Siopau

Siop Ty'n Pwll

Wedi priodi Catherine Griffith o Safn y Pant, Aberdaron ym 1831 cartrefodd William Benjamin a’i wraig yn Nhan y Fynwent. Mab i Benjamin Jones, siopwr yn Nhy’n Ffos, oedd William. Roedd yn ddyn uchel iawn ei barch, yn flaenor yn hen Gapel y Bwlch ac yn gofrestrydd ar weithgareddau’r capel.

Erbyn 1841 roedd siop Tan y Fynwent wedi ei sefydlu a William a’i wraig yn rhieni i dair o enethod. Yn y cyfnod hwn dim ond un siop fechan arall oedd yn y pentref, siop Tan y Graig oedd honno, dros y ffordd i’r pwmp. John Jones, dyn o Langian, oedd y siopwr.

Erbyn 1851 roedd John Jones wedi gadael Tan y Graig ac wedi agor siop yn Nhy’n Pwll yng nghanol y pentref, siop yn gwerthu pob math o angenrheidiau ar gyfer byw yn y wlad.

Yn Nhan y Fynwent roedd Catherine, merch hynaf William Benjamin, yn cadw’r siop efo’i thad ar ôl marwolaeth ei mam ym 1846. Fu dim newid ar y drefn hon nes marw ei thad ym mis Hydref 1854. Priododd Catherine gyda William Hughes o Nefyn ym 1854. William Hughes oedd gweinidog cyntaf Capel y Bwlch ac erbyn 1861 does dim yn dangos bod siop Tan y Fynwent yn bod.

Bu farw’r Parchedig William Hughes ym mis Ionawr 1867 yn 48 oed wedi gwaeledd ac erbyn 1871 mae Catherine wedi ail agor y siop ac yn gwerthu nwyddau a dillad. Ganwyd pump o blant i William a Catherine Hughes. William Benjamin oedd yr hynaf, yn bedair ar ddeg oed ym 1871. Bu farw Catherine Hughes ym mis Awst 1877 a daeth oes siop Tan y Fynwent i ben. Cymerodd Ellen, yr hynaf o’r ddwy eneth, y cyfrifoldeb o gadw tŷ i’w brawd Griffith oedd yn weithiwr yn y gwaith plwm.

Daeth Martha Freeman i gadw tŷ i John Thomas, crydd Gongl Gron, wedi marwolaeth ei wraig Elizabeth ym 1857. Chwaer ddibriod Elizabeth oedd Martha, o deulu John Freeman, Penbryn, Llanbedrog. Mae’n debyg i Martha ddod i arian a llwyddodd i adeiladu'r Siop Newydd. Erbyn 1881 roedd wedi agor siop nwyddau yno. Roedd yn amlwg fod ganddi’r gallu i lwyddo yn ei gwaith.

Siop Newydd

Bu’r ddwy siop yn cydredeg am flynyddoedd. Erbyn 1901 mae Margaret Jones, merch yng nghyfraith yr hen John Jones, yn rhedeg siop Ty’n Pwll, ac yn ôl y cyfrifiad dim ond yn gwerthu dillad a defnyddiau, gyda Martha Freeman a’i nith Martha Parry yn gwerthu bwydydd yn y Siop Newydd.

David Parry, fu’n cadw Siop Ty’n Pwll am 24 mlynedd, gyda’i fab Glyn 

Mae'r cyfnod hwn yn hanes siop Ty’n Pwll yn dod i ben gyda marwolaeth Margaret Jones ym 1909. Erbyn 1911 mae Salmon Jones, mab y Felin, wedi priodi gyda Martha Freeman Parry, merch Ty’n Llan, ac maent yn ailgychwyn Siop Ty’n Pwll. Bu’r ddau yno tan ddiwedd y 1940au, Martha yn rhedeg y siop a’r swyddfa bost a Salmon yn ffarmio ychydig o dir. 

Rhwng 1947 a 1971 David a Lilian Parry o Bwllheli fu’n rhedeg y siop. Caeodd y siop yn derfynol yn 1992. 

Mary Parry, merch Martha, sydd yn Siop Newydd gyda’i merch Mary Lizzie Parry. Priododd Mary efo William Parry, mab White Horse, ym 1878 a'u merch Mary Lizzie Parry sydd yn rhedeg Siop Newydd ym 1939.

Bu rhai siopau bach eraill yn y pentref, amryw yn ddim ond ychydig o nwyddau ar fwrdd y gegin, ond does yr un yn agored yn hir; rhai fel John Jones a’i ferch yn 3 Tai Morfa ym 1881, Ellen Jones yn Nhy’n Ffynnon ym 1891, Mary Jones yn Nhrwyn Garreg ym 1891, a Lydia Thomas fu’n prynu a gwerthu blawd am dros ugain mlynedd yn Pengamfa a Chefnen. Cafodd yr hen Dan y Graig dros y ffordd i’r pwmp ei ailadeiladu a’i enwi’n Bryn Berllan tua diwedd y ganrif, a bu Mary Williams a’i gŵr yn rhedeg siop groser yno am rai blynyddoedd wedyn.



                                                         Yr oedd nifer o fusnesau yn y pentref



Cyfraith a threfn

Pan ddechreuwyd mwyngloddio o ddifrif ym mhlwyf Llanengan yn y 1860au daeth gyda’r gwaith hwnnw fewnlifiad o weithwyr newydd a diarth i’r ardal.

Tyfodd poblogaeth y plwyf rhwng 1851 a 1881 o 1,109 i 1,408, ac oherwydd pryderon am ddiogelwch a heddwch, rhoddwyd cais am gael plismon ychwanegol i’r plwyf. Roedd Rhingyll yn ‘Rabar eisoes, ond yr ofn oedd petai rywbeth yn mynd o’i le y byddai yn amhosibl cael cymorth mewn pryd. Roedd y prif gwnstabl ar y pryd, Bulkeley Hughes, yn erbyn ond er hynny llwyddodd y cais, ac ym mis Tachwedd 1870 cafwyd plismon i blwyf Llanengan i rannu’r gwaith ȃ Rhingyll Abersoch. Nid oedd swyddfa bwrpasol yn y pentref ar gyfer y cwnstabliaid newydd; roedd yn rhaid iddynt letya yma ac acw, a cheir cownt ohonynt yn aros yn Nhy’n Ffynnon, Ty’n Pwll, Tyddyn Llan, Penbryn a Theras Pantgwyn, Sarn Bach.

Effaith y ddiod feddwol oedd yn creu’r rhan fwyaf o waith y plismyn, fel yr achos yn erbyn William Roberts, Jac Ifan, a thafarn y Sun. O gwmpas un o’r gloch y bore ar Dachwedd 25ain, 1889, roedd Cwnstabl Edward Pugh yn cerdded o gwmpas y pentref pan ddaeth ar draws William Roberts yn gorwedd yng nghanol y ffordd yn gwbl ddiymadferth yn ei ddiod. Doedd William Roberts ddim yn ddiarth i’r cwnstabl; roedd eisoes wedi ei yrru i’r cwrt ym Mhwllheli droeon am fod yn feddw ac afreolus. Crydd yn y pentref oedd William Roberts, gŵr cwbl ddymunol yn ôl geiriau'r cwnstabl ei hun - ag eithrio pan oedd yn ei ddiod! Am ei fod yn gloff defnyddiai faglau i'w helpu i gerdded. Yn ei ddiod ymosodai ar bobl gan ddefnyddio’r baglau fel pastwn ac achosi helynt iddo’i hun. Y noson hon doedd neb mewn perygl ond William Roberts ei hunan.

Wedi rhoi sylw i William Roberts aeth Edward Pugh tua’r Sun a churo ar y drws. Trwy’r ffenestr gwelodd ddyn yn rhedeg am y drws cefn. Aeth y cwnstabl rownd y gongl i’w gyfarfod a chymerwyd Jac Ifan Williams, Tyddyn Llan i’r ddalfa a’i gyhuddo o yfed wedi oriau cau, rhywbeth na chafodd ei wadu. Pan aeth Pugh i mewn i holi’r dafarnwraig pam fod Jac Ifan yno mor hwyr, ei hateb oedd, “Rhy feddw i fynd allan amser cau oedd o”.

O flaen y fainc ym Mhwllheli dirwywyd Jac Ifan a William Roberts i hanner coron yr un a chostau. Hwn oedd y deuddegfed tro i William Roberts fod o flaen y fainc ar yr un cyhuddiad. Roedd wedi ei garcharu am fis yng ngharchar Caernarfon unwaith, ond doedd y fainc ddim am ei garcharu’r eilwaith. Dywedodd William Roberts nad oedd ganddo’r arian i dalu’r ddirwy a chododd dau ŵr ar eu traed i gynnig talu yn ei le. Cafodd Robert Williams, perchennog y Sun, ddirwy o bum punt a chostau am werthu cwrw wedi oriau cau a chaniatáu meddwi yn ei dafarn. Hwn oedd yr achos cyntaf yn ei erbyn ac oherwydd hynny rhoddwyd rhybudd iddo.

Digwyddiad llawer mwy difrifol oedd yr helynt rhwng William Lloyd, 23 oed o Gilan, gynt o Ffestiniog a Richard Lewis, 41 oed o’r Bontddu, Sir Feirionnydd. Roedd y ddau yn fwynwyr yn y gwaith plwm, Lloyd yn byw efo’i wraig a’i deulu yn Bwlch Gwynt, Cilan a Richard Lewis, gŵr sengl yn lletya ym Machroes, Bwlchtocyn. Nos Sadwrn, Ionawr 23ain, 1874, roedd y ddau wedi yfed yn drwm yn nhafarn y White Horse efo tri arall. Cychwynnodd Lloyd ac un arall am adref ychydig o flaen y lleill, ond yn lle mynd y ffordd arferol ar hyd Lôn Selar a llwybr Tanrallt am Gilan, aeth y ddau i fyny Lôn Bwlch Llan ac aros am y tri arall wedi cyrraedd pen yr allt. Yno dywedodd Lloyd wrth ei gydgerddwr fod ganddo rywbeth i’w setlo efo Richard Lewis a’i fod am ddod â’r mater i ben y noson honno. Mae’n debyg fod anghydfod wedi bod rhwng y ddau ers peth amser.

Cyrhaeddodd Richard Lewis a’r ddau arall ben yr allt lle’r oedd Lloyd yn disgwyl. Yn syth heriodd Lloyd Richard Lewis i setlo’r mater yn y fan a’r lle, ond gwrthod wnaeth Richard Lewis gan ddweud os oedd cwffio i fod y gwnâi hynny rhyw bryd arall a’i fod eisiau llonydd. Ateb Lloyd oedd ei drawo ar ochor ei ben, ond cerdded i ffwrdd wnaeth Richard Lewis. Rhuthrodd Lloyd ar ei ôl a rhoi cic iddo o’r cefn. Yna cafodd afael am ben Richard Lewis, ei wasgu tan ei gesail, a’i drawo yn ei wyneb a’i frest. Erfyniodd Richard Lewis ar y tri arall i’w helpu. Llusgodd y tri Lloyd oddi wrtho a disgynnodd Richard Lewis i waelod y clawdd lle derbyniodd un gic arall gan Lloyd cyn i hwnnw fynd am adref.

Sylweddolodd y lleill nad oedd Richard Lewis yn symud nac yn dweud gair ac ymhen ychydig funudau gwelsant ei fod wedi marw. Aeth un o’r dynion i chwilio am blismon a threfnwyd i gludo’r corff adref i Machroes. Prysurodd y plismon ar ôl William Lloyd i Gilan a’i gael yn ei wely. Gorfodwyd iddo godi a chafodd ei gymryd i’r ddalfa.

Y bore Llun canlynol ym Machroes cafwyd cwest o flaen rheithgor lle dywedodd Dr Williams, Dwylan ei fod wedi methu penderfynu beth oedd y rheswm tros farwolaeth Richard Lewis a bod yn rhaid gwneud mwy o ymchwil. Trannoeth adroddodd Dr Williams ei benderfyniad, fod Richard Lewis wedi marw oherwydd i asgwrn ei gefn gael ei dorri yng ngwegil ei wddf. Dychwelwyd rheithfarn o ddynladdiad yn erbyn William Lloyd a chafodd ei yrru i sefyll o flaen y barnwr yn y Brawdlys nesaf yng Nghaernarfon ym mis Mawrth. Yno cymerodd Lloyd gyngor ei dwrnai a phlediodd yn euog i’r cyhuddiad yn ei erbyn gan ychwanegu ei fod yn edifar am ei ymddygiad ac mai diod oedd achos y cyfan. Dedfrydwyd ef i flwyddyn o garchar gyda chaledwaith am ei ymosodiad ffiaidd a diesgus. Bu farw William Lloyd fis Hydref 1877 yn 27 oed a’i gladdu ym Mynwent Ffestiniog. Gadawodd ar ei ôl dri o blant ifanc ac Ann ei wraig nad oedd ond yn 24 mlwydd oed.

Eithriad oedd digwyddiad mor ddifrifol â hyn yn y pentref, ond bu achlysuron lle medrai’r canlyniadau fod ddigon tebyg.

Erbyn y 1890au roedd pob un o weithfeydd plwm yr ardal wedi cau a’r rhan fwyaf o’r mwynwyr wedi gadael Llŷn. Ym 1895 mewn cyfarfod o Gyd-bwyllgor Heddlu Sir Gaernarfon gofynnodd Abel Williams, Abersoch i’r pwyllgor barchu dymuniad y trethdalwyr i gael llai o blismyn yn y plwyf. Roedd y Cyngor Plwyf hefyd o’r farn nad oedd gwaith i ddau blismon bellach. Eiliwyd y cynnig gan Faer Caernarfon a’i basio. Gofynnwyd i’r Prif Gwnstabl drefnu hyn gynted ȃ phosibl.

Bellach roedd yr ardal yn araf ddychwelyd i’r hen drefn, y drefn cyn y mewnlifiad.

Ffynonellau

North Wales Express, 26 Ebrill 1895

Baner ac Amserau Cymru, 1872

Yr Herald Gymraeg, 6 Chwefror 1874
 Cambrian News, 30 Ionawr 1874

Ble'r oedd Baker's Cafe?


 Pan briododd Alun Jones, gwas Barrach, â Mary Griffith, morwyn Towyn, yn Eglwys Llanengan ym mis Tachwedd 1933 doedd dim rhaid iddynt adael y pentref am eu gwledd briodas.

Roedd y Bakers Cafe, cwt sinc rhwng Gorffwysfa a Chefnen, yn gyfleus iawn o fewn pellter cerdded i’r eglwys.  Hanner coron y pen gostiodd y brecwast, cyfanswm o bunt i wyth ohonynt. Treuliodd Alun a Mary Jones eu bywyd priodasol yng Nghefnen a magu pedwar o blant yno.




  


Yr 'Hall'

 


Ym 1924, gyda chymorth gan Mr H R Roberts, Rheithor plwyf Llanengan, llwyddodd hogiau’r pentref i berswadio’r Eglwys i roddi darn o dir ar gyfer codi adeilad lle gellid ymgynnull i chwarae biliards a snwcer. Cynigiodd yr eglwys gornel yng nghefn yr hen ysgol, ac yn y fan honno aeth yr hogiau ati i wireddu eu breuddwyd. Roedd arian yn brin, ac o’r herwydd, codwyd yr adeilad o goed a sinc gan yr aelodau eu hunain. Wedi ei hadeiladu bu’r Hall, fel y’i gelwid, yn ganolfan cyfarfod am hanner can mlynedd i fechgyn yr ardal.

Yn ystod y 50au fu dim cymaint o fynd ar yr Hall ond yn y 60au cynnar aildaniwyd y diddordeb. Erbyn hyn roedd amryw o fechgyn ifanc y pentref yn cyrraedd oed lle caent ddefnyddio’r cyfleusterau, ac yn fuan cafwyd cymysgedd o bob oedran yn mwynhau cwmnïaeth y ganolfan.

Lewis Roberts, White Horse yn gosod y garreg yn wal y ganolfan newydd.
Ar y chwith a’r dde eithaf, Emlyn a Harri ei feibion.  
Yn y canol Gwilym Meillion a Mali a Bethan ei wyresau. 

Oherwydd adeiladwaith yr Hall doedd hi ddim yn hawdd cadw’r lle’n gynnes, ond po fwyaf o aelodau fyddai yno, cynhesaf fyddai’r awyrgylch. Roedd y tân trydan yn y gongl yn ganolbwynt a gwae unrhyw un fyddai’n sefyll yn rhy hir o’i flaen. Doedd y rheol hon ddim yn cyfrif i Lewis Roberts, White Horse - safai o flaen y tân nes byddai ei drowsus ar gynnau! Wedyn gwthio i mewn ar y fainc i eistedd cyn agosed i’r tân ag y medrai a phinsiad yng nghefn ei goes i unrhyw lanc na ildiai ei le.

 Deuai llawer o dimau i chwarae gemau'r gynghrair i Lanengan, ond doedd dim gwell nac achlysur yr handicap Nadolig, wedi ei threfnu gan Brei Llangian. Byddai’r aelodau yn chwarae yn erbyn ei gilydd i fod yn bencampwr y pentref am y flwyddyn.

Moss Creigir Goch, John Groesffordd, Emlyn Bodorwel,
John Cefnen, Victor Llangian, Bert Groesffordd

Gêm ddiarth i’r hogiau newydd oedd cribej, gêm gardiau i ddau chwaraewr. Câi’r sgôr ei chadw ar fwrdd pwrpasol efo rhesi o dyllau ynddo, a defnyddid coes matsien yn y tyllau i gadw’r sgôr. Gêm ddiddorol, ond ychydig o’r aelodau ifanc gymerodd ddiddordeb. Chwaraeai rhai o’r aelodau hŷn gribej wrth ddisgwyl eu tro i gael y bwrdd snwcer. Mae’n debyg iddi fod yn gêm boblogaidd dros y blynyddoedd. Mae cownt o hen gapteiniaid môr ’Rabar yn ei chwarae yng nghanolfan snwcer y pentref hwnnw.

Erbyn diwedd y 1970au roedd yr hen adeilad wedi mynd i ddangos ei oed. Bu sôn am atgyweirio neu adeiladu un arall, ond sylweddolwyd wrth holi am grantiau y byddai’n haws cael cymorth i adeiladu canolfan newydd, addas ar gyfer y gymdeithas i gyd, ac ym Mehefin 1979 gosodwyd carreg sylfaen y ganolfan newydd gan Lewis Roberts, Tyddyn Llan.

 

Ffynhonnell:
Nodiadau Megan Roberts a Ceinwen Jones.

Porth Neigwl

 

Dafydd Jones, Tyddyn Don, John Hughes, Ty’n Morfa a
John Thomas, Morallt yn gwthio’r cwch i’r dŵr

Ymestyn Porth Neigwl yn bedair milltir o draeth tywodlyd yn wynebu’r de orllewin rhwng Trwyn Cilan a Mynydd y Rhiw.

Ar gyfnodau, pan fydd storm wedi crafu’r tywod, datguddir olion hen goedwig ar y traeth, coedwig a ddiflannodd pan gododd lefel y môr dros bum mil o flynyddoedd yn ôl. Dengys cnau a ddarganfuwyd yn yr olion fod cyll ymhlith y coed oedd yn tyfu yno.

Mae erydiad cyson ar hyd y bae, yn enwedig wedi tywydd gwlyb, wedi peri diflannu aceri o dir i’r môr. Yn ôl yr hen bobl gwaethygodd yr erydu wedi adeiladu’r cob ym Mhorthmadog. Cyn hynny rhedai’r allt yn wyrdd i’r traeth.

Yn 2009, fel canlyniad i erydiad yng nghyffiniau’r afon Wenffrwd, darganfu archeolegwyr ddarn o dderw o’r Oes Efydd oedd yn rhan o gafn neu grochan berwi. Oddeutu 3, 500 o flynyddoedd yn ôl fe’i ddefnyddid i goginio, i baratoi defnyddiau dros y tân neu i fragu – y bragdy hynaf ym Mhrydain o bosibl! Cred yr arbenigwyr fod defnydd cynharach wedi bod i’r pren ac iddo fod yn ddarn o long rhywdro. Erbyn hyn mae’n cael gofal yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Y cafn bragu Llun: © Amgueddfa Cymru

Yn Hynafiaethau Lleyn (1892) cyfeiria’r Parch. J Daniel at hen fynwent nad oes ôl ohoni bellach:

Yma ym ‘Mach Cilan’ y saif rhan o hen fynwent a ddefnyddid yn yr oesoedd sydd wedi myned heibio i gladdu y meirw fuasent wedi boddi yn y mȏr peryglus gerllaw. Cludwyd llawer ohoni ymaith gan donau trochionog y weilgi, yr hyn a fu yn achlysur i rai ddarganfod gweddillion dynol yma o bryd i bryd. Yn ymyl, ar lan afonig y Wenffrwd, cafwyd arch hynod erys ychydig flynyddau yn ôl i lawr tua phum llath yn y ddaear. Yr oedd tair gafael wedi eu cafnio ym myrddau tewion ei dwy ochr, hynny yw, tair un tu, a thair y tu arall, fel y gallasai chwech o ddynion ei chludo i’r Gladdfa. Y mae yma ffynhonnell fechan, dwfr yr hon a ystyrir yn feddyginiaethol, ac a elwir yn ‘Ffynhon y Beddi’ hyd heddiw.

Sonia hefyd am Ogof Engan ‘lle yr ymguddiai Engan Sant, brenin y Rhandir hon, ac offeiriad Llanengan, pan y byddai yn cael ei erlid gan ei elynion’.

Nid oes sicrwydd pwy oedd y Neigwl roddodd ei enw i’r bae. Ym marn bendant Myrddin Fardd Nigel de Lohareyn, penystafellydd y Tywysog Du (c.1428) oedd Neigwl. Awgryma eraill mai gwreiddiau Gwyddelig neu Sgandinafaidd sydd i’r enw.
Mae’r enw Saesneg, sy’n cyfieithu’n Safn Uffern, yn awgrymu pa mor beryglus yr ystyrid y bae yn y dyddiau a fu. Tros y blynyddoedd aeth sawl llong i drybini yma.

Pan aeth y Perseveranza, llong o’r Eidal, i lawr ym 1883 gyda chargo o goed aeth ei llwyth ar werth ym Mhwllheli. Fe’i prynwyd yn rhad gan Reithor y Plwyf a’i gludo ar droliau i Fotwnnog. Yno, fe’i defnyddiwyd i adeiladu’r eglwys newydd yn cynnwys y côr, y seti a’r pulpud.

Ond mae’n amlwg yn ôl adroddiad papur newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn na chyrhaeddodd y llwyth cyflawn o goed Fotwnnog:

CYHUDDIAD O DDWYN WRECK – Cyhuddwyd John Evans, Porthneigwl, o ladrata rhan o goed y Perseveransa – y llong a gollodd yn Mhorthneigwl ddechreu y flwyddyn. Ni wnaeth y diffinydd ei ymddangosiad. Dygwyd yr un cyhuddiad yn erbyn William Jones, Nant, Pencilan; Edward Hughes, Bwlchgwynt; a William Williams, Gwter. Cafodd Mr Grace, yr hwn oedd yn edrych ar ôl y wreck, a Sargeant Jones Abersoch, hyd i blanciau yn ymyl tai y diffynwyr. Gan fod amheuaeth yn achos Williams, tynnwyd y cyhuddiad yn ôl. Dirwywyd y ddau arall 3p, a 18s yr un o gostau.

Nid dyna’r unig achos ddaeth i’r llys yn gysylltiedig â’r llong anffodus. Aeth y cwbl yn ormod i’r mêt a thrywanodd ei hun. Fel canlyniad fe’i cyhuddwyd yn llys yr ynadon o geisio’i ladd ei hun. Trwy drugaredd cafodd ei ryddhau a dychwelodd ar ei union i’r Eidal.

Bu’r flwyddyn 1898 yn arbennig o ddrwg pan aeth tair llong i lawr. Yr enwocaf oedd y sgwner Twelve Apostles. Cychwynnodd ar ei mordaith gyntaf o Bwllheli ym Mai 1858 a threuliodd ran helaeth o’r 40 mlynedd nesaf yn cario llechi o Borthmadog. Ym mis Tachwedd 1898, yn cario balast o Southampton tuag adre, aeth i drafferthion mewn storm ym Mhorth Neigwl ac fe’i drylliwyd. 

Ym mis Awst yr un flwyddyn fe ddrylliwyd yr Aggravator mewn storm wrth ddadlwytho glo rhyw filltir o droed y Rhiw. Mae ei boilar yn dal yn y golwg ar drai.

Y drydedd oedd y sgwner Joseph Nicholson fu mewn gwrthdrawiad ȃ sgwner arall, y Walter Ulric, y ddwy long yn masnachu o Borthmadog.

Ym 1898 hefyd yr aeth yr S.S. Mohegan i lawr oddi ar arfordir Cernyw. Richard Griffith, mab 46 oed Hugh a Mary Griffith, Creigir Uchaf oedd Capten y llong honno ac roedd yn un o’r 106 a gollwyd. Yn ddiweddarach fe’i claddwyd gyda’i rieni ym Mynwent yr Eglwys.

Flwyddyn y ddiweddarach, ym mis Hydref 1899, yr un oedd tynged y sgwner Rob the Ranter pan aeth i drafferthion mewn storm ym Mhorth Neigwl. Gwelodd John Williams, mab Trefollwyn, fod y llong mewn trybini ac aeth i geisio achub y rhai ar ei bwrdd. Mae’r disgrifiad o Borth Neigwl, y storm ac achub y llongwyr yn Baner ac Amserau Cymru yn bur ddramatig:

Lle ofnadwy ydyw yn ystod tywydd ystormus. Ceir creigiau sythion, ysgythrog, megis yn awchus am falurio llongau a chyrph dynion ... Yn ystod y storm daeth Rob the Ranter i’r gymmydogaeth ofnadwy hon ... Daeth y llestr i guro ac i falurio yn erbyn y tir. Deuai y tonau i fyny y traeth fel catrawd o fynyddoedd ofnadwy yr olwg arnynt ... Os sugnid y llong a’r criw i ddannedd y creigiau, darfyddai am bawb a phopeth. Aeth John Williams i ganol y rhyferthwy, gafaelodd yn islywydd y llong pan oedd hwnnw ar foddi, a daeth ag ef i’r lan. Yn ôl ag ef wedyn. Llwyddodd i gyrraedd dau frawd, y naill yn gafael yn sawdl y llall, a’r ddau yn cael eu lluchio gan y tonnau ofnadwy. Bu am beth amser yn ymladd i ddwyn y ddau druain i’r lan.

Llwyddodd John Williams i achub pedwar o’r criw y diwrnod hwnnw ac am ei ymdrechion enillodd fathodyn arian Cymdeithas Ddyngarol Freiniol Llundain.
Ar hyd y blynyddoedd manteisiodd trigolion yr ardal ar y broc olchid i’r lan ar ȏl stormydd. Unwaith y byddai unrhyw un wedi llusgo broc (coed fel arfer) o’r traeth i fyny’r allt eiddo’r person hwnnw fyddai. Treuliai un cymeriad o Gilan, Bila, William Roberts yn swyddogol, y rhan fwyaf o’i amser yn hel broc môr ar y traeth. Yn dilyn stormydd dywedir iddo fynd i lawr i’r traeth a gweiddi ar y môr-  

Hwi wynt, chwytha!
Hwi long, dryllia! 
Hwi froc, tyrd i’r lan
Fi sy yma gynta!

Mae hanes iddo gymryd dyddiau i gario grisiau llong ddaeth i’r lan o dan Trefollwyn yr holl ffordd i Gilan gan ei guddio tros nos yn y twyni tywod.




Nid am y llongddrylliadau mae Porth Neigwl yn enwog bellach ond caiff ei gydnabod fel un o draethau brigfyrddio gorau Cymru. Ar adegau, pan mae’r gwynt a’r llanw yn y lle iawn a’r tonnau ar eu gorau, gwelir degau yn heidio am y traeth ac mae’n werth gwylio crefft yr arbenigwyr yn byrddio’r ewyn. Tipyn o newid o ddyddiau’r cychod hwylio, ond mae’r peryglon yma o hyd a fflyd o arwyddion cochion yn rhybuddio nofwyr a syrffwyr am y cerrynt twyllodrus.

Olion dyddiau a fu ym Mhorth Neigwl


Ffynonellau

Caernarvon & Denbigh Herald, 30 Tachwedd1883
Y Genedl Gymraeg, 28 Mawrth1883
Baner ac Amserau Cymru, 10 Ionawr 1900
Hynafiaethau Lleyn, Y Parch. J. Daniel, 1892 


Effeithiau Rhyfel ar Lanengan

Fel pob cymuned drwy Gymru collodd Llanengan ddynion ifanc yn y ddau Ryfel Byd. Ar y gofeb yn Neuadd Abersoch i’r rhai a gollwyd yn rhyfel 1914-18 enwir John Jones Pengamfa, John L. Jones Glanmorfa, T.E. Parry ’Roffice a David E. Roberts Minffordd.

Mae hanes trist iawn i Thomas Evan Parry, llanc ifanc yn amlwg o natur ddwys, na allai ymdopi ȃ holl oblygiadau rhyfel. Yn ôl y deyrnged iddo yn Yr Herald Gymraeg ym mis Ebrill 1916: 

Ym mis Chwefror ymunodd â’r fyddin, ond nid o’i fodd, ac ymhen tair wythnos torrodd i lawr... Roedd yn fachgen ieuanc hoff a siriol ac yn hynod o grefyddol... Roedd byw yn sŵn iaith ei gyd-filwyr yn torri ei galon.

Erbyn diwedd mis Mawrth, yn 24 mlwydd oed, roedd wedi marw 

Yn ystod blynyddoedd y rhyfel golchwyd nifer o gyrff i’r lan ym Mhorth Neigwl. Claddwyd tri ym Mynwent yr Eglwys wedi i’w llong gael ei suddo ym mis Hydref 1917 a chasglodd y trigolion ar gyfer carreg fedd i’w coffáu hwy a sawl un arall a olchwyd i’r lan ym Mhorth Neigwl. 

Pan aeth y Burutu i lawr yn dilyn gwrthdrawiad rhyw 25 milltir i’r de orllewin o Enlli ym mis Hydref 1918 collwyd cant a hanner o’r ddau gant ar ei bwrdd. Daeth nifer o’r cyrff i’r lan ar draethau Llŷn a chladdwyd chwech ohonynt ym Mynwent Eglwys Llanengan. 

Am gyfnod cafodd carcharorion rhyfel eu cadw yn adeilad yr Ysgol Genedlaethol ac adeiladwyd ffens ar ben y wal i’w caethiwo yno. Ceir hanes un carcharor lwyddodd i ddianc o wersyllfa Llanengan ond yn ôl yr adroddiad yn Yr Herald Gymraeg nid aeth bellach na Chastellmarch cyn i’r heddwas Roberts o Abersoch ei ddal a’i gymryd i’r ddalfa. 

Ers 1917, oherwydd prinder llafur, roedd carcharorion wedi cael eu defnyddio i weithio tu allan i’w gwersylloedd, ar y tir yn bennaf. Ym mis Awst 1918 yn Llanengan, yn ôl Yr Herald Gymraeg, ‘cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Amaethyddol Rhyfel dan lywyddiaeth Mr C H Lloyd Edwards i ystyried... draenio 300 acer ar hyd yr Afon Soch o Bont Rhydolion i Bontnewydd, Llangian.’ Roedd yr holl dirfeddianwyr yn bresennol a chytunwyd i wneud y gwaith oedd yn cynnwys newid cwrs yr afon wrth fferm Pen y Bont. ‘Hysbyswyd y byddai i’r llywodraeth ddwyn hanner y draul a’r tirfeddianwyr yr hanner arall ac y byddai i’r gwaith gael ei wneud gan garcharorion Almaenaidd.’

Collwyd cymaint o ddoniau fel canlyniad i’r rhyfel hwn fel pob rhyfel drwy’r oesau. Bu raid i Lewis Roberts, White Horse adael cae gwair ar Lȏn Morfa ar hanner ei gynaeafu pan gyrhaeddodd gwŷs iddo fynd i Kinmel Park. Ysgrifennodd Owen Griffith, Cefn ato fel hyn:

Annwyl gyfaill Lewis Roberts
Yn Llanengan caret fod
Ond yn Kinmel Park wyt heddiw
Dysgu saethu at y nod.
Nid y nod yw y gwningen
Na phetrisen neis ychwaith, 
Ond er dysgu saethu Jyrmans 
Er nad yw dy hoffus waith.

Dychwelodd Lewis Roberts o’r rhyfel yn ddianaf a bu’n adeiladydd uchel ei barch yn y gymdogaeth ar hyd ei oes. Roedd yn godwr canu yng Nghapel y Bwlch am flynyddoedd. Gorwyr iddo yw Al Lewis, cerddor dawnus sy’n enwog drwy Gymru a thu hwnt, a gorwyres, Miriam Jones, Pen Morfa, turniwr coed y mae galw am ei gwaith ledled Cymru a gweddill gwledydd Prydain.

Bu’r Ail Ryfel Byd yr un mor greulon. Ym mis Rhagfyr 1944 lladdwyd John Griffith, Bwlch Gwyn yn yr Eidal yn 25 mlwydd oed a’i gladdu yn Faenza. Flwyddyn yn gynt roedd Eryl, mab Y Parch. H D Lloyd, gweinidog y Bwlch, wedi ei golli yng Ngogledd Affrica a’i gladdu yng Nghladdfa Filwrol Bouarada. Yntau’n 25 mlwydd oed.

Ag eithrio colli’r hogiau, effaith pennaf y rhyfel ar yr ardal oedd dyfodiad yr ysgol fomio i Borth Neigwl. Er gwaethaf dadleuon dros ddiarfogi, roedd y llywodraeth yn Llundain wedi penderfynu ym 1934 bod raid cynyddu arfau ac awyrennau rhyfel. 

Ym mis Mai 1935 roedd proposals under consideration for the establishment of an armament training camp and an aerodrome... at Hell’s Mouth in Carnarvonshire. 

Er gwaethaf gwrthdystio prynwyd chwe fferm yn y cylch i’r pwrpas gan y Weinyddiaeth Awyr (a fferm Penyberth ger Llanbedrog). Chwalwyd ffermdy sylweddol Punt y Gwair yn llwyr. 


Roedd Plaid Cymru ar y pryd, dan lywyddiaeth Saunders Lewis, yn daer yn erbyn y datblygiad, gwrthwynebiad a arweiniodd at weithredu uniongyrchol yn erbyn yr adeiladu ym Mhenyberth, y ‘tân yn Llŷn’.

Bu’r Ysgol Fomio yn weithredol hyd 1945. Dysgid milwyr i saethu â gynnau llaw at dargedi symudol yn y twyni tywod ac roedd targedi yn arnofio yn y bae i awyrennau ymarfer bomio.

Yn ei darlith ‘Puryd a Mân Us’ mae Megan Roberts, Brynteg yn sôn am ei hofn fel plentyn ysgol pan rybuddiodd ei thad hi y byddai 

...yn beryg iawn yma, w’sti, pan ddechreuith y rhyfal – rhwng Porth Neigwl a Phenyberth. Ella bydd y Jyrmans yn bomio llefydd pwysig fel’na. Mae’r llywodraeth yn talu am bob dim ac rydw i wedi trefnu i ti gael mynd i Canada... nes bydd y rhyfel drosodd.

 Wedi nosweithiau digwsg daeth rhyddhad i Megan o glywed ei bod yn rhy hen i gael ei hystyried am y fath beth.

Ond roedd Llŷn yn fwy diogel na threfi mawr Lloegr a derbyniodd yr ardal faciwîs – o gyfeiriad Lerpwl yn bennaf. Cyrhaeddodd nifer Neuadd Abersoch, yn ofnus a hiraethus, i gael eu croesawu gan deuluoedd y cylch. Atgofion melys am y cyfnod oedd gan y rhan fwyaf wrth ddychwelyd at eu rhieni ddiwedd y rhyfel. Arhosodd ambell un. Un o’r rheiny oedd Morris Jones a ddaeth i’r pen yma o gyffiniau Manceinion. Ar ddiwedd y rhyfel ddychwelodd Moi ddim. Mewn amser priododd ȃ Betty, merch White Horse, ac mae rhai o’u disgynyddion yn dal i fyw yn lleol. 

Nid pob milwr adawodd yr ardal ar ddiwedd eu cyfnod hyfforddi chwaith. Priododd mwy nag un ȃ merched lleol ac aros. Roedd Bill Johns o Dredegar, Cwm Rhymni yn y Llu Awyr ac wedi dod o Benyberth i ymarfer targed ym Mhorth Neigwl. Cyfarfu â Maggie, merch Trefollwyn Bach, pan aeth yno i brynu wyau. Mae eu disgynyddion hwythau yn dal i fyw yn y pentref a’r cylch.

Mae olion yr ysgol fomio i’w gweld o hyd, ond y tiroedd wedi eu dychwelyd i’w priod ddeunydd heddychlon, ac yn cael eu ffermio gan deuluoedd lleol. 


Ffynonellau

Tân yn Llŷn, Dafydd Jenkins, Gwasg Aberystwyth, 1937

Yr Herald Gymraeg, 16 Medi 1919

Yr Herald Gymraeg, 7 Awst 1918

Puryd a Mân Us, Megan Roberts, Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd 1983


Evan Evans

 Cofir am Evan Evans fel gŵr roddodd oes o wasanaeth i achos y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghapel y Bwlch, Llanengan. Fe’i ganwyd yn fab i Catherine Jeremiah a William Evans o’r Llwyndu ar Ebrill 1af, 1829. Symudodd y teulu i Dai Cae Bach yn y pentref am gyfnod cyn cartrefu yn Nhan y Fron, ’R Ochor. Fel ei dad o’i flaen, saer maen oedd Evan wrth ei alwedigaeth. 

 Erbyn 1881 roedd wedi ymgartrefu yn Nhŷ Capel y Bwlch gyda’i chwiorydd Ann ac Ellen. Bu farw’r ddwy chwaer o fewn ychydig fisoedd i’w gilydd yn niwedd 1889 a dechrau 1890. Yna ym 1891, pan yn 62 mlwydd oed, priododd Evan Evans gydag Ellen Jones, gwraig fu’n cadw siop fechan yn Nhy’n Ffynnon gyda’i chwaer am gyfnod. 

 Mae’n debyg na threuliodd Evan Evans yr un diwrnod mewn ysgol ddyddiol, ac na chafodd ond tri mis o addysg mewn ysgol nos, rhywbeth rhyfeddol o ystyried yr holl waith ysgrifennu llythyrau, erthyglau a llyfrau a wnaeth. Er mai saer maen oedd wrth ei alwedigaeth, roedd gwaith y capel lawn mor bwysig iddo. Bu’n athro, holwr ac yn arolygwr yr Ysgol Sul. Ym 1871 cafodd ei benodi’n flaenor, swydd y bu ynddi am 35 mlynedd. Bu’n llywydd y Cyfarfod Misol ac fel ysgrifennydd yr eglwys cynrychiolodd y Bwlch mewn llu o wahanol gyfarfodydd a chymanfaoedd ar hyd a lled Llŷn ac Eifionydd. Ym 1904 derbyniodd Fedal Anrhydedd am ei weithgarwch tros y blynyddoedd. 

 Yn berchen llyfrgell nodedig, yn cynnwys llyfrau a phapurau Cymraeg yn unig, bu’n ddarllenwr mawr trwy gydol ei oes. Ysgrifennodd bapur ar ‘Dirwest a’r Aelwyd’ a gafodd ganmoliaeth eang, a phapur ar ‘Sut i fod yn Flaenor’ lle mae’n dweud mai anrhydedd o’r mwyaf oedd cael ei ddewis yn flaenor, ac nid rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Fe’i canmolwyd hefyd am ei lyfryn, Hanes yr Achos yn Llanengan, lle mae’n adrodd hanes yr achos o’r cychwyn yn Pengogo nes cyrraedd eu cartref yng Nghapel y Bwlch. Gydol ei gysylltiad â’r capel cofnododd pob digwyddiad a phenderfyniad o ddydd i ddydd mewn dyddiaduron sydd yn rhoi disgrifiad diddorol o’r gweithgareddau. Mae’r rhain yn awr yn Archifdy Prifysgol Bangor.

Ac yntau yn ŵr mor ddiwyd a phrysur, ac yn amlwg yn uchel ei barch, nid rhyfedd i Ellen Hughes nodi yn ei theyrnged wedi ei farwolaeth fore Sul, Mai’r 6ed, 1906:

Chwith yw gweled Llanengan heb Evan Evans yn ôl tystiolaeth pawb. Wedi dychwelyd ohonom o’i angladd, teimlem fel pe byddai yr ardal bellach yn wag.



Ffynonellau

Y Goleuad, 30 Mai1906

Llyfr Seiadau’r Bwlch


 

 

 

 


Ellen Hughes, Tan y Fynwent – merch o flaen ei hoes


 


Ym mis Mai 1862 ganwyd merch yn Nhan y Fynwent, Llanengan a ddaeth mewn blynyddoedd yn adnabyddus drwy Gymru benbaladr. Roedd Ellen Hughes yn un o bump o blant y Parch. William Hughes, gweinidog Capel y Bwlch rhwng 1854 ac 1867, a’i briod Catherine. Bu farw ei brawd, y Parch. William Benjamin Hughes, o’r ddarfodedigaeth yn 23 mlwydd oed, cyn gorffen ei gwrs yn Athrofa’r Bala.

Ychydig o ysgol a gafodd Ellen ond o’r cofnod yn llyfr Seiadau Capel y Bwlch gwelir ei bod, yn ifanc iawn, yn hyddysg yn ei Beibl.



Erbyn 1877, a hithau’n 15 mlwydd oed, roedd wedi colli ei dau riant ac yn amddifad. Am gyfnod bu’n cadw cartref yn Nhan y Fynwent i Griffith, ei brawd, oedd yn fwynwr yn y gwaith plwm. Treuliodd rai blynyddoedd hefyd gyda Lydia, ei chwaer, oedd yn byw yn Bedford ac yn ‘drapery clerk’ yn un o siopau’r dref honno.

Digwyddodd y trobwynt ym mywyd Ellen Hughes pan ddaeth i gysylltiad ȃ Sarah Jane Rees, Cranogwen, gwraig a gafodd ddylanwad mawr arni ac mewn amser daethant yn gyfeillion. Cafodd gwaith Ellen, yn farddoniaeth a rhyddiaith, ei gyhoeddi yn rheolaidd am dros ddeugain mlynedd yn Y Frythones, cylchgrawn yr oedd Cranogwen yn olygydd arno, a thrwy hyn daeth Ellen yn enwog fel bardd a thraethydd. Ymddangosodd ei gwaith hefyd mewn nifer o gylchgronau eraill megis Y Drysorfa, Trysorfa’r Plant, Y Goleuad ac am ddeng mlynedd ar hugain yn ymron pob rhifyn o’r Gymraes.

Teithiai’r wlad yn darlithio ar bynciau megis ‘Gwroldeb Moesol’, ei darlith gyhoeddus gyntaf a draddodwyd sawl gwaith wedyn. Ynddi pwysleisia bod ‘gwroldeb yn angenrheidiol i bawb ... mab neu ferch.’

Dadleuai’n frwd dros hawliau merched yn ei herthyglau a’i darlithoedd - megis ‘Y Fenyw Newydd’ a ‘Merched a Chynrychiolaeth’ - a phan symudodd, dan ddylanwad Cranogwen, i Donpentre yn y Rhondda ym 1901 bu’n annog ac yn hyfforddi merched i siarad yn gyhoeddus. Bu’n weithgar dros y mudiad dirwest yno ac fe’i penodwyd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Undeb Dirwestol Merched y De a byddai’n annerch cyfarfodydd ar eu rhan. 



Dyma fel yr adroddir am ddarlith a draddododd yn y Rhondda ym mhapur Tarian y Gweithiwr ddechrau’r flwyddyn 1900.

‘Nos Fercher, Ionawr 24ain, yn Festri Jerusalem, Ystrad Rhondda, bu Miss Ellen Hughes, Bedford, yn traddodi ei darlith odidog ar ‘Anfanteision, a pha beth i wneud a hwy, ' i gynulleidfa luosog. Cadeiriwyd mewn modd nad ellid rhagorach gan Miss Cranogwen Rees, yr hon oedd yn aros yn y gymdogaeth, a rhwng athrylith y foneddiges oedd yn y gadair ac eiddo y ddarlithyddes, nid yn fynych ... y cafwyd gwledd feddyliol o radd mor uchel. Fel llenores, yr oeddem yn gynefin a'i henw er's blynyddau; ond dyma y tro cyntaf i ni ei chlywed yn darlithio. Pa fodd bynnag, nid dyma y tro diweddaf iddi ddyfod i'r Rhondda. Cafodd y gwrandawiad mwyaf astud a'r gymeradwyaeth fwyaf brwdfrydig, ac nid rhyfedd hyny, oblegyd yr oedd y ddarlith yn gyforiog o'r 'humour' puraf, y farddoniaeth fwyaf aruchel, a synid pawb gan fanylder a chraffder ei sylwadaeth ar bob mater y cyffyrddai ag ef. Pawb a fynent fwynhau gwledd feddyliol uchelryw a'i thuedd uniongyrchol i buro a dyrchafu y gwrandawyr, boed iddynt anfon yn ddiymdroi am Miss Hughes. Mewn gwirionedd y mae uwchlaw pob canmoliaeth, ac yr ydym yn gwbl hyderus y tystia pawb o farn a chwaeth, wedi unwaith ei gwrando, na fynegwyd yr haner.’

Dywed hi am y cyfnod yn y Rhondda y ‘cefais yno ddyddiau dedwyddaf fy mywyd.’

Yng nghylchgrawn Y Gymraes ym 1900 mynega Cranogwen ei balchder o fod wedi darganfod Ellen, ‘yr ohebyddes ddyddorol o Lanengan’ a dyfodd i fod ‘yn un o wroniaid meddyliol ei hoes, a hynny, pe byddai bwys ei ddweyd, heb gyfrif rhyw.’ 

Tipyn o glod i ferch Tan y Fynwent! 

Cyhoeddwyd casgliad o waith Ellen Hughes - barddoniaeth a rhyddiaith a ymddangosodd eisoes mewn gwahanol gylchgronau - mewn dwy gyfrol, Sibrwd yr Awel (1887) a Murmur y Gragen (1907)

Yn rhifyn Tachwedd 1897 o’r cylchgrawn Heddyw ysgrifennodd erthygl, ar gais y golygydd 

O M Edwards, dan y teitl ‘Beth a wneir yn Llanengan Heddyw.’ Wedi nodi’r dirywiad yn y gwaith plwm tynna sylw at fasnach oedd yn cynyddu hyd yn oed bryd hynny, ganrif a chwarter yn ȏl. 

’Ers blynyddau bellach y mae Llanengan – yn arbennig Abersoch – wedi dod yn gyrchfa ymwelwyr ym misoedd yr haf... Y mae amryw dai wedi eu hadeiladu yn y blynyddoedd diweddaf gyda’r rhagolwg o fod yn fanteisiol i gymeryd ymwelwyr. Mewn amryw amgylchiadau y mae ymwelwyr yn talu mor dda, fel nad ydyw preswylwyr y tai yn grwgnach am yr amddifadrwydd o gysuron y maent yn brofi yn aml yn ystod eu harhosiad.’ 



Yn yr un erthygl gresyna na chafodd y mudiad dirwest fawr o lwyddiant yn Llanengan ac yr aeth sawl ymdrech i’r gwellt yn cynnwys cangen o Gymdeithas Ddirwestol Merched Prydain. 

Yn y gerdd ‘Bryn Cras’, a ymddangosodd yn rhifyn mis Tachwedd 1888 o Drysorfa’r Plant, disgrifia fynd am dro i fyny ‘R Ochor a thros ben Bryn Cras. Wedi sôn fel mae’r daith yn peri iddi anghofio’i helbulon a’i gofidiau, manyla ar yr hyn a wêl ac a glyw. Nid yw ei hatgofion o brofiadau ysgol yn rhai pleserus!

Ah! Dacw dŷ’r caethiwed
Yn sefyll yn y pant!
P’le mae’r wialen adgas, 
Gelynes flin y plant?
Ond, waeth pa le! Ni fynnaf
Adgofio chwerw flas
Mwynhâf fy rhyddid heno
Ar ben Bryn Cras.

Caf glywed rhu Porth Neigwl
Yn curo’n feiddgar, hyf, 
Yn erbyn creigiau Cilan
Ei frochus donau cryf;
Ac yn ei sŵn breuddwydiaf
Am awyr deneu, las 
Paradwys y dyfodol
Ar ben Bryn Cras.

Yn ôl yn Llanengan y bu farw Ellen ar Fai 11eg, 1927 ac fe’i claddwyd ym mynwent y Bwlch gyda’i brodyr, William Benjamin a Griffith.

Tan y Fynwent i'r dde o'r eglwys



Ffynonellau

Trysorfa’r Plant, Tachwedd 1888

Papur Pawb, 20 Ionawr 1894

Heddyw, Tachwedd 1897

Y Gymraes Cyf 1V. Rhif 40. Ionawr 1900

Tarian y Gweithiwr, 1 Chwefror 1900

Tarian y Gweithiwr, 27 Rhagfyr 1900

Murmur y Gragen, Ellen Hughes, Swyddfa’r Goleuad, 1907

Y Genedl, 22 Chwefror, 1916

Llyfr Seiadau’r Bwlch 

Barn, Chwefror 2023

Cranogwen, Jane Aaron, Gwasg Prifysgol Cymru, 2023  


Dr Dwylan

 Ni ellir sôn am Lanengan heb ddweud ychydig am gyfraniad Dr Williams, Dwylan i’r pentref a’r cylch. Mab William Thomas, pensaer o Bwllheli, oedd Dr Thomas Williams. Priododd gyda Catherine Williams, merch Tan yr Allt, Abererch ym 1826 pan yn 21 oed a symud o Bwllheli, yn gyntaf i Blas Llwyndu, yna i Dwylan lle bu’n feddyg am yn agos i hanner can mlynedd.

 O gwmpas 1843 doedd dim ysgol o gwbl yn y plwyf, ond drwy ymdrechion Dr Williams a’i gyfeillion daeth grŵp ynghyd i gydweithio er mwyn rhoi addysg i’r plant. Anfonwyd i Lundain at y Pwyllgor Cyngor ar Addysg am gymorth tuag at adeiladu ysgol. Yr oedd yr ysgol i’w chysylltu â Chymdeithas yr Ysgolion Brytanaidd a Thramor ac yn agored i bob enwad. Derbyniodd y Pwyllgor yn Llundain amryw o lythyrau gan wrthwynebwyr yn eu hannog i wrthod y cais, ond wedi derbyn addewid gan y llywodraeth bod arian i’w gael gyrrodd Dr Williams a’i gyfeillion ymlaen gyda’r gwaith, ac erbyn Hydref 1845 agorwyd yr ysgol gyntaf yn y plwyf. Adeiladwyd ysgol newydd a thŷ ar gyfer yr athro ar dir Dwylan. Ysgol Dwylan neu’r Ysgol Bella oedd enw’r bobl ar yr adeilad newydd. 

 Ymgyrch arall a brofai frwdfrydedd Dr Williams tros achosion oedd yn agos at ei galon oedd cael capel newydd i’r Methodistiaid Calfinaidd yn y Bwlch. Safai hen Gapel y Bwlch dros y ffordd i Bodorwel heddiw gyda’r Hen Dŷ Capel wrth ei ochor. Erbyn diwedd y 1860au roedd yr aelodau’n pryderu ynghylch cyflwr yr hen gapel. Roedd blynyddoedd o weithio yn chwarel haearn Tan yr Orsedd, drws nesaf i’r capel, wedi gadael ei ôl ar yr adeilad a’r tir o gwmpas. Hefyd roedd y capel wedi mynd yn rhy fach ar gyfer yr aelodaeth, ac roedd y lês ar y tir lle safai yn dod i ben mewn ychydig o flynyddoedd. 

 Penderfynwyd, oherwydd y pryderon hyn, mynd ati i adeiladu capel newydd. Erbyn hyn roedd Dr Williams yn un o flaenoriaid yr hen gapel. Gofynnwyd iddo ysgrifennu at David Williams Ysw. Castell Deudraeth, perchennog y Bwlch, i ofyn a fyddai’n fodlon rhoi darn o dir ar gyfer yr ymgyrch newydd hon. Wedi peth llythyru rhwng y ddau cynigiodd David Williams dri chwarter erw o dir, sef perllan y Bwlch, y darn oedd wedi cymryd bryd yr aelodau o’r cychwyn. Ni chostiodd y tir yr un geiniog ac o'r herwydd aeth pob ceiniog a godwyd ar gyfer y gwaith o adeiladu’r capel newydd.

 Erbyn 1871 roedd y capel wedi ei godi ac yn fuan wedyn ceisiwyd am drwydded i gynnal priodasau. Ar Awst 22ain,1873 gweinyddwyd y briodas gyntaf yn y capel newydd, priodas rhwng Daniel Jones o Morfa Bychan ac Eliza Roberts, Bryn Celyn, Cilan. Mae tystysgrif y briodas hon yng ngofal eu gorwyres, Iris Awen, Bwlchclawdd, Cilan hyd heddiw.

 Pris adeiladu’r capel oedd £993.14.6 a thalwyd y cyfan namyn £115 yn y flwyddyn gyntaf. Ym 1877 cynigiodd Dr Williams a’i wraig gyfrannu £40 tuag at dalu’r ddyled pe byddai’r aelodau yn cyfrannu’r £75 fyddai’n weddill, a thrwy eu haelioni hwy y talwyd y ddyled olaf yn gyfangwbl. 




 Edmygid Dr Williams fel meddyg yn Llanengan oherwydd ei waith elusennol a’r gofal a roddai i’w gleifion. Bu wrth y gwaith am bron i hanner can mlynedd. Ym 1855 collodd Catherine, ei wraig. Bedair blynedd yn ddiweddarach, ym 1859, priododd â Martha Davis o’r Wyddgrug. Tua 1875 gadawodd ei feddygfa yn Dwylan yn nwylo’i ŵyr Dr Thomas Williams Hughes a symud i’r Wyddgrug, a thrwy'r blynyddoedd nesaf ymgymerodd yng ngwaith y capel a’r ysgol yn y fan honno. Ar Fedi 25ain, 1884, wrth gerdded gyda’r rheilffordd yn ymyl ei gartref yn Yr Wyddgrug, cipiwyd ei gôt gan drên yn teithio rhwng Caerleon a’r Wyddgrug a chafodd ei lusgo am rai llathenni. Roedd ei glwyfau mor ddychrynllyd fel y bu farw yn y fan a’r lle. Roedd yn 79 mlwydd oed.

 Symudwyd ei gorff yn ôl i gartref ei deulu yn Dwylan, ac ar y dydd Mawrth canlynol cynhaliwyd yr angladd ym Mynwent Eglwys Llanengan. Cariwyd yr arch o Dwylan i’r fynwent gan denantiaid ffermydd Dwylan, ac fe’i rhoddwyd yn y bedd gan bedwar o flaenoriaid Capel y Bwlch. Gyda thorf fawr wedi ymgynnull i ddangos eu parch tuag ato, fe’i claddwyd gyda’i ddiweddar wraig Catherine.

Mae gan W G Williams, Scranton, Pennsylvania, gynt o’r Sarn, air da iawn iddo:

Drwg gennyf glywed am farwolaeth y gŵr urddasol hwnnw Dr Williams, Llanengan gynt gan fy mod wedi derbyn cymwynas oddi ar ei law, sef wedi fy ngwella pan roedd pawb arall wedi methu. Gobeithiaf y bydd ei ŵyr sydd yn Llanengan ddod i safle mor anrhydeddus a’i daid yng ngolwg y wlad.


Ffynonellau

Y Genedl Gymraeg, 12 Tachwedd 1884 t 8

Y Drysorfa (Caerleon) 1 Ionawr 1845 t 22

Methodistiaeth Llanengan o’r flwyddyn 1741 hyd y flwyddyn 1873. Adroddiad cyflawn am y Capel Newydd. Argraffwyd gan R.Owen, Heol Fawr.

 Y Goleuad, 10 Tachwedd 1884


Evan Lloyd Edwards

 Dyma sut y cofnododd Edward Jones (taid Megan Roberts, Brynteg) hanes Evan Lloyd Edwards yn un o gyfres o benillion a ysgrifennodd adeg agor gwaith plwm Tanrallt: 

Daeth Edwards y Cefn yn bresennol
I’r ardal i drio ei ffawd;
Fe lwyddodd i agor y cwpwrdd
A’r trysor i’r golwg a gawd.

Fe wnaeth yr hen gyfaill ei ffortiwn
Trwy drysor cuddiedig y graig, 
I orffen ei ffortiwn yn gyflawn, 
Yn ardal Llanengan ca’dd wraig.

Brodor o Feddgelert oedd Evan Lloyd Edwards, yn briod ȃ Catherine Griffith, merch Mur Cwpwl, Cilan; priodwyd y ddau yn Eglwys Llanengan ym mis Tachwedd 1826. Mwynwr yng ngwaith plwm Penrhyn Du oedd Evan Edwards bryd hynny, ac yng Nghapel Bwlchtocyn y bedyddiwyd ei ddau fab. Fel llawer o fwynwyr y cyfnod dilyn y gwaith fu hanes Evan Edwards ac yn Nrws y Coed, Dyffryn Nantlle y cartrefodd y teulu. Yng ngwaith copr yr ardal honno bu Evan Edwards yn gweithio fel peiriannydd am dros ddeng mlynedd ar hugain. 

 Wedi marwolaeth ei wraig ym Mehefin 1866 gadawodd Ddrws y Coed a dychwelyd i Lanengan. Roedd cynnwrf yng ngweithfeydd plwm y plwyf erbyn hyn gyda gwahanol grwpiau ac unigolion o du allan i’r ardal yn barod i fentro eu harian. Ar Awst 5ed, 1869 prynodd Evan Edwards lês ugain mlynedd ar safle gwaith plwm Tanrallt gan stad y Faenol, hyn ar delerau o unfed ar bymtheg o’r breindal a thrigain punt am bob erw o dir a ddifethid gan y gwaith. Fel y digwyddodd, roedd hyn yn weledigaeth ar ran Evan Edwards. Ychydig ddyddiau wedyn cynigiodd William Rudge, ar ran ei bartneriaid yn y Tanrallt Mining Company, arian sylweddol am y lês. Roedd arbenigwyr y grŵp yn credu fod rhagolygon ardderchog i’r safle, cystal os nad gwell na’r gweithfeydd eraill yn y plwyf. Mae’n debyg i Evan Edwards wneud rhai miloedd yn y fargen yma.

 Tua’r un pryd ȃ phan oedd Evan Edwards yn gwneud ei ffortiwn, roedd trefniadau priodasol yn cael eu gwneud. Roedd Evan Edwards i briodi â Sidney Hughes, merch y Cefn, neu Cefn Llygadog fel y’i gelwid bryd hynny. Yn ôl papurau newydd y cyfnod roedd hon yn briodas heb ei hail. Cynhaliwyd y briodas yn eglwys y plwyf ar Hydref 9fed, 1869, Evan Edwards yn 65 oed a’i wraig Sidney yn 26. Roedd y briodas rhwng cyn berchennog gwaith Tanrallt a merch ifanc y Cefn wedi gafael yn nychymyg yr ardal. Addurnwyd y pentref gyda baneri a fflagiau lliwgar, gyda phontydd deiliog wedi eu hadeiladu yma ac acw. Roedd y diwrnod i fod yn wyliau cyffredinol i bawb, ac i ddathlu hynny gadawodd Evan Edwards sofren aur yn nwy dafarn y pentref i dalu am gwrw a diodydd i’w hyfed ar y diwrnod.

 Wedi’r gwasanaeth, gyda dymuniadau gorau’r gynulleidfa a’u ffrindiau, cychwynnodd y cwpwl newydd am Bwllheli mewn cerbyd yn cael ei dynnu gan bâr o geffylau brithion. Yn disgwyl amdanynt yn y fan honno roedd seindorf bres i’w hebrwng i Westy’r Crown, lle cafodd y pâr a’u gwesteion frecwast priodas.

 Wedi dychwelyd i Lanengan arhosodd Evan Edwards a’i wraig newydd gyda’i frawd yng nghyfraith yn y Cefn. Ddiwedd Awst 1870 ganwyd iddynt fab, Robert, ond bu’r bychan  farw ymhen ychydig ddyddiau. Tua’r adeg hon mae’n debyg i Evan Edwards brynu darn o dir gan Dr Williams, Dwylan, perchennog tir y Felin ar y pryd, ac ar y llecyn hwn, yr ochr isaf i’r Felin ac yn edrych dros Fae Ceredigion yr adeiladwyd Brynteg. Erbyn Ebrill 1871 roedd y ddau wedi symud i’r tŷ newydd ond byr fu eu bywyd priodasol. Bu farw Sidney yma ar Fedi 20fed, 1871, yn eneth wyth ar hugain oed, rhyw flwyddyn wedi colli ei mab. Bu Evan Edwards yn byw ym Mrynteg fel ‘mining agent retired’ am bum mlynedd arall. Bu yntau farw ddiwedd Awst 1877. Fe’i claddwyd ym Mynwent yr Eglwys gyda’i wraig a’u mab bychan.

                                                                     Cefn Llygadog yng nghanol y llun 


Ffynonellau:

Metal Mines of Llanengan, Bennet & Vernon, Gwydyr Mines Publications 2002

North Wales Chronicle 16/10/1869.


Capten ’R Ochor




 Yn fachgen tair ar ddeg oed, heb sôn gair wrth ei deulu, sleifiodd William Roberts i Ben Cei yn ’Rabar a chael swydd yn gwneud bwyd ar y Fisherguard Lass, cwch Capten Prydderch, Abersoch. Dyna gychwyn ar yr antur i fachgen ifanc o Lanengan ddaeth yn ei dro yn gapten ei hun ac a adwaenid fel Capten ’R Ochor.

Fe’i ganwyd ar Awst 11eg, 1870 yn Nhan y Fron, ’R Ochor, Llanengan lle roedd yn byw gyda’i fam, Jane Roberts, ei nain Margaret Hughes, ei frawd Hugh a’i chwiorydd Mary, Margaret, Jane ac Ema.

Yn 11 oed, cyn mentro i’r môr, bu’n gweithio yn chwarel plwm Aston am chwe cheiniog y dydd ac yna am gyflog o swllt y dydd bu’n cario’r post o Abersoch i’r gwaith plwm. Roedd ei fordaith gyntaf eto’n gysylltiedig â’r gwaith plwm gan mai cario plwm o Abersoch i Fryste roedd y Fisherguard Lass. Yn y swydd hon chweugain y mis oedd ei gyflog. 

Ymddengys iddo symud o long i long tra ar y môr. Cafodd gyfnodau ar longau bychain neu sgwneri, yr Industry (plwm), y Lorne (llechi a cherrig calch), y Charles James, sef un o’r sgwneri olaf i’w hadeiladu ym Mhwllheli, a’r Physician . Ym mis Hydref 1887 symudodd i weithio ar longau hwylio Lerpwl. Mae hanes iddo gerdded o bentref Llanengan i Bwllheli er mwyn ceisio gweld Capten Williams, Cefnleisiog, Dinas ac o glywed fod y Capten wedi gadael Pwllheli a dychwelyd i Dinas aeth am Dinas ar ei ôl. Talodd hyn iddo gan iddo gael lle fel A.B. ar y Cambrian Monarch gan y Capten, er nad oedd wedi cael unrhyw brofiad o long â rigin llawn o’r blaen, ac nad oedd ond yn 17 mlwydd oed. Hwyliodd ar y llong i Awstralia. 

Ym 1894, yn dilyn cyfnod mewn ysgol forwrol yn Llundain, pasiodd ei arholiad fel ail fêt.

Ymunodd â’r llong enwog, y Forest Hall, fel ail fêt ac aeth rownd yr Horn i San Francisco. Bu am bron i ddwy flynedd ar y daith hon cyn ymuno eto gydag ysgol forwrol. Cafodd swydd mêt ar sgwner y Frau Minna Petersen a bu’n fêt ar long o Borthmadog cyn mynd i ysgol forwrol Llundain am y trydydd tro i sefyll arholiad meistr- forwr. 

Ym 1901 ymunodd ȃ chwmni William Thomas, Lerpwl a chafodd brofi cyfrifoldeb prif swyddog a meistr ar nifer o longau mawr gan wneud enw da iddo’i hun. Yr oedd bod yn gapten ar y math o longau yr hwyliai arnynt bellach yn ‘gofyn am forwriaeth o’r radd flaenaf.’



Yn y blynyddoedd canlynol gwerthodd William Thomas y rhan fwyaf o’i longau hwyliau a datblygu llynges o ager-longau. 

Erbyn Ebrill 1914 roedd William Roberts yn brif swyddog ar yr ager-long newydd, S.S. Trader. Ar y ffordd adref gyda llwyth o siwgr fe’i daliwyd gan y Moewe, un o longau arfog enwog yr Almaen, a chymerwyd ef a’r criw yn garcharorion. Cyn chwythu’r Trader yn deilchion holodd un o’r swyddogion Almaenaidd ef a hoffai gadw unrhyw beth oedd o werth arbennig iddo. Dewisodd Capten ’R Ochor ei gronomedr, ei secstant, a dwy ffender fechan a wnaed iddo gan un o griw’r Trader oedd yn hannu o Bwllheli. Cawsant eu cadw ganddo yn ei gartref yn Llŷn am flynyddoedd wedyn. 

 William Roberts oedd capten y Willema Gertrud o Lerpwl pan suddodd ger yr Azores. Treuliodd ddyddiau mewn cwch agored, yn ddigysgod a sychedig mewn haul poeth, cyn glanio ar ynys fechan o’r lle y cawsant eu hachub gan long Brydeinig. Glaniodd yn Lerpwl adeg Eisteddfod Penbedw ym 1917 ac roedd yn bresennol pan ddyfarnwyd y Gadair Ddu i Hedd Wyn.

Pan ddaeth y rhyfel i ben bu’r Capten yn gweithio fel swyddog i’r Weinyddiaeth Longau gan ddod â’r barc pedwar mast Swithiod o Halifax, Nova Scotia i Barrow ym 1919 gyda chargo enfawr o goed arni. Ar ôl hynny bu’n gapten ar nifer o agerlongau bach eto yn hwylio i borthladdoedd Ewrop. 

Mae llawer o straeon am yr hen gapten poblogaidd a enillodd le arbennig iddo’i hun fel cymeriad annwyl, direidus ac uchel ei barch. Yn ei atgofion mae’r diweddar Hywel Thomas, Brynteg yn sôn amdano :

Mi fu Capten R'ochor yn ‘custodian’ yr ‘Hall’ hefyd - ar ôl Evan Jones. Dyna i chi ddyn difyr i fod efo fo, os yr oeddach chi ‘in the good books’. Deud i hanes yn Awstralia a South America fel petai o'n sôn am Lanbedrog neu Langian, - a'i hanes yn cael ‘torpedo’ yn y Rhyfel Cyntaf - dwywaith. Bu'n gapten un o'r Q-ships hefyd - hen betha'n edrych yn rhy sâl i wastraffu torpedo arnynt ond yn cuddio gwn mawr o'r golwg nes doi yr U-boat i'r wyneb i'w suddo efo shell neu ddwy. Wedyn gollwng y paneli oedd yn cuddio'r gwn mawr, a clec i'r submarine. Roedd yn rhaid hyfforddi hanner y criw i ymddangos yn ddioglyd a di-feind er mwyn hudo'r U-boat i'r wyneb, a wedyn actio gollwng y lifeboat i'r dŵr mewn panic. Ei brif bleser oedd chwarae crib – ‘Tyd yma - ista - mi dynnai' dy grys di’ - a dechrau shyfflo'r cardiau.

Ar ôl dod adref o’r môr bu’n byw yn ddibriod yn ei ardal enedigol a gorffennodd ei oes ym Mhen y Bont, Abersoch gyda dwy o’i chwiorydd. Bu Capten ’R Ochor farw yn 85 oed ar Fawrth 25ain, 1956 ac mae wedi ei gladdu gydag eraill o’i deulu ym Mynwent y Bwlch. 

                                                                                        

                                      County of Cardigan, llong haearn yr oedd Capten 'R Ochor yn llywydd arni yn 1903

Ffynonellau

Meistri’r Morwyr, Aled Eames, Gwasg Gee 1978

Atgofion am Lanengan, Hywel Thomas (gyda chaniatâd y teulu)

Llanw Llŷn, Beti Isabel Hughes

Rhiw.com


Yr erthygl ddiweddaraf

Ffynnon Engan

Ymhell cyn dyddiau Engan Sant, yn oes y bryngaerau cynnar a welwn o’n hamgylch yn y plwyf, roedd trigolion Llŷn, a’r llecyn bychan hwn o Gym...