Capten ’R Ochor




 Yn fachgen tair ar ddeg oed, heb sôn gair wrth ei deulu, sleifiodd William Roberts i Ben Cei yn ’Rabar a chael swydd yn gwneud bwyd ar y Fisherguard Lass, cwch Capten Prydderch, Abersoch. Dyna gychwyn ar yr antur i fachgen ifanc o Lanengan ddaeth yn ei dro yn gapten ei hun ac a adwaenid fel Capten ’R Ochor.

Fe’i ganwyd ar Awst 11eg, 1870 yn Nhan y Fron, ’R Ochor, Llanengan lle roedd yn byw gyda’i fam, Jane Roberts, ei nain Margaret Hughes, ei frawd Hugh a’i chwiorydd Mary, Margaret, Jane ac Ema.

Yn 11 oed, cyn mentro i’r môr, bu’n gweithio yn chwarel plwm Aston am chwe cheiniog y dydd ac yna am gyflog o swllt y dydd bu’n cario’r post o Abersoch i’r gwaith plwm. Roedd ei fordaith gyntaf eto’n gysylltiedig â’r gwaith plwm gan mai cario plwm o Abersoch i Fryste roedd y Fisherguard Lass. Yn y swydd hon chweugain y mis oedd ei gyflog. 

Ymddengys iddo symud o long i long tra ar y môr. Cafodd gyfnodau ar longau bychain neu sgwneri, yr Industry (plwm), y Lorne (llechi a cherrig calch), y Charles James, sef un o’r sgwneri olaf i’w hadeiladu ym Mhwllheli, a’r Physician . Ym mis Hydref 1887 symudodd i weithio ar longau hwylio Lerpwl. Mae hanes iddo gerdded o bentref Llanengan i Bwllheli er mwyn ceisio gweld Capten Williams, Cefnleisiog, Dinas ac o glywed fod y Capten wedi gadael Pwllheli a dychwelyd i Dinas aeth am Dinas ar ei ôl. Talodd hyn iddo gan iddo gael lle fel A.B. ar y Cambrian Monarch gan y Capten, er nad oedd wedi cael unrhyw brofiad o long â rigin llawn o’r blaen, ac nad oedd ond yn 17 mlwydd oed. Hwyliodd ar y llong i Awstralia. 

Ym 1894, yn dilyn cyfnod mewn ysgol forwrol yn Llundain, pasiodd ei arholiad fel ail fêt.

Ymunodd â’r llong enwog, y Forest Hall, fel ail fêt ac aeth rownd yr Horn i San Francisco. Bu am bron i ddwy flynedd ar y daith hon cyn ymuno eto gydag ysgol forwrol. Cafodd swydd mêt ar sgwner y Frau Minna Petersen a bu’n fêt ar long o Borthmadog cyn mynd i ysgol forwrol Llundain am y trydydd tro i sefyll arholiad meistr- forwr. 

Ym 1901 ymunodd ȃ chwmni William Thomas, Lerpwl a chafodd brofi cyfrifoldeb prif swyddog a meistr ar nifer o longau mawr gan wneud enw da iddo’i hun. Yr oedd bod yn gapten ar y math o longau yr hwyliai arnynt bellach yn ‘gofyn am forwriaeth o’r radd flaenaf.’



Yn y blynyddoedd canlynol gwerthodd William Thomas y rhan fwyaf o’i longau hwyliau a datblygu llynges o ager-longau. 

Erbyn Ebrill 1914 roedd William Roberts yn brif swyddog ar yr ager-long newydd, S.S. Trader. Ar y ffordd adref gyda llwyth o siwgr fe’i daliwyd gan y Moewe, un o longau arfog enwog yr Almaen, a chymerwyd ef a’r criw yn garcharorion. Cyn chwythu’r Trader yn deilchion holodd un o’r swyddogion Almaenaidd ef a hoffai gadw unrhyw beth oedd o werth arbennig iddo. Dewisodd Capten ’R Ochor ei gronomedr, ei secstant, a dwy ffender fechan a wnaed iddo gan un o griw’r Trader oedd yn hannu o Bwllheli. Cawsant eu cadw ganddo yn ei gartref yn Llŷn am flynyddoedd wedyn. 

 William Roberts oedd capten y Willema Gertrud o Lerpwl pan suddodd ger yr Azores. Treuliodd ddyddiau mewn cwch agored, yn ddigysgod a sychedig mewn haul poeth, cyn glanio ar ynys fechan o’r lle y cawsant eu hachub gan long Brydeinig. Glaniodd yn Lerpwl adeg Eisteddfod Penbedw ym 1917 ac roedd yn bresennol pan ddyfarnwyd y Gadair Ddu i Hedd Wyn.

Pan ddaeth y rhyfel i ben bu’r Capten yn gweithio fel swyddog i’r Weinyddiaeth Longau gan ddod â’r barc pedwar mast Swithiod o Halifax, Nova Scotia i Barrow ym 1919 gyda chargo enfawr o goed arni. Ar ôl hynny bu’n gapten ar nifer o agerlongau bach eto yn hwylio i borthladdoedd Ewrop. 

Mae llawer o straeon am yr hen gapten poblogaidd a enillodd le arbennig iddo’i hun fel cymeriad annwyl, direidus ac uchel ei barch. Yn ei atgofion mae’r diweddar Hywel Thomas, Brynteg yn sôn amdano :

Mi fu Capten R'ochor yn ‘custodian’ yr ‘Hall’ hefyd - ar ôl Evan Jones. Dyna i chi ddyn difyr i fod efo fo, os yr oeddach chi ‘in the good books’. Deud i hanes yn Awstralia a South America fel petai o'n sôn am Lanbedrog neu Langian, - a'i hanes yn cael ‘torpedo’ yn y Rhyfel Cyntaf - dwywaith. Bu'n gapten un o'r Q-ships hefyd - hen betha'n edrych yn rhy sâl i wastraffu torpedo arnynt ond yn cuddio gwn mawr o'r golwg nes doi yr U-boat i'r wyneb i'w suddo efo shell neu ddwy. Wedyn gollwng y paneli oedd yn cuddio'r gwn mawr, a clec i'r submarine. Roedd yn rhaid hyfforddi hanner y criw i ymddangos yn ddioglyd a di-feind er mwyn hudo'r U-boat i'r wyneb, a wedyn actio gollwng y lifeboat i'r dŵr mewn panic. Ei brif bleser oedd chwarae crib – ‘Tyd yma - ista - mi dynnai' dy grys di’ - a dechrau shyfflo'r cardiau.

Ar ôl dod adref o’r môr bu’n byw yn ddibriod yn ei ardal enedigol a gorffennodd ei oes ym Mhen y Bont, Abersoch gyda dwy o’i chwiorydd. Bu Capten ’R Ochor farw yn 85 oed ar Fawrth 25ain, 1956 ac mae wedi ei gladdu gydag eraill o’i deulu ym Mynwent y Bwlch. 

                                                                                        

                                      County of Cardigan, llong haearn yr oedd Capten 'R Ochor yn llywydd arni yn 1903

Ffynonellau

Meistri’r Morwyr, Aled Eames, Gwasg Gee 1978

Atgofion am Lanengan, Hywel Thomas (gyda chaniatâd y teulu)

Llanw Llŷn, Beti Isabel Hughes

Rhiw.com


Teulu Manley

 Pwy oedd William Parry Manley?




Daeth taid William Parry Manley, Joel Manley, i Lanengan o Gernyw i oruchwylio gwaith Tanrallt yng nghyfnod gorau'r gwaith hwnnw. Priododd ei fab Joel Joseph Manley ag Ann Ellen Parry, merch tafarn y White Horse, ym 1877 ac felly daeth Parry i’r enw.

 Saer coed oedd William Parry a cheir cownt ohono yn gweithio fel saer yng ngogledd Lloegr a chyn belled â Llundain. Priododd gydag Elizabeth David o Lantrisant ym 1907. Morwyn yn y Rectory oedd hi a chartrefodd y ddau yn Nhan y Fynwent.

Fferm fechan oedd Tan y Fynwent bryd hynny ac mae William Parry yn disgrifio’i hun fel saer a ffermwr o hyn ymlaen. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd ei esgusodi rhag ymuno â’r fyddin ond erbyn 1917 bu raid iddo fynd o flaen y bwrdd am yr eilwaith. Y tro hwn roedd Rheithor y plwyf, Henry E Roberts, wedi paratoi deiseb wedi ei harwyddo gan 28 o ffermwyr lleol yn gofyn am ymestyn yr esgusodiad. Roedd William Parry erbyn hyn yn 39 oed ac ef oedd yr unig saer yn yr ardal yn mynd o gwmpas yn trwsio troliau ac olwynion. Ymestynnwyd yr esgusodiad ar yr amod ei fod yn cadw cofnod cywir o’i waith.

 Bu farw William Parry Manley ym 1945. Dilynwyd ef fel saer gan ei fab William Joseph (Wil) a fu’n byw yn Nhan y Fynwent hyd 1980.


                                William Parry Manley a'i wraig Elizabeth Ann David





Ann Ellen Parry - mam William Manley - merch tafarn White Horse


Plant William ac Elizabeth Ann - Joseph ac Ann Ellen 















Ffynhonnell

Yr Udgorn 9 Mai 1918 


Hugh Lloyd



Ganwyd Hugh Lloyd ym mis Ionawr 1837 yn fab i William a Mary Lloyd, Rhosgoch, Llaniestyn. Ffermwr oedd ei dad ac ar y fferm y bu Hugh Lloyd yn gweithio yn ystod ei flynyddoedd cynnar. Roedd ymhell yn ei dri degau pan adawodd ei gartref i weithio fel llafurwr yn ardal Llanengan. 

Ym mis Hydref 1881, pan yn 44 mlwydd oed, priododd gydag Anne Evans, merch Daniel a Mary Evans, Ceunant, Cilan, bwthyn bach uwchben fferm y Nant. Cartrefodd y ddau yn Tan y Capel (tŷ yr Odyn Galch) ar dir y Bwlch, Llanengan heb fod ymhell o derfyn Creigir Wen. Yno ganwyd pedair merch ac un mab iddynt. 

Ym mis Ebrill 1892, yn Llys Ynadon Sirol Pwllheli, cyhuddodd Griffith Thomas, Creigir Wen Hugh Lloyd o ddwyn coed oddi ar ei dir. Eglurodd Griffith Thomas ei fod wedi darganfod rhai coed wedi eu niweidio a bod rhai eraill wedi diflannu. Aeth i chwilio o gwmpas cartref Hugh Lloyd lle gwelodd y coed. Achwynodd wrth Gwnstabl Llanengan, Edward Pugh, ac aeth hwnnw i archwilio lleoliad y drosedd honedig, ac yn ei adroddiad i’r cwrt dywedodd ei fod wedi sylwi ar ôl traed a dail yn arwain o derfyn Creigir Wen i dŷ Hugh Lloyd. Datganodd clerc y cwrt ei fod o’r farn felly fod y weithred yn un o ddifrod maleisus. Doedd hi ddim yn edrych yn dda ar Hugh Lloyd ond cafodd hawl i holi Griffith Thomas pwy yn union oedd wedi torri'r goeden ar ei dir. Atebodd Griffith Thomas mai ef ei hun oedd wedi torri’r goeden a chyfaddefodd Hugh Lloyd mai ychydig o ganghennau'r goeden hon roedd o wedi eu cymryd. Eglurodd nad oedd yr un clap o lo yn Llanengan a’i fod wedi mynd allan i chwilio am briciau i wneud tân, fod y plant heb fwyd a dim tân ganddo i grasu’r toes i wneud torth. Gwrthododd y cwrt ymateb Huw Lloyd i’r cyhuddiad yn ei erbyn a dirwywyd ef i hanner coron a deg swllt o gostau. Wedi’r ddedfryd honnodd Griffith Thomas y buasai wedi rhoi'r coed tân iddo petai wedi gofyn.

 Erbyn 1901 roedd Hugh Lloyd a’i deulu wedi symud i Morfa, y canol o’r tai bychan ym mhen draw Lôn Morfa (lle bu ei ferch, Mary Ann, yn byw wedyn). Ei waith erbyn hyn oedd dal tyrchod daear a chrwydrai o amgylch yr ardal efo’i ful bach du yn gwneud y gwaith. Roedd yn amlwg yn dipyn o gymeriad yn ei fro, ac o’r herwydd ysgrifennwyd ambell i bennill amdano. Doedd hyn ddim yn beth anghyffredin bryd hynny; doedd neb yn saff oddi wrth ddychan y beirdd gwlad. Roedd y rhan fwyaf o’r penillion yn llawn hwyl a thynnu coes, ambell un yn fwy crafog efallai.

Dyma sut y disgrifir Hugh Lloyd:

Huw Lloyd, y tyrchwr creulon,
Dal y mae y tyrchod duon;
Mae o’n dal bob dydd rhyw ddau
Ond nid yw’r tyrchod yn mynd yn llai.


Ac mae disgrifiad digon didaro o’i angladd:


Dyma g’nebrwng gora’r oes, 
Huw yn yr hers a finna’n y goets,
Mae o ynddi er ys meityn
Yn ei chyrchu am Laniestyn.

 Bu farw Huw Lloyd yn niwedd 1915 yn 78 mlwydd oed. Does dim cofnod o’i gladdu ond os yw’r rhigymwr yn gywir yn Llaniestyn y digwyddodd hynny.

                                                                                 


Roedd Hugh Lloyd yn fab i William Lloyd, cyfansoddwr yr emyn dôn boblogaidd, Meirionydd.

Mary Ann Lloyd

Ganwyd Mary Ann yn un o bump o blant Hugh ac Ann Lloyd a’i magu yn Nhan y Capel. Symudodd y teulu i fwthyn Morfa yn nechrau’r 20G ac yno y treuliodd Mary Ann ran helaeth ei hoes. Cyn hynny bu’n gweithio fel morwyn laeth ar wahanol ffermydd a byddai bob amser yn barod i ddweud ei hanes, yn codi am bump y bore a gorffen am ddeg y nos. Yn ifanc iawn bu’n gweithio ym Mhlas Nantglyn, Sir Ddinbych yng nghyflogaeth y Colonel Wynne Edwards, cyn dychwelyd i Lŷn i weithio yng Nghaerau Uchaf, Garnfadryn ac yna Crugan, Llanbedrog. Byddai’n falch o gyfeirio at ei chysylltiad â Lloyd George a fyddai’n aml yn galw am laeth enwyn pan fu hi’n gweithio yng Nghefn Collfryn, Cricieth.

Yn ôl yn Morfa, bu Miss Lloyd (fel y’i gelwid ran amlaf) yn cartrefu am flynyddoedd, gyda’i chath oedd yn byw yn y cwpwrdd wrth ymyl y tân. Yn y cowt tu allan roedd y tap dŵr, a phiser i’w gario i’r tŷ. Roedd bwrdd y gegin wedi ei orchuddio â phapur newydd gyda stof baraffin arno ar gyfer coginio - rhywbeth wedi ei ffrio fel arfer. Byddai print y papur yn peri bod dwylo Mary Ann yn go ddu ac felly hefyd y botwm gwyn a gadwai ym mhoced ei barclod i’w rannu â’r plant fyddai’n pasio.

Sawl tro fe ymddangosodd enw Mary Ann Lloyd yng ngholofn Mari Lewis yn Yr Herald Gymraeg. Risêt fyddai ei chyfraniad yn aml, yn arbennig risêt crempog. Dro arall meddyginiaeth at ryw anhwylder neu’i gilydd.

Am gyfnod cafodd gwmni William, ei brawd pan ddychwelodd i Lŷn wedi bod yn gweithio yn y pyllau glo yn ne Cymru.

Roedd y ddau ohonynt yn gerddorol ac yn hoff o ganu. Pa ryfedd! Eu taid oedd William Lloyd, Rhosgoch, cyfansoddwr y dôn boblogaidd Meirionnydd, ymhlith llawer o donau eraill.

Bu farw Mary Ann Lloyd ym 1975 a’i chladdu ym Mynwent y Bwlch. Does dim carreg i nodi ei bedd ond mae cof byw amdani yn yr ardal.






Hanes Gwaith Plwm Tanrallt a Thomas Gundry



 
Yn chwedegau'r 19G daeth nifer o anturiaethwyr diarth i blwyf Llanengan, pob un ohonynt yn gobeithio gwneud ei ffortiwn drwy ddatblygu’r wyth
ȉen blwm a groesai'r plwyf o Benrhyn Du yn Bwlchtocyn i Glanmorfa yn Llanengan. Does dim modd dweud faint o'r anturiaethwyr hyn fun llwyddiannus, ond doedd hynny ddim heb ymdrech dynion fel William Rudge, John Schofield a'r ddau frawd, Thomas a William Gundry, yr mwyafrif ohonynt yn aelodau o'r Gyfnewidfa Stoc yn Llundain, a phob un ȃ phocedi dyfnion.

Ymhlith yr enwau hyn mae’n rhaid ychwanegu enw un gŵr arall, gŵr a ddangosodd weledigaeth drwy gysylltu ei hun ȃ gwaith plwm Llanengan cyn i'r mewnfudwyr cyfoethog o Lundain gyrraedd y plwyf. Evan Lloyd Edwards oedd y gŵr hwnnw, Cymro Cymraeg o Feddgelert. Yn wahanol ir dynion uchod, doedd Evan Edwards ddim yn ddiarth i Lanengan; yn ei ugeiniau bun gweithio fel mwyngloddiwr yng ngwaith y Penrhyn Du, Bwlchtocyn. Priododd gyda merch leol, Catherine Jane Griffiths, merch Murcwpwl, Cilan ym 1826, ond pan ddaeth y gwaith i ben yn Penrhyn Du symudodd gyda'i deulu i weithio yng ngwaith copr Drws y Coed, Dyffryn Nantlle. Bu yno fel peiriannydd a goruchwyliwr am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Ychydig wedi marwolaeth Catherine, ei wraig, ym 1866 daeth Evan Edwards a'i fab Edward yn ôl i Lanengan, ac aros gyda theulu Robert Hughes, Y Cefn. Roedd sȏn eisioes fod adnoddau plwm y plwyf yn ennyn diddordeb dynion or tu allan i'r ardal, a'r diddordeb hwn aeth ȃ bryd Evan Edwards. Dechreuodd pethau newid wedi iddo brynu lês ar ddarn o dir uwchben Tan’rallt, fferm fechan ar gyrion y pentref, un o amryw ffermydd y plwyf ym meddiant Assheton Smith y Faenol. Credir bod rhyw ychydig o gloddio plwm wedi bod ar y safle rai blynyddoedd ynghynt, ond faint bynnag fu’r gweithio hwnnw, doedd ddim i'w gymharu â'r newid a fu wedi 1869. Dyma oedd dechrau gwaith plwm Tan’rallt fel y mae’n cael ei adnabod heddiw. Cofnodwyd y digwyddiad pwysig hwn yn hanes y pentref gan ohebydd yr Herald Cymraeg ar 17/4/1869.


Roedd gan Evan Edwards flynyddoedd o brofiad fel mwyngloddiwr, a bu ei wybodaeth am blwyf Llanengan wrth weithio yng ngwaith Penrhyn Du o fantais fawr iddo. Cymerodd ei gyfle ȃ dwy law pan brynodd lês Tanrallt, a'i wobr fawr oedd cael dynion cyfoethog y Tanrallt Mining Company yn curo ar ei ddrws a chynnig iddo ffortiwn amdani. Roedd yr arian a gynigiwyd iddo yn ormod iw wrthod. Mae'n rhaid bod Evan Edwards wedi ystyried mai llawn gwell oedd cael ffortiwn yn ei law na llafurio yng nghrombil y ddaear heb sicrwydd faint yn union roedd y graig am ei ildio. Yn anffodus, ni chafodd fawr o fwynhad o'i ffortiwn. Er iddo ail briodi rhyw ychydig fisoedd wedi'r gwerthiant, bu farw Sydney, ei wraig, a'u baban o fewn dwy flynedd i'r briodas. Wedi'r golled rhoddodd y gorau i'r mwyngloddio, cartrefu yn ei dȳ newydd, Brynteg, a ddiddori ei hunan yng ngweithgareddau'r ardal tan ei farwolaeth ym 1877. Claddwyd Evan Lloyd Edwards gyda'i deulu ifanc ym mynwent Eglwys y pentref.

Cwmni o ddynion cyfoethog yn prynu a gwerthu daliadau mewn gweithfeydd fel Tan’rallt oedd y prynwyr newydd; mae eu henwau i'w gweld fwy nag unwaith yng ngwahanol weithfeydd y plwyf, Saeson bron i gyd, yn byw neu’n gweithio yn Llundain.

 

Thomas Gundry

O'r dynion hyn, gellir mentro dweud mai Thomas Gundry oedd y mwyaf blaenllaw. Mae ei enw yn gyson yn hanes gweithfeydd y plwyf; ef hefyd oedd yr olaf o'r anturiaethwyr newydd i ymadael pan ddaeth cyfnod gweithfeydd Llanengan i ben ym 1893. Fe'i ganwyd yn y flwyddyn 1828, yn ail fab i William Gundry a Mary Trevenen o Perranuthnoe, Cernyw. Roedd ei dad yn ddisgynnydd o hen deulu'r Gundrys fu’n berchnogion ar y gwaith tun enwog, y Wheal Vor, yn Breage ger Heston yng Nghernyw, gwaith oedd yn ei gyfnod y gwaith tun mwyaf yn y wlad. Yr hanes yw i'r teulu golli gafael ar waith Wheal Vor, mewn amgylchiadau amheus a dweud y lleiaf yn ȏl barn llawer, amgylchiadau a wnaeth daid Thomas Gundry yn fethdalwr.

Ychydig o wybodaeth sydd am flynyddoedd cynnar Thomas Gundry. Cafodd ei fagu gan ei ewythr, Henry Trevenen, brawd ei fam, a chafodd ei addysg mewn ysgol breswyl, ond yn ôl y sȏn cyfnod o anhapusrwydd mawr yn ei fywyd oedd y dyddiau cynnar hyn. Cwynodd droeon wrth ei fam ynghylch yr ysgol, ond yr un fyddai ei hateb bob tro,"Tyfa i fyny a saf ar dy draed dy hunan.” Wedi gorffen ei addysg credir iddo weithio ar fferm ei ewythr am ychydig, cyn mynd i weithio i siop ddillad ei frawd yn Redruth yng Nghernyw. Yno, pan yn ei ugeiniau, mae'n gwneud penderfyniad a newidiodd weddill ei fywyd.

Yn y flwyddyn 1851 daeth newyddion cyffrous o ochr arall y byd. Roedd aur wedi ei ddarganfod yn Awstralia. Nid dyma’r tro cyntaf i'r metel gwerthfawr gael ei ddarganfod yn y wlad honno, ond hwn oedd y tro cyntaf i'r llywodraeth gydnabod y newyddion yn gyhoeddus. Yn sgil y newyddion hyn ymfudodd miloedd i dalaith Victoria i chwilio am ffortiwn, ac yn eu plith aeth Thomas Gundry. Does dim sicrwydd pa bryd yn union y teithiodd i Awstralia; y cownt nesaf ohono yw ym 1859 pan mae’n hwylio adref o Melbourne i Lerpwl fel teithiwr dosbarth cyntaf ac wedi gwneud ei ffortiwn.

Yn anffodus i Gundry a'i gyd deithwyr, y llong oedd yn eu cludo am adref oedd y Royal Charter tan gapteiniaeth Capten Taylor, un o’r llongau mwyaf modern a grwydrai'r moroedd ar y pryd. 


Yn ager long ac yn llong hwyliau, fe'i hadeiladwyd fel steam clipper i hwylio rhwng Lerpwl ac Awstralia gan gario teithwyr a chargo rownd Cape Horn mewn llai na chwe deg niwrnod. Ar ei ffordd i Lerpwl ar noson y 26ain o Hydref 1859 aeth y Royal Charter i afael un o'r stormydd mwyaf a drawodd arfordir Cymru. Gyda nerth y storm yn cryfhau fesul munud, rowndiodd y Royal Charter arfordir gogleddol Ynys Môn a chyrraedd Bae Dulas i ddwyrain yr ynys. Yna newidiodd cyfeiriad y gwynt. Heb obaith o fedru teithio yn erbyn y weilgi penderfynodd Capten Taylor gadw trwyn y llong i'r gwynt, gollwng y ddau angor, a defnyddio'r injan stêm i gadw'r llong i'r cyfeiriad hwnnw. O dan bwysau'r ddau angor gwaelododd y Royal Charter ar wely o dywod a grafel, ond yn fuan collwyd yr angor cyntaf, yna'r ail, ac o hynny ymlaen roedd y Royal Charter a phawb ar ei bwrdd ar drugaredd y ddrycin. Mor nerthol oedd y gwynt a maint y tonnau fe'i codwyd oddi ar ei gwely tywodlyd a'i hyrddio tuag at greigiau traeth Porth Helaeth i'r gogledd o Foelfre. Tua saith o’r gloch y bore torrwyd asgwrn cefn y llong, holltwyd hi yn ddau ac fe'i dinistriwyd yn llwyr yn erbyn y creigiau. Collodd 358 o'r teithwyr a 94 o'r criw eu bywydau'r noson honno; o’r cyfan ar ei bwrdd dim ond 39 achubwyd. Yn wyrthiol, yn eu plith roedd Thomas Gundry.

Wedi trychineb mor ddychrynllyd bu archwiliad swyddogol i geisio gwneud synnwyr o'r hyn a ddigwyddodd. Collodd y Capten a mwyafrif y criw eu bywydau'r noson honno ac o'r herwydd drwy eiriau'r teithwyr a oroesodd y cafwyd y rhan fwyaf o'r dystiolaeth. Dyma eiriau Thomas Gundry ei hun pan ofynnwyd iddo roi ei dystiolaeth i'r archwiliad,

Yn ystod prynhawn y 26ain dadlwythwyd triarddeg o deithwyr yn Cork, Iwerddon. Yna, yn hwyrach yn y dydd wrth fynd heibio i Ynys Enlli, cododd y capten unarddeg o rigwyr oddi ar dynfad o Lerpwl i'w cario yn ȏl adref; yn anffodus dim ond pump ohonynt oroesodd.

Wedi'r drychineb bu cyhuddiadau a thaflu bai am wythnosau, ond penderfynwyd bod Capten Taylor a'i griw yn ddieuog o unrhyw fai, a'u bod wedi gwneud popeth posibl i achub y llong. Mae’n debyg bod carfan fawr o'r teithwyr, fel Thomas Gundry, wedi darganfod aur yn Awstralia. Cyn neidio i’r mȏr clymodd llawer ohonynt yr aur mewn bagiau wrth eu gwregys a bur pwysau ychwanegol hwn yn rhwystr iddynt gyrraedd y lan yn ddiogel. Does dim mwy o hanes y fordaith gan Gundry ei hunan, ond yn ȏl y sȏn roedd wedi newid ei aur am Bond Certificates cyn gadael Awstralia, a dyma fu ei ffortiwn fwyaf.

Daeth Thomas Gundry i gysylltiad ȃ Llanengan am y tro cyntaf rhyw ddeng mlynedd wedi llongddrylliad y Royal Charter. Erbyn hyn roedd ef a'i frawd William yn aelodau o'r Gyfnewidfa Stoc yn Llundain, ac wedi prynu stȃd mwy na phum can erw heb fod ymhell o'u cartref yn Polppero, Cernyw. Pan brynwyd lês Evan Edwards gan y Tanrallt Mining Company enwyd William Gundry yn un o gyfarwyddwyr y cwmni; gellir tybio felly fod ei frawd Thomas rywle yn y cefndir, ac yn rhan o'r fenter. Fel ffordd o gynyddu eu harian newydd dechreuodd y ddau fuddsoddi mewn gweithfeydd fel Tan’rallt ac wedyn Pantgwyn, gweithfeydd lle roedd eisoes sicrwydd bod plwm ar gael yno. Dau waith arall oedd yn eiddo'r brodyr yn y cyfnod hwn oedd The Great West Van Lead Mining Company yn Llanbadarn Fawr, Sir Ceredigion, gwaith a fu yn eu perchnogaeth o 1870 cyn cael ei werthu ganddynt ym1878, a The South Pheonix Company yn Liskeard, Cernyw.

William Rudge oedd pennaeth y cwmni newydd a chyflogwyd Capten Richard John Evans o Langfihangel Genau'r Glyn i oruchwylio’r gwaith. Cafwyd adroddiad cyntaf Capten Evans i'r cwmni ym mis  Awst 1869, adroddiad i godi calon unrhyw fuddsoddwr. Ymddangosodd hyn yn y London Evening Standard 4/8/1869.


Ymhen ryw bythefnos wedyn cafwyd adroddiad pellach gan Thomas Corfield, dyn arall gyda phrofiad hirfaith mewn mwyngloddio, adroddiad yn cadarnhau gobeithion Capten Evans. Hyn eto o'r London Evening Standard 14/9/1868.


Roedd pethau wedi dechrau'n dda i'r cwmni newydd, ond rhyw flwyddyn i fewn i'r gwaith anafwyd Capten Evans mewn damwain ar draeth Porth Neigwl. Prynwyd llong oedd newydd ei dryllio yn un o stormydd y bae, ac aeth Capten Evans ȃ phedwar o ddynion y gwaith gydag ef i'r traeth i drio achub yr hyn ellid ohoni. Mae'n ddigon posib mai ar ran y cwmni y prynwyd y llong; roedd bob amser ddefnydd i goed da ym mhob rhan o'r gwaith. Does dim enw i'r llong na beth oedd ei chargo, ond cael ei daro gan yr hwylbren a thorri ei goes yn ddrwg fu hanes y Capten. Fe'i achubwyd gan y pedwar arall rhag cael ei lusgo o dan y tonnau. Cariwyd ef adref i Gae Du, Abersoch gyda cheffyl a throl a chafwyd Dr Owen o Bwllheli i leddfu ei boen a thrin ei anafiadau. Mewn pleidiais rhyngddo ef a Doctor Williams Dwylan, roedd Dr Owen newydd gael ei ethol yn unfrydol gan weithwyr Tan’rallt i fod yn feddyg ar gyfer y gwaith. Bu’r Capten tan law'r meddyg am beth amser wedi hynny. Does dim sȏn iddo weithio yn Llanengan wedi'r ddamwain; mae'n debyg iddo symud i ardal Llandeilo cyn mynd i Bewerley yn Swydd Efrog, gogledd Lloegr i weithio yn y gweithfeydd plwm yn y fan honno. Bu farw’r Capten Richard John Evans yn Aruba, Caracao, Dutch West Indies yn y Caribi ar ddiwrnod Nadolig 1881 yn 59 oed.

I lenwi'r bwlch wedi damwain Capten Evans daeth Capten W.T. Harris i edrych ar ȏl y gwaith, ond heb fod unrhyw fai ar y Capten newydd, trodd pethau'n chwithig i'r cwmni. Wedi tyllu'r siafft i ddyfnder o16 gwryd (gwryd=chwe troedfedd yn y diwydiant mwyngloddio), mewn craig llawn dŵr a llawer caletach na'r disgwyl, cloddiwyd lefelau i'r dwyrain tuag at Sarn Bach ac i'r gorllewin tuag at Glan Morfa. Siom oedd gweld fod y lefel i'r dwyrain yn pallu, a'r llall am Glan Morfa yn gwanhau oherwydd nad oedd dyfnder tir uwchben y wythȉen. Gyda phrinder plwm, ac arian parod y cwmni'n darfod, aeth yn amhosibl dal ati gydar gwaith heb fynd i ddyled. Mewn cyfarfod arbennig perswadiwyd William Rudge i geisio cael mwy o fuddsoddiad ir cwmni ond methiant fu ei ymdrechion. Roedd sibrydion ar dro, os byddai arian newydd yn dod i'r cwmni fod y cyfranddalwyr gwreiddiol am gael cyfran ohono i ad-dalur benthyciadau a wnaed er mwyn cadw'r gwaith ar ei draed. Doedd hyn ddim y ffordd orau i ddenu buddsoddwyr newydd i'r fenter, a phenderfynwyd yn y diwedd, er mawr siom i bawb, nad oedd dim i`w wneud ond i’r cwmni ymddiddymu’n wirfoddol. Teimlai rhai mai diffyg arweiniad gan benaethiaid y cwmni a danseiliodd y cyfan; wedi'r cwbl roedd llawer mwy i'w wneud eto i lawn ddatblygu'r gwaith. 

Yn gwylio hyn i gyd roedd Thomas Gundry, a chyn hir casglodd at ei gilydd gwmni newydd, y Porth Nigel Lead Mining Company, i brynu'r gwaith. Yn eu prosbectws mae’r cwmni newydd yn mynegi eu gobeithion, ond fwy na hynny yn dangos yr ymdrech a wnaeth y cwmni blaenorol i ddatblygu'r safle. Dyma hysbyseb Gundry a'i gwmni ym mhapur Y Globe, 11/5/1874.



Mae’n debyg fod Gundry wrth ei fodd gyda'r cyfle o gael datblygu'r gwaith gyda’r holl adnoddau yn   barod iddo. Os oedd adroddiadau Capten Evans a Corfield yn agos i'w lle yna ni fedrai'r rhagolygon  fod well.Y tro hwn cyflogwyd Capten Joel Manley o St Agnes, Cernyw fel goruchwyliwr, dyn wedi cychwyn ei yrfa yng ngweithfeydd copr Buckland Mochorum, Swydd Dyfnaint. Daeth i Lanengan     gyda'i deulu wedi bod yn oruchwyliwr yng ngwaith plwm Y Fedw yng Nghenarth Sant Garmon, Sir    Faesyfed. Cartrefodd ef a'r teulu yn nhŷ newydd y cwmni ar safle'r gwaith yn Tan’rallt cyn symud yn  diweddarach i'r Cottage ar Lȏn Bwlch Llan.                                                                                             

Gwaith cyntaf Manley oedd suddo'r siafft i lawr i 56 gwryd a gweithio'r lefelau ymhellach gan ddilyn y plwm. Wrth wneud y gwaith hwn cafwyd 418 tunnell o blwm i'r wyneb, ond yn fuan daeth yn amlwg fod yn rhaid cael peiriant cryfach i gael gwared ȃ'r dŵr. Yn nechrau 1876 cafwyd adroddiad gan arbenigwr arall, Nicholas Bray, yn dweud bod angen cloddio'n ddyfnach i gael y gorau o'r gwaith, a bod llwyddiant gwaith Tan y Bwlch wrth ymyl yn argoelin dda am ddyfodol y fenter. Yn haf y flwyddyn honno cafwyd tirlithriad drwg yn lefel 56 gwryd; does dim adroddiad fod unrhyw weithiwr wedi'i anafu, ond bu’r digwyddiad yn rhwystr i'r gwaith am beth amser. Erbyn Tachwedd 1877 roedd Manley ac ychydig weithwyr wedi clirio'r llithriad, a chafwyd adroddiad newydd ganddo i godi gobeithion unwaith eto. Yn y diwedd, llwyddodd i berswadio'r cyfranddalwyr, os mai datblygu'r gwaith oedd eu bwriad, bod yn rhaid buddsoddi mewn peiriant newydd i ddatrys problem y dŵr. Cymerodd dipyn o amser i gael y maen i’r wal, ond yn y diwedd codwyd mwy o arian a threfnodd y cwmni i gael pwmp llawer cryfach i gadw'r dŵr o dan reolaeth.

Doedd cael siafftiau dyfnach na phwmp cryfach ddim am dawelu dicter rhai o’r ardalwyr. Dyma lythyr a dderbyniodd Y Genedl Gymraeg gan bentrefwr anfodlon yn 1/8/1878.


Hefyd mae'r darn hwn o'r Goleuad ym mis Tachwedd 1878, yn rhoi goleuni ar gyflwr gweithfeydd y plwyf yr adeg hynny.



 Aeth yn ddiwedd 1879 cyn i'r pwmp newydd ddechrau gwneud ei waith; bu’n rhaid ail adeiladu rhywfaint ar yr adeilad lle y safai. Dyma pryd yr adeiladwyd y corn sydd yn edrych i lawr dros y cyfan. Mae dau reswm yn cael eu cynnig tros adeiladu’r corn newydd  - naill ai roedd at bwrpas y pwmp newydd, neu roedd yn  ddull o  wella amrediad awyr iach yn nyfnder isaf y gwaith. Wedi meistroli’r dŵr aeth Manley ati'n syth i wneud y gorau o'r cyfle a sicrhau mwy o weithwyr. Ym 1880 cyflogwyd 58 o ddynion a chodwyd 130 tunnell o blwm i'r wyneb, a’r flwyddyn ganlynol cariwyd 321 tunnell i'r llongau ym Mhorth Fawr. Ond erbyn misoedd olaf y flwyddyn honno gwelwyd arwyddion nad oedd pethau cystal â'r disgwyl ac aeth y nifer a gyflogid i lawr i 29. Roedd lefelau cynnar y gwaith wedi cael eu disbyddu erbyn hyn, a phan ddaeth prinder plwm difrifol yng ngwaelod y siafft aeth adroddiadau Manley i'r wasg yn brinnach. Adroddiadau oedd y rhain, nid yn unig i'r cyfranddalwyr, ond i gadw diddordeb y cyhoedd yn y gwaith. Doedd adroddiad yn llawn newydd drwg ddim am dynnu sylw unrhyw fuddsoddwr o'r newydd, felly ymddangosodd yr olaf o'r adroddiadau ym mis Gorffennaf 1881, ac erbyn mis Hydref y flwyddyn honno daeth ymdrechion y cwmni i ben. Gadawyd i’r dŵr foddi'r shafft a'r rhwydwaith tanddaear ac ar yr 17eg o Fawrth 1882 rhoddwyd y cwbl ar werth yn Llundain. Hyn oedd diwedd perthynas y Porth Nigel Mining Company ȃr gwaith.  

 Wedi i’r cwmni ddod i ben aeth Joel Manley adref i Horrabridge, Dyfnaint. Yn y cyfnod byr y bu’r teulu' yn y pentref fu bywyd ddim yn garedig wrthynt. Bu farw tri o'r plant, Jane yn ddwy ar hugain yn gweithio gartref yn gwneud hetiau merched, Mehela yn bymtheg ac yn ddisgybl yn Ysgol Eglwys y pentref, a Joseph fu farw'n dair oed ym 1875. Mae bedd y tri ym Mynwent yr Eglwys. Ar y 15fed o Chwefror 1900, yn 69 oed, bu farw Joel Manley yn Goleen County Cork, de'r Iwerddon, ardal llawn hanes a gweithfeydd mwyngloddio copr, y garreg y dechreuodd Joel ei mwyngloddio pan yn fachgen ieuanc ym Monachorum, Dyfnaint. O’r wyth plentyn a anwyd i'r teulu dim ond un ferch, Bessie, a oroesodd ei rhieni. 

Wedi i Gundry a'i gwmni droi eu cefnau ar y gwaith dim ond am ryw fis y bu’r safle yn segur. Ar y 14eg o Ebrill 1882, fe brynwyd y cwbwl gan gwmni arall, y Porth Neigel Mining Syndicate Limited, dan arweiniad John Schofield, am £1800. Roedd Schofield wedi bod yn aelod o'r cwmni cyntaf ym 1869 ac mae ei enw i'w weld mewn sawl cwmni a fu yng ngweithfeydd y plwyf. Y tro hwn Thomas Grenfell oedd y cyfarwyddwr. Yn ei adroddiad cyntaf i Schofield mae'n dweud fod y pwmp wedi cymryd tair wythnos i gael gwared o'r dŵr, ond fod y gwaith yn barod i ail gychwyn unwaith eto. Y tro hwn roedd am ganolbwyntio ar y lefel isaf drwy gloddio ymhellach tuag at Sarn Bach cyn cychwyn tuag at Glan Morfa. Hon oedd lefel 80 gwryd y gwaith. Roedd y siafft erbyn hyn wedi cyrraedd 90 gwryd, ond ni weithiwyd y lefel honno.Er holl ymdrechion Schofield bu prinder plwm da yn ergyd farwol.Cymerodd y gweithwyr rai misoedd i gael dim ond 10 tunnell o'r mwyn i'r wyneb; roedd yn amlwg i bawb nad oedd cyn lleied yn hanner digon i dalu costau'r gwaith. Gwnȃir pwmp ei waith yn dda ond aeth y gȏst o gael glo ar ei gyfer yn ormodol. Cynigiodd Schofield, fel y cyfle olaf i'r cyfranddalwyr, wneud arbrofion yng ngwaelod isaf y siafft, y 90 gwryd, ar yr amod fod £1000 arall yn cael ei godi. Daeth y diwedd pan fethwyd cyrraedd y nod o ryw £250. Glynodd  Schofield i'r amod gwreiddiol fod yn rhaid cael y £1000 i ail gychwyn ac aeth y cwmni i'r wal ar yr 17eg o Dachwedd 1883.

Am ryw bymtheng mlynedd cwta y bu’r cwmniau hyn yn trio elwa o'r wythȉen yn Llanengan, weithiau'n llwyddiannus, dro arall yn ymladd yn erbyn y ddaeareg ac amgylchiadau masnachol y farchnad blwm. Fwy a mwy gwelwyd mewnforio plwm rhad o wledydd tramor, a gwelwyd effeithiau hynny ar bris y farchnad yn ddyddiol. I fedru cystadlu roedd yn rhaid cael digonedd o blwm yn y siafftau a hwnnwn hawdd i'w gael i'r wyneb. Yn anffodus, nid felly y bu yng ngwaith Tan’rallt.

Tua’r flwyddyn1880 cymerodd Thomas Gundry berchnogaeth ar waith Pantgwyn, gwaith nad oedd fawr o hanes iddo hyd hynny. Dros y blynyddoedd nesaf, o dan yr enw y Pantgwyn Mining Company aeth ymlaen i godi’r gwaith hwnnw ar ei draed gyda’i oruchwyliwr ffyddlon, John Crase, wrth y llyw. Bu partneriaeth y ddau yn llwyddiannus a phroffidiol, ond nid heb dderbyn beirniadaeth sylweddol Dr Foster, Arolygydd Gweithfeydd y Llywodraeth, fwy nag unwaith. Yn Ynadon Siriol Pwllheli ar y 25ain o Dachwedd 1885 cyhuddodd y ddau o anwybyddu'r gyfraith a thorri rheolau gweithfeydd mwyn am yr eilwaith, hyn wedi trychineb gwaith Pantgwyn ar yr 17eg o Chwefror 1885. Rhyw dair blynedd ynghynt ym1882 dirwywyd y ddau am fwy neu lai yr un cyhuddiadau, ond y tro hwn roedd marwolaeth tri o weithwyr y cwmni i'w ystyried.

Gwaith Pantgwyn i'w weld yn y pellter

Yn 1873, oherwydd y cynnydd yn nifer y  gweithfeydd newydd yn y diwydiant mwyngloddio, rhoddwyd mwy o bwerau i’r awdurdodau i gadw trefn ar y diwydiant ac i warchod diogelwch y gweithwyr. Gosodwyd deddfau newydd i berchnogion y gweithfeydd, yn eu gorfodi i weithio oddi fewn i reolau newydd y gyfraith, gydag Arolygydd Gweithfeydd y Llywodraeth ȃ’r hawl i fynd ag unrhyw  berchennog i’r llys os oedd tystiolaeth ei fod wedi camweddu. Yn yr achos ym Mhwllheli ym 1882 y cyhuddiadau yn erbyn Gundry a Crase oedd eu bod yn euog o beidio cadw cynlluniau cywir o’r gwaith.  Roedd hefyd brinder awyr iach yn rhai o lefelau’r gwaith a dim arwydd ar y safle, yn dangos enw’r perchennog, a’r goruchwyliwr yn glir. Wrth beidio a dilyn y rheolau hyn, roedd y cwmni yn torri’r gyfraith. Dirwywyd y ddau i £4-16s-6d, a dangoswyd diffygion yng nghyfansoddiad y cwmni.

Roedd gweithfeydd Tan y Bwlch a Phantgwyn yn weddol agos i’w gilydd, doedd dim yn arbennig yn hyn, ond bu’n achos helynt a arweiniodd i drychineb yn y diwedd. Orherwydd  ansicrwydd yn y farchnad rhoddodd Tan y Bwlch y gorau dros dro i ddefnyddio’u dau ager-beiriant i godi’r dŵr o’r gwaith hwnnw. O ganlyniad, dechreuodd siafft Pantgwyn orlifo, ac yn fuan sylweddolwyd mai pwmpiau mawr Tan y Bwlch oedd wedi rheoli’r dŵr ym Mhantgwyn, a hynny’n rhad ac am ddim ers peth amser. Methodd y ddau gwmni yn glir ȃ dod i gytundeb ynghylch rhannu cost y pwmpiau, ac oherwydd fod pwmp Pantgwyn ei hunan yn annigonol, aeth y gwaith hwnnw tan ddŵr.

Roedd gan Gundry a John Crase ffydd fod dyfodol i waith Pantgwyn, ac o’r herwydd penderfynwyd agor siafft o’r newydd ryw ddeugain llath oddi wrth yr hen agoriad. Roedd y siafft newydd i gyrraedd y wythȉen blwm mewn tir newydd oddi tan lefelau’r hen siafft. Ym mis  Awst 1884 rhoddwyd deuddeg o ddynion i weithio yn ddyddiol ar dair shifft o wyth awr i suddo’r siafft newydd, a chyrhaeddwyd dyfnder o 62 gwryd erbyn 17eg o Chwefror 1885. Rhwng saith ac wyth y noson honno, rhuthrodd llifeiriant o ddŵr, mwd a cherrig i’r siafft newydd o’r hen waith, gan foddi tri o’r gweithwyr. Collodd Owen Jones,Trwyngarreg, Llanengan a Willam Ellis a John Davis o Bay View Terrace, Abersoch eu bywydau y noson honno. Roedd yn amlwg ble roedd tarddiad cymaint o ddŵr, y cwestiwn mawr oedd pam a sut y medrai’r fath drychineb fod wedi digwydd.

 Fel y gwelwyd cynt, doedd gan Gundry na Crase fawr o ddiddordeb mewn dilyn rheolau, a doedd dim wedi newid y tro hwn. Wrth agor ei ymchwiliad daeth yn amlwg i Dr Foster Arolygydd Gweithfeydd y Llywodraeth nad oedd gan y cwmni unrhyw gynllun dealladwy o’r gwaith. I hwyluso a phrysuro rhywfaint ar yr ymchwiliad cafwyd cytundeb perchnogion gwaith Tan y Bwlch i ddefnyddio’r pwmpiau i godi’r dŵr, ond er yr holl ymdrechion cymerwyd dros ddau fis i gael cyrff y gweithwyr adref i’w teuluoedd. Aeth wedyn yn ddiwedd mis Medi erbyn cael y siafft yn gwbwl glir a saff i wneud ymchwiliad manwl. Erbyn hynny, roedd yn amlwg mai yng ngwaelod y 62 gwryd y treiddiodd y dŵr drwodd, a thrwy ail fesur a gwneud arolwg llawn o’r ddwy siafft medrodd Dr Fraser ddarganfod beth aeth o’i le, a pham.

Roedd ei adroddiad yn drylwyr, ac i’r pwynt. Yn ei farn ef, anghymwysedd John Crase fel goruchwyliwr y gwaith oedd prif achos y drychineb, a diofalwch Thomas Gundry am fethu cadw rheolaeth ar y gwaith yn ȏl ei ddyletswydd o dan y gyfraith; roedd yr naill mor euog a’r llall ym marn Dr Foster. Heb archwiliad manwl o’r hen waith ni fedrai Crase fod yn saff o’r pellter rhwng y ddwy siafft tan ddaear. Roedd o gwmpas deugain llath rhyngddynt ar y wyneb, ond dyfna’n y byd yr ȃi y siafft newydd agosaf y dȏi’r ddwy at ei gilydd. Roedd yr hen siafft wedi cychwyn yn syth i lawr ar ei phen, ond o’r 40 gwryd i’r 70 roedd yn anelu’n raddol i gyfeiriad y siafft newydd. Yn y 62 gwryd lle roedd y tri a foddwyd yn gweithio, roedd Crase wedi amcanu y dylai fod deugain troedfedd o graig rhwng y ddwy siafft. Fel y digwyddodd doedd ddim ond naw, ac oherwydd diffygion yng nghyfansoddiad y graig yn yr union fan honno, aeth pwysau’r dŵr wrth ei phen yn ormod.

Wedi cael ei atgoffa gan y Crwner o’i hawliau yn ȏl y gyfraith, aeth Crase ymlaen i ddweud ei fod yn derbyn adroddiad Dr Foster yn gyflawn. Ymateb Foster oedd fod i Crase ddweud hynny’n gyfystyr ag addefiad o esgeulustod troseddol, ond nid felly yr edrychodd y rheithgor ar yr achos. Cafwyd rheithfarn unfrydol o farwolaeth drwy ddamwain ar y tri a laddwyd, gyda John Crase yn cael cerydd oherwydd ei fethiant i gadw arolwg cywir o’r gwaith. Datganodd Foster ei somedigaeth gyda’r rheithfarn, yn fwy na dim oherwydd nad oedd ond tair blynedd ers i’r ddau ddiffynydd fod o flaen y Llys am fwy neu lai yr un  cyhuddiadau’n union. Yng ngolwg rhai, gwarth oedd galw'r drychineb yn ddamwain a’r gosb yn ddim ond ugain punt yr un a thalu’r costau, ond dyna oedd dyfarniad. yr rheithgor. Defnyddiodd Dr Foster ei ddylanwad i annog y  Llys i ddal yn ȏl yr arian a dalwyd fel dirwy, a’u rhannu rhwng gweddwon y drychineb a’u plant. Cytunodd y llys i’r cynnig a threfnwyd i reithor y plwyf, Thomas Jones, fod yn gyfrifol am y gwaith hwnnw.

Ychydig fu effaith y drychineb ar dwf y gwaith yn Pantgwyn. Dros y blynyddoedd nesaf cafodd Grundy a Crase drefn ar y busnes; o gyflogi deuddeg dyn ym 1881, cyrhaeddodd yr uchafbwynt ym 1890 gyda 191 o weithwyr ar y llyfrau. Daliodd Dr Foster i gadw golwg ar y gwaith o bryd i’w gilydd, ac ym mis Mehefin 1890 aeth ȃ Gundry a Crase i’r llys yn Pwllheli am y trydydd tro.  Roedd rhestr o gwynion yn eu herbyn yn cynwys dwy siafft heb eu hamgylchynu’n saff yng ngwaelod y gwaith, ystol deugain llath o hyd heb ei rhannu gan blatfformau i hwyluso’r gweithiwr, a darn o haearn yn cael ei ddefnyddio fel falf diogelwch ar un o beiriannau ager y gwaith.Yn ei adroddiad i’r Llys dywedodd Foster mai ymateb Crase i’r cwynion oedd ei fod yn rhy brysur i ddarllen unrhyw reolau a roddai’r Arolygwr o’i flaen, felly doedd dim i’w wneud ond dirwyo’r cwmni i £47.

Pantgwyn oedd yr olaf o weithfeydd plwyf Llanengan i gau; daeth y cwbwl i ben yn y flwyddyn 1892. Ym Mehefin 1893 rhoddwyd y cyfan o eiddo gweithfeydd y plwyf ar werth mewn un arwerthiant a gymerodd dri diwrnod i’w gwblhau. Aeth rhai o’r gweithwyr i chwilio am waith ym mhyllau glo’r de, a lladdwyd rhai yn namweiniau mawr y gweithfeydd yn y fan honno. Aeth Thomas Gundry adref i Gernyw i gadw golwg ar ei fusnesau yn yr rhan honno o’r wlad. Does dim ond un cyfeiriad iddo fod yn byw yn y plwyf a hynny yng nghyfrifiad 1881 pan oedd gwaith Pantgwyn ar gychwyn; yn Ebrill y flwyddyn honno roedd yn lletya gyda John Williams a’i wraig ym Mhlas Sarn, Sarn Bach.  Gartref yng Nghernyw roedd yn berchennog ar amryw o westai ar hyd arfordir yr ardal honno, eisteddai ar lawer pwyllgor, ac roedd yn gyfranddalwr yn y Commercial Bank of Cornwall. Bu farw Thomas Gundry yn ddi-briod ar y 7fed o Ragfyr 1903 yn Fowey; roedd yn 75 oed. (Cornwall Advertiser12/12/1903)


Arwerthiant eiddo gweithfeydd Llanengan yn y Caernarfon and Denbigh Herald Mehefin 1893.

 


Helynt Ysgol Sarn Bach


Helynt Ysgol Sarn Bach. 1927-1932.

Am gyfnod rhwng y blynyddoedd 1927 a 1932 bu anghydfod andwyol rhwng Ymddiriedolwyr Ysgol Sarn Bach a’r Cyngor Sir yng Nghaernarfon, anghydfod a effeithiodd yn sylweddol ar addysg plant y plwyf yn ôl barn rhai. Drwy ymdrechion ac aberth plwyfolion Llanengan yr adeiladwyd yr ysgol yn Sarn Bach, ar ddarn o dir a roddwyd ar ei chyfer gan deulu Tŷ Newydd, tua’r flwyddyn 1891. Roedd yr ysgol newydd i gymryd lle’r hen ysgol Dwylan, a fu ei hunan yn ganolfan addysg i blant y plwyf am bron i hanner can mlynedd. Y teimlad erbyn hynny oedd fod angen ysgol fwy canolog ar gyfer gofynion yr ardal, gan ddisgwyl y byddai hynny’n gwella presenoldeb y disgyblion. Roedd yr ysgol newydd i fod yn Ysgol Frytanaidd fel yr hen ysgol, gyda phwyllgor wedi ei ddewis i ofalu am yr adeilad.

Yn y flwyddyn 1906 mynegodd y Cyngor Sir eu parodrwydd i gymryd drosodd adeilad yr ysgol ar brydles, datblygiad a dderbyniai gefnogaeth y plwyfolion os byddai i’r Cyngor Sir gytuno ar ddwy amod y teimlid yn gryf yn eu cylch. Y gyntaf oedd y byddai’r trigolion yn parhau i gael defnyddio’r ysgol ar gyfer cyfarfodydd y plwyf, gan mai’r ysgol oedd yr unig adeilad addas yn y plwyf ar gyfer cynnal cyfarfodydd o’r fath. Hefyd, y byddai’r Cyngor Sir yn gyfrifol am wneud unrhyw waith cynnal a chadw y byddai ei angen ar yr adeilad drwy gyfnod y brydles, ac i’r adeilad gael ei gyflwyno yn ôl i’r ymddiriedolwyr mewn cyflwr priodol ar ddiwedd oes y brydles.

Cafwyd cytundeb rhwng y Plwyfolion a’r Cyngor, a pharatowyd prydles gan adran Cyfarwyddwr Addysg y Sir. Roedd y brydles am un mlynedd ar hugain, ac i ddod i ben ym mis Mai 1927. Ynddi roedd yr hawl i’r plwyfolion ddefnyddio’r ysgol am dair noson yr wythnos fel y mynnent a byddai’r Cyngor Sir yn gyfrifol am gynnal yr adeilad. Er bod y Cyngor a’r Ymddiriedolwyr wedi cytuno ac arwyddo’r brydles, bu blynyddoedd diweddaf ei chyfnod yn rhai chwerw a chythryblus. Cwynai'r plwyfolion ers peth amser fod cyflwr adeilad yr ysgol wedi dirywio’n ddifrifol yn enwedig ym mlynyddoedd olaf y brydles, ac er i’r Cyngor addo fwy nag unwaith fod gwelliannau ar y ffordd, doedd dim wedi ei wneud; roedd hyd yn oed sôn fod Bwrdd Addysg y Cyngor ei hunan yn bryderus, oherwydd cyflwr gwael yr ysgol. Aeth y sefyllfa yn un amhosib. Yn groes i’r hyn y cytunwyd arno yn y brydles ym 1906, roedd y Cyngor Sir nid yn unig wedi esgeuluso’u cyfrifoldeb tuag at adeilad yr ysgol, ond ar ben hynny yn gofyn i’r plwyfolion dalu am gael ei defnyddio.

Pan ddaeth yn bryd i ysgrifennu prydles newydd ym mis Mai 1927, roedd cael cytundeb yn amhosib. Cynigiai’r ymddiriedolwyr brydles am 99 mlynedd gyda rhent o ddeuddeg punt a deg swllt y flwyddyn, ac yn unol ȃ chynlluniau'r Bwrdd Addysg, defnyddio’r arian i roddi cymorth i blant o’r ysgol gael addysg bellach. Roedd hyn oll ynghlwm ȃ’r ddwy amod y gofynnwyd amdanynt ym 1906, sef y Cyngor i gynnal a chadw, a’r plwyfolion i gael yr hawl i ddefnyddio’r adeilad at wasanaeth y plwyf. Yr amod olaf hon fu’r rhwystr mwyaf i gael cytundeb; cafodd ei gwrthod yn gyfan gwbl gan adran y Pwyllgor Adeiladu. Rhywbeth na wnaeth hwyluso pethau yng nghanol yr holl gweryla oedd fod Cadeirydd y Pwyllgor Adeiladu wedi galw'r Ymddiriedolwyr, sef pobol Llanengan, “y bobol waethaf a welodd erioed, ac nad oedd am ddelio ȃ hwy dim mwy.”

Dadleuai eraill yn y Cyngor, fod y modd y geiriwyd y brydles ym 1906 yn rhoddi’r hawl i’r Ymddiriedolwyr, nid yn unig i ddefnyddio’r adeilad, ond ei ail osod os mynnent, a hynny ar draul y Cyngor.  Gwrthodwyd y syniad hwn yn llwyr gan y plwyfolion mewn llythyrau at Glerc y Cyngor. Roedd y sefyllfa’n gymhleth iawn  a phenderfynodd yr Ymddiriedolwyr, oherwydd ystyfnigrwydd y Cyngor a chyflwr yr adeilad, wrthod hawl i’r Cyngor Sir ddefnyddio’r adeilad fel ysgol, gan eu gorfodi i chwilio am adeilad arall i’r pwrpas. Y dewis amlycaf i’r Cyngor oedd ail agor hen Ysgol yr Eglwys yn y pentref. Wedi ei chau ers 1909, credai rhai nad oedd cyflwr yr adeilad hwnnw fawr gwell na’r ysgol yn Sarn Bach, ond erbyn hyn doedd fawr ddewis i’r Cyngor. Penderfynwyd yn y diwedd mai gyrru mwyafrif y plant i’r ysgol yn Llanengan fyddai orau, a dysgu’r gweddill yn Ysgol y Babanod yn ‘Rabar, er nad oedd cyfleusterau ar gyfer plant hȳn yn yr ysgol honno. Rhannwyd yr athrawon yr un fath, ac am y blynyddoedd canlynol, bu hen Ysgol yr Eglwys ac Ysgol y Babanod yn ‘Rabar yn brif ganolfannau addysg plant y plwyf.

Wedi helynt y cau, bu’n rhaid i’r Cyngor Sir ddechrau darparu cynlluniau i adeiladu ysgol o’r newydd, ac i’r pwrpas hwnnw  dewiswyd darn o dir dros y ffordd i Gwelfor ar Lôn Sarn Bach.  Yno, ar dir y Deucoch, bwriadai’r Cyngor adeiladu ysgol newydd ar gyfer y plwyf ar gost o oddeutu £8,000. Croesawodd y plwyfolion gynlluniau newydd y Cyngor ac edrychai bawb ymlaen at gael canolfan addysg newydd i’r plant. Siaradai’r Cyngor yn dda am gynlluniau’r ysgol newydd, ond ychydig iawn oedd i’w weld yn digwydd, ac yn fuan diflannodd gobeithion y rhieni.

Dechreuodd rhai o’r plwyfolion gwyno ynghylch cyflwr yr ysgol yn Llanengan, a theimlai eraill ei bod yn annheg ar rai o blant y plwyf oedd a thaith bell i’r ysgol, plant Bwlchtocyn a Cilan yn arbennig. Erbyn diwedd 1930, yng nghanol yr ansicrwydd, trefnwyd cyfarfod gan y trigolion i wrthdystio yn erbyn difaterwch y Cyngor, yn eu hymateb i sefyllfa addysg y plant. Cynhaliwyd y cyfarfod yn yr hen ysgol yn Sarn Bach, pan etholwyd John.W.Thomas, Brynteg, Llanengan, yn gadeirydd. Cychwynnodd ei anerchiad  i’r cyfarfod gyda’r newydd drwg fod Cyngor Addysg y Sir wedi gohirio adeiladu’r ysgol newydd am gyfnod amhenodol oherwydd pwysau gan y Llywodraeth yn Llundain ynghylch pwysigrwydd cynildeb mewn amseroedd ansicr. Afraid  dweud fod y fath benderfyniad wedi cythruddo’r cyfarfod, a chododd amryw ar eu traed i farnu’r Cyngor a’r penderfyniad.

Ar ddiwedd y noson rhoddwyd cynnig ger bron gan William Hughes, Morfa View Abersoch, os na fyddai carreg sylfaen yr ysgol newydd wedi ei gosod erbyn yr ugeinfed o Ragfyr 1930, yna byddai'r rhieni yn cadw’r plant o’r ysgol am wythnos, neu bythefnos ar y tro, er mwyn rhoddi pwysau ar y Cyngor i weithredu. Eiliwyd y cynnig gan John Davies Belle Vue, Llanengan.  Cytunwyd arno  yn unfrydol gan y gynulleidfa, a threfnwyd i’r Cyngor Sir gael gwybod eu penderfyniad. Fore trannoeth doedd ond saith plentyn o’r deugain ar gofrestr yr ysgol yn Llanengan yn bresennol..

Yn Llys yr Ynadon ym Mhwllheli rhyw dair wythnos wedi’r cyfarfod uchod, cafodd Efan Jones, Cilan Fawr, Cilan ei erlyn gan Swyddog Presenoldeb Plant am iddo esgeuluso gyrru ei ferch deuddeg oed i’r ysgol. Does dim sicrwydd fod yr achos hwn yn dilyn beth gytunwyd yng nghyfarfod y rhieni , ond mae’n rhoi ychydig o gefndir i’r helynt.

Roedd gan Efan Jones dri o blant o fewn oed ysgol, ond dim ond yr hynaf a enwyd yn yr achos. Ei eglurhad i’r Llys oedd bod y daith i’r ysgol yn rhy bell i’r plant, yn enwedig y rhai ieuengaf. Wedi’r ysgol symud i Lanengan ymestynnwyd eu taith un filltir ychwanegol i fod yn daith o ddwy filltir a hanner; ac efallai mwy na hynny i rai o blant eraill mynydd Cilan. Cafodd y Llys ei atgoffa gan y Clerc; os oedd ysgol o fewn tair milltir i gartref y plant yna roedd yn orfodol drwy’r gyfraith i’r rhieni wneud yn siŵr fod y plant yn mynychu’r ysgol honno. Ychwanegodd y Swyddog Presenoldeb fod gwraig Efan Jones wedi dweud wrtho nad oedd am yrru’r plant i’r ysgol oherwydd y pellter, ac na fedrai ef ei gorfodi oherwydd bod yr ysgol yn un afiach. Eglurodd y Swyddog i’r Llys fod stori ar led yn y plwyf i’r ysgol gau flynyddoedd ynghynt oherwydd i’r adeilad fod yn anaddas ac yn afiach, stori heb unrhyw wirionedd ynddi o gwbwl yn ôl y Swyddog. Pan awgrymwyd i Mrs Jones mai milltir a hanner oedd y daith i’r ysgol wrth ddefnyddio llwybr y Nant i Lanengan, cytunodd hithau fod y daith yn un fyrrach, ond pan fyddai’r tywydd yn wlyb, anodd fyddai i’r plant dramwyo oherwydd y dŵr a safai ar rannau o’r llwybr. Wnaeth eglurhad Efan Jones a’i wraig ddim llawer o argraff ar y Llys, a rhoddwyd rhybudd iddo, yn ei orfodi i yrru’r plant i’r ysgol.

Erbyn y flwyddyn 1932 doedd fawr ddim newid yn sefyllfa addysg y plant, ac i gadw’r helynt o flaen llygaid y Cyngor cadwai’r rhieni eu plant o’r ysgol bob hyn a hyn. Tua Mehefin y flwyddyn honno tynnwyd sylw’r ymddiriedolwyr tuag at lythyr Dr Lloyd Owen, Prif Swyddog Meddygol y Sir, yn erfyn ar i Gyngor Llŷn bwyso ar yr Awdurdod Addysg i wneud atgyweiriadau i’r ysgol yn Llanengan. Cychwynnodd hyn drafodaeth newydd rhwng y Cyngor Sir a’r ymddiriedolwyr a threfnwyd cyfarfod ym mis Awst yn Sarn Bach.

Yn cynrychioli’r ymddiriedolwyr roedd John.W.Thomas, Brynteg y Cadeirydd , Capten John Williams Rockdale, John Jones y Pant, John W. Evans Wenallt a Tom Bryn Jones Tȳ Newydd. Ar ran y Cyngor Addysg siaradai John Owen o Landudno. Eglurodd John Thomas nad oedd safiad yr ymddiriedolwyr wedi newid o gwbwl, ac mai cyfrifoldeb y Cyngor Sir oedd darparu’r addysg orau ar gyfer y plant. Atebodd John Owen fod y Cyngor Sir mewn sefyllfa anodd ers blynyddoedd orherwydd canllawiau’r llywodraeth yn Llundain ynghylch cynildeb. Roedd y plwyfolion wedi clywed y stori yma droeon o’r blaen, ac iddynt hwy doedd hyn ond y Cyngor yn hel esgusodion. Roedd yr ymddiriedolwyr a’r plwyfolion o’r farn ei bod yn well gan y Cyngor Sir wario’u harian ar weithgareddau ym mhen uchaf y Sir, heb gadw’r un geiniog ar gyfer gwella addysg plant yn yr ardaloedd gwledig.

Ychwanegodd John Owen,  pe byddai’n rhaid i’r Pwyllgor Addysg adeiladu ysgol o’r newydd ar gyfer y plwyf y byddai’r gost erbyn hyn yn £10,000, ond pe byddai’r Pwyllgor yn gallu prynu adeilad yr ysgol yn Sarn Bach, a hynny am bris rhesymol, yna byddai’r Cyngor yn arbed gwario rhwng £4,000 a £6000. Roedd hwn yn gynnig newydd gan y Pwyllgor Addysg a rhoddwyd cyfle i’r Ymddiredolwyr ei ystyried a’i drafod ymysg ei gilydd. Eu penderfyniad oedd gwerthu’r ysgol am £250 i'r Cyngor Sir, a throsglwyddo’r holl hawliau ynghylch yr adeilad i’r Pwyllgor Addysg, ar y dealltwriaeth fod yr ysgol newydd yn gweithredu ar ddull ysgol ganol. Derbyniwyd penderfyniad yr Ymddiredolwyr yn unfrydol gan y plwyfolion a chafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Addysg llawn.  O’r diwedd, er mawr foddhad i bawb, roedd yr helynt bron ar ben. Tynnwyd y clo oddi ar giatiau’r ysgol a chafodd y Cyngor Sir fynd ati i adeiladu ysgol deilwng i blant y plwyf.

Cymerodd bron i dair blynedd arall cyn y cafodd y prifathro, Mr Jones Parry, groesawu’r plant i’r ysgol newydd; fe’i hagorwyd yn swyddogol ym mis Hydref 1935.Yn y cyfarfod hwnnw talwyd teyrnged haeddiannol i’r plwyfolion am ymladd mor frwdfrydig am flynyddoedd i gael y gorau i’r plant a hynny yn erbyn yr anawsterau a roddwyd yn eu ffordd.. Yn ôl papurau newydd y cyfnod, cynildeb oedd y gair mawr gan y Llywodraeth yn Llundain y dyddiau hynny. Ond credai llawer, yn enwedig plwyfolion Llanengan, os oedd raid cynilo, yna ei fod i’w rannu yn gyfartal ledled y Sir, nid ei orfodi ar y rhannau hynny bellaf oddiwrth Swyddfeydd y Cyngor.

Selar Llanengan.



 

 Mae un o’r cyfeiriadau cyntaf at Selar mewn dogfen yn Archif Gwynedd (XD2/538) lle cyfeirir at Elizabeth Jones, Creigir Isaf, LLanengan (sic) yn 1682 fel perchennog Creigir Isaf, Tŷ yn y Pwll, Tŷ yn y Morfa a’r Celler, i gyd ym mhlwyf Llanengan. Mae’n debyg mai Creigir Selar oedd enw cyntaf yr hen dŷ, ond fel Selar mae’n cael ei enwi yng nghofnodion yr Eglwys. 

 Yn y 18G roedd y Selar yn gartref i John Marc a’i wraig Jane, ac wedyn i’w mab Richard Jones a’i wraig Elizabeth, y tad a’r mab yn eu tro yn ymgymryd â swydd Clerc y Plwyf yn Llanengan. Ganwyd William, cyntaf anedig Richard Jones a’i wraig, yn y flwyddyn 1777, yr hynaf o chwech o blant, a’r unig un i gyrraedd ei ddwyflwydd oed. Yn ôl yr arfer, ac fel y gwnaeth ei dad a’i daid o’i flaen, cymerodd William enw cyntaf ei dad, ac fel William Richards mae’n cael ei adnabod.

 Tua’r flwyddyn 1799, rhyw bedair blynedd cyn rhyfeloedd Napoleon, roedd William yn ei ugeiniau cynnar ac yn forwr yn y Llynges Frenhinol. Erbyn y flwyddyn1805 roedd wedi ei ddyrchafu’n is-gapten ar y Constance, un o longau gwarchod y Llynges Frenhinol. Llongau oedd y rhain yn cario mwy nag ugain gwn eu hunain gyda’r cyfrifoldeb o warchod prif longau rhyfel y Llynges. 

Ar y 9fed o Fedi 1806, roedd y Constance yn un o dair llong y Llynges, gyda’r Sharpshooter a’r Strenuous, yn hwylio i lawr arfordir gorllewinol Ffrainc. Yn y pellter ymddangosodd llong ryfel Ffrengig, y Salamandre, newydd hwylio allan o Saint Malo ac ar ei ffordd i Brest yn cario llwyth o goed. Sylweddolodd ei chapten yn fuan nad oedd ganddo fawr o obaith dianc rhag tair o longau’r Llynges ac i geisio achub ei long a’r criw cyfeiriodd am fae cyfagos Bouche d’Erquy lle y gwyddau fod gynnau a milwyr Ffrengig yn gwarchod y glannau. 

Cwrsiodd y Prydeinwyr eu helfa i’r bae, ac o dan bwysau eu gynnau gorfodwyd y Ffrancwyr i redeg eu llong ar draeth heb fod ymhell o dref fechan Erquy. Am y ddwy awr nesaf ymladdwyd brwydr ffyrnig a gwaedlyd yn y bae, brwydr a adawodd y Salamandre wedi ei dryllio ar y traeth. Ond er llwyddo i orchfygu'r Ffrancwyr, methodd y Prydeinwyr ȃ gyrru eu milwyr allan i ysbeilio eu gwobr oherwydd ffyrnigrwydd tân y gynnau ar y lan, yn hytrach rhoddwyd gorchymyn i dynnu’n ôl i ddiogelwch y môr agored. Wrth ddilyn y Sharpshooter a’r Strenuous allan o’r bae aeth y Constance yn gaeth ar greigiau mewn dŵr bâs, ac heb ddim i’w hamddiffyn rhag gynnau’r Ffrancwyr doedd ganddi ddim dewis ond ildio neu ddioddef tynged y Salamandre. Lladdwyd y Capten, Alexander Burrowes, a naw o’r criw ar ddechrau’r frwydr, cafodd dau eu clwyfo’n ddifrifol, a chafodd deg arall fân anafiadau. Roedd William Richards y Selar yn un o’r deg yma. 

 Wedi’r frwydr cymerwyd 37 o forwyr y Constance a oroesodd yr ysgarmes yn garcharorion, a’u rhoddi ar waith i ryddhau'r llong oddi ar y creigiau. Gyda chymorth y llanw llwyddwyd i’w hail-nofio, a chafodd ei thywys i Saint Malo lle cafodd ei hawlio fel ysbail rhyfel gan y Ffrancwyr. Gorfodwyd y carcharorion i gerdded i Verdun yng ngogledd y wlad. Yno cadwyd William Richards a chriw y Constance mewn caethiwed am gyfnod o bron i wyth mlynedd. Daeth eu hunllef i ben wedi i Napoleon ildio am y tro cyntaf ym mis Ebrill 1814,hynny wedi i filwyr byddinoedd y Gynghrair gyrraedd ei brif ddinas, Paris. 

 Ym mhrif borthladd y Llynges yn Portsmouth ar y 12fed o Dachwedd 1806 cynhaliwyd Llys Milwrol arbennig ar fwrdd Y Gladiator, pryd ystyriwyd holl amgylchiadau colli’r Constance. Wedi gwrando ac ystyried tystiolaeth Goldie a Nugent, capteiniaid y Sharpshooter a’r Strenuous, penderfynwyd fod Capten Burrowes a’i swyddogion wedi ymddwyn gyda gwroldeb o’r radd uchaf drwy gydol y frwydr; ac oherwydd ei arweiniad a’i ddewrder wedi marwolaeth ei Gapten, dyrchafwyd William Richards y Selar, yn ei absenoldeb, i statws Capten. Cyflwynwyd cleddyf arbennig iddo gan y Morlys fel tystiolaeth o’i ddyrchafiad. Daeth yr rhyfel â Ffrainc i ben ym mis Mehefin 1815 a rhyddhawyd William o’i ddyletswyddau i’r Llynges ar bensiwn o hanner cyflog capten. Cyn bo hir dychwelodd adref i Ben Llȳn lle derbyniodd swydd gan yr Arglwydd Newborough, olygai ei fod yn gyfrifol am weithgareddau morwrol y gŵr hwnnw. 

 Etifeddodd William Y Selar, hen gartref y teulu yn Llanengan, wedi marwolaeth ei dad, Richard Jones ar y 12ed o Chwefror 1818.Yn haf y flwyddyn honno daeth tro ar fyd iddo. Pan wrth ei waith ym Mhwllheli cyfarfu â Sarah Constable, merch yn ei hugeiniau hwyr o Northampton. Roedd Sarah ar ymweliad ȃ’r dref yng nghwmni Ann, ei chwaer, a’u hewythr, Philip Constable. Collodd y genethod eu rhieni pan yn ifanc, a chymerodd brawd eu tad, Phillip Constable a’i wraig y ddwy tan eu gofal. Gŵr cyfoethog oedd eu hewythr, wedi gwneud ei ffortiwn yn adeiladu camlesi yng nghanolbarth Lloegr. Daeth i Ben Llȳn yn y flwyddyn1818 yn chwilio am fusnes newydd, gan ddod ȃ Sarah a’i chwaer i’w ganlyn fel cyfle i weld y wlad. Ar yr ymweliad hwn y cyfarfu William a Sarah. Datblygodd y berthynas rhyngddynt ac ymhen ychydig fisoedd, ym mis Chwefror 1819, roedd priodas wedi ei threfnu yn nhref Northampton, cartref y teulu. ‘Roedd hon yn briodas ddwbwl. Ar yr un diwrnod, yn yr un eglwys, priodwyd William a Sarah, ac Ann Constable gyda John Ellis, twrnai o Newborough Place, Stryd Penlan, Pwllheli. Parhaodd y cysylltiad agos rhwng y ddwy chwaer ar hyd eu hoes. 

 Wedi’r briodas cartrefodd y ddau gwpwl newydd ym Mhen Llȳn. Aeth Ann i fyw i gartref ei gŵr yn Stryd Penlan, Pwllheli, ond roedd cynlluniau llawer mwy i’r Selar. Ail adeiladwyd yr hen dŷ o’r newydd bron, ac o fod yn dŷ cerrig dau lawr digon cyffredin, dyblwyd ei faint i’r tŷ o sylwedd a welir heddiw. Adeiladwyd estyniad ar yr ochor ddwyreiniol i’r hen dŷ gwreiddiol ac agorwyd mynedfa o ffordd y pentref tuag at y cyntedd o flaen y prif ddrws. Ychwanegwyd grisiau coed ar dro i’r llofft, ac yn lle pedair ffenestr ar wyneb gogleddol yr adeilad cafwyd wyth yn edrych i lawr tua’r Eglwys a thros weirglodd yr afon Soch am Y Rhiw. Codwyd stablau ac adeiladau eraill teilwng o dŷ o’r fath a chrewyd gardd a pherllan wedi eu hamgylchu ȃ muriau cerrig uchel i’w cysgodi. Dyma pryd y newidiwyd enw‘r hen dŷ yn Belle Vue, golygfa braf yn Ffrangeg. Oherwydd ei swydd, ychydig amser gafodd William Richards i fwynhau ei dŷ newydd a bu farw yn sydyn yn y flwyddyn1830 yn 53 mlwydd oed. Prin yw’r wybodaeth am ei ddyddiau olaf, ond ar gomisiwn hwylio i Marseilles ar arfordir deheuol Ffrainc tros yr Arglwydd Newborough yr oedd William Richards pan fu farw. 

 Yn y papurau newydd ym mis Mehefin 1836 mae Belle Vue ar osod fel tŷ moethus wedi ei ddodrefnu. Gwyddys mai John Edwards, perchennog chwarel mwyn haearn Creigir Isaf, a’i deulu oedd y tenantiaid newydd. Ychydig o hanes sydd ar gael i’r gŵr hwn ac i’r chwarel honno; efallai mai marwolaeth John Edwards yn ŵr ifanc yn 1840 ddaeth ȃ’r gwaith i ben. Erbyn y flwyddyn 1841, mae Belle Vue unwaith eto yn gartref i Sarah Richards, gyda gwas a dwy forwyn yn ei gwasanaeth. Yn y blynyddoedd nesaf, fel gwraig weddw, rhoddodd Sarah ei chefnogaeth i’r ymgyrch i godi arian tuag at atgyweirio yr Eglwys yn Llanengan ac i sefydlu ysgol newydd yr Eglwys yn y pentref. Yn hynny cafodd gefnogaeth lawn ei hŵyr, Phillip Constable Ellis. Mab ei chwaer Ann a John Ellis y twrnai o Bwllheli oedd Philip Constable, ysgolhaig a aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen i gael ei hyfforddi ar gyfer yr Offeiriadaeth. Roedd yn eglwyswr i’r carn heb ddim i’w ddweud wrth yr Ymneilltuwyr; a chredai yn gryf y dylid cadw dylanwad yr Eglwys ar y gymdeithas. Ysgrifennodd lythyrau i eglwyswyr yr ardal, a thirfeddianwyr oddi allan yn eu gwahodd i gyfrannu tuag at yr achos. Bu ei ymdrechion yn llwyddiannus - rhoddwyd y tir a’r llechi ar gyfer yr ysgol yn rhad ac am ddim gan Assheton Smith y Faenol, er iddo wrthod yr un cais gan Dr Thomas Williams y Dwylan rhyw ddwy flynedd ynghynt. Wedi casglu oddeutu £400 gan y cyhoedd rhoddwyd pensaer Assheton Smith ar waith i gynllunio’r adeilad newydd. 

 Agorwyd Ysgol yr Eglwys, yr Ysgol Genedlaethol, ym mis Awst 1846, ac yn ôl y papurau newydd mae Sarah Richards a’i hŵyr ymysg y lliaws o foneddigion sydd yn bresennol y diwrnod hwnnw. Yn ei adroddiad am yr agoriad pwysleisiodd gohebydd y Caernarfon and Denbigh Herald bwysigrwydd cyfraniad Philip Constable Ellis i’r ymgyrch. 

 Ychydig o wybodaeth sydd am Sarah Richards ar ôl y cyfnod hwn; mae’n debyg iddi dreulio’i hamser rhwng Belle Vue a chartref Ann ei chwaer ym Mhwllheli. Bu farw ym mis Awst 1868 yn 79 mlwydd oed, yn Rhyllech, ger Llannor, lle'r oedd Ann a’i theulu wedi cartrefu erbyn hynny. Fe’i claddwyd ym mynwent eglwys y pentref hwnnw. Yn ei hewyllys trosglwyddodd bopeth o’i heiddo, yn cynnwys Belle Vue, i’w hŵyr Phillip Constable Ellis, a oedd erbyn hyn yn rheithor yn Llanfairfechan. Rhoddodd ef Belle Vue ar y farchnad yng ngwesty’r Crown Pwllheli ar yr 11eg o Fawrth 1874. Dyma gysylltiad olaf teulu William Richards ȃ’r Selar. 

 Arhosodd yr enw Belle Vue ar y tȳ hyd at 1989 pan y’i newidiwyd yn The Rock. Mae’r lȏn fechan oedd yn arwain at yr hen dŷ gwreiddiol yn dal i gael ei galw’n Lôn Selar ac yn fodd i gadw enw’r hen dŷ ar gof.

                                                                           Lôn Selar.