’n
diolch o waelod calon yn Adroddiad 2010 am wasanaeth ‘rhagorol’ y Parch Olwen
Williams. Teimlir ei ddiffuantrwydd. Anos fydd cynnal gwasanaethau bellach, ond
wrth ddiolch i unigolion atega, ‘os medrwn ddod i’r capel nos Sul, deil ei
ddrysau ar agor’. Ar y pryd 31 oedd nifer y Cymunwyr.
Yna deallwn yn 2011 bod y Parch Olwen Williams yn dal i
gynnal yr oedfa nos Sul ddwywaith y mis – heb ei ffyddlondeb ni fyddai’r capel
ar agor. Tristwch oedd gorfod nodi i’r Ysgol Sul ddod i ben o ddiffyg plant ond
diolch oedd raid i’r athrawon fu’n driw cyhyd ac i’r swyddogion eraill â’u
gwahanol gyfrifoldebau.
Erbyn 2012 roedd yr Ysgrifennydd, wedi 58 mlynedd o
wasanaeth, yn trosglwyddo’i gyfrifoldeb i’w gydflaenor, Mrs Iorwen Thomas. Gyda
marwolaeth aelod arall, Mr Owen Emlyn Roberts, Bodorwel - oedd yn Ysgrifennydd
Pwyllgor y Fynwent – roedd dyletswydd arall i’w llenwi. Fodd bynnag, rhoddwyd
system sain newydd yn y capel i gynorthwyo’r ffyddloniaid ar gôst o £1,600 -
hyn yn arwydd nad oedd pawb yn llwyr ddigalonni. Bu raid gwario hefyd ar y Tŷ
Capel y flwyddyn ganlynol, a mwy o wariant eto i ddod.
Erbyn 2015 roedd newid ar y gweill eto a cholli Mrs Calin
Thomas, Ty’n Don – yn flaenores ers 35 o flynyddoedd – yn arwyddocaol o gyfnod
yn dod i ben. Bu raid trefnu gwasanaethau undebol rhwng capeli’r Graig, Bwlch,
Smyrna a’r Nant unwaith y mis ar fore Sul er mwyn rhannu pregeth ond parhau i
gynnal gwasanaeth nos Sul yn Y Bwlch.
Yn Adroddiad 2017 sonnir am farwolaeth gwraig y Tŷ Capel, Mrs Jordan. Fel
canlyniad rhaid oedd penderfynu ar ddyfodol ei chartref ac ‘heb ailfeddwl’
gwelwyd mai gwerthu oedd yr ateb. Bu gwaith clirio caled ar yr ardd, a fu am
flynyddoedd yn batrwm o dlysni lliwgar. Diolchwyd i bawb am eu llafur ond
nodwyd niferoedd llai o wasanaethau oherwydd prinder gweinidogion, a swyddogion
y tri chapel yn bryderus am y dyfodol. Mewn inc coch nodir y tâl aelodaeth am y
flwyddyn ganlynol, sef £95, a phwyslais mai i’r Swyddfa yng Nghaerdydd yr
anfonir y cyfan. Yng nghyfrif y capel ar ddiwedd 2017 roedd £10,200.91; roedd
22 o aelodau ac un yn gyfaill i’r achos.

Adroddiad ‘gwahanol iawn’ oedd yr un olaf. Ceir hanes y
penderfyniadau a wnaed o Fedi 2018 ymlaen a’r Henaduriaeth yn nodi ‘bod rhaid
cael pleidlais yr aelodau’ ynglŷn â dyfodol y capel. Ar 28 Mawrth felly,
pasiwyd i gau’r capel o wyth pleidlais i un. Nodir iddo ddod i ben ‘mewn oedfa
arbennig iawn’ ar 26 Ebrill 2019 dan ofal y Parch Olwen Williams. Priodol oedd
i’r cyfarfod hwnnw fod yng ngofal y gweinidog didwyll a ddywedodd wrth ymddeol
yn 2009 mai ‘ffrindiau yw pobl y
Bwlch i mi bellach’. Diolch am ei hynawsedd a’i chyfraniad ffyddlon i’r capel –
capel a lywiodd fywydau ardal Llanengan mewn dysg a diwylliant am dros ddwy
ganrif a hanner. Ymfalchïwn yn hyn.