Ganwyd Hugh Lloyd ym mis Ionawr 1837 yn fab i William a Mary Lloyd, Rhosgoch, Llaniestyn. Ffermwr oedd ei dad ac ar y fferm y bu Hugh Lloyd yn gweithio yn ystod ei flynyddoedd cynnar. Roedd ymhell yn ei dri degau pan adawodd ei gartref i weithio fel llafurwr yn ardal Llanengan.
Ym mis Hydref 1881, pan yn 44 mlwydd oed, priododd gydag Anne Evans, merch Daniel a Mary Evans, Ceunant, Cilan, bwthyn bach uwchben fferm y Nant. Cartrefodd y ddau yn Tan y Capel (tŷ yr Odyn Galch) ar dir y Bwlch, Llanengan heb fod ymhell o derfyn Creigir Wen. Yno ganwyd pedair merch ac un mab iddynt.
Ym mis Ebrill 1892, yn Llys Ynadon Sirol Pwllheli, cyhuddodd Griffith Thomas, Creigir Wen Hugh Lloyd o ddwyn coed oddi ar ei dir. Eglurodd Griffith Thomas ei fod wedi darganfod rhai coed wedi eu niweidio a bod rhai eraill wedi diflannu. Aeth i chwilio o gwmpas cartref Hugh Lloyd lle gwelodd y coed. Achwynodd wrth Gwnstabl Llanengan, Edward Pugh, ac aeth hwnnw i archwilio lleoliad y drosedd honedig, ac yn ei adroddiad i’r cwrt dywedodd ei fod wedi sylwi ar ôl traed a dail yn arwain o derfyn Creigir Wen i dŷ Hugh Lloyd. Datganodd clerc y cwrt ei fod o’r farn felly fod y weithred yn un o ddifrod maleisus. Doedd hi ddim yn edrych yn dda ar Hugh Lloyd ond cafodd hawl i holi Griffith Thomas pwy yn union oedd wedi torri'r goeden ar ei dir. Atebodd Griffith Thomas mai ef ei hun oedd wedi torri’r goeden a chyfaddefodd Hugh Lloyd mai ychydig o ganghennau'r goeden hon roedd o wedi eu cymryd. Eglurodd nad oedd yr un clap o lo yn Llanengan a’i fod wedi mynd allan i chwilio am briciau i wneud tân, fod y plant heb fwyd a dim tân ganddo i grasu’r toes i wneud torth. Gwrthododd y cwrt ymateb Huw Lloyd i’r cyhuddiad yn ei erbyn a dirwywyd ef i hanner coron a deg swllt o gostau. Wedi’r ddedfryd honnodd Griffith Thomas y buasai wedi rhoi'r coed tân iddo petai wedi gofyn.
Erbyn 1901 roedd Hugh Lloyd a’i deulu wedi symud i Morfa, y canol o’r tai bychan ym mhen draw Lôn Morfa (lle bu ei ferch, Mary Ann, yn byw wedyn). Ei waith erbyn hyn oedd dal tyrchod daear a chrwydrai o amgylch yr ardal efo’i ful bach du yn gwneud y gwaith. Roedd yn amlwg yn dipyn o gymeriad yn ei fro, ac o’r herwydd ysgrifennwyd ambell i bennill amdano. Doedd hyn ddim yn beth anghyffredin bryd hynny; doedd neb yn saff oddi wrth ddychan y beirdd gwlad. Roedd y rhan fwyaf o’r penillion yn llawn hwyl a thynnu coes, ambell un yn fwy crafog efallai.
Dyma sut y disgrifir Hugh Lloyd:
Huw Lloyd, y tyrchwr creulon,
Dal y mae y tyrchod duon;
Mae o’n dal bob dydd rhyw ddau
Ond nid yw’r tyrchod yn mynd yn llai.
Ac mae disgrifiad digon didaro o’i angladd:
Dyma g’nebrwng gora’r oes,
Huw yn yr hers a finna’n y goets,
Mae o ynddi er ys meityn
Yn ei chyrchu am Laniestyn.
Bu farw Huw Lloyd yn niwedd 1915 yn 78 mlwydd oed. Does dim cofnod o’i gladdu ond os yw’r rhigymwr yn gywir yn Llaniestyn y digwyddodd hynny.