Ganwyd Mary Ann yn un o bump o blant Hugh ac Ann Lloyd a’i magu yn Nhan y Capel. Symudodd y teulu i fwthyn Morfa yn nechrau’r 20G ac yno y treuliodd Mary Ann ran helaeth ei hoes. Cyn hynny bu’n gweithio fel morwyn laeth ar wahanol ffermydd a byddai bob amser yn barod i ddweud ei hanes, yn codi am bump y bore a gorffen am ddeg y nos. Yn ifanc iawn bu’n gweithio ym Mhlas Nantglyn, Sir Ddinbych yng nghyflogaeth y Colonel Wynne Edwards, cyn dychwelyd i Lŷn i weithio yng Nghaerau Uchaf, Garnfadryn ac yna Crugan, Llanbedrog. Byddai’n falch o gyfeirio at ei chysylltiad â Lloyd George a fyddai’n aml yn galw am laeth enwyn pan fu hi’n gweithio yng Nghefn Collfryn, Cricieth.
Yn ôl yn Morfa, bu Miss Lloyd (fel y’i
gelwid ran amlaf) yn cartrefu am flynyddoedd, gyda’i chath oedd yn byw yn y
cwpwrdd wrth ymyl y tân. Yn y cowt tu allan roedd y tap dŵr, a phiser i’w gario
i’r tŷ. Roedd bwrdd y gegin wedi ei orchuddio â phapur newydd gyda stof
baraffin arno ar gyfer coginio - rhywbeth wedi ei ffrio fel arfer. Byddai print
y papur yn peri bod dwylo Mary Ann yn go ddu ac felly hefyd y botwm gwyn a
gadwai ym mhoced ei barclod i’w rannu â’r plant fyddai’n pasio.
Sawl tro fe ymddangosodd enw Mary Ann Lloyd yng ngholofn
Mari Lewis yn Yr Herald Gymraeg. Risêt
fyddai ei chyfraniad yn aml, yn arbennig risêt crempog. Dro arall meddyginiaeth
at ryw anhwylder neu’i gilydd.
Am gyfnod cafodd gwmni William, ei brawd pan ddychwelodd i Lŷn
wedi bod yn gweithio yn y pyllau glo yn ne Cymru.
Roedd y ddau ohonynt yn gerddorol ac yn hoff o ganu. Pa
ryfedd! Eu taid oedd William Lloyd, Rhosgoch, cyfansoddwr y dôn
boblogaidd Meirionnydd, ymhlith llawer o donau eraill.
Bu farw Mary Ann Lloyd ym 1975 a’i chladdu ym Mynwent y
Bwlch. Does dim carreg i nodi ei bedd ond mae cof byw amdani yn yr ardal.