Teulu Manley

 Pwy oedd William Parry Manley?




Daeth taid William Parry Manley, Joel Manley, i Lanengan o Gernyw i oruchwylio gwaith Tanrallt yng nghyfnod gorau'r gwaith hwnnw. Priododd ei fab Joel Joseph Manley ag Ann Ellen Parry, merch tafarn y White Horse, ym 1877 ac felly daeth Parry i’r enw.

 Saer coed oedd William Parry a cheir cownt ohono yn gweithio fel saer yng ngogledd Lloegr a chyn belled â Llundain. Priododd gydag Elizabeth David o Lantrisant ym 1907. Morwyn yn y Rectory oedd hi a chartrefodd y ddau yn Nhan y Fynwent.

Fferm fechan oedd Tan y Fynwent bryd hynny ac mae William Parry yn disgrifio’i hun fel saer a ffermwr o hyn ymlaen. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd ei esgusodi rhag ymuno â’r fyddin ond erbyn 1917 bu raid iddo fynd o flaen y bwrdd am yr eilwaith. Y tro hwn roedd Rheithor y plwyf, Henry E Roberts, wedi paratoi deiseb wedi ei harwyddo gan 28 o ffermwyr lleol yn gofyn am ymestyn yr esgusodiad. Roedd William Parry erbyn hyn yn 39 oed ac ef oedd yr unig saer yn yr ardal yn mynd o gwmpas yn trwsio troliau ac olwynion. Ymestynnwyd yr esgusodiad ar yr amod ei fod yn cadw cofnod cywir o’i waith.

 Bu farw William Parry Manley ym 1945. Dilynwyd ef fel saer gan ei fab William Joseph (Wil) a fu’n byw yn Nhan y Fynwent hyd 1980.


                                William Parry Manley a'i wraig Elizabeth Ann David





Ann Ellen Parry - mam William Manley - merch tafarn White Horse


Plant William ac Elizabeth Ann - Joseph ac Ann Ellen 















Ffynhonnell

Yr Udgorn 9 Mai 1918 


Hugh Lloyd



Ganwyd Hugh Lloyd ym mis Ionawr 1837 yn fab i William a Mary Lloyd, Rhosgoch, Llaniestyn. Ffermwr oedd ei dad ac ar y fferm y bu Hugh Lloyd yn gweithio yn ystod ei flynyddoedd cynnar. Roedd ymhell yn ei dri degau pan adawodd ei gartref i weithio fel llafurwr yn ardal Llanengan. 

Ym mis Hydref 1881, pan yn 44 mlwydd oed, priododd gydag Anne Evans, merch Daniel a Mary Evans, Ceunant, Cilan, bwthyn bach uwchben fferm y Nant. Cartrefodd y ddau yn Tan y Capel (tŷ yr Odyn Galch) ar dir y Bwlch, Llanengan heb fod ymhell o derfyn Creigir Wen. Yno ganwyd pedair merch ac un mab iddynt. 

Ym mis Ebrill 1892, yn Llys Ynadon Sirol Pwllheli, cyhuddodd Griffith Thomas, Creigir Wen Hugh Lloyd o ddwyn coed oddi ar ei dir. Eglurodd Griffith Thomas ei fod wedi darganfod rhai coed wedi eu niweidio a bod rhai eraill wedi diflannu. Aeth i chwilio o gwmpas cartref Hugh Lloyd lle gwelodd y coed. Achwynodd wrth Gwnstabl Llanengan, Edward Pugh, ac aeth hwnnw i archwilio lleoliad y drosedd honedig, ac yn ei adroddiad i’r cwrt dywedodd ei fod wedi sylwi ar ôl traed a dail yn arwain o derfyn Creigir Wen i dŷ Hugh Lloyd. Datganodd clerc y cwrt ei fod o’r farn felly fod y weithred yn un o ddifrod maleisus. Doedd hi ddim yn edrych yn dda ar Hugh Lloyd ond cafodd hawl i holi Griffith Thomas pwy yn union oedd wedi torri'r goeden ar ei dir. Atebodd Griffith Thomas mai ef ei hun oedd wedi torri’r goeden a chyfaddefodd Hugh Lloyd mai ychydig o ganghennau'r goeden hon roedd o wedi eu cymryd. Eglurodd nad oedd yr un clap o lo yn Llanengan a’i fod wedi mynd allan i chwilio am briciau i wneud tân, fod y plant heb fwyd a dim tân ganddo i grasu’r toes i wneud torth. Gwrthododd y cwrt ymateb Huw Lloyd i’r cyhuddiad yn ei erbyn a dirwywyd ef i hanner coron a deg swllt o gostau. Wedi’r ddedfryd honnodd Griffith Thomas y buasai wedi rhoi'r coed tân iddo petai wedi gofyn.

 Erbyn 1901 roedd Hugh Lloyd a’i deulu wedi symud i Morfa, y canol o’r tai bychan ym mhen draw Lôn Morfa (lle bu ei ferch, Mary Ann, yn byw wedyn). Ei waith erbyn hyn oedd dal tyrchod daear a chrwydrai o amgylch yr ardal efo’i ful bach du yn gwneud y gwaith. Roedd yn amlwg yn dipyn o gymeriad yn ei fro, ac o’r herwydd ysgrifennwyd ambell i bennill amdano. Doedd hyn ddim yn beth anghyffredin bryd hynny; doedd neb yn saff oddi wrth ddychan y beirdd gwlad. Roedd y rhan fwyaf o’r penillion yn llawn hwyl a thynnu coes, ambell un yn fwy crafog efallai.

Dyma sut y disgrifir Hugh Lloyd:

Huw Lloyd, y tyrchwr creulon,
Dal y mae y tyrchod duon;
Mae o’n dal bob dydd rhyw ddau
Ond nid yw’r tyrchod yn mynd yn llai.


Ac mae disgrifiad digon didaro o’i angladd:


Dyma g’nebrwng gora’r oes, 
Huw yn yr hers a finna’n y goets,
Mae o ynddi er ys meityn
Yn ei chyrchu am Laniestyn.

 Bu farw Huw Lloyd yn niwedd 1915 yn 78 mlwydd oed. Does dim cofnod o’i gladdu ond os yw’r rhigymwr yn gywir yn Llaniestyn y digwyddodd hynny.

                                                                                 


Roedd Hugh Lloyd yn fab i William Lloyd, cyfansoddwr yr emyn dôn boblogaidd, Meirionydd.

Mary Ann Lloyd

Ganwyd Mary Ann yn un o bump o blant Hugh ac Ann Lloyd a’i magu yn Nhan y Capel. Symudodd y teulu i fwthyn Morfa yn nechrau’r 20G ac yno y treuliodd Mary Ann ran helaeth ei hoes. Cyn hynny bu’n gweithio fel morwyn laeth ar wahanol ffermydd a byddai bob amser yn barod i ddweud ei hanes, yn codi am bump y bore a gorffen am ddeg y nos. Yn ifanc iawn bu’n gweithio ym Mhlas Nantglyn, Sir Ddinbych yng nghyflogaeth y Colonel Wynne Edwards, cyn dychwelyd i Lŷn i weithio yng Nghaerau Uchaf, Garnfadryn ac yna Crugan, Llanbedrog. Byddai’n falch o gyfeirio at ei chysylltiad â Lloyd George a fyddai’n aml yn galw am laeth enwyn pan fu hi’n gweithio yng Nghefn Collfryn, Cricieth.

Yn ôl yn Morfa, bu Miss Lloyd (fel y’i gelwid ran amlaf) yn cartrefu am flynyddoedd, gyda’i chath oedd yn byw yn y cwpwrdd wrth ymyl y tân. Yn y cowt tu allan roedd y tap dŵr, a phiser i’w gario i’r tŷ. Roedd bwrdd y gegin wedi ei orchuddio â phapur newydd gyda stof baraffin arno ar gyfer coginio - rhywbeth wedi ei ffrio fel arfer. Byddai print y papur yn peri bod dwylo Mary Ann yn go ddu ac felly hefyd y botwm gwyn a gadwai ym mhoced ei barclod i’w rannu â’r plant fyddai’n pasio.

Sawl tro fe ymddangosodd enw Mary Ann Lloyd yng ngholofn Mari Lewis yn Yr Herald Gymraeg. Risêt fyddai ei chyfraniad yn aml, yn arbennig risêt crempog. Dro arall meddyginiaeth at ryw anhwylder neu’i gilydd.

Am gyfnod cafodd gwmni William, ei brawd pan ddychwelodd i Lŷn wedi bod yn gweithio yn y pyllau glo yn ne Cymru.

Roedd y ddau ohonynt yn gerddorol ac yn hoff o ganu. Pa ryfedd! Eu taid oedd William Lloyd, Rhosgoch, cyfansoddwr y dôn boblogaidd Meirionnydd, ymhlith llawer o donau eraill.

Bu farw Mary Ann Lloyd ym 1975 a’i chladdu ym Mynwent y Bwlch. Does dim carreg i nodi ei bedd ond mae cof byw amdani yn yr ardal.






Hanes Gwaith Plwm Tanrallt a Thomas Gundry



 
Yn chwedegau'r 19G daeth nifer o anturiaethwyr diarth i blwyf Llanengan, pob un ohonynt yn gobeithio gwneud ei ffortiwn drwy ddatblygu’r wyth
ȉen blwm a groesai'r plwyf o Benrhyn Du yn Bwlchtocyn i Glanmorfa yn Llanengan. Does dim modd dweud faint o'r anturiaethwyr hyn fun llwyddiannus, ond doedd hynny ddim heb ymdrech dynion fel William Rudge, John Schofield a'r ddau frawd, Thomas a William Gundry, yr mwyafrif ohonynt yn aelodau o'r Gyfnewidfa Stoc yn Llundain, a phob un ȃ phocedi dyfnion.

Ymhlith yr enwau hyn mae’n rhaid ychwanegu enw un gŵr arall, gŵr a ddangosodd weledigaeth drwy gysylltu ei hun ȃ gwaith plwm Llanengan cyn i'r mewnfudwyr cyfoethog o Lundain gyrraedd y plwyf. Evan Lloyd Edwards oedd y gŵr hwnnw, Cymro Cymraeg o Feddgelert. Yn wahanol ir dynion uchod, doedd Evan Edwards ddim yn ddiarth i Lanengan; yn ei ugeiniau bun gweithio fel mwyngloddiwr yng ngwaith y Penrhyn Du, Bwlchtocyn. Priododd gyda merch leol, Catherine Jane Griffiths, merch Murcwpwl, Cilan ym 1826, ond pan ddaeth y gwaith i ben yn Penrhyn Du symudodd gyda'i deulu i weithio yng ngwaith copr Drws y Coed, Dyffryn Nantlle. Bu yno fel peiriannydd a goruchwyliwr am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Ychydig wedi marwolaeth Catherine, ei wraig, ym 1866 daeth Evan Edwards a'i fab Edward yn ôl i Lanengan, ac aros gyda theulu Robert Hughes, Y Cefn. Roedd sȏn eisioes fod adnoddau plwm y plwyf yn ennyn diddordeb dynion or tu allan i'r ardal, a'r diddordeb hwn aeth ȃ bryd Evan Edwards. Dechreuodd pethau newid wedi iddo brynu lês ar ddarn o dir uwchben Tan’rallt, fferm fechan ar gyrion y pentref, un o amryw ffermydd y plwyf ym meddiant Assheton Smith y Faenol. Credir bod rhyw ychydig o gloddio plwm wedi bod ar y safle rai blynyddoedd ynghynt, ond faint bynnag fu’r gweithio hwnnw, doedd ddim i'w gymharu â'r newid a fu wedi 1869. Dyma oedd dechrau gwaith plwm Tan’rallt fel y mae’n cael ei adnabod heddiw. Cofnodwyd y digwyddiad pwysig hwn yn hanes y pentref gan ohebydd yr Herald Cymraeg ar 17/4/1869.


Roedd gan Evan Edwards flynyddoedd o brofiad fel mwyngloddiwr, a bu ei wybodaeth am blwyf Llanengan wrth weithio yng ngwaith Penrhyn Du o fantais fawr iddo. Cymerodd ei gyfle ȃ dwy law pan brynodd lês Tanrallt, a'i wobr fawr oedd cael dynion cyfoethog y Tanrallt Mining Company yn curo ar ei ddrws a chynnig iddo ffortiwn amdani. Roedd yr arian a gynigiwyd iddo yn ormod iw wrthod. Mae'n rhaid bod Evan Edwards wedi ystyried mai llawn gwell oedd cael ffortiwn yn ei law na llafurio yng nghrombil y ddaear heb sicrwydd faint yn union roedd y graig am ei ildio. Yn anffodus, ni chafodd fawr o fwynhad o'i ffortiwn. Er iddo ail briodi rhyw ychydig fisoedd wedi'r gwerthiant, bu farw Sydney, ei wraig, a'u baban o fewn dwy flynedd i'r briodas. Wedi'r golled rhoddodd y gorau i'r mwyngloddio, cartrefu yn ei dȳ newydd, Brynteg, a ddiddori ei hunan yng ngweithgareddau'r ardal tan ei farwolaeth ym 1877. Claddwyd Evan Lloyd Edwards gyda'i deulu ifanc ym mynwent Eglwys y pentref.

Cwmni o ddynion cyfoethog yn prynu a gwerthu daliadau mewn gweithfeydd fel Tan’rallt oedd y prynwyr newydd; mae eu henwau i'w gweld fwy nag unwaith yng ngwahanol weithfeydd y plwyf, Saeson bron i gyd, yn byw neu’n gweithio yn Llundain.

 

Thomas Gundry

O'r dynion hyn, gellir mentro dweud mai Thomas Gundry oedd y mwyaf blaenllaw. Mae ei enw yn gyson yn hanes gweithfeydd y plwyf; ef hefyd oedd yr olaf o'r anturiaethwyr newydd i ymadael pan ddaeth cyfnod gweithfeydd Llanengan i ben ym 1893. Fe'i ganwyd yn y flwyddyn 1828, yn ail fab i William Gundry a Mary Trevenen o Perranuthnoe, Cernyw. Roedd ei dad yn ddisgynnydd o hen deulu'r Gundrys fu’n berchnogion ar y gwaith tun enwog, y Wheal Vor, yn Breage ger Heston yng Nghernyw, gwaith oedd yn ei gyfnod y gwaith tun mwyaf yn y wlad. Yr hanes yw i'r teulu golli gafael ar waith Wheal Vor, mewn amgylchiadau amheus a dweud y lleiaf yn ȏl barn llawer, amgylchiadau a wnaeth daid Thomas Gundry yn fethdalwr.

Ychydig o wybodaeth sydd am flynyddoedd cynnar Thomas Gundry. Cafodd ei fagu gan ei ewythr, Henry Trevenen, brawd ei fam, a chafodd ei addysg mewn ysgol breswyl, ond yn ôl y sȏn cyfnod o anhapusrwydd mawr yn ei fywyd oedd y dyddiau cynnar hyn. Cwynodd droeon wrth ei fam ynghylch yr ysgol, ond yr un fyddai ei hateb bob tro,"Tyfa i fyny a saf ar dy draed dy hunan.” Wedi gorffen ei addysg credir iddo weithio ar fferm ei ewythr am ychydig, cyn mynd i weithio i siop ddillad ei frawd yn Redruth yng Nghernyw. Yno, pan yn ei ugeiniau, mae'n gwneud penderfyniad a newidiodd weddill ei fywyd.

Yn y flwyddyn 1851 daeth newyddion cyffrous o ochr arall y byd. Roedd aur wedi ei ddarganfod yn Awstralia. Nid dyma’r tro cyntaf i'r metel gwerthfawr gael ei ddarganfod yn y wlad honno, ond hwn oedd y tro cyntaf i'r llywodraeth gydnabod y newyddion yn gyhoeddus. Yn sgil y newyddion hyn ymfudodd miloedd i dalaith Victoria i chwilio am ffortiwn, ac yn eu plith aeth Thomas Gundry. Does dim sicrwydd pa bryd yn union y teithiodd i Awstralia; y cownt nesaf ohono yw ym 1859 pan mae’n hwylio adref o Melbourne i Lerpwl fel teithiwr dosbarth cyntaf ac wedi gwneud ei ffortiwn.

Yn anffodus i Gundry a'i gyd deithwyr, y llong oedd yn eu cludo am adref oedd y Royal Charter tan gapteiniaeth Capten Taylor, un o’r llongau mwyaf modern a grwydrai'r moroedd ar y pryd. 


Yn ager long ac yn llong hwyliau, fe'i hadeiladwyd fel steam clipper i hwylio rhwng Lerpwl ac Awstralia gan gario teithwyr a chargo rownd Cape Horn mewn llai na chwe deg niwrnod. Ar ei ffordd i Lerpwl ar noson y 26ain o Hydref 1859 aeth y Royal Charter i afael un o'r stormydd mwyaf a drawodd arfordir Cymru. Gyda nerth y storm yn cryfhau fesul munud, rowndiodd y Royal Charter arfordir gogleddol Ynys Môn a chyrraedd Bae Dulas i ddwyrain yr ynys. Yna newidiodd cyfeiriad y gwynt. Heb obaith o fedru teithio yn erbyn y weilgi penderfynodd Capten Taylor gadw trwyn y llong i'r gwynt, gollwng y ddau angor, a defnyddio'r injan stêm i gadw'r llong i'r cyfeiriad hwnnw. O dan bwysau'r ddau angor gwaelododd y Royal Charter ar wely o dywod a grafel, ond yn fuan collwyd yr angor cyntaf, yna'r ail, ac o hynny ymlaen roedd y Royal Charter a phawb ar ei bwrdd ar drugaredd y ddrycin. Mor nerthol oedd y gwynt a maint y tonnau fe'i codwyd oddi ar ei gwely tywodlyd a'i hyrddio tuag at greigiau traeth Porth Helaeth i'r gogledd o Foelfre. Tua saith o’r gloch y bore torrwyd asgwrn cefn y llong, holltwyd hi yn ddau ac fe'i dinistriwyd yn llwyr yn erbyn y creigiau. Collodd 358 o'r teithwyr a 94 o'r criw eu bywydau'r noson honno; o’r cyfan ar ei bwrdd dim ond 39 achubwyd. Yn wyrthiol, yn eu plith roedd Thomas Gundry.

Wedi trychineb mor ddychrynllyd bu archwiliad swyddogol i geisio gwneud synnwyr o'r hyn a ddigwyddodd. Collodd y Capten a mwyafrif y criw eu bywydau'r noson honno ac o'r herwydd drwy eiriau'r teithwyr a oroesodd y cafwyd y rhan fwyaf o'r dystiolaeth. Dyma eiriau Thomas Gundry ei hun pan ofynnwyd iddo roi ei dystiolaeth i'r archwiliad,

Yn ystod prynhawn y 26ain dadlwythwyd triarddeg o deithwyr yn Cork, Iwerddon. Yna, yn hwyrach yn y dydd wrth fynd heibio i Ynys Enlli, cododd y capten unarddeg o rigwyr oddi ar dynfad o Lerpwl i'w cario yn ȏl adref; yn anffodus dim ond pump ohonynt oroesodd.

Wedi'r drychineb bu cyhuddiadau a thaflu bai am wythnosau, ond penderfynwyd bod Capten Taylor a'i griw yn ddieuog o unrhyw fai, a'u bod wedi gwneud popeth posibl i achub y llong. Mae’n debyg bod carfan fawr o'r teithwyr, fel Thomas Gundry, wedi darganfod aur yn Awstralia. Cyn neidio i’r mȏr clymodd llawer ohonynt yr aur mewn bagiau wrth eu gwregys a bur pwysau ychwanegol hwn yn rhwystr iddynt gyrraedd y lan yn ddiogel. Does dim mwy o hanes y fordaith gan Gundry ei hunan, ond yn ȏl y sȏn roedd wedi newid ei aur am Bond Certificates cyn gadael Awstralia, a dyma fu ei ffortiwn fwyaf.

Daeth Thomas Gundry i gysylltiad ȃ Llanengan am y tro cyntaf rhyw ddeng mlynedd wedi llongddrylliad y Royal Charter. Erbyn hyn roedd ef a'i frawd William yn aelodau o'r Gyfnewidfa Stoc yn Llundain, ac wedi prynu stȃd mwy na phum can erw heb fod ymhell o'u cartref yn Polppero, Cernyw. Pan brynwyd lês Evan Edwards gan y Tanrallt Mining Company enwyd William Gundry yn un o gyfarwyddwyr y cwmni; gellir tybio felly fod ei frawd Thomas rywle yn y cefndir, ac yn rhan o'r fenter. Fel ffordd o gynyddu eu harian newydd dechreuodd y ddau fuddsoddi mewn gweithfeydd fel Tan’rallt ac wedyn Pantgwyn, gweithfeydd lle roedd eisoes sicrwydd bod plwm ar gael yno. Dau waith arall oedd yn eiddo'r brodyr yn y cyfnod hwn oedd The Great West Van Lead Mining Company yn Llanbadarn Fawr, Sir Ceredigion, gwaith a fu yn eu perchnogaeth o 1870 cyn cael ei werthu ganddynt ym1878, a The South Pheonix Company yn Liskeard, Cernyw.

William Rudge oedd pennaeth y cwmni newydd a chyflogwyd Capten Richard John Evans o Langfihangel Genau'r Glyn i oruchwylio’r gwaith. Cafwyd adroddiad cyntaf Capten Evans i'r cwmni ym mis  Awst 1869, adroddiad i godi calon unrhyw fuddsoddwr. Ymddangosodd hyn yn y London Evening Standard 4/8/1869.


Ymhen ryw bythefnos wedyn cafwyd adroddiad pellach gan Thomas Corfield, dyn arall gyda phrofiad hirfaith mewn mwyngloddio, adroddiad yn cadarnhau gobeithion Capten Evans. Hyn eto o'r London Evening Standard 14/9/1868.


Roedd pethau wedi dechrau'n dda i'r cwmni newydd, ond rhyw flwyddyn i fewn i'r gwaith anafwyd Capten Evans mewn damwain ar draeth Porth Neigwl. Prynwyd llong oedd newydd ei dryllio yn un o stormydd y bae, ac aeth Capten Evans ȃ phedwar o ddynion y gwaith gydag ef i'r traeth i drio achub yr hyn ellid ohoni. Mae'n ddigon posib mai ar ran y cwmni y prynwyd y llong; roedd bob amser ddefnydd i goed da ym mhob rhan o'r gwaith. Does dim enw i'r llong na beth oedd ei chargo, ond cael ei daro gan yr hwylbren a thorri ei goes yn ddrwg fu hanes y Capten. Fe'i achubwyd gan y pedwar arall rhag cael ei lusgo o dan y tonnau. Cariwyd ef adref i Gae Du, Abersoch gyda cheffyl a throl a chafwyd Dr Owen o Bwllheli i leddfu ei boen a thrin ei anafiadau. Mewn pleidiais rhyngddo ef a Doctor Williams Dwylan, roedd Dr Owen newydd gael ei ethol yn unfrydol gan weithwyr Tan’rallt i fod yn feddyg ar gyfer y gwaith. Bu’r Capten tan law'r meddyg am beth amser wedi hynny. Does dim sȏn iddo weithio yn Llanengan wedi'r ddamwain; mae'n debyg iddo symud i ardal Llandeilo cyn mynd i Bewerley yn Swydd Efrog, gogledd Lloegr i weithio yn y gweithfeydd plwm yn y fan honno. Bu farw’r Capten Richard John Evans yn Aruba, Caracao, Dutch West Indies yn y Caribi ar ddiwrnod Nadolig 1881 yn 59 oed.

I lenwi'r bwlch wedi damwain Capten Evans daeth Capten W.T. Harris i edrych ar ȏl y gwaith, ond heb fod unrhyw fai ar y Capten newydd, trodd pethau'n chwithig i'r cwmni. Wedi tyllu'r siafft i ddyfnder o16 gwryd (gwryd=chwe troedfedd yn y diwydiant mwyngloddio), mewn craig llawn dŵr a llawer caletach na'r disgwyl, cloddiwyd lefelau i'r dwyrain tuag at Sarn Bach ac i'r gorllewin tuag at Glan Morfa. Siom oedd gweld fod y lefel i'r dwyrain yn pallu, a'r llall am Glan Morfa yn gwanhau oherwydd nad oedd dyfnder tir uwchben y wythȉen. Gyda phrinder plwm, ac arian parod y cwmni'n darfod, aeth yn amhosibl dal ati gydar gwaith heb fynd i ddyled. Mewn cyfarfod arbennig perswadiwyd William Rudge i geisio cael mwy o fuddsoddiad ir cwmni ond methiant fu ei ymdrechion. Roedd sibrydion ar dro, os byddai arian newydd yn dod i'r cwmni fod y cyfranddalwyr gwreiddiol am gael cyfran ohono i ad-dalur benthyciadau a wnaed er mwyn cadw'r gwaith ar ei draed. Doedd hyn ddim y ffordd orau i ddenu buddsoddwyr newydd i'r fenter, a phenderfynwyd yn y diwedd, er mawr siom i bawb, nad oedd dim i`w wneud ond i’r cwmni ymddiddymu’n wirfoddol. Teimlai rhai mai diffyg arweiniad gan benaethiaid y cwmni a danseiliodd y cyfan; wedi'r cwbl roedd llawer mwy i'w wneud eto i lawn ddatblygu'r gwaith. 

Yn gwylio hyn i gyd roedd Thomas Gundry, a chyn hir casglodd at ei gilydd gwmni newydd, y Porth Nigel Lead Mining Company, i brynu'r gwaith. Yn eu prosbectws mae’r cwmni newydd yn mynegi eu gobeithion, ond fwy na hynny yn dangos yr ymdrech a wnaeth y cwmni blaenorol i ddatblygu'r safle. Dyma hysbyseb Gundry a'i gwmni ym mhapur Y Globe, 11/5/1874.



Mae’n debyg fod Gundry wrth ei fodd gyda'r cyfle o gael datblygu'r gwaith gyda’r holl adnoddau yn   barod iddo. Os oedd adroddiadau Capten Evans a Corfield yn agos i'w lle yna ni fedrai'r rhagolygon  fod well.Y tro hwn cyflogwyd Capten Joel Manley o St Agnes, Cernyw fel goruchwyliwr, dyn wedi cychwyn ei yrfa yng ngweithfeydd copr Buckland Mochorum, Swydd Dyfnaint. Daeth i Lanengan     gyda'i deulu wedi bod yn oruchwyliwr yng ngwaith plwm Y Fedw yng Nghenarth Sant Garmon, Sir    Faesyfed. Cartrefodd ef a'r teulu yn nhŷ newydd y cwmni ar safle'r gwaith yn Tan’rallt cyn symud yn  diweddarach i'r Cottage ar Lȏn Bwlch Llan.                                                                                             

Gwaith cyntaf Manley oedd suddo'r siafft i lawr i 56 gwryd a gweithio'r lefelau ymhellach gan ddilyn y plwm. Wrth wneud y gwaith hwn cafwyd 418 tunnell o blwm i'r wyneb, ond yn fuan daeth yn amlwg fod yn rhaid cael peiriant cryfach i gael gwared ȃ'r dŵr. Yn nechrau 1876 cafwyd adroddiad gan arbenigwr arall, Nicholas Bray, yn dweud bod angen cloddio'n ddyfnach i gael y gorau o'r gwaith, a bod llwyddiant gwaith Tan y Bwlch wrth ymyl yn argoelin dda am ddyfodol y fenter. Yn haf y flwyddyn honno cafwyd tirlithriad drwg yn lefel 56 gwryd; does dim adroddiad fod unrhyw weithiwr wedi'i anafu, ond bu’r digwyddiad yn rhwystr i'r gwaith am beth amser. Erbyn Tachwedd 1877 roedd Manley ac ychydig weithwyr wedi clirio'r llithriad, a chafwyd adroddiad newydd ganddo i godi gobeithion unwaith eto. Yn y diwedd, llwyddodd i berswadio'r cyfranddalwyr, os mai datblygu'r gwaith oedd eu bwriad, bod yn rhaid buddsoddi mewn peiriant newydd i ddatrys problem y dŵr. Cymerodd dipyn o amser i gael y maen i’r wal, ond yn y diwedd codwyd mwy o arian a threfnodd y cwmni i gael pwmp llawer cryfach i gadw'r dŵr o dan reolaeth.

Doedd cael siafftiau dyfnach na phwmp cryfach ddim am dawelu dicter rhai o’r ardalwyr. Dyma lythyr a dderbyniodd Y Genedl Gymraeg gan bentrefwr anfodlon yn 1/8/1878.


Hefyd mae'r darn hwn o'r Goleuad ym mis Tachwedd 1878, yn rhoi goleuni ar gyflwr gweithfeydd y plwyf yr adeg hynny.



 Aeth yn ddiwedd 1879 cyn i'r pwmp newydd ddechrau gwneud ei waith; bu’n rhaid ail adeiladu rhywfaint ar yr adeilad lle y safai. Dyma pryd yr adeiladwyd y corn sydd yn edrych i lawr dros y cyfan. Mae dau reswm yn cael eu cynnig tros adeiladu’r corn newydd  - naill ai roedd at bwrpas y pwmp newydd, neu roedd yn  ddull o  wella amrediad awyr iach yn nyfnder isaf y gwaith. Wedi meistroli’r dŵr aeth Manley ati'n syth i wneud y gorau o'r cyfle a sicrhau mwy o weithwyr. Ym 1880 cyflogwyd 58 o ddynion a chodwyd 130 tunnell o blwm i'r wyneb, a’r flwyddyn ganlynol cariwyd 321 tunnell i'r llongau ym Mhorth Fawr. Ond erbyn misoedd olaf y flwyddyn honno gwelwyd arwyddion nad oedd pethau cystal â'r disgwyl ac aeth y nifer a gyflogid i lawr i 29. Roedd lefelau cynnar y gwaith wedi cael eu disbyddu erbyn hyn, a phan ddaeth prinder plwm difrifol yng ngwaelod y siafft aeth adroddiadau Manley i'r wasg yn brinnach. Adroddiadau oedd y rhain, nid yn unig i'r cyfranddalwyr, ond i gadw diddordeb y cyhoedd yn y gwaith. Doedd adroddiad yn llawn newydd drwg ddim am dynnu sylw unrhyw fuddsoddwr o'r newydd, felly ymddangosodd yr olaf o'r adroddiadau ym mis Gorffennaf 1881, ac erbyn mis Hydref y flwyddyn honno daeth ymdrechion y cwmni i ben. Gadawyd i’r dŵr foddi'r shafft a'r rhwydwaith tanddaear ac ar yr 17eg o Fawrth 1882 rhoddwyd y cwbl ar werth yn Llundain. Hyn oedd diwedd perthynas y Porth Nigel Mining Company ȃr gwaith.  

 Wedi i’r cwmni ddod i ben aeth Joel Manley adref i Horrabridge, Dyfnaint. Yn y cyfnod byr y bu’r teulu' yn y pentref fu bywyd ddim yn garedig wrthynt. Bu farw tri o'r plant, Jane yn ddwy ar hugain yn gweithio gartref yn gwneud hetiau merched, Mehela yn bymtheg ac yn ddisgybl yn Ysgol Eglwys y pentref, a Joseph fu farw'n dair oed ym 1875. Mae bedd y tri ym Mynwent yr Eglwys. Ar y 15fed o Chwefror 1900, yn 69 oed, bu farw Joel Manley yn Goleen County Cork, de'r Iwerddon, ardal llawn hanes a gweithfeydd mwyngloddio copr, y garreg y dechreuodd Joel ei mwyngloddio pan yn fachgen ieuanc ym Monachorum, Dyfnaint. O’r wyth plentyn a anwyd i'r teulu dim ond un ferch, Bessie, a oroesodd ei rhieni. 

Wedi i Gundry a'i gwmni droi eu cefnau ar y gwaith dim ond am ryw fis y bu’r safle yn segur. Ar y 14eg o Ebrill 1882, fe brynwyd y cwbwl gan gwmni arall, y Porth Neigel Mining Syndicate Limited, dan arweiniad John Schofield, am £1800. Roedd Schofield wedi bod yn aelod o'r cwmni cyntaf ym 1869 ac mae ei enw i'w weld mewn sawl cwmni a fu yng ngweithfeydd y plwyf. Y tro hwn Thomas Grenfell oedd y cyfarwyddwr. Yn ei adroddiad cyntaf i Schofield mae'n dweud fod y pwmp wedi cymryd tair wythnos i gael gwared o'r dŵr, ond fod y gwaith yn barod i ail gychwyn unwaith eto. Y tro hwn roedd am ganolbwyntio ar y lefel isaf drwy gloddio ymhellach tuag at Sarn Bach cyn cychwyn tuag at Glan Morfa. Hon oedd lefel 80 gwryd y gwaith. Roedd y siafft erbyn hyn wedi cyrraedd 90 gwryd, ond ni weithiwyd y lefel honno.Er holl ymdrechion Schofield bu prinder plwm da yn ergyd farwol.Cymerodd y gweithwyr rai misoedd i gael dim ond 10 tunnell o'r mwyn i'r wyneb; roedd yn amlwg i bawb nad oedd cyn lleied yn hanner digon i dalu costau'r gwaith. Gwnȃir pwmp ei waith yn dda ond aeth y gȏst o gael glo ar ei gyfer yn ormodol. Cynigiodd Schofield, fel y cyfle olaf i'r cyfranddalwyr, wneud arbrofion yng ngwaelod isaf y siafft, y 90 gwryd, ar yr amod fod £1000 arall yn cael ei godi. Daeth y diwedd pan fethwyd cyrraedd y nod o ryw £250. Glynodd  Schofield i'r amod gwreiddiol fod yn rhaid cael y £1000 i ail gychwyn ac aeth y cwmni i'r wal ar yr 17eg o Dachwedd 1883.

Am ryw bymtheng mlynedd cwta y bu’r cwmniau hyn yn trio elwa o'r wythȉen yn Llanengan, weithiau'n llwyddiannus, dro arall yn ymladd yn erbyn y ddaeareg ac amgylchiadau masnachol y farchnad blwm. Fwy a mwy gwelwyd mewnforio plwm rhad o wledydd tramor, a gwelwyd effeithiau hynny ar bris y farchnad yn ddyddiol. I fedru cystadlu roedd yn rhaid cael digonedd o blwm yn y siafftau a hwnnwn hawdd i'w gael i'r wyneb. Yn anffodus, nid felly y bu yng ngwaith Tan’rallt.

Tua’r flwyddyn1880 cymerodd Thomas Gundry berchnogaeth ar waith Pantgwyn, gwaith nad oedd fawr o hanes iddo hyd hynny. Dros y blynyddoedd nesaf, o dan yr enw y Pantgwyn Mining Company aeth ymlaen i godi’r gwaith hwnnw ar ei draed gyda’i oruchwyliwr ffyddlon, John Crase, wrth y llyw. Bu partneriaeth y ddau yn llwyddiannus a phroffidiol, ond nid heb dderbyn beirniadaeth sylweddol Dr Foster, Arolygydd Gweithfeydd y Llywodraeth, fwy nag unwaith. Yn Ynadon Siriol Pwllheli ar y 25ain o Dachwedd 1885 cyhuddodd y ddau o anwybyddu'r gyfraith a thorri rheolau gweithfeydd mwyn am yr eilwaith, hyn wedi trychineb gwaith Pantgwyn ar yr 17eg o Chwefror 1885. Rhyw dair blynedd ynghynt ym1882 dirwywyd y ddau am fwy neu lai yr un cyhuddiadau, ond y tro hwn roedd marwolaeth tri o weithwyr y cwmni i'w ystyried.

Gwaith Pantgwyn i'w weld yn y pellter

Yn 1873, oherwydd y cynnydd yn nifer y  gweithfeydd newydd yn y diwydiant mwyngloddio, rhoddwyd mwy o bwerau i’r awdurdodau i gadw trefn ar y diwydiant ac i warchod diogelwch y gweithwyr. Gosodwyd deddfau newydd i berchnogion y gweithfeydd, yn eu gorfodi i weithio oddi fewn i reolau newydd y gyfraith, gydag Arolygydd Gweithfeydd y Llywodraeth ȃ’r hawl i fynd ag unrhyw  berchennog i’r llys os oedd tystiolaeth ei fod wedi camweddu. Yn yr achos ym Mhwllheli ym 1882 y cyhuddiadau yn erbyn Gundry a Crase oedd eu bod yn euog o beidio cadw cynlluniau cywir o’r gwaith.  Roedd hefyd brinder awyr iach yn rhai o lefelau’r gwaith a dim arwydd ar y safle, yn dangos enw’r perchennog, a’r goruchwyliwr yn glir. Wrth beidio a dilyn y rheolau hyn, roedd y cwmni yn torri’r gyfraith. Dirwywyd y ddau i £4-16s-6d, a dangoswyd diffygion yng nghyfansoddiad y cwmni.

Roedd gweithfeydd Tan y Bwlch a Phantgwyn yn weddol agos i’w gilydd, doedd dim yn arbennig yn hyn, ond bu’n achos helynt a arweiniodd i drychineb yn y diwedd. Orherwydd  ansicrwydd yn y farchnad rhoddodd Tan y Bwlch y gorau dros dro i ddefnyddio’u dau ager-beiriant i godi’r dŵr o’r gwaith hwnnw. O ganlyniad, dechreuodd siafft Pantgwyn orlifo, ac yn fuan sylweddolwyd mai pwmpiau mawr Tan y Bwlch oedd wedi rheoli’r dŵr ym Mhantgwyn, a hynny’n rhad ac am ddim ers peth amser. Methodd y ddau gwmni yn glir ȃ dod i gytundeb ynghylch rhannu cost y pwmpiau, ac oherwydd fod pwmp Pantgwyn ei hunan yn annigonol, aeth y gwaith hwnnw tan ddŵr.

Roedd gan Gundry a John Crase ffydd fod dyfodol i waith Pantgwyn, ac o’r herwydd penderfynwyd agor siafft o’r newydd ryw ddeugain llath oddi wrth yr hen agoriad. Roedd y siafft newydd i gyrraedd y wythȉen blwm mewn tir newydd oddi tan lefelau’r hen siafft. Ym mis  Awst 1884 rhoddwyd deuddeg o ddynion i weithio yn ddyddiol ar dair shifft o wyth awr i suddo’r siafft newydd, a chyrhaeddwyd dyfnder o 62 gwryd erbyn 17eg o Chwefror 1885. Rhwng saith ac wyth y noson honno, rhuthrodd llifeiriant o ddŵr, mwd a cherrig i’r siafft newydd o’r hen waith, gan foddi tri o’r gweithwyr. Collodd Owen Jones,Trwyngarreg, Llanengan a Willam Ellis a John Davis o Bay View Terrace, Abersoch eu bywydau y noson honno. Roedd yn amlwg ble roedd tarddiad cymaint o ddŵr, y cwestiwn mawr oedd pam a sut y medrai’r fath drychineb fod wedi digwydd.

 Fel y gwelwyd cynt, doedd gan Gundry na Crase fawr o ddiddordeb mewn dilyn rheolau, a doedd dim wedi newid y tro hwn. Wrth agor ei ymchwiliad daeth yn amlwg i Dr Foster Arolygydd Gweithfeydd y Llywodraeth nad oedd gan y cwmni unrhyw gynllun dealladwy o’r gwaith. I hwyluso a phrysuro rhywfaint ar yr ymchwiliad cafwyd cytundeb perchnogion gwaith Tan y Bwlch i ddefnyddio’r pwmpiau i godi’r dŵr, ond er yr holl ymdrechion cymerwyd dros ddau fis i gael cyrff y gweithwyr adref i’w teuluoedd. Aeth wedyn yn ddiwedd mis Medi erbyn cael y siafft yn gwbwl glir a saff i wneud ymchwiliad manwl. Erbyn hynny, roedd yn amlwg mai yng ngwaelod y 62 gwryd y treiddiodd y dŵr drwodd, a thrwy ail fesur a gwneud arolwg llawn o’r ddwy siafft medrodd Dr Fraser ddarganfod beth aeth o’i le, a pham.

Roedd ei adroddiad yn drylwyr, ac i’r pwynt. Yn ei farn ef, anghymwysedd John Crase fel goruchwyliwr y gwaith oedd prif achos y drychineb, a diofalwch Thomas Gundry am fethu cadw rheolaeth ar y gwaith yn ȏl ei ddyletswydd o dan y gyfraith; roedd yr naill mor euog a’r llall ym marn Dr Foster. Heb archwiliad manwl o’r hen waith ni fedrai Crase fod yn saff o’r pellter rhwng y ddwy siafft tan ddaear. Roedd o gwmpas deugain llath rhyngddynt ar y wyneb, ond dyfna’n y byd yr ȃi y siafft newydd agosaf y dȏi’r ddwy at ei gilydd. Roedd yr hen siafft wedi cychwyn yn syth i lawr ar ei phen, ond o’r 40 gwryd i’r 70 roedd yn anelu’n raddol i gyfeiriad y siafft newydd. Yn y 62 gwryd lle roedd y tri a foddwyd yn gweithio, roedd Crase wedi amcanu y dylai fod deugain troedfedd o graig rhwng y ddwy siafft. Fel y digwyddodd doedd ddim ond naw, ac oherwydd diffygion yng nghyfansoddiad y graig yn yr union fan honno, aeth pwysau’r dŵr wrth ei phen yn ormod.

Wedi cael ei atgoffa gan y Crwner o’i hawliau yn ȏl y gyfraith, aeth Crase ymlaen i ddweud ei fod yn derbyn adroddiad Dr Foster yn gyflawn. Ymateb Foster oedd fod i Crase ddweud hynny’n gyfystyr ag addefiad o esgeulustod troseddol, ond nid felly yr edrychodd y rheithgor ar yr achos. Cafwyd rheithfarn unfrydol o farwolaeth drwy ddamwain ar y tri a laddwyd, gyda John Crase yn cael cerydd oherwydd ei fethiant i gadw arolwg cywir o’r gwaith. Datganodd Foster ei somedigaeth gyda’r rheithfarn, yn fwy na dim oherwydd nad oedd ond tair blynedd ers i’r ddau ddiffynydd fod o flaen y Llys am fwy neu lai yr un  cyhuddiadau’n union. Yng ngolwg rhai, gwarth oedd galw'r drychineb yn ddamwain a’r gosb yn ddim ond ugain punt yr un a thalu’r costau, ond dyna oedd dyfarniad. yr rheithgor. Defnyddiodd Dr Foster ei ddylanwad i annog y  Llys i ddal yn ȏl yr arian a dalwyd fel dirwy, a’u rhannu rhwng gweddwon y drychineb a’u plant. Cytunodd y llys i’r cynnig a threfnwyd i reithor y plwyf, Thomas Jones, fod yn gyfrifol am y gwaith hwnnw.

Ychydig fu effaith y drychineb ar dwf y gwaith yn Pantgwyn. Dros y blynyddoedd nesaf cafodd Grundy a Crase drefn ar y busnes; o gyflogi deuddeg dyn ym 1881, cyrhaeddodd yr uchafbwynt ym 1890 gyda 191 o weithwyr ar y llyfrau. Daliodd Dr Foster i gadw golwg ar y gwaith o bryd i’w gilydd, ac ym mis Mehefin 1890 aeth ȃ Gundry a Crase i’r llys yn Pwllheli am y trydydd tro.  Roedd rhestr o gwynion yn eu herbyn yn cynwys dwy siafft heb eu hamgylchynu’n saff yng ngwaelod y gwaith, ystol deugain llath o hyd heb ei rhannu gan blatfformau i hwyluso’r gweithiwr, a darn o haearn yn cael ei ddefnyddio fel falf diogelwch ar un o beiriannau ager y gwaith.Yn ei adroddiad i’r Llys dywedodd Foster mai ymateb Crase i’r cwynion oedd ei fod yn rhy brysur i ddarllen unrhyw reolau a roddai’r Arolygwr o’i flaen, felly doedd dim i’w wneud ond dirwyo’r cwmni i £47.

Pantgwyn oedd yr olaf o weithfeydd plwyf Llanengan i gau; daeth y cwbwl i ben yn y flwyddyn 1892. Ym Mehefin 1893 rhoddwyd y cyfan o eiddo gweithfeydd y plwyf ar werth mewn un arwerthiant a gymerodd dri diwrnod i’w gwblhau. Aeth rhai o’r gweithwyr i chwilio am waith ym mhyllau glo’r de, a lladdwyd rhai yn namweiniau mawr y gweithfeydd yn y fan honno. Aeth Thomas Gundry adref i Gernyw i gadw golwg ar ei fusnesau yn yr rhan honno o’r wlad. Does dim ond un cyfeiriad iddo fod yn byw yn y plwyf a hynny yng nghyfrifiad 1881 pan oedd gwaith Pantgwyn ar gychwyn; yn Ebrill y flwyddyn honno roedd yn lletya gyda John Williams a’i wraig ym Mhlas Sarn, Sarn Bach.  Gartref yng Nghernyw roedd yn berchennog ar amryw o westai ar hyd arfordir yr ardal honno, eisteddai ar lawer pwyllgor, ac roedd yn gyfranddalwr yn y Commercial Bank of Cornwall. Bu farw Thomas Gundry yn ddi-briod ar y 7fed o Ragfyr 1903 yn Fowey; roedd yn 75 oed. (Cornwall Advertiser12/12/1903)


Arwerthiant eiddo gweithfeydd Llanengan yn y Caernarfon and Denbigh Herald Mehefin 1893.

 


Helynt Ysgol Sarn Bach


Helynt Ysgol Sarn Bach. 1927-1932.

Am gyfnod rhwng y blynyddoedd 1927 a 1932 bu anghydfod andwyol rhwng Ymddiriedolwyr Ysgol Sarn Bach a’r Cyngor Sir yng Nghaernarfon, anghydfod a effeithiodd yn sylweddol ar addysg plant y plwyf yn ôl barn rhai. Drwy ymdrechion ac aberth plwyfolion Llanengan yr adeiladwyd yr ysgol yn Sarn Bach, ar ddarn o dir a roddwyd ar ei chyfer gan deulu Tŷ Newydd, tua’r flwyddyn 1891. Roedd yr ysgol newydd i gymryd lle’r hen ysgol Dwylan, a fu ei hunan yn ganolfan addysg i blant y plwyf am bron i hanner can mlynedd. Y teimlad erbyn hynny oedd fod angen ysgol fwy canolog ar gyfer gofynion yr ardal, gan ddisgwyl y byddai hynny’n gwella presenoldeb y disgyblion. Roedd yr ysgol newydd i fod yn Ysgol Frytanaidd fel yr hen ysgol, gyda phwyllgor wedi ei ddewis i ofalu am yr adeilad.

Yn y flwyddyn 1906 mynegodd y Cyngor Sir eu parodrwydd i gymryd drosodd adeilad yr ysgol ar brydles, datblygiad a dderbyniai gefnogaeth y plwyfolion os byddai i’r Cyngor Sir gytuno ar ddwy amod y teimlid yn gryf yn eu cylch. Y gyntaf oedd y byddai’r trigolion yn parhau i gael defnyddio’r ysgol ar gyfer cyfarfodydd y plwyf, gan mai’r ysgol oedd yr unig adeilad addas yn y plwyf ar gyfer cynnal cyfarfodydd o’r fath. Hefyd, y byddai’r Cyngor Sir yn gyfrifol am wneud unrhyw waith cynnal a chadw y byddai ei angen ar yr adeilad drwy gyfnod y brydles, ac i’r adeilad gael ei gyflwyno yn ôl i’r ymddiriedolwyr mewn cyflwr priodol ar ddiwedd oes y brydles.

Cafwyd cytundeb rhwng y Plwyfolion a’r Cyngor, a pharatowyd prydles gan adran Cyfarwyddwr Addysg y Sir. Roedd y brydles am un mlynedd ar hugain, ac i ddod i ben ym mis Mai 1927. Ynddi roedd yr hawl i’r plwyfolion ddefnyddio’r ysgol am dair noson yr wythnos fel y mynnent a byddai’r Cyngor Sir yn gyfrifol am gynnal yr adeilad. Er bod y Cyngor a’r Ymddiriedolwyr wedi cytuno ac arwyddo’r brydles, bu blynyddoedd diweddaf ei chyfnod yn rhai chwerw a chythryblus. Cwynai'r plwyfolion ers peth amser fod cyflwr adeilad yr ysgol wedi dirywio’n ddifrifol yn enwedig ym mlynyddoedd olaf y brydles, ac er i’r Cyngor addo fwy nag unwaith fod gwelliannau ar y ffordd, doedd dim wedi ei wneud; roedd hyd yn oed sôn fod Bwrdd Addysg y Cyngor ei hunan yn bryderus, oherwydd cyflwr gwael yr ysgol. Aeth y sefyllfa yn un amhosib. Yn groes i’r hyn y cytunwyd arno yn y brydles ym 1906, roedd y Cyngor Sir nid yn unig wedi esgeuluso’u cyfrifoldeb tuag at adeilad yr ysgol, ond ar ben hynny yn gofyn i’r plwyfolion dalu am gael ei defnyddio.

Pan ddaeth yn bryd i ysgrifennu prydles newydd ym mis Mai 1927, roedd cael cytundeb yn amhosib. Cynigiai’r ymddiriedolwyr brydles am 99 mlynedd gyda rhent o ddeuddeg punt a deg swllt y flwyddyn, ac yn unol ȃ chynlluniau'r Bwrdd Addysg, defnyddio’r arian i roddi cymorth i blant o’r ysgol gael addysg bellach. Roedd hyn oll ynghlwm ȃ’r ddwy amod y gofynnwyd amdanynt ym 1906, sef y Cyngor i gynnal a chadw, a’r plwyfolion i gael yr hawl i ddefnyddio’r adeilad at wasanaeth y plwyf. Yr amod olaf hon fu’r rhwystr mwyaf i gael cytundeb; cafodd ei gwrthod yn gyfan gwbl gan adran y Pwyllgor Adeiladu. Rhywbeth na wnaeth hwyluso pethau yng nghanol yr holl gweryla oedd fod Cadeirydd y Pwyllgor Adeiladu wedi galw'r Ymddiriedolwyr, sef pobol Llanengan, “y bobol waethaf a welodd erioed, ac nad oedd am ddelio ȃ hwy dim mwy.”

Dadleuai eraill yn y Cyngor, fod y modd y geiriwyd y brydles ym 1906 yn rhoddi’r hawl i’r Ymddiriedolwyr, nid yn unig i ddefnyddio’r adeilad, ond ei ail osod os mynnent, a hynny ar draul y Cyngor.  Gwrthodwyd y syniad hwn yn llwyr gan y plwyfolion mewn llythyrau at Glerc y Cyngor. Roedd y sefyllfa’n gymhleth iawn  a phenderfynodd yr Ymddiriedolwyr, oherwydd ystyfnigrwydd y Cyngor a chyflwr yr adeilad, wrthod hawl i’r Cyngor Sir ddefnyddio’r adeilad fel ysgol, gan eu gorfodi i chwilio am adeilad arall i’r pwrpas. Y dewis amlycaf i’r Cyngor oedd ail agor hen Ysgol yr Eglwys yn y pentref. Wedi ei chau ers 1909, credai rhai nad oedd cyflwr yr adeilad hwnnw fawr gwell na’r ysgol yn Sarn Bach, ond erbyn hyn doedd fawr ddewis i’r Cyngor. Penderfynwyd yn y diwedd mai gyrru mwyafrif y plant i’r ysgol yn Llanengan fyddai orau, a dysgu’r gweddill yn Ysgol y Babanod yn ‘Rabar, er nad oedd cyfleusterau ar gyfer plant hȳn yn yr ysgol honno. Rhannwyd yr athrawon yr un fath, ac am y blynyddoedd canlynol, bu hen Ysgol yr Eglwys ac Ysgol y Babanod yn ‘Rabar yn brif ganolfannau addysg plant y plwyf.

Wedi helynt y cau, bu’n rhaid i’r Cyngor Sir ddechrau darparu cynlluniau i adeiladu ysgol o’r newydd, ac i’r pwrpas hwnnw  dewiswyd darn o dir dros y ffordd i Gwelfor ar Lôn Sarn Bach.  Yno, ar dir y Deucoch, bwriadai’r Cyngor adeiladu ysgol newydd ar gyfer y plwyf ar gost o oddeutu £8,000. Croesawodd y plwyfolion gynlluniau newydd y Cyngor ac edrychai bawb ymlaen at gael canolfan addysg newydd i’r plant. Siaradai’r Cyngor yn dda am gynlluniau’r ysgol newydd, ond ychydig iawn oedd i’w weld yn digwydd, ac yn fuan diflannodd gobeithion y rhieni.

Dechreuodd rhai o’r plwyfolion gwyno ynghylch cyflwr yr ysgol yn Llanengan, a theimlai eraill ei bod yn annheg ar rai o blant y plwyf oedd a thaith bell i’r ysgol, plant Bwlchtocyn a Cilan yn arbennig. Erbyn diwedd 1930, yng nghanol yr ansicrwydd, trefnwyd cyfarfod gan y trigolion i wrthdystio yn erbyn difaterwch y Cyngor, yn eu hymateb i sefyllfa addysg y plant. Cynhaliwyd y cyfarfod yn yr hen ysgol yn Sarn Bach, pan etholwyd John.W.Thomas, Brynteg, Llanengan, yn gadeirydd. Cychwynnodd ei anerchiad  i’r cyfarfod gyda’r newydd drwg fod Cyngor Addysg y Sir wedi gohirio adeiladu’r ysgol newydd am gyfnod amhenodol oherwydd pwysau gan y Llywodraeth yn Llundain ynghylch pwysigrwydd cynildeb mewn amseroedd ansicr. Afraid  dweud fod y fath benderfyniad wedi cythruddo’r cyfarfod, a chododd amryw ar eu traed i farnu’r Cyngor a’r penderfyniad.

Ar ddiwedd y noson rhoddwyd cynnig ger bron gan William Hughes, Morfa View Abersoch, os na fyddai carreg sylfaen yr ysgol newydd wedi ei gosod erbyn yr ugeinfed o Ragfyr 1930, yna byddai'r rhieni yn cadw’r plant o’r ysgol am wythnos, neu bythefnos ar y tro, er mwyn rhoddi pwysau ar y Cyngor i weithredu. Eiliwyd y cynnig gan John Davies Belle Vue, Llanengan.  Cytunwyd arno  yn unfrydol gan y gynulleidfa, a threfnwyd i’r Cyngor Sir gael gwybod eu penderfyniad. Fore trannoeth doedd ond saith plentyn o’r deugain ar gofrestr yr ysgol yn Llanengan yn bresennol..

Yn Llys yr Ynadon ym Mhwllheli rhyw dair wythnos wedi’r cyfarfod uchod, cafodd Efan Jones, Cilan Fawr, Cilan ei erlyn gan Swyddog Presenoldeb Plant am iddo esgeuluso gyrru ei ferch deuddeg oed i’r ysgol. Does dim sicrwydd fod yr achos hwn yn dilyn beth gytunwyd yng nghyfarfod y rhieni , ond mae’n rhoi ychydig o gefndir i’r helynt.

Roedd gan Efan Jones dri o blant o fewn oed ysgol, ond dim ond yr hynaf a enwyd yn yr achos. Ei eglurhad i’r Llys oedd bod y daith i’r ysgol yn rhy bell i’r plant, yn enwedig y rhai ieuengaf. Wedi’r ysgol symud i Lanengan ymestynnwyd eu taith un filltir ychwanegol i fod yn daith o ddwy filltir a hanner; ac efallai mwy na hynny i rai o blant eraill mynydd Cilan. Cafodd y Llys ei atgoffa gan y Clerc; os oedd ysgol o fewn tair milltir i gartref y plant yna roedd yn orfodol drwy’r gyfraith i’r rhieni wneud yn siŵr fod y plant yn mynychu’r ysgol honno. Ychwanegodd y Swyddog Presenoldeb fod gwraig Efan Jones wedi dweud wrtho nad oedd am yrru’r plant i’r ysgol oherwydd y pellter, ac na fedrai ef ei gorfodi oherwydd bod yr ysgol yn un afiach. Eglurodd y Swyddog i’r Llys fod stori ar led yn y plwyf i’r ysgol gau flynyddoedd ynghynt oherwydd i’r adeilad fod yn anaddas ac yn afiach, stori heb unrhyw wirionedd ynddi o gwbwl yn ôl y Swyddog. Pan awgrymwyd i Mrs Jones mai milltir a hanner oedd y daith i’r ysgol wrth ddefnyddio llwybr y Nant i Lanengan, cytunodd hithau fod y daith yn un fyrrach, ond pan fyddai’r tywydd yn wlyb, anodd fyddai i’r plant dramwyo oherwydd y dŵr a safai ar rannau o’r llwybr. Wnaeth eglurhad Efan Jones a’i wraig ddim llawer o argraff ar y Llys, a rhoddwyd rhybudd iddo, yn ei orfodi i yrru’r plant i’r ysgol.

Erbyn y flwyddyn 1932 doedd fawr ddim newid yn sefyllfa addysg y plant, ac i gadw’r helynt o flaen llygaid y Cyngor cadwai’r rhieni eu plant o’r ysgol bob hyn a hyn. Tua Mehefin y flwyddyn honno tynnwyd sylw’r ymddiriedolwyr tuag at lythyr Dr Lloyd Owen, Prif Swyddog Meddygol y Sir, yn erfyn ar i Gyngor Llŷn bwyso ar yr Awdurdod Addysg i wneud atgyweiriadau i’r ysgol yn Llanengan. Cychwynnodd hyn drafodaeth newydd rhwng y Cyngor Sir a’r ymddiriedolwyr a threfnwyd cyfarfod ym mis Awst yn Sarn Bach.

Yn cynrychioli’r ymddiriedolwyr roedd John.W.Thomas, Brynteg y Cadeirydd , Capten John Williams Rockdale, John Jones y Pant, John W. Evans Wenallt a Tom Bryn Jones Tȳ Newydd. Ar ran y Cyngor Addysg siaradai John Owen o Landudno. Eglurodd John Thomas nad oedd safiad yr ymddiriedolwyr wedi newid o gwbwl, ac mai cyfrifoldeb y Cyngor Sir oedd darparu’r addysg orau ar gyfer y plant. Atebodd John Owen fod y Cyngor Sir mewn sefyllfa anodd ers blynyddoedd orherwydd canllawiau’r llywodraeth yn Llundain ynghylch cynildeb. Roedd y plwyfolion wedi clywed y stori yma droeon o’r blaen, ac iddynt hwy doedd hyn ond y Cyngor yn hel esgusodion. Roedd yr ymddiriedolwyr a’r plwyfolion o’r farn ei bod yn well gan y Cyngor Sir wario’u harian ar weithgareddau ym mhen uchaf y Sir, heb gadw’r un geiniog ar gyfer gwella addysg plant yn yr ardaloedd gwledig.

Ychwanegodd John Owen,  pe byddai’n rhaid i’r Pwyllgor Addysg adeiladu ysgol o’r newydd ar gyfer y plwyf y byddai’r gost erbyn hyn yn £10,000, ond pe byddai’r Pwyllgor yn gallu prynu adeilad yr ysgol yn Sarn Bach, a hynny am bris rhesymol, yna byddai’r Cyngor yn arbed gwario rhwng £4,000 a £6000. Roedd hwn yn gynnig newydd gan y Pwyllgor Addysg a rhoddwyd cyfle i’r Ymddiredolwyr ei ystyried a’i drafod ymysg ei gilydd. Eu penderfyniad oedd gwerthu’r ysgol am £250 i'r Cyngor Sir, a throsglwyddo’r holl hawliau ynghylch yr adeilad i’r Pwyllgor Addysg, ar y dealltwriaeth fod yr ysgol newydd yn gweithredu ar ddull ysgol ganol. Derbyniwyd penderfyniad yr Ymddiredolwyr yn unfrydol gan y plwyfolion a chafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Addysg llawn.  O’r diwedd, er mawr foddhad i bawb, roedd yr helynt bron ar ben. Tynnwyd y clo oddi ar giatiau’r ysgol a chafodd y Cyngor Sir fynd ati i adeiladu ysgol deilwng i blant y plwyf.

Cymerodd bron i dair blynedd arall cyn y cafodd y prifathro, Mr Jones Parry, groesawu’r plant i’r ysgol newydd; fe’i hagorwyd yn swyddogol ym mis Hydref 1935.Yn y cyfarfod hwnnw talwyd teyrnged haeddiannol i’r plwyfolion am ymladd mor frwdfrydig am flynyddoedd i gael y gorau i’r plant a hynny yn erbyn yr anawsterau a roddwyd yn eu ffordd.. Yn ôl papurau newydd y cyfnod, cynildeb oedd y gair mawr gan y Llywodraeth yn Llundain y dyddiau hynny. Ond credai llawer, yn enwedig plwyfolion Llanengan, os oedd raid cynilo, yna ei fod i’w rannu yn gyfartal ledled y Sir, nid ei orfodi ar y rhannau hynny bellaf oddiwrth Swyddfeydd y Cyngor.

Selar Llanengan.



 

 Mae un o’r cyfeiriadau cyntaf at Selar mewn dogfen yn Archif Gwynedd (XD2/538) lle cyfeirir at Elizabeth Jones, Creigir Isaf, LLanengan (sic) yn 1682 fel perchennog Creigir Isaf, Tŷ yn y Pwll, Tŷ yn y Morfa a’r Celler, i gyd ym mhlwyf Llanengan. Mae’n debyg mai Creigir Selar oedd enw cyntaf yr hen dŷ, ond fel Selar mae’n cael ei enwi yng nghofnodion yr Eglwys. 

 Yn y 18G roedd y Selar yn gartref i John Marc a’i wraig Jane, ac wedyn i’w mab Richard Jones a’i wraig Elizabeth, y tad a’r mab yn eu tro yn ymgymryd â swydd Clerc y Plwyf yn Llanengan. Ganwyd William, cyntaf anedig Richard Jones a’i wraig, yn y flwyddyn 1777, yr hynaf o chwech o blant, a’r unig un i gyrraedd ei ddwyflwydd oed. Yn ôl yr arfer, ac fel y gwnaeth ei dad a’i daid o’i flaen, cymerodd William enw cyntaf ei dad, ac fel William Richards mae’n cael ei adnabod.

 Tua’r flwyddyn 1799, rhyw bedair blynedd cyn rhyfeloedd Napoleon, roedd William yn ei ugeiniau cynnar ac yn forwr yn y Llynges Frenhinol. Erbyn y flwyddyn1805 roedd wedi ei ddyrchafu’n is-gapten ar y Constance, un o longau gwarchod y Llynges Frenhinol. Llongau oedd y rhain yn cario mwy nag ugain gwn eu hunain gyda’r cyfrifoldeb o warchod prif longau rhyfel y Llynges. 

Ar y 9fed o Fedi 1806, roedd y Constance yn un o dair llong y Llynges, gyda’r Sharpshooter a’r Strenuous, yn hwylio i lawr arfordir gorllewinol Ffrainc. Yn y pellter ymddangosodd llong ryfel Ffrengig, y Salamandre, newydd hwylio allan o Saint Malo ac ar ei ffordd i Brest yn cario llwyth o goed. Sylweddolodd ei chapten yn fuan nad oedd ganddo fawr o obaith dianc rhag tair o longau’r Llynges ac i geisio achub ei long a’r criw cyfeiriodd am fae cyfagos Bouche d’Erquy lle y gwyddau fod gynnau a milwyr Ffrengig yn gwarchod y glannau. 

Cwrsiodd y Prydeinwyr eu helfa i’r bae, ac o dan bwysau eu gynnau gorfodwyd y Ffrancwyr i redeg eu llong ar draeth heb fod ymhell o dref fechan Erquy. Am y ddwy awr nesaf ymladdwyd brwydr ffyrnig a gwaedlyd yn y bae, brwydr a adawodd y Salamandre wedi ei dryllio ar y traeth. Ond er llwyddo i orchfygu'r Ffrancwyr, methodd y Prydeinwyr ȃ gyrru eu milwyr allan i ysbeilio eu gwobr oherwydd ffyrnigrwydd tân y gynnau ar y lan, yn hytrach rhoddwyd gorchymyn i dynnu’n ôl i ddiogelwch y môr agored. Wrth ddilyn y Sharpshooter a’r Strenuous allan o’r bae aeth y Constance yn gaeth ar greigiau mewn dŵr bâs, ac heb ddim i’w hamddiffyn rhag gynnau’r Ffrancwyr doedd ganddi ddim dewis ond ildio neu ddioddef tynged y Salamandre. Lladdwyd y Capten, Alexander Burrowes, a naw o’r criw ar ddechrau’r frwydr, cafodd dau eu clwyfo’n ddifrifol, a chafodd deg arall fân anafiadau. Roedd William Richards y Selar yn un o’r deg yma. 

 Wedi’r frwydr cymerwyd 37 o forwyr y Constance a oroesodd yr ysgarmes yn garcharorion, a’u rhoddi ar waith i ryddhau'r llong oddi ar y creigiau. Gyda chymorth y llanw llwyddwyd i’w hail-nofio, a chafodd ei thywys i Saint Malo lle cafodd ei hawlio fel ysbail rhyfel gan y Ffrancwyr. Gorfodwyd y carcharorion i gerdded i Verdun yng ngogledd y wlad. Yno cadwyd William Richards a chriw y Constance mewn caethiwed am gyfnod o bron i wyth mlynedd. Daeth eu hunllef i ben wedi i Napoleon ildio am y tro cyntaf ym mis Ebrill 1814,hynny wedi i filwyr byddinoedd y Gynghrair gyrraedd ei brif ddinas, Paris. 

 Ym mhrif borthladd y Llynges yn Portsmouth ar y 12fed o Dachwedd 1806 cynhaliwyd Llys Milwrol arbennig ar fwrdd Y Gladiator, pryd ystyriwyd holl amgylchiadau colli’r Constance. Wedi gwrando ac ystyried tystiolaeth Goldie a Nugent, capteiniaid y Sharpshooter a’r Strenuous, penderfynwyd fod Capten Burrowes a’i swyddogion wedi ymddwyn gyda gwroldeb o’r radd uchaf drwy gydol y frwydr; ac oherwydd ei arweiniad a’i ddewrder wedi marwolaeth ei Gapten, dyrchafwyd William Richards y Selar, yn ei absenoldeb, i statws Capten. Cyflwynwyd cleddyf arbennig iddo gan y Morlys fel tystiolaeth o’i ddyrchafiad. Daeth yr rhyfel â Ffrainc i ben ym mis Mehefin 1815 a rhyddhawyd William o’i ddyletswyddau i’r Llynges ar bensiwn o hanner cyflog capten. Cyn bo hir dychwelodd adref i Ben Llȳn lle derbyniodd swydd gan yr Arglwydd Newborough, olygai ei fod yn gyfrifol am weithgareddau morwrol y gŵr hwnnw. 

 Etifeddodd William Y Selar, hen gartref y teulu yn Llanengan, wedi marwolaeth ei dad, Richard Jones ar y 12ed o Chwefror 1818.Yn haf y flwyddyn honno daeth tro ar fyd iddo. Pan wrth ei waith ym Mhwllheli cyfarfu â Sarah Constable, merch yn ei hugeiniau hwyr o Northampton. Roedd Sarah ar ymweliad ȃ’r dref yng nghwmni Ann, ei chwaer, a’u hewythr, Philip Constable. Collodd y genethod eu rhieni pan yn ifanc, a chymerodd brawd eu tad, Phillip Constable a’i wraig y ddwy tan eu gofal. Gŵr cyfoethog oedd eu hewythr, wedi gwneud ei ffortiwn yn adeiladu camlesi yng nghanolbarth Lloegr. Daeth i Ben Llȳn yn y flwyddyn1818 yn chwilio am fusnes newydd, gan ddod ȃ Sarah a’i chwaer i’w ganlyn fel cyfle i weld y wlad. Ar yr ymweliad hwn y cyfarfu William a Sarah. Datblygodd y berthynas rhyngddynt ac ymhen ychydig fisoedd, ym mis Chwefror 1819, roedd priodas wedi ei threfnu yn nhref Northampton, cartref y teulu. ‘Roedd hon yn briodas ddwbwl. Ar yr un diwrnod, yn yr un eglwys, priodwyd William a Sarah, ac Ann Constable gyda John Ellis, twrnai o Newborough Place, Stryd Penlan, Pwllheli. Parhaodd y cysylltiad agos rhwng y ddwy chwaer ar hyd eu hoes. 

 Wedi’r briodas cartrefodd y ddau gwpwl newydd ym Mhen Llȳn. Aeth Ann i fyw i gartref ei gŵr yn Stryd Penlan, Pwllheli, ond roedd cynlluniau llawer mwy i’r Selar. Ail adeiladwyd yr hen dŷ o’r newydd bron, ac o fod yn dŷ cerrig dau lawr digon cyffredin, dyblwyd ei faint i’r tŷ o sylwedd a welir heddiw. Adeiladwyd estyniad ar yr ochor ddwyreiniol i’r hen dŷ gwreiddiol ac agorwyd mynedfa o ffordd y pentref tuag at y cyntedd o flaen y prif ddrws. Ychwanegwyd grisiau coed ar dro i’r llofft, ac yn lle pedair ffenestr ar wyneb gogleddol yr adeilad cafwyd wyth yn edrych i lawr tua’r Eglwys a thros weirglodd yr afon Soch am Y Rhiw. Codwyd stablau ac adeiladau eraill teilwng o dŷ o’r fath a chrewyd gardd a pherllan wedi eu hamgylchu ȃ muriau cerrig uchel i’w cysgodi. Dyma pryd y newidiwyd enw‘r hen dŷ yn Belle Vue, golygfa braf yn Ffrangeg. Oherwydd ei swydd, ychydig amser gafodd William Richards i fwynhau ei dŷ newydd a bu farw yn sydyn yn y flwyddyn1830 yn 53 mlwydd oed. Prin yw’r wybodaeth am ei ddyddiau olaf, ond ar gomisiwn hwylio i Marseilles ar arfordir deheuol Ffrainc tros yr Arglwydd Newborough yr oedd William Richards pan fu farw. 

 Yn y papurau newydd ym mis Mehefin 1836 mae Belle Vue ar osod fel tŷ moethus wedi ei ddodrefnu. Gwyddys mai John Edwards, perchennog chwarel mwyn haearn Creigir Isaf, a’i deulu oedd y tenantiaid newydd. Ychydig o hanes sydd ar gael i’r gŵr hwn ac i’r chwarel honno; efallai mai marwolaeth John Edwards yn ŵr ifanc yn 1840 ddaeth ȃ’r gwaith i ben. Erbyn y flwyddyn 1841, mae Belle Vue unwaith eto yn gartref i Sarah Richards, gyda gwas a dwy forwyn yn ei gwasanaeth. Yn y blynyddoedd nesaf, fel gwraig weddw, rhoddodd Sarah ei chefnogaeth i’r ymgyrch i godi arian tuag at atgyweirio yr Eglwys yn Llanengan ac i sefydlu ysgol newydd yr Eglwys yn y pentref. Yn hynny cafodd gefnogaeth lawn ei hŵyr, Phillip Constable Ellis. Mab ei chwaer Ann a John Ellis y twrnai o Bwllheli oedd Philip Constable, ysgolhaig a aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen i gael ei hyfforddi ar gyfer yr Offeiriadaeth. Roedd yn eglwyswr i’r carn heb ddim i’w ddweud wrth yr Ymneilltuwyr; a chredai yn gryf y dylid cadw dylanwad yr Eglwys ar y gymdeithas. Ysgrifennodd lythyrau i eglwyswyr yr ardal, a thirfeddianwyr oddi allan yn eu gwahodd i gyfrannu tuag at yr achos. Bu ei ymdrechion yn llwyddiannus - rhoddwyd y tir a’r llechi ar gyfer yr ysgol yn rhad ac am ddim gan Assheton Smith y Faenol, er iddo wrthod yr un cais gan Dr Thomas Williams y Dwylan rhyw ddwy flynedd ynghynt. Wedi casglu oddeutu £400 gan y cyhoedd rhoddwyd pensaer Assheton Smith ar waith i gynllunio’r adeilad newydd. 

 Agorwyd Ysgol yr Eglwys, yr Ysgol Genedlaethol, ym mis Awst 1846, ac yn ôl y papurau newydd mae Sarah Richards a’i hŵyr ymysg y lliaws o foneddigion sydd yn bresennol y diwrnod hwnnw. Yn ei adroddiad am yr agoriad pwysleisiodd gohebydd y Caernarfon and Denbigh Herald bwysigrwydd cyfraniad Philip Constable Ellis i’r ymgyrch. 

 Ychydig o wybodaeth sydd am Sarah Richards ar ôl y cyfnod hwn; mae’n debyg iddi dreulio’i hamser rhwng Belle Vue a chartref Ann ei chwaer ym Mhwllheli. Bu farw ym mis Awst 1868 yn 79 mlwydd oed, yn Rhyllech, ger Llannor, lle'r oedd Ann a’i theulu wedi cartrefu erbyn hynny. Fe’i claddwyd ym mynwent eglwys y pentref hwnnw. Yn ei hewyllys trosglwyddodd bopeth o’i heiddo, yn cynnwys Belle Vue, i’w hŵyr Phillip Constable Ellis, a oedd erbyn hyn yn rheithor yn Llanfairfechan. Rhoddodd ef Belle Vue ar y farchnad yng ngwesty’r Crown Pwllheli ar yr 11eg o Fawrth 1874. Dyma gysylltiad olaf teulu William Richards ȃ’r Selar. 

 Arhosodd yr enw Belle Vue ar y tȳ hyd at 1989 pan y’i newidiwyd yn The Rock. Mae’r lȏn fechan oedd yn arwain at yr hen dŷ gwreiddiol yn dal i gael ei galw’n Lôn Selar ac yn fodd i gadw enw’r hen dŷ ar gof.

                                                                           Lôn Selar.

Helynt y degwm ym mhlwyf Llanengan, 1886-1891.


Wedi i dwf Anghydffurfiaeth a’r Diwygiad Methodistaidd gymryd gafael yng nghanol yr 19eg ganrif, newidiwyd tirlun crefyddol cefn gwlad Cymru am byth. Gyda’r newid, daeth talu’r degwm i’r Eglwys yn fwy o destun llosg nag y bu erioed. Treth oedd y degwm, modd i gynnal yr Eglwys a’i chlerigwyr, treth a fynnai ddegfed rhan o incwm y ffermwyr am y flwyddyn. Y rheithor fyddai’n gyfrifol am gasglu’r degwm ac i’r rheithor y disgynnai’r cyfrifoldeb o erlyn unrhyw ddyledwr. Yn y blynyddoedd cynnar gallai’r tâl fod mewn arian, cnydau  neu dda byw, gyda’r rheithor â’r hawl i werthu beth bynnag a gyflwynid i adennill dyled y ffermwr i’r Eglwys. Yn y flwyddyn 1836, er mwyn hwyluso pethau, mynnwyd bod y ffermwyr i dalu’r degwm mewn arian yn unig, gyda’r awdurdodau i benderfynu ei werth drwy ddefnyddio prisiau cyfartalog cnydau haidd, gwenith a cheirch ar y farchnad dros y saith mlynedd flaenorol.

     Erbyn wythdegau’r ganrif, gyda’r farchnad  mewn dirwasgiad ers peth amser, roedd y byd amaethyddol yn fyd ansicr iawn. Aeth cael prisiau teg am eu cynnyrch yn anodd os nad amhosib i’r ffermwyr; ond er gwaethaf y sefyllfa mynnai’r Eglwys gael ei harian yn llawn. Cynyddodd drwg deimlad gyda’r mwyafrif o’r farn fod eu sefyllfa yn un cwbl annheg; pa gyfiawnder oedd mewn gorfodi’r amaethwyr, y mwyafrif ohonynt yn anghydffurfwyr, i gyfrannu tuag at gynnal Eglwys Lloegr. Erbyn hyn, aelodau ffyddlon y capeli newydd ledled y wlad oedd mwyafrif y ffermwyr, wedi troi eu cefnau ar yr Eglwys a buddsoddi eu hamser a’u harian prin i adeiladu eu haddoldai eu hunain.

      Cefnogwyd y ffermwyr yn eu hymgyrch i wrthdroi'r anghyfiawnder gan Thomas Gee o Ddinbych, pregethwr anghydffurfiol, newyddiadurwr a chyhoeddwr Y Faner ac Amserau Cymru. Llwyddodd Thomas Gee i ddod ȃ’r ffermwyr at ei gilydd i ddadlau eu hachos yn erbyn yr awdurdodau a’r Eglwys. Drwy ddefnyddio ei bapur wythnosol cadwodd ymgyrch y ffermwyr o flaen llygaid y cyhoedd a’r gwleidyddion yn Llundain.

    Dechreuodd yr helyntion yn ardal Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych yn y flwyddyn 1886, ac yno y bu’r gwrthdaro mwyaf yn ystod y cyffro. Ond mor gryf oedd y teimlad o annhegwch, lledaenodd yr helynt yn gyflym ledled y wlad, a chyrhaeddodd Ben Llŷn mewn ychydig amser. 

Ar y 26ain o Ionawr 1887 ymddangosodd y llythyr isod yn Y Faner ac Amserau Cymru gan wrth- ddegymwr dienw o blwyf Llanengan.


Foneddigion

     Wele, erbyn hyn, teimlir ychydig o wres y tân gwrth ddegymol a gyneuwyd ar lechweddau Llanarmon-yn-Iâl yn dechrau gwresogi ein teimladau ninnau yn yr rhanbarth dawel hon o Lŷn. Yr ydym yn ddigon parod i ddweud “Cerdd ymlaen nefol dân,” gan y gwyddom i sicrwydd mai “nefol” yn ei darddiad yw deheuad ym mhlant dynion am ddymchweliad trais a gormes. Os oes gan unrhyw blwyf fwy o reswm na’u gilydd i ofyn am ostyngiad yn y degwm, credwn fod Llanengan yn y sefyllfa honno. Llangian ydyw y plwyf terfynol, ac y mae fferm fawr yn y plwyf diweddaf yn terfynu ar un lai, agos yr hanner, ym mhlwyf Llanengan; ond y mae y ddau amaethwyr hyn yn talu rhywbeth yn debyg o ddegwm. Dyma fel y saif y degwm yn Llanengan, sef agos gymaint arall ag eiddo plwyf Llangian sydd ar y terfyn.

    Yn teimlo yr annhegwch hwn yn fwy annioddefol nag erioed, dan y wasgfa masnachol sydd wedi ein dal, galwasom gyfarfod o’r degwm dalwyr i ystyried y sefyllfa. Daeth torf dda ynghyd; a phenderfynwyd yn unfrydol i ofyn 20 y cant o ostyngiad yn y degwm; ac er mwyn cael llais y plwyf yn lled gyffredinol, trefnwyd i weld a phob degwm-dalwr o ddim pwys gyda deiseb yn cynnwys achos y ffermwyr wedi ei gyfleu ynddi, i gael ei harwyddo gan bawb oedd yn gofyn am ostyngiad, gyda’r amcan o’i chyflwyno i’r Parch Thomas Jones, rheithor y plwyf. Cafwyd parodrwydd anghyffredin i’w harwyddo, oddigerth mewn ychydig iawn o eithriadau, ar rhai hynny yn bwysig.

    Yn ail gyfarfod y ffermwyr, nodwyd y Meistri Griffith Williams Tŷ Newydd, ac Robert Griffith Creigir Goch i gyflwyno y ddeiseb i’r rheithor. Gwnaed hynny nos Sadwrn, Rhagfyr 18ed. Nis gellir cael dau ddyn ieuanc gwell i’r gwaith; ond diau mai cryfach fuasai y ddirprwyaeth pe buasai un o’r hen ffermwyr yn ymuno â hi. Cafodd y gwŷr ieuanc hyn ddifyrrwch mawr y dyddiau dilynol wrth adrodd eu helynt. Tywelltid hylif o ddifrïaeth personol arnynt. Ni allai yr “annwyl gariadus frawd”ddwyn dim yn erbyn cymeriad moesol yr un o’r ddau, oblegid ni pherthyn yr un ohonynt i’w gorlan ef. Gofynnai iddynt a oeddynt yn darllen eu Beiblau; ac os oeddent a fyddent yn ei fyw?

    Atebai un o’r ddau fod, yn ddiamau, lawer o goll yn y byw yn erbyn yr rheithor a hwythau. “Pe byddai mwy o ddarllen ar y Beibl, a llai ar y papurau newydd sydd llawn celwydd (meddai) fuasai ddim o’r twrw yma yn y wlad.”

    Tystiai y dynion ieuanc fod ei fwrdd ef yn llawn papurau newyddion ar y pryd. O’r diwedd, aed i edrych ar y ddeiseb. Wedi rhedeg dros yr enwau, dywedai-----

    “Nid yw dynion call y plwyf i mewn.” Lle mae enw -------. ac enw------, ac enw------?”

“Wel(meddai’r bechgyn), y mae y tri mor awyddus a ninnau am ostyngiad ;”a rhoddasant dystiolaeth y tri ar y mater, i’r diben o ddangos i’r rheithor mae ryw amgylchiadau eraill pwysig ganddynt hwy na lawnodasant y ddeiseb, ac nid eu bodlonrwydd i’r degwm.

      Er cydnabod callineb a pharchusrwydd y tri wŷr hyn, sydd yn glud arnynt yn y fuchedd hon, nis gallwn ddeall yr rhesymeg oedd yn dirmygu barn a theimlad 62 o ddegwm dalwyr cyfyng arnynt, ar draul anrhydeddu tri o wŷr am yr unig reswm na lawnodasant y ddeiseb. Pe buaswn i yn barson y plwyf, yn crynu rhag colli y degwm, yn lle bod yn talu-- talu yn dragywydd, a chael dim amdano---buasai rhesymeg Mr Jones yn efengyl i ninnau. Bu ergydio trwm ar y ddau du, ac ymwahanwyd mewn ysbryd cynhyrfus ar yr un llaw, a siomedig ar y llaw arall. 


O ddeutu haner nos yr un noson, derbyniodd Mr Griffith Williams Tŷ Newydd, nodyn fel y canlyn:-    


                                                  I Mr Griffith Williams.                     Rhagfyr 18ed 1886.                               

                                                                                                           

Rhag y bod dim camgymeriad, yr wyf yn ysgrifennu i lawr fy ateb i’r papur a roesoch i mi; a hynny ydyw, fy mod yn cydymdeimlo yn fawr a’r ffermwyr oblegid eu bod yn dioddef oherwydd prisiau isel; ond yr wyf finnau yn dioddef hefyd yr un modd, gan fod y degwm wedi dyfod i lawr. O herwydd hyn, rhaid i mi ddweud fod eich cais yn ymddangos i mi yn afresymol; ond os oes rhai yn y plwyf yn wir dlawd, ac yn analluog i dalu, bydd yn dda gennyf gymryd eu hachos mewn ystyriaeth, i’r diben o roddi gostyngiad ychwanegol iddynt at ostyngiad y flwyddyn hon.


                                                                                                             Thomas Jones.


Galwyd y degwm dalwyr ynghyd a gohiriwyd y gweithrediadau pellach, hyd nes y cyrhaedda yr oddaeth fawr yn nes atynt, pan y ceir y cryf a’r gwan yn ddigon unfryd i fynnu eu hiawnderau.

    Enillwyd un peth yn arbennig trwy yr hyn a wnaed. Datguddiwyd gwir deimlad yr rheithor tuag atom yn ein cyfyngder. Hysbysir ni ar awdurdod dda hefyd fod rhyw rai wedi bod yn brysur iawn, yr wythnos ddilynol, yn galw gyda thenantiaid bychain, gan adael brawf a dychryn o’u hol, rhag y byddent yn colli eu ffermydd. Ai gwir ydyw y galwyd dyn yn neilltuol o flaen rhyw ŵr mawr, pryd yr rhoddwyd ar ddeall  iddo fod yn bosib y collai ei fferm? Hyderwn nad yw hyn yn wir. Os ydyw, teimlwn fod y gŵr mawr wedi methu yn ddirfawr. Yn ôl pob golwg, bydd Rwsia heb ymerawdwr yn fuan. Ai tybed y gellir cael olynydd iddo yn Llanengan? Hysbysir ni ar awdurdod, fod dau o dyddynwyr yn y plwyf oeddynt yn cael help i drin eu tir o gyfeiriad neilltuol wedi derbyn rhybudd,  fod y gyfathrach gymdogol honno trosodd am byth. Ond i bwy fydd mwyaf o golled? 

                                                                                       

                                                                                                    Ydwyf, &.,

                                                                                                              Gwrth Ddegymwr.


Ar y 19eg o Ionawr 1887 cyhoeddwyd erthygl yn Y Genedl Gymreig gan un yn arwyddo’i hunan fel Ymneilltuwr. Ynddi, mae Ymneilltuwr yn rhoddi disgrifiad a’i farn bersonol am waith yr Eglwys yn Llanengan dros y dyddiau yn arwain tuag at, ac yn  cynnwys Sul y Cyfrif.


Cyfrif y Bobol, ----


 Bydd y Sabboth Ionawr y 9fed yn Sabboth i’w gofio yn hir yn y plwyf hwn. Fel ym mhob plwyf trwy Gymru gwnaed gyfrif o gynulleidfaoedd “llan a chapel”ar y dydd hwn yn ein plwyf ninnau. Rhoddodd ein rheithor ei holl egni ar waith cyn y Sabboth i sicrhau cynhesrwydd yn ei eglwys am unwaith yn ei oes y dydd a enwyd. Bu ef eu hun, y gwas a’r forwyn, ddydd a nos yn chwilio am y tlawd a’r rheidus a’r gwrthgilwyr ac anafusion moesol ein ardal i’w cymell i fod yn ffyddlon i ddod i’r Eglwys y Sabboth. Mae yn ddiau y carai llawer o’r tlodion druain, pe trefnid i gyfrif y bobol bob Sabboth, gan na byddai arnynt mewn canlyniad,”eisiau dim daioni.” Nid ydym yn beio unrhyw ymdrech i sicrhau cynulleidfa dda yn yr Eglwys, ond, atolwg, pa beth oedd mewn golwg yn yr ymdrech annigonol hon? “Pob peth ddyry dyn am ei einioes.” Bu cryn lwyddiant ar yr ymdrechion hyn gan i bedwar ugain ag un ddod i’r Eglwys y bore ar gyfer naw ar hugain y Sabboth blaenorol, a chant a deg yn yr hwyr ar gyfer un ar bymtheg ar hugain y Sabboth cyntaf o’r flwyddyn. Ond er rhoddi yr Eglwys yn ei man gorau y bu erioed yn yr oes hon, nid oedd yn bresennol ond un o bob pedwar ar ddeg o boblogaeth y plwyf, yr hyn sydd yn cadarnhau yr hen wirionedd erbyn hyn, fod y genedl Gymreig wedi ymddieithrio oddi wrth Eglwys y Plwyf. Hyderwn na ddarfu i’n cynulleidfaoedd syrthio yn fyr, o’u presenoldeb cyffredin. 

     Ond at y druth ar enw pregeth. Ei destun y nos ydoedd, “Ai â chusan,” &c, “ond” meddai,“cyn myned ymlaen er mwyn y ddau oeddynt yn llechu mewn ffenestri yn y bore i gyfrif y bobol, rhoddwn bennau pregeth y bore iddynt oddi ar y testun: “A Satan a gyfodwyd yn erbyn Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel.”Gwnaeth hwythau yn weision Satan. Dywedai yn lle yr oedd Satan a’i angylion syrthiedig, a’u bod hwythau yn myned ar yr un llwybr. Dywedai na ymddiriedai ei fywyd iddynt, hwy a’u cynghreiriaid, os gallent trwy ei ladd, gymeryd ei eiddo oddi arno. Edliwiai i’r ddau eu bod yn gweddïo yn gyhoeddus, a pha le yr oedd eu cysondeb yn torri y Sabboth, a halogi y tŷ sanctaidd, ac ar yr un pryd galwai y ddau warden i sefyll yn y drws i wneud yr un gwaith a wnaethai y ddau heretic a felltithiai yn ei bregeth. Druan ohono, buasai yn amheuthun iddo pe cawsai y ddau o allu a chymeriad y ddau hyn yn aelodau o’i Eglwys. Paham yr oedd yn bytheirio o’i bulpud yn erbyn y cyfrifwyr pan yr oedd Mr Morgan curad poblogaidd Eglwys Llangian, yn cydweithio’n galonnog â’r cyfrifwyr yno, ac yn cyd lenwi y “forms” gyda’r brodyr Ymneilltuol ar ddiwedd y dydd? Profi wnaeth o pa ysbryd y mae, a gwyddom bellach pa fodd i’w gyfarfod pan yn gofyn am ein hiawnderau eto.------- Ymneilltuwr.


Hyd y gwelwyd, does dim atebiad wedi ei gyflwyno’n gyhoeddus i’r un o’r erthyglau hyn, ond tynnwyd sylw golygydd Y Genedl Gymreig i gynnwys erthygl Ymneilltuwr. Dyma beth a gyhoeddwyd yn y papur Mawrth 23ain 1887. 


                                                              LLANENGAN.


EGLURHAD, Mewn adroddiad yn yr hwn a roddid braslun o bregeth o eiddo y Parch Thomas Jones, rheithor y plwyf, ar Sul y Cyfrif, dywedwyd ddarfod i’r gŵr parchedig roddi ei holl egni ar waith cyn y Sabboth, drwy gymell dydd a nos, yr rhai oedd yn yr ardal i ddod i’r Eglwys y Sabboth ac “ddarfod iddo yn ei bregeth gymharu yr rhai oedd yn cyfrif i “weision Satan”ac y byddai iddynt “fyned i’r un lle a’r angylion syrthiedig,” ac ymhellach” na ymddiriedai ei fywyd iddynt hwy a’u cynghreiriaid, os gallent trwy ei ladd gymeryd ei eiddo oddi arno.”Dywedid yn yr adroddiad hefyd fod y gŵr parchedig wedi cyfeirio at yr rhai oedd yn cyfrif fel “gweddiwyr cyhoeddus,” gan ofyn”pa le oedd eu cysondeb pan yn torri y Sabboth a halogi y Tŷ Sanctaidd,”ac ymhellach ddarfod iddo alw y cyfrifwyr yn “ddau heratic” au melltithio yn eu bregeth.” Yn awr sicrheir ni ar dystiolaeth ddiamheuol na wnaeth y gŵr parchedig yr un o’r cyfeiriadau uchod, yr rhai y mae yn ddrwg gennym iddynt ymddangos. Ni buasem ar un cyfrif yn dymuno gwneud cam â neb ac yn enwedig â gŵr fel y Parch Thomas Jones, y gwyddis a berchid yn gyffredinol gan bawb o’i gydnabod. Diamheu i’n gohebydd ysgrifennu ar sail rywbeth a glywodd, eithr y mae yn eglur i ni ei fod wedi gamarwain, fel y tystia ein ymchwiliad i’r achos. Gyda’r parodrwydd hwnnw y mae boneddigeiddrwydd  yn ei osod arnom yr ydym yn datgan ein gofid mwyaf llwyr fod y paragraff y cyfeiriwn ato wedi ei gyhoeddi. Yr ydym yn gofidio fwy ddarfod i’r camgymeriad ddigwydd am y gwyddom fod Mr Jones yn ŵr uwchlaw cenfigen ymbleidiaeth, ac yn fonheddwr a fedd yr un parch i Ymneilltuwr ac Eglwyswr. 

  

Yn fwy na dim dangosodd erthygl Ymneilltuwr fod teimladau cryf yn y plwyf tuag at ymddygiad yr Eglwys yn ystod yr helynt; ond doedd Llanengan ddim yn unigryw yn hyn o beth, cyhoeddwyd erthyglau tebyg yn Yr Herald a’r Genedl Gymreig gan “Hen Ffermwr”o Aberdaron, a “Siôn Chwarae Teg” o Dudweiliog, y ddau yn ddirmygus o’r Eglwys a’i chlerigwyr. Ym mhlwyf Llannor penderfynodd y rheithor, y Parchedig John Jones ynghyd ȃ’r Parchedig D. Jones o Bwllheli, erlyn chwech o ffermwyr y plwyf am beidio talu’r degwm. Doedd y ffermwyr hyn yn gofyn dim mwy nag unrhyw ffermwr arall, hynny oedd, gostyngiad yn y degwm fel modd i leihau eu baich mewn cyfnod ansicr.  Ymatebodd yr awdurdodau gan gyflogi cyfreithwyr a beilïaid, pobol oddi allan i’r ardal, i weithredu gorchmynion yr Eglwys, gyda’r heddlu wrth law i gadw’r heddwch.

    Yn Llanengan, roedd y Parch Thomas Jones yn rheithor y plwyf ers y flwyddyn1860. Yn enedigol o Lanbadarn Fawr, Sir Ceredigion daeth i Lanengan wedi gweinyddu am flynyddoedd yn ficer Llannor a Denio ym Mhwllheli. Ar wahân i’w ddyletswyddau fel rheithor, roedd hefyd yn ynad heddwch, ac eisteddai ar sawl pwyllgor yn ymwneud â chyfrifoldebau cyhoeddus a diwylliant yr ardal. Fwy nag unwaith, ym mhapurau newydd y cyfnod, ceir cyfeiriad at Thomas Jones fel “gŵr gyda’r parchusrwydd mwyaf tuag unrhyw un a’i cwrddai, bod y person hwnnw’n Ymneilltuwr neu Eglwyswr.” Efallai fod un o’i swyddi gwirfoddol fel cadeirydd pwyllgor y ddwy ysgol yn y pentref yn arwyddocaol yn hyn; wedi’r cyfan, ysgol yr Anghydffurfwyr ac ysgol yr Eglwys oedd y ddwy ysgol ers eu dechreuad yng nghanol y 1840au. 

     Er anfodlonrwydd rhai o’i blwyfolion i dalu’r degwm yn llawn, does dim tystiolaeth fod unrhyw helynt wedi bod yn y plwyf. Y  tebygrwydd yw bod gwaeledd a marwolaeth y rheithor wedi lliniaru rhywfaint ar wrthwynebiad y degwm dalwyr. Bu farw Thomas Jones ym mis Chwefror 1889. Ar ddiwrnod y claddu, teithiodd ugain o gerbydau o’r rheithordy yn Llanengan i fynwent Denio ym Mhwllheli, y rhan fwyaf ohonynt yn cario’r teulu, gweithwyr y rheithordy, clerigwyr ac arweinwyr bywyd cyhoeddus Pen Llŷn a’r cylch. Ond ymhlith yr orymdaith teithiodd hefyd lond llaw o ffermwyr y plwyf, yn barod i dalu eu parch i’r ymadawedig, yn eu plith John Ellis, Plas Llwyndy, Solomon Jones, Creigir Isaf a Griffith Hughes, Towyn.     

      Ychydig dros flwyddyn wedi angladd Thomas Jones cynhaliwyd pwyllgor asesu trethi ym Mhwllheli, gyda’r bwriad o drethu pob ysgol yn yr undeb yn ȏl nifer y plant y gallai’r ysgolion eu cynnal. Dyma niferoedd Llanengan; Ysgol y Bechgyn  (ysgol Dwylan) 102,  Ysgol y Genethod (ysgol yr Eglwys)156. Ar sail y ffigyrau hyn cynigiwyd trethu’r ysgolion ar raddfa o £2 am bob cant o ddisgyblion y gallai pob ysgol eu cynnal. Eiliwyd y cynnig  gan y Parch H.G.Williams, rheithor newydd Llanengan. Yn ystod y pwyllgor hwn hysbyswyd fod “degwm plwyf Llanengan erbyn hyn yn llai o £150 na phan oedd Thomas Jones yn rheithor.” Does dim gwybodaeth sut na pham fod y degwm yn llai; ni ellir ond dyfalu mai dylanwad y rheithor newydd a barodd y gostyngiad.                                                                                                                                                                                                  

      Yn y Senedd, drwy weithredu Deddf Degwm 1891, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb o gasglu’r degwm i ddwylo’r meistri tir, gyda’r pwrpas o danseilio cryfder y ffermwyr a’r tenantiaid i herio’r Eglwys yn uniongyrchol. Gyda’r degwm a’r rhent yn un taliad, a hwnnw’n daliad ar ofyn y meistr tir, trodd pethau’n anos i’r tenantiaid, ac aeth y bygythiad o golli eu ffermydd am beidio talu yn ormod o faich i’r mwyafrif. Ond erbyn 1896  dechreuodd  gwleidyddion a swyddogion uchaf y Llywodraeth yn Llundain gymeryd sylw o’r cynnwrf parhaus yng nghefn gwlad Cymru, ac mewn  ymateb, sefydlwyd Comisiwn Brenhinol ar Dir yng Nghymru i edrych i wraidd yr helynt. Rhoddodd y Comisiwn gyfle i’r tenantiaid ddatgan eu cwynion a’u pryderon ynghylch y degwm, rhenti a‘r Eglwys yng Nghymru. Yn anffodus dioddefodd rhai tenantiaid a gynigiodd dystiolaeth i’r Comisiwn ymddygiad gwarthus ar ran eu meistri tir, ond ar y cyfan, credir mai gwella’r sefyllfa rhwng y meistri tir a’u tenantiaid wnaeth cyhoeddi adroddiad y Comisiwn. Yr ail weithred  arwyddocaol a briodolwyd i’r Comisiwn, oedd cychwyn y daith tuag at ddatgysylltu’r Eglwys yng Nghymru, gweithred a gyflawnwyd ym 1920.


Gweler :-

Welsh Newspapers     Helynt Llanor.

           Welsh Newspapers       Llythyr Siôn chwarae têg Tudweiliog.

       

John Roberts , Mawrth 2025